Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymwneud â Chymru'n unig, yn darparu ar gyfer cynnal refferenda a gynhelir yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed dan unrhyw ddarpariaethau sydd yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu rhai ffurflenni rhagnodedig sydd i'w defnyddio mewn refferendwm dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Bydd a wnelo'r refferenda â ph'un ai a ddylai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru fabwysiadu trefniadau gweithredaeth a fyddai'n cynnwys gweithrediaeth o faer a chabinet, gweithrediaeth o faer a rheolydd y cyngor neu weithrediaeth o arweinydd a chabinet.

Mae rheoliad 3, y mae Rhan I o Atodlen 1 yn berthnasol iddo, yn pennu'r datganiad a ffurf y geiriau yn y cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm.

Yn unol â rheoliad 4 bydd angen rhoi rhybudd cyhoeddus o gynigion yr awdurdod lleol dan reoliad 17 neu 19 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddyd) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau”), neu orchymyn dan adran 36 o Ddeddf 2000. Bydd rhaid i'r rhybudd bennu dyddiad y refferendwm, amrywiol faterion sy'n ymwneud â chynnal y refferendwm, a bod cynigion yr awdurdod lleol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Mae rheoliad 4 hefyd yn caniatáu i awdurdodau ddarparu gwybodaeth ffeithiol am eu cynigion, amlinelliad o'r cynigion wrth—gefn sydd ganddynt a'r refferendwm, cyn belled â bod yr wybodaeth wedi ei chyflwyno mewn modd teg.

Mae rheoliad 5 yn gorfodi cyfyngiadau ar y deunydd y gellir ei gyhoeddi, ei arddangos neu ei ddosbarthu gan neu ar ran yr awdurdod yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod cyn dyddiad y refferendwm.

Mae rheoliad 6 yn gosod “cyfyngiad ar dreuliau yn y refferendwm” o ran y swm y bydd modd ei gwario o ran “treuliau yn y refferendwm” (diffinnir y ddau derm yn rheoliad 6(1)). Bydd yn drosedd gwario mwy na'r cyfyngiad ar dreuliau'r refferendwm.

Mae rheoliad 7, yr hwn y mae Atodlen 2 yn berthnasol iddo, yn darparu ar gyfer y symiau sy'n berthnasol o ran y defnydd a wneir ar fathau o eiddo, gwasanaethau a chyfleusterau yr ystyrir eu bod wedi eu gwario ar ffurf treuliau'r refferendwm at ddibenion rheoliad 6.

Mae a wnelo rheoliad 8 â'r darpariaethau deddfwriaethol a nodir yng ngholofn (1) o'r Tablau yn Atodlen 3 gyda'r newidiadau a ddangosir yng ngholofn (2) o'r Tablau hynny, ac mae'n gwneud rhai newidiadau cyffredinol i'r darpariaethau hynny.

Mae rheoliad 9, yr hwn y mae Rhannau II a III o Atodlen 1 yn berthnasol, yn darparu ar gyfer geiriad papurau pleidleisio'r refferendwm.

Mae rheoliad 10(1) yn caniatáu i gyngor sir neu fwrdeistref sirol benderfynu y bydd y pleidleisio yn y refferendwm yn digwydd drwy'r post yn unig. Mae hefyd yn gwneud rhai newidiadau cyffredinol a fyddai'n gymwys pe gwneid penderfyniad o'r fath.

Bydd rheoliad 10(2) yn gymwys os gwnaed penderfyniad dan reoliad 10(1). Mae'n darparu ar gyfer y darpariaethau deddfwriaethol a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 a bydd yn gymwys gyda'r newidiadau a ddangosir yng ngholofn (2).

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r swyddogion cyfrif, ac ar gyfer penodi unigolion i weithredu fel arsylwyr ym mhleidlais y refferendwm (“arsylwyr pleidleisio”).

Mae rheoliad 12 yn darparu, onid yw'r bleidlais ar gyfer y refferendwm i'w chynnal drwy'r post yn unol â phenderfyniad a wnaed dan Reoliad 10(1), y bydd yr oriau pleidleisio rhwng 7am a 10pm.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer cyfrif pleidleisiau yn y refferendwm.

Mae rheoliad 14, sy'n amodol ar reoliadau 16 a 17, yn delio â chanlyniadau refferenda a refferenda pellach. Mae'n pennu'r hyn y dylai awdurdodau ei wneud pe bai mwyafrif o bleidleisiau “o blaid” (paragraffau (1) a (3)) a mwyafrif o bleidleisiau “yn erbyn” (paragraffau (2) a (4)).

Mae rheoliadau 15 hyd 17 yn darparu ar gyfer herio canlyniadau refferenda a refferenda pellach.

Mae rheoliad 15 yn pennu'r sail dros herio a'r cyfnod y bydd yn rhaid gwneud cais (“deiseb refferendwm”) ynddo. Mae hefyd yn nodi'r dulliau gweithredu sy'n gymwys i ddeisebau refferendwm, a thrwy Atodlenni 5 a 6, mae'n cymhwyso darpariaethau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheolau Deisebau Etholiadau 1960. Yn yr achos a grybwyllir ym mharagraff (1)(d), nid oes modd cyflwyno deiseb refferendwm heb ganiatâd i wneud hynny gan yr Uchel Lys.

Mae rheoliad 16 yn delio â'r hyn a ddigwydd yn syth ar ôl i ddeiseb refferendwm gael ei chyflwyno.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer y sefyllfa ar ôl i lys etholiad benderfynu ynglŷn â deiseb etholiad.

Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer anwybyddu diwrnodau neilltuol o ran bwrw cyfrif o gyfnodau dan reoliad 4(1) a dan rai darpariaethau deddfwriaethol a gaiff eu cymhwyso gan y Rheoliadau.

Mae rheoliad 19 yn eithrio hysbysebion sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm rhag rheoliadau dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n rheoli arddangos hysbysebion.

Mae rheoliad 20 yn darparu yr ystyrir unrhyw eiddo a ddefnyddir o ran y refferendwm ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus neu ar gyfer cymryd y bleidlais yn eiddo gwag at ddibenion trethi.

Mae Atodlen 1 yn nodi —

  • yn Rhan I, y datganiad a ffurf y cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm,

  • yn Rhan II, ffurf y tu blaen i bapurau pleidleisio'r refferendwm, a

  • yn Rhan III, ffurf y tu cefn i bapurau pleidleisio'r refferendwm.

Mae Atodlen 2 yn pennu'r materion perthnasol o ran diffinio “treuliau'r refferendwm” yn rheoliad 6(1). (Mae'r materion hyn yn debyg i'r rhai a osodir yn Atodlen 13 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.)

Mae Atodlen 3 yn nodi darpariaethau'r Deddfau, y Rheoliadau a'r Rheolau a gymhwysir, gyda newidiadau a hebddynt, o ran y refferendwm —

  • Mae Tabl 1 yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 sy'n ymwneud â phleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.

  • Mae Tabl 2 yn cymhwyso darpariaethau yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cambersonadu a throseddau eraill sy'n ymwneud â phleidleisio ac arferion llwgr ac anghyfreithlon eraill.

  • Mae Tabl 3 yn cymhwyso darpariaethau yn Atodlen 2 o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986, sy'n cynnwys y rheolau (“Rheolau'r Prif Ardaloedd”) sy'n gymwys i'r modd y cynhelir etholiadau cyngor sir a chyngor bwrdeistref.

  • Mae Tabl 4 yn cymhwyso darpariaethau Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (“Rheoliadau'r Etholiadau”) sy'n ymwneud â cheisiadau am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy a'r trafodion sy'n ymwneud â chyflwyno a derbyn papurau pleidleisio post.

Mae Atodlen 4 yn nodi'r darpariaethau deddfwriaethol a gymhwysir o ran y refferendwm os yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu dan reoliad 10(1) y bydd yr holl bleidleisio ar gyfer y refferendwm yn cael ei wneud drwy'r post yn unig.

Mae Atodlen 5 yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 at ddibenion deisebau refferendwm.

Mae Atodlen 6 yn diwygio Rheolau Deisebau Etholiadau 1960 at y diben o'u cymhwyso ar gyfer ddeisebau refferendwm.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources