Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Gelwir y Rheoliadau hyn yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004 a byddant yn dod i rym ar 24 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer cynnal refferenda gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac yn unrhyw ddarpariaeth a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn —

golyga “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

golyga “Deddf yr Etholiadau” (“the Elections Act”) Ddeddf y Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(1);

golyga “Deddf CB 2000” (“the RP Act 2000”) Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(2));

golyga “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985(3);

golyga “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(4);

golyga “Rheoliadau Etholiadau” (“the Elections Regulations”) Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(5);

golyga “Rheolau Refferendwm LGA” (“the LGA Referendum Rules”) gymaint o Reolau'r Prif Ardaloedd ag a gymhwysir, gyda newidiadau neu hebddynt(6), o ran refferendwm gan reoliad 8 o'r Rheoliadau hyn;

golyga “Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

golyga “Rheolau Etholiadau Seneddol” (“the Parliamentary Elections Rules”) y rheolau a nodir yn Atodlen 1 o Ddeddf 1983;

golyga “Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau” (“the Petitions and Directions Regulations”) Reoliadau'r Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001(7);

golyga “Rheolau'r Prif Ardaloedd” (“the Principal Areas Rules”) Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986(8);

golyga “arsylwr cyfrif” (“counting observer”) rywun a benodir gan swyddog cyfrif dan reoliad 13(1)(b);

golyga “swyddog cyfrif” (“counting officer”) rywun y cyfeirir ato yn rheoliad 11(1);

golyga “maer etholedig” (“elected mayor”), o ran yr awdurdodau lleol, unigolyn a etholir yn faer ar yr awdurdod lleol gan etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod lleol yn unol â'r darpariaethau a wnaed gan Ran II o Ddeddf 2000 neu oddi tani;

golyga “refferendwm pellach” (“further referendum”) refferendwm a gynhelir yn unol â gorchymyn dan reoliad 17(3);

golyga “cynigion amlinellol wrth gefn” (“outline fall-back proposals”) —

(a)

o ran cynigion dan reoliad 17 (gweithred cyn refferendwm) neu reoliad 19 (gweithred yn dilyn cyfarwyddyd) o Reoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau, amlinelliad o'r cynigion y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu petai'r cynigion a fydd yn destun refferendwm dan Ran II neu Ran III o'r Rheoliadau hynny'n cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

(b)

o ran cynigion dan orchymyn dan adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn) o Ddeddf 2000, —

(i)

os yw awdurdod lleol bryd hynny yn gweithredu trefniadau gweithredaeth neu drefniadau amgen, yna crynodeb o'r trefniadau hynny;

(ii)

mewn unrhyw achos arall, amlinelliad o'r cynigion a bennir yn y gorchymyn y mae'r awdurdod lleol i'w gweithredu petai'r cynigion a fydd yn destun refferendwm yn cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

golyga “trefnydd deiseb” (“petition organiser”), o ran refferendwm, rywun yr ymdrinnir ag ef at ddibenion paragraff (4) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (5) o reoliad 10 (ffurfioldebau deisebau) o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau, fel trefnydd unrhyw ddeiseb ddilys (p'un ai a yw'r ddeiseb yn gyfunedig, yn ddeiseb gyfansoddol neu'n ddeiseb wedi'r cyhoeddiad) a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm neu'r hwn y'i cynhelir ar ei gyfer(9));

golyga “arsylwr y pôl” (“polling observer”) rywun a benodir gan swyddog cyfrif dan reoliad 11(3);

mae i “swyddog priodol” (“proper officer”) yr ystyr a roddir gan adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(10);

golyga “dyddiad cynigion” (“proposals date”) —

(a)

o ran refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, y dyddiad y caiff y cynigion —

(i)

dan reoliad 17 neu 19 o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau; neu

(ii)

dan orchymyn dan adran 36 o Ddeddf 2000

eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)

o ran refferendwm pellach, y diwrnod a egyr 2 fis cyn y diwrnod y cynhelir y refferendwm pellach;

golyga “refferendwm” (“referendum”) refferendwm a gynhelir yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir dan unrhyw un o ddarpariaethau Rhan II (trefniadau o ran gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000;

golyga “cyfnod y refferendwm” (“referendum period”), o ran refferendwm (gan gynnwys refferendwm pellach), y cyfnod sy'n cychwyn ar —

(a)

lle bo dyddiad y cynigion yn rhagflaenu'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

(b)

ym mhob achos arall, dyddiad y cynigion,

a gan ddiweddu ar ddyddiad y refferendwm; a

golyga “ardal y bleidlais” (“voting area”) yr ardal lle cynhelir refferendwm.

(2Mae pob cyfeiriad yn y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn at adran a rhif yn ei dilyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 2000 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir mewn refferendwm

3.—(1Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o faer a chabinet(11), bydd y datganiad a ddaw o flaen y cwestiwn (“y datganiad”) a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn.

(2Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o faer a rheolydd y cyngor(12), bydd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 2 o Ran I o Atodlen 1.

(3Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o arweinydd a chabinet(13), bydd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1.

Cyhoeddusrwydd a hysbysrwydd arall o ran refferenda

4.—(1Bydd y swyddog priodol, a hynny cyn gynted ag y modd wedi'r dyddiad cynigion, yn cyhoeddi yn o leiaf un o'r papurau newydd a gylchredir yn ardal yr awdurdod lleol, rybudd a fydd yn cynnwys —

(a)datganiad, yn ôl y digwydd, bod —

(i)cynigion dan reoliad 17(3) neu 19(1) o Reoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau, neu

(ii)cynigion dan orchymyn dan adran 36,

wedi eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y cynigion a'r cynigion amlinellol wrth gefn;

(c)datganiad —

(i)y cynhelir refferendwm,

(ii)o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm,

(iii)o'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm,

(iv)lle bo'r awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad dan reoliad 10(1), na chaiff y pleidleisiau yn y refferendwm ond eu bwrw trwy bleidlais bost,

(v)lle na wnaed penderfyniad o'r fath, ac eithrio ar gyfer oriau estynedig ar gyfer pleidleisio caiff y refferendwm ei gynnal yn unol â'r dulliau a arferir mewn etholiadau llywodraeth leol,

(vi)o'r cyfyngiad ar dreuliau'r refferendwm (fel y'u diffinnir yn rheoliad 6(1)) yr hwn a fydd yn gymwys o ran y refferendwm, ac o nifer yr etholwyr llywodraeth leol a gyfrifwyd er mwyn mesur y cyfyngiad hwnnw,

(vii)o'r cyfeiriad a'r amserau lle bydd modd archwilio copi o'r cynigion, a chynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol, a

(viii)o'r drefn ar gyfer cael copi o'r cynigion a'r cynigion amlinellol wrth gefn.

(2Oni chaiff y rhybudd y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn ôl paragraff (1) (“y rhybudd cyntaf”) ei gyhoeddi lai na 56 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm, bydd y swyddog priodol yn cyhoeddi ail rybudd a fydd yn cynnwys y manylion a bennir ym mharagraffau (i) hyd (viii) o is-baragraff (c) o baragraff (1).

(3Caiff yr ail rybudd ei gyhoeddi —

(a)yn yr un papur neu bapurau newydd ag a ddefnyddiwyd ar gyfer cyhoeddi'r rhybudd cyntaf, a

(b)nid mwy na 55 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm ac nid llai na 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad hwnnw.

(4Drwy gydol cyfnod y refferendwm, yn y cyfeiriad ac yn ystod yr amserau a nodir yn y rhybudd, a hynny'n ddi-dâl, bydd yr awdurdod lleol yn darparu copi o'u cynigion a'u cynigion amlinellol wrth gefn, i'r cyhoedd eu harchwilio, a byddant yn sicrhau bod digon o gopïau ar gael ar gyfer pwy bynnag a fydd am gael copïau.

(5Caiff yr awdurdod ddarparu (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny ai peidio) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall sy'n perthyn i'r cynigion, y cynigion amlinellol wrth gefn a'r refferendwm cyn belled â'i bod yn cael ei chyflwyno'n deg.

(6Wrth benderfynu a yw unrhyw wybodaeth yn cael ei chyflwyno'n deg at ddibenion paragraff (5), rhaid rhoi ystyriaeth, yn unol ag adran 38, i unrhyw ganllawiau am y tro ac a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38.

Cyfyngu ar gyhoeddi etc. deunydd hyrwyddo

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddeunydd sydd —

(a)yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y refferendwm;

(b)yn ymwneud ag unrhyw un o'r materion a godir gan y cwestiwn i'w ofyn yn y referendwm; neu

(c)yn cyflwyno unrhyw ddadleuon o blaid neu yn erbyn ateb penodol i'r cwestiwn hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb gyhoeddi unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn bethnasol iddo gan neu ar ran awdurdod lleol yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dod i ben ar ddyddiad y bleidlais yn y refferendwm.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i —

(a)ddeunydd a drefnwyd iddo fod ar gael i bersonau mewn ymateb i geisiadau arbennig am wybodaeth neu i bersonau sy'n cael mynd ati yn benodol;

(b)cyhoeddi gwybodaeth sy'n perthyn i gynnal y bleidlais yn y refferendwm; neu

(c)cyhoeddi datganiadau i'r wasg ac sy'n cynnwys gwybodaeth ffeithiol os unig ddiben y cyhoeddi yw gwadu neu gywiro unrhyw anghywirdeb mewn deunydd a gyhoeddir gan berson ar wahân i'r awdurdod lleol.

(4Yn y rheoliad hwn bydd “cyhoeddi” yn golygu darparu i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu i unrhyw ran o'r cyhoedd, ar ba bynnag ffurf a thrwy ba bynnag ddull (gan gynnwys, yn arbennig felly, drwy gynhwysiad mewn unrhyw raglen a gynhwysir mewn gwasanaeth rhaglenedig yn unol â ystyr Deddf Ddarlledu 1990(14)); ac fe ddeellir “cyhoeddiad” yn yr un modd.

Cyfyngiad cyffredinol ar dreuliau'r refferendwm

6.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 7—

golyga “trefnydd yr ymgyrch” (“campaign organiser”) yr unigolion neu'r corff yr achosir treuliau iddynt neu ar eu rhan yn y refferendwm (gan gynnwys y treuliau yr ymdrinnir â hwy megis petaent wedi eu hachosi) o ran ymgyrch refferendwm;

golyga “ymgyrch refferendwm” (“referendum campaign”) ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad neilltuol parthed y cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm;

golyga “treuliau refferendwm” (“referendum expenses”) y treuliau a achosir gan unigolyn neu gorff neu'r hwn a achosir ar ei ran yn ystod y refferendwm at ddibenion y refferendwm o ran unrhyw un o'r materion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 o'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir gyda pharagraff 2 o'r Atodlen honno;

golyga “cyfyngiadau treuliau'r refferendwm” (“referendum expenses limit”) y cyfanswm o £2,000 a'r cyfryw swm a geir o luosogi nifer y cofnodion yn y gofrestr berthnasol â phum ceiniog;

golyga “at ddibenion y refferendwm” (“for referendum purposes”) —

(a)

o ran cynnal neu reoli unrhyw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad neilltuol parthed y cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm; neu

(b)

fel arall o ran hyrwyddo neu sicrhau canlyniad o'r fath; a

golyga “y gofrestr berthnasol” (“the relevant register”) y gofrestr (neu'r cofrestrau) etholwyr llywodraeth leol a gyhoeddwyd dan adran 13 (cyhoeddi cofrestrau) o Ddeddf 1983 (fel y'i dirprwywyd) ar ôl terfyn y canfasio a gynhaliwyd dan adran 10 o'r Ddeddf honno yn yr union flwyddyn a ragflaenodd y flwyddyn y cynhelir y refferendwm ynddi, sydd mewn grym yn ardal yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm neu'r hwn y cynhelir y refferendwm ar ei gyfer (ni waeth a yw'r bobl y mae'r cofnodion hynny'n ymwneud â hwy'n gymwys i bleidleisio yn y refferendwm ai peidio).

(2Ni fydd cyfanswm y treuliau a achosir yn ystod y refferendwm, neu'n unol â rheoliad 7 y rhai yr ymdrinnir â hwy fel petaent wedi eu hachosi, gan unigolyn neu gorff neu ar eu rhan, yn fwy na chyfyngiad treuliau'r refferendwm.

(3Os achosir treuliau yn y refferendwm sy'n fwy na chyfyngiad treuliau'r refferendwm, yna bydd rhywun a wyddai neu a ddylai fod wedi gwybod o fewn rheswm y byddai'r cyfyngiad hwnnw'n cael ei dorri, neu rywun sydd, a hynny heb esgus rhesymol, yn awdurdodi rhywun arall i dorri'r cyfyngiad hwnnw, yn euog o drosedd.

(4Os hysbysir y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus fod trosedd dan baragraff (3) wedi ei hachosi, bydd dyletswydd ar y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i wneud pa bynnag ymholiadau a chyflwyno pa bynnag erlyniadau ag y bydd amgylchiadau'r achos yn eu teilyngu ym marn y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

(5Os profir bod trosedd wedi ei chyflawni dan baragraff (3) a bod honno wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig gyda chaniatâd neu gydgynllwyn cyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforedig, neu y gellid ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar eu rhan, neu unrhyw un arall a honna weithredu yn rhinwedd y fath swydd, bydd yr unigolyn hwnnw, ynghyd â'r corff corfforedig yn euog o'r drosedd honno a byddant yn agored i gael eu dwyn ger bron llys a'u cosbi'n briodol.

(6Bydd unrhyw un a fydd yn cyflawni trosedd dan baragraff (3) yn agored —

(a)o gael collfarn ddiannod, i ddirwy nid mwy na'r uchafswm statudol neu garchar am gyfnod nid hwy na chwe mis, neu'r ddau; neu

(b)o gael collfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchar am gyfnod nid hwy na blwyddyn, neu'r ddau.

(7Nid oes dim ym mharagraff (2) yn effeithio ar hawl unrhyw gredydydd na wyddai pan achoswyd y draul fod y draul honno'n groes i'r paragraff hwnnw.

Treuliau tybiedig y refferendwm

7.—(1Bydd y rheoliad hwn yn gymwys lle —

(a)darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau at ddefnydd neu er budd unrhyw un naill ai —

(i)yn ddi-dâl; neu

(ii)ar ostyngiad o fwy na 10 y cant o'r gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau; a

(b)gwneir defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran dan y fath amgylchiadau megis pe câi treuliau eu hachosi (neu os cânt eu hachosi) mewn gwirionedd gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran parthed y defnydd hwnnw, byddent (neu maent) yn dreuliau ar gyfer y refferendwm a achoswyd gan yr unigolyn hwnnw neu'n rhai a achoswyd ar ei ran.

(2Yn amodol ar baragraff (5), lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys ymdrinnir â swm o dreuliau refferendwm a bennir yn unol â pharagraff (3), onid yw'n ddim mwy na £200, at ddibenion rheoliad 6 megis pe achoswyd ef gan yr unigolyn hwnnw yn ystod y cyfnod y gwneir defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(3Mae'r swm a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyfran naill ai o —

(a)y gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (lle darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau'n ddi-dâl), neu

(b)y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol a swm y treuliau gwirioneddol a achoswyd gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran parthed y defnydd ar yr eiddo neu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau a ddarparwyd (lle darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r eiddo ar ostyngiad),

fel bo'n rhesymol ei chodi o ran y defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(4Os bydd cyflogwr gweithiwr yn cynnig gwasanaethau'r gweithiwr hwnnw at ddefnydd neu er budd rhywun, bydd y swm a ystyrir yn gyfradd fasnachol am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n gyfwerth â swm y taliad neu'r lwfansau a fyddai'n daladwy i'r gweithiwr gan y cyflogwr am y cyfnod y darperir gwasanaethau'r gweithiwr (ond ni fydd yn cynnwys unrhyw swm o ran cyfraniadau na thaliadau eraill y mae'r cyflogwr yn atebol amdanynt parthed y gweithiwr).

(5Ni ystyrir bod unrhyw dreuliau refferendwm wedi eu hachosi yn rhinwedd paragraff (1) parthed unrhyw wasanaethau a ddarperir gan unigolion yn wirfoddol yn eu hamser eu hunain yn ddi-dâl.

Cymhwyso darpariaethau

8.—(1Yn amodol ar baragraff (2), a rheoliadau 9, 10, 11, 12, a 15 bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Dablau 1 hyd 4 yn Atodlen 3 yn effeithiol parthed y refferendwm gyda'r newidiadau a ddangosir yng ngholofn (2) o'r Tablau hynny ac unrhyw newidiadau eraill angenrheidiol; ac yn arbennig felly, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

(a)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at etholiad yn gyfeiriad at y refferendwm;

(b)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at swyddog canlyniadau'n gyfeiriad at y swyddog cyfrif;

(c)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at etholaeth neu ranbarth etholiadol yn gyfeiriad at ardal bleidleisio;

(d)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at bleidleisio dros ymgeisydd, neu bleidlais dros ymgeisydd, yn gyfeiriad at bleidleisio dros atebiad, neu bleidlais dros atebiad;

(e)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd, neu hybu ymgeisyddiaeth rhywun, yn gyfeiriad at hyrwyddo neu sicrhau canlyniad neilltuol yn y refferendwm;

(f)caiff cyfeiriadau at bapurau enwebu, ac eithrio'r hyn a nodir yn is-baragraffau (d) ac (e), a chyfeiriadau at ymgeiswyr eu hanwybyddu;

(g)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ethol rhywun yn gyfeiriad at ganlyniad neilltuol yn y refferendwm;

(h)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at rywun yn pleidleisio fel etholwr yn gyfeiriad at rywun yn pleidleisio ar ei ran ei hunan;

(i)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at hawl rhywun fel etholwr i bleidlais absennol yn gyfeiriad at hawl rhywun i bleidleisio drwy'r post ar ei ran ei hunan neu i bleidleisio drwy ddirprwy;

(j)lle mae gofyn i bopeth gael ei wneud yng ngŵydd asiantiaid etholiadol, asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif neu asiantiaid eraill, anwybyddir y cyfeiriad at bresenoldeb asiantiaid;

(k)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at bennu rhywbeth yn gyfeiriad at y ffaith y darperir ar ei gyfer gan un o ddarpariaethau'r is-ddeddfau a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn;

(l)bydd modd defnyddio ffurflen y mae gofyn iddi gael ei defnyddio ar ba bynnag amrywiadau ag a fo'n ofynnol dan yr amgylchiadau;

(m)bydd unrhyw gyfeiriad at y swyddog cofrestru, o ran yr awdurdod lleol, yn gyfeiriad at y swyddog cofrestru perthnasol a benodir dan adran 8 o Ddeddf 1983; ac at y diben o arfer swyddogaethau swyddog cofrestru o ran y refferendwm, bydd adrannau 52(1) hyd (4) (cyflawni dyletswyddau cofrestru) a 54(1), (3) a (4) (talu treuliau cofrestru) o'r Ddeddf honno'n effeithiol;

(n)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ddeiseb etholiad yn gyfeiriad at ddeiseb refferendwm;

(o)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad neu offeryn a wneir dan ddeddfiad yn gyfeiriad at y deddfiad neu'r offeryn hwnnw fel y'u cymhwysir gan y Rheoliadau hyn; a

(p)caiff unrhyw ddarpariaethau sy'n gymwys i Loegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig, eu hanwybyddu.

(2Ni fydd darpariaeth a nodir yng ngholofn (1) o Dabl 4 yn Atodlen 3 ac a fynegir fel na fydd yn gymwys ond dan yr amgylchiadau a grybwyllir yno, ac unrhyw newidiad a ddangosir yng ngholofn (2) fel y bo'n gymwys i unrhyw ddarpariaeth o'r fath, ond yn effeithiol dan yr amgylchiadau hynny.

Papurau pleidleisiau

9.—(1Os y dataganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm yw'r un a nodir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1, yna bydd y tu blaen y papur pleidleisio a ddefnyddir yn y refferendwm ar Ffurf A a nodir yn Rhan II o'r Atodlen honno.

(2Os y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm yw'r un a nodir ym mharagraff 2 o Ran I o Atodlen 1, yna bydd y tu blaen y papur pleidleisio a ddefnyddir yn y refferendwm ar Ffurf B a nodir yn Rhan II o'r Atodlen honno.

(3Os y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm yw'r un a nodir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1, yna bydd y tu blaen y papur pleidleisio a ddefnyddir yn y refferendwm ar Ffurf C a nodir yn Rhan II o'r Atodlen honno.

(4Bydd y tu cefn i'r papurau pleidleisio a ddefnyddir yn unrhyw refferendwm ar y ffurf a nodir yn Rhan III o'r Atodlen honno.

(5Bydd pob papur pleidleisio —

(a)yn bosib ei blygu;

(b)bydd rhif wedi ei argraffu ar y cefn; a

(c)bydd gwrthddalen ynghlwm wrth bob un a'r un rhif wedi ei argraffu arni.

Pleidlais bost a phleidleisio drwy'r post

10.—(1Yn amodol ar baragraff (2), caiff awdurdod lleol benderfynu, o ran y refferendwm y maent am ei gynnal, y caiff y pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y refferendwm eu bwrw drwy bleidlais bost yn unig; ac os penderfynir gwneud hynny —

(a)ni ddefnyddir gorsafoedd pleidleisio yn y refferendwm;

(b)ni fydd neb a fyddai, oni bai am y penderfyniad, yn cael pleidleisio'n bersonol, naill ai fel rhywun sydd â'r hawl i bleidleisio yn y refferendwm(15) neu fel dirprwy, ond yn cael pleidleisio drwy'r post; a

(c)bydd unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn(16) ac unrhyw gyfeiriadau at y Ddeddf Etholiadau, Deddf CB 2000, Deddf 1983, rheolau dan adran 36 o Ddeddf 1983, Rheoliadau Etholiadau, neu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â chymhwyso neu anghymhwyso o ran etholiad i awdurdod lleol neu aelodaeth ohono —

(i)at y diwrnod pleidleisio, diwrnod y bleidlais neu'i dyddiad neu'r dyddiad a osodwyd ar gyfer y bleidlais, yn dal i fod yn effeithiol o ran y refferendwm hwnnw, fel cyfeiriad at ddyddiad y refferendwm; a

(ii)at gau'r bleidlais, yn dal i fod yn effeithiol, o ran y refferendwm hwnnw, fel cyfeiriad at 10p.m. ar ddiwrnod y refferendwm.

(2Os bydd penderfyniad dan baragraff (1) yn effeithiol, bydd darpariaethau (fel y'u cymhwysir gan reoliad 8) Deddf 1983, ac eithrio adran 31, Deddf 1985, Deddf yr Etholiadau, Deddf CB 2000, Rheoliadau'r Etholiadau, ac eithrio rheoliadau 55, 62 a 79, a Rheolau'r Prif Ardaloedd yn gymwys, o ran y refferendwm; ond bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn gymwys gyda'r newidiadau pellach a nodir ar eu cyfer yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno (yn ogystal â'r newidiadau sy'n effeithiol yn rhinwedd rheoliad 8).

(3Ni fydd y swyddogaeth o wneud penderfyniad o dan baragraff (1) yn ddyletswydd gweithredydd awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth(17).

Swyddogaethau'r swyddog cyfrif, a chymorth i swyddogion cyfrif

11.—(1Caiff y swyddogaethau a gyflwynir gan y Rheoliadau hyn i'r swyddog cyfrif eu harfer ym mhob ardal bleidleisio gan y sawl sydd am y tro'n swyddog canlyniadau yn etholiadau'r cynghorwyr yn yr ardal honno dan isadran (1A)(a) o adran 35 (swyddog canlyniadau: etholiadau lleol) o Ddeddf 1983.

(2Mae dyletswydd cyffredinol ar y swyddog cyfrif yn y refferendwm i gyflawni pob gweithred a phob peth a fo'n angenrheidiol ar gyfer cynnal y refferendwm mewn modd effeithlon yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(3Caiff y swyddog cyfrif benodi pobl i fod yn bresennol yn y gorsafoedd pleidleisio at y diben o ddarganfod cambersonadu (“arsylwyr pleidleisio”).

Oriau pleidleisio

12.—(1Yn amodol ar baragraff (1), bydd yr oriau pleidleisio rhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod y refferendwm.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i refferendwm lle bo penderfyniad dan reoliad 10(1) yn effeithiol.

Cyfrif pleidleisiau etc.

13.—(1Bydd y swyddog cyfrif yn —

(a)penodi ac yn talu pa bynnag unigolion ag a fo'n angenrheidiol at y diben o gyfrif y pleidleisiau; a

(b)bydd yn penodi unigolion i arsylwi cyfrif y pleidleisiau a dilysu cyfrif y papurau pleidleisio (“arsylwr y cyfrif”).

(2At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r unigolyn hwnnw dan baragraff (1)(b), caiff trefnydd deiseb, a hynny nid llai na'r pumed diwrnod cyn dyddiad y pôl, a thrwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, enwebu pobl sydd, ym marn trefnydd y ddeiseb, yn addas i'w penodi fel arsylwyr cyfrif, a bydd y rhybudd hefyd yn cynnwys cyfeiriad pob enwebai.

(3Yn amodol ar baragraff (4) o reoliad 24 o Reolau Refferendwm LGA, ni fydd y swyddog cyfrif, heb achos digonol, yn peidio â phenodi rhywun a enwebir gan drefnydd deiseb.

(4Bydd y swyddog cyfrif, a hynny cyn gynted ag y bo modd ar ôl cau'r bleidlais, yn gwneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau yng ngŵydd arsylwyr y cyfrif, a bydd yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i'r arsylwyr hynny o'r amser a'r lle y bydd y cyfrif ar y pleidleisiau'n dechrau.

(5Ni chaiff neb fod yn bresennol yng nghyfrif y pleidleisiau ar gyfer unrhyw ardal bleidleisio ac eithrio —

(a)y swyddog cyfrif ar gyfer yr ardal honno;

(b)rhywun a benodwyd gan y swyddog cyfrif dan baragraff (1);

(c)y maer etholedig, os oes un i'w gael, ar yr awdurdod lleol y cynhelir y refferendwm ar ei gyfer;

(d)trefnydd deiseb; neu

(e)mae swyddog cyfrif yr ardal yn caniatáu iddo fod yn bresennol yn y cyfrif.

(6Bydd y swyddog cyfrif yn rhoi i'r arsylwyr cyfrif gyfleusterau rhesymol ar gyfer arsywli'r trafodion a ddigwydd o ran cyfrif y pleidleisiau, a phob gwybodaeth resymol sy'n berthnasol iddynt, ag y gellir eu rhoi iddynt yn unol â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau'r swyddog cyfrif mewn perthynas â hwy.

Canlyniad refferendwm neu refferendwm pellach

14.—(1Yn amodol ar reoliadau 16 a 17, os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm ac eithrio refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, yna canlyniad y refferendwm at ddibenion rheoliad 23 (y camau gweithredu os cymeradwyir cynigion y refferendwm) o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, ddarpariaethau cyffelyb o unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, fydd cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(2Yn amodol ar reoliadau 16 a 17, os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm ac eithrio refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, yna canlyniad y refferendwm at ddibenion rheoliad 24 (y camau gweithredu os gwrthodir cynigion y refferendwm) o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, ddarpariaethau cyffelyb o unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, fydd gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(3Yn amodol ar reoliadau 16 a 17, os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, yna canlyniad y refferendwm fydd cymeradwyo parhau â threfniadau gweithrediaeth bresennol yr awdurdod lleol.

(4Yn amodol ar reoliadau 16 a 17, os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, yna canlyniad y refferendwm fydd gwrthod parhau â threfniadau gweithred aeth presennol yr awdurdod lleol.

Y drefn ar gyfer cwestiynu refferendwm

15.—(1Bydd modd cwestiynu refferendwm dan y Rheoliadau hyn trwy ddeiseb (“deiseb refferendwm”) —

(a)ar y sail nad oedd canlyniad y refferendwm yn unol â'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw;

(b)ar y sail y di-rymwyd y refferendwm gan arferion llwgr neu anghyfreithlon, yn unol ag ystyr Deddf 1983, fel y byddant yn berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8) isod;

(c)ar y sail a ddarperir gan adran 164 (dirymu etholiad oherwydd llygredigaeth gyffredinol etc.) o Ddeddf 1983, fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (8) isod, neu

(d)yn amodol ar baragraff (3), ar y sail bod taliad ariannol neu wobr arall wedi ei gwneud neu'i haddo ers y refferendwm yn unol â rhyw arfer llwgr neu anghyfreithlon sy'n berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8) isod.

(2Caiff deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau a nodir ym mharagraff (1)(a) hyd (c) ei chyflwyno cyn pen 21 o ddiwrnodau wedi'r dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm.

(3Ni ellir cyflwyno deiseb refferendwm ar y sail a nodir ym mharagraff (1)(d) ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(4Gwneir cais am ganiatâd, nid hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad neu'r addewid honedig, drwy roi rhybudd o gais i'r llys ar adeg ac mewn lle a bennir gan y llys.

(5Nid llai na saith niwrnod cyn y dyddiad a bennir yn y modd hwnnw bydd yr ymgeisydd —

(a)yn cyflwyno'r rhybudd o gais i'r ymatebydd a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ac yn rhoi copi yn y swyddfa deisebau etholiadau; a

(b)yn cyhoeddi rhybudd o'r cais arfaethedig yn o leiaf un o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal bleidleisio ar gyfer y refferendwm y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

(6Bydd y rhybudd o gais yn datgan y sail dros wneud y cais.

(7Caiff deiseb refferendwm ei phrofi gan lys etholiad, hynny yw, llys a gyfansoddwyd dan adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man profi) o Ddeddf 1983 ar gyfer profi deiseb etholiad, fel y'i cymhwysir gan baragraff (8) isod.

(8Bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 5 yn effeithiol o ran cwestiynu refferendwm fel y maent yn effeithiol o ran cwestiynu etholiad dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(18) yn amodol ar —

(a)y newidiadau a nodir yn is-baragraffau (a) hyd (p) o baragraff (1) o reoliad 8;

(b)rhoi yn lle , ar gyfer “an election petition”, lle bynnag yr ymddengys y term hwnnw, “a referendum petition under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2004”; a

(c)y newidiadau pellach a nodir yng ngholofn (2) o Atodlen 5.

(9Bydd Rheolau Deisebau Etholiadau 1960(19) yn effeithiol o ran deiseb refferendwm fel y maent yn effeithiol o ran deiseb etholiad lleol yn unol ag ystyr y Rheolau hynny'n amodol ar y newidiadau a nodir yn Atodlen 6.

Canlyniadau di-oed deisebau refferendwm

16.—(1Os caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1; a

(ii)lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “o blaid”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad dan adran 29,

ni fydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau pellach o ganlyniad i'r refferendwm nes i'r llys etholiad gadarnhau ei benderfyniad o ran mater y ddeiseb refferendwm.

(2Os caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1; a

(ii)lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad dan adran 29,

bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

(3Os caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1; a

(ii)lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “o blaid”; a

(b)nid oes etholiad i ddychwelyd maer etholedig wedi digwydd o ganlyniad i'r refferendwm,

ni fydd yr awdurdod lleol yn cymryd dim camau pellach o ganlyniad i'r refferendwm nes bydd y llys etholiad wedi cadarnhau ei benderfyniad o ran mater deiseb y refferendwm.

(4Os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1; a

(ii)lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i etholiad i ddychwelyd maer etholedig ddigwydd o ganlyniad i'r refferendwm,

bydd y maer etholedig yn parhau yn y swydd.

(5Os —

(a)caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm o ran refferendwm lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)yw cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yn seiliedig ar y trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen yr oeddynt yn eu gweithredu ar ddyddiad y refferendwm,

yna byddant yn parhau i weithredu'r trefniadau hynny.

(6Ac eithrio achosion y mae paragraff (5) yn gymwys iddynt, os caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad dan adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) neu adran 33 (gweithredu trefniadau amgen),

yna ni fydd yr awdurdod lleol yn cymryd dim camau pellach o ganlyniad i'r refferendwm nes i'r llys etholiad gadarnhau ei benderfyniad o ran mater y ddeiseb refferendwm.

(7Os caiff deiseb refferendwm ei chyflwyno ar unrhyw un o'r seiliau a bennir yn is-baragraffau (a) hyd (c) o baragraff (1) o reoliad 15, neu os rhoddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm —

(a)o ran refferendwm lle'r oedd mwyafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw'n bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad dan adran 29 neu adran 33,

yna bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth neu, yn ôl y digwydd, y trefniadau amgen sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

Penderfynu ynglŷn â deisebau refferendwm, a'r dulliau gweithredu dilynol

17.—(1Os bydd llys etholiad yn cadarnhau, fel ei benderfyniad ynglyn â deiseb refferendwm, naill ai fod canlyniad y refferendwm a gyhoeddwyd dan reoliad 14 yn unol â'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw, neu, yn ôl y digwydd, nad ydyw felly, yna deellir unrhyw gyfeiriad (ym mha dermau bynnag) yn yr amserlen —

(a)sydd wedi ei chynnwys yn eu cynigion dan reoliad 17(3)(a) neu 19(1)(c) o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau(20);

(b)rheoliad 17(7)(a)(ii), neu 20(3)(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu

(c)a luniwyd yn unol ag unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn a wnaed dan unrhyw un o ddarpariaethau o Ran II (trefniadau o ran gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000,

at ddyddiad canlyniad y refferendwm fel cyfeiriad at y dyddiad y bu i'r llys etholiad ardystio ei benderfyniad.

(2Os bydd llys etholiad yn cadarnhau, fel ei benderfyniad ynglŷn â deiseb refferendwm gan fanylu ynglŷn ag unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 15(1)(b) hyd (d), fod y refferendwm yn ddi-rym, yna bydd yr awdurdod lleol dan sylw, a hynny nid cynt na dau fis, ac nid hwyrach na thri mis, wedi i'r llys etholiad gadarnhau ei benderfyniad ynglŷn â mater deiseb y refferendwm, yn cynnal refferendwm arall.

(3O gynnal gwrandawiad sylweddol ar gyfer deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd iddi a lle mae'r amgylchiadau fel y rhai a grybwyllir yn rheoliad 16(4)(a) a (b), bydd y llys etholiad naill ai'n—

(a)gwrthod y ddeiseb; neu

(b)yn caniatáu'r ddeiseb,

ac, os bydd y llys yn caniatáu'r ddeiseb, bydd yn cyhoeddi bod y refferendwm yn llygredig, a bydd yn gorchymyn cynnal refferendwm pellach.

(4Os bydd llys etholiad yn gwneud gorchymyn fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (3), bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm pellach cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl darfod y cyfnod o bum mlynedd a ddechreuodd ar y dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm llygredig.

(5Os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, lle bo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth, byddant yn parhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chânt neu hyd oni chânt eu hawdurdodi neu oni fydd gofyn iddynt weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu'u hawdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle eu trefniadau gweithrediaeth presennol.

(6Yn amodol i baragraffau (7), (8) a (9), os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu'r cynigion hynny a oedd yn gynigion amlinellol wrth gefn iddynt ar adeg y refferendwm llygredig.

(7Os mai cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yw'r trefniadau gweithrediaeth neu amgen yr oeddynt yn eu gweithredu ar ddyddiad y refferendwm llygredig, bydd isadran (13) o adran 27 yn gymwys ar gyfer cynigion amlinellol wrth gefn fel pe bai'r geiriau “cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol” wedi eu rhoi yn lle “yn unol â'r amserlen a grybwyllir yn isadran (4)”.

(8Os yw cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yn drefniadau gweithredaeth sy'n cynnwys rhyw fath o weithrediaeth nad oes angen refferendwm ar ei chyfer(21)

(a)bydd isadran (1) o adran 29 (gweithredu trefniadau gweithredaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth a nodir yn fanwl yn eu cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod lleol i weithredu trefniadau gweithrediaeth dan amgylchiadau eraill; a

(b)bydd isadran (2) o'r adran honno'n gymwys megis pe gosodid, ym mharagraff (b), yn lle is-baragraff (i), “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements, the local authority have resolved to operate the different executive arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum,”.

(9Os yw cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yn drefniadau amgen—

(a)bydd isadran (2) o adran 33 (gweithredu trefniadau amgen) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu trefniadau amgen a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod lleol i weithredu trefniadau amgen mewn amgylchiadau eraill; a

(b)bydd isadran (2) o adran 29(22) yn gymwys fel pe rhoddid, ym mharagraff (b), yn lle is-baragraff (i) “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements the local authority have resolved to operate the alternative arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum.”.

(10Bydd y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gymwys (i'r graddau y maent yn berthnasol), o ran cynnal y refferendwm pellach fel y maent yn gymwys o ran cynnal unrhyw refferendwm arall, yn amodol ar y canlynol —

(a)yn rheoliad 4 —

(i)ym mharagraff (1), hepgor is-baragraff (a);

(ii)yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gosod “trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “y cynigion”;

(iii)ym mharagraff (vii) o is-baragraff (c) gosod “dogfen lle nodir prif briodweddau trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “copi o'r cynigion”;

(iv)ym mharagraff (viii) o'r is-baragraff hwnnw, rhowch “ddogfen honno” yn lle “cynigion”;

(v)ar ôl paragraff (viii) o'r is-baragraff hwnnw, gosod y paragraff canlynol —

(ix)bod y refferendwm yn cael ei gynnal o ganlyniad i benderfyniad o eiddo'r llys etholiad bod y refferendwm diwethaf a gynhaliwyd yn ardal yr awdurdod lleol yn llygredig oherwydd rhyw daliad ariannol neu wobr arall a wnaed neu a addawyd ers y refferendwm yn unol â rhyw arfer llwgr neu anghyfreithlon.;

(vi)ym mharagraff (4), gosod “dogfen sy'n nodi prif briodweddau trefniadau gweithredaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “copi o'u cynigion”; a

(vii)ym mharagraff (5), gosod “prif briodweddau trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “â'r cynigion”; a

(b)drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 1 o Ran I o Atodlen I —

; ac

(c)drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 2 o Ran I o Atodlen I —

.

(11O gynnal gwrandawiad sylweddol ar gyfer deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd iddi a lle mae'r amgylchiadau fel y rhai a grybwyllir yn unrhyw baragraff o reoliad 16 ac eithrio paragraff (4), bydd y llys etholiad naill ai'n —

(a)gwrthod y ddeiseb; neu'n

(b)caniatáu'r ddeiseb,

ac, os bydd y llys yn caniatáu'r ddeiseb, bydd yn cyhoeddi bod y refferendwm yn ddi-rym.

Amser

18.—(1Wrth fesur unrhyw gyfnod at ddibenion —

(a)unrhyw ddarpariaeth o blith Rheolau Refferendwm LGA; neu

(b)rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn,

caiff y diwrnodau canlynol eu diystyru —

(i)Dydd Sadwrn neu Ddydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau cyn y Pasg, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(23) yng Nghymru, ac

(ii)unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod o ddiolchgarwch neu alaru cyhoeddus.

Hysbysebion

19.  Bydd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion 1992(24) yn effeithiol o ran arddangos unrhyw hysbysebion ar unrhyw safleoedd mewn ardal bleidleisio sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm fel y byddant yn effeithiol parthed arddangos hysbysebion sy'n ymwneud yn benodol ag etholiad llywodraeth leol.

Trethi annomestig: mangre a ddefnyddir at ddibenion refferendwm

20.  O ran mangre mewn ardal bleidleisio, bydd adran 65(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (meddiant ar gyfer cyfarfodydd etholiad a pholau)(25) yn effeithiol megis petai —

(a)y cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus er hyrwyddo ymgeisyddiaeth rhywun mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus yn hyrwyddo canlyniad neilltuol yn y refferendwm; a

(b)y cyfeiriad at ddefnydd gan swyddog canlyniadau at y diben o gynnal y pôl mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at ddefnydd gan rywun sy'n arfer swyddogaethau swyddog canlyniadau'n unol â rheoliad 11 at y diben o gynnal y pôl yn y refferendwm.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(26)

John Marek

Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol

23 Mawrth 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources