- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
24 Tachwedd 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 79(2) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(2) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) mewn perthynas â mesurau sy'n berthnasol i fwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, neu a roddir yn fwyd iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran olaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4)), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(5) yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 12 (rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid), ar ôl paragraff (6) ychwaneger y canlynol —
“(7) Mae paragraffau (8) a (9) yn gymwys i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir ar gyfer porthiant —
(a)echdynnydd cnewllyn palmwydd;
(b)porthiant a geir o brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;
(c)blawd gwymon a deunyddiau porthiant sy'n deillio o wymon; neu
(ch)porthiant cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
(8) Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (7), os bydd arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny, gaffael a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad er mwyn dangos bod yr arsenic inorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir ar gyfer porthiant a restrir ym mharagraff (7) yn dod o fewn y terfyn a bennir yn y cofnod perthnasol yng ngholofn 3 o Ran I o Atodlen 7.
(9) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (8) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.”.
(3) Yn lle rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig) rhodder y canlynol —
13.—(1) Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant, neu ddefnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys —
(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul a wahanwyd yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a gawsant eu trin neu eu cymysgu mewn unrhyw ffordd ai peidio;
(b)croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;
(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gyda'r bwriad o'u defnyddio ar gyfer lluosogi planhigion, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;
(ch)pren, gan gynnwys blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren, a gafodd ei drin â chadwolion pren fel y'u diffinnir yn Atodiad V o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gosod cynhyrchion bywleiddaidd ar y farchnad(6);
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a yw wedi'i brosesu neu i'w brosesu ymhellach ai peidio) a geir o drin dwr gwastraff trefol, dwr gwastraff domestig, neu o drin dwr gwastraff diwydiannol (fel y diffinnir y termau “urban waste water”, “domestic waste water” ac “industrial waste water” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff), o ba le bynnag y daeth y dwr gwastraff dan sylw yn wreiddiol(7);
(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond heb gynnwys gwastraff arlwyo fel y'i diffinnir gan Reoliad (EC) 1774/2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(8);
(e)deunydd pecynnu a rhannau o ddeunydd pecynnu cynhyrchion a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “gwastraff” fydd yr ystyr a roddir i “waste” yn nhestun Saesneg Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC (9)).
(3) At ddibenion paragraff (1)(d), caiff y term “dwr gwastraff” ei ddehongli yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid(10).”.
(4) Yn Rhan IX (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3 —
(a)ar ôl y cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 490/2004 mewnosoder y canlynol —
“Commission Regulation (EC) No. 879/2004 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (Saccharomyces cerevisiae) (27).
Commission Regulation (EC) No. 880/2004 authorising without time limit the use of beta-carotene and canthaxanthin as additives in feeding stuffs belonging to the group of colouring matters including pigments (28).
Commission Regulation (EC) No. 1259/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives already authorised in feeding stuffs (29).
Commission Regulation (EC) No. 1288/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives and the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (30).
Commission Regulation (EC) No. 1332/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (31).
Commission Regulation 1333/2004 concerning the permanent authorisation of a certain additive in feeding stuffs (32).
Commission Regulation (EC) No. 1453/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (33).
Commission Regulation (EC) No. 1465/2004 concerning the permanent authorisation of an additive in feeding stuffs (34).”.
(b)ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —
“(27) OJ No. L162, 30.4.2004, p.65.
(28) OJ No. L162, 30.4.2004, p.68.
(29) OJ No. L239, 9.7.2004, p.8.
(30) OJ No. L243, 15.7.2004, p.10.
(31) OJ No. L247, 21.7.2004, p.8.
(32) OJ No. L247, 21.7.2004, p.11.
(33) OJ No. L269, 17.8.2004, p.3.
(34) OJ No. L270, 18.8.2004, p.11.”.
(5) Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan a geir yng ngholofnau 1 i 3 o Ran 1 (Feeding Stuffs) o Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) rhaid rhoi'r cofnodion a geir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ymhellach yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 24 (diwygio adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(11) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
(3) Ym mharagraff (11)(a) o Ran II (nodiadau ar gwblhau'r dystysgrif) o Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No. 2)”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(12)i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (2)(a) ac ym mharagraff (4) o reoliad 7 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) ar ôl yr ail “(Wales)” yn y ddau baragraff mewnosoder “(No.2)”.
(3) Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 9, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
(4) Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 10, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos.
(5) Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B, rhodder y geiriau “(Wales) (No. 2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
Rheoliad 2(4)
Column 1 | Column 2 | Column 3 |
---|---|---|
Arsenic | Feed materials except: | 2 |
— meal made from grass, from dried lucerne and from dried clover and dried sugar beet pulp and dried molasses sugar beet pulp | 4 | |
— palm kernel expeller | 4 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
— phosphates and calcareous marine algae | 10 | |
— calcium carbonate | 15 | |
— magnesium oxide | 20 | |
— feedingstuffs obtained from the processing of fish or other marine animals | 15 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
— seaweed meal and feed materials derived from seaweed | 40 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
Complete feeding stuffs except: | 2 | |
— complete feeding stuffs for fish and fur-producing animals | 6 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
Complementary feeding stuffs except: | 4 | |
— mineral feeding stuffs | 12 | |
Note in respect of all entries in column 3 | ||
The maximum levels refer to total arsenic | ||
Fluorine | Feed materials except: | 150 |
— feedingstuffs of animal origin with the exception of marine crustaceans such as marine krill | 500 | |
— phosphates and marine crustaceans such as marine krill | 2000 | |
— calcium carbonate | 350 | |
— magnesium oxide | 600 | |
— calcareous marine algae | 1000 | |
Complete feeding stuffs except: | 150 | |
— complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats | ||
— in milk | 30 | |
— other | 50 | |
— complete feeding stuffs for pigs | 100 | |
— complete feeding stuffs for poultry | 350 | |
— complete feeding stuffs for chicks | 250 | |
Mineral mixtures for cattle, sheep and goats | 2000 | |
Other complementary feeding stuffs | 125 (fluorine content per percentage point phosphorous in the feeding stuff) | |
Lead | Feed materials except: | 10 |
— grass meal, lucerne meal or clover meal | 40 | |
— calcium carbonate | 20 | |
— phosphates and calcareous marine algae | 15 | |
— yeast | 5 | |
Complete feeding stuffs | 5 | |
Complementary feeding stuffs except: | 10 | |
— mineral feeding stuffs | 15 | |
Aflatoxin B1 | All feed materials | 0.02 |
Complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats except: | 0.02 | |
— dairy animals | 0.005 | |
— calves and lambs | 0.01 | |
Complete feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) | 0.02 | |
Other complete feeding stuffs | 0.01 | |
Complementary feeding stuffs for cattle, sheep and goats (except complementary feeding stuffs for dairy animals, calves and lambs) | 0.02 | |
Complementary feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) | 0.02 | |
Other complementary feeding stuffs | 0.005 | |
Free Gossypol | Feed materials except: | 20 |
— cotton-seed | 5000 | |
— cotton-seed cakes and cotton-seed meal | 1200 | |
Complete feeding stuffs except: | 20 | |
— complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats | 500 | |
— complete feeding stuffs for poultry (except laying hens) and calves | 100 | |
— complete feeding stuffs for rabbits and pigs (except piglets) | 60 | |
Endosulphan (sum of alpha- and beta-isomers and of endosulphan sulphate, expressed as endosulphan) | All feeding stuffs except: | 0.1 |
— maize and products derived from the processing thereof | 0.2 | |
— oilseeds and products derived from the processing thereof | 0.5 | |
— complete feeding stuffs for fish | 0.005 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), fel y'i diwygiwyd eisoes), sef “Rheoliadau 2001”, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100/EC (OJ Rhif L285, 01.11.2003, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L140, 30.05.2002, t.15) ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid, ac yn gweithredu hefyd Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC (OJ Rhif L067, 05.03.2004, t.31) sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid.
3. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001—
(a)drwy fynnu ei bod yn rhaid darparu, ar gyfer yr awdurdod cymwys ac os gofynnir amdano, ddadansoddiad sy'n dangos beth yw lefel arsenig anorganig mewn bwydydd anifeiliaid penodol neu ddeunydd bwyd anifeiliaid (paragraff (2));
(b)drwy wneud diwygiadau manwl i'r rhestr o ddeunyddiau gwaharddedig a geir yn rheoliad 13 o Reoliadau 2001, a thrwy ymestyn y gwaharddiad presennol ar eu cylchredeg neu eu defnyddio mewn cysylltiad â bwydydd anifeiliaid cyfansawdd i gynnwys eu cylchredeg neu eu defnyddio fel deunyddiau bwyd anifeiliaid (paragraff (3));
(c)drwy ychwanegu at Ran IX o Atodlen 3 wyth o Reoliadau newydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n awdurdodi ychwanegion newydd neu ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegion penodol mewn bwydydd anifeiliaid neu, yn ôl y digwydd, drwy wneud yr awdurdodiad a roddwyd dros dro i ychwanegyn yn awdurdodiad parhaol (paragraff (4));
(ch)drwy ddiwygio'r cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol a geir yn Atodlen 7 i Reoliadau 2001 mewn perthynas ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan (paragraff (5)).
4. Mae rheoliadau 3 i 5 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i gyfeiriadau at y Rheoliadau Porthiant fel y maent yn ymddangos mewn amrywiol Reoliadau ac yn Neddf Amaethyddiaeth 1970.
5. Yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 paratowyd arfarniad ar yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y caiff prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC eu trosi'n gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
1970 p.40. Yn adran 66(1) caiff yr ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations” eu diffinio; cafodd y diffiniad o “the Ministers” ei ddiwygio gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “Ysgrifennydd Gwladol”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Cafodd adran 74 ei mewnosod gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn Ewropeaidd mae “cyfraith bwyd” yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a roddir yn fwyd iddynt.
O.S. 2001/343 (Cy.15), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).
OJ Rhif L123, 24.04.1998, t.1.
OJ Rhif L135, 30.05.1991, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/15/EC, OJ Rhif L67, 07.03.1998, t.29.
OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.
OJ Rhif L194, 25.07.1975, t.39, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 1882/2003, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1.
OJ Rhif L67, 05.03.2004, t.31.
O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).
O.S. 1999/2325, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2000/2481, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/989 (Cy.138), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: