Search Legislation

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.

Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001

2.—(1Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(1) yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Yn rheoliad 12 (rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid), ar ôl paragraff (6) ychwaneger y canlynol —

(7) Mae paragraffau (8) a (9) yn gymwys i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir ar gyfer porthiant —

(a)echdynnydd cnewllyn palmwydd;

(b)porthiant a geir o brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;

(c)blawd gwymon a deunyddiau porthiant sy'n deillio o wymon; neu

(ch)porthiant cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.

(8) Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (7), os bydd arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny, gaffael a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad er mwyn dangos bod yr arsenic inorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir ar gyfer porthiant a restrir ym mharagraff (7) yn dod o fewn y terfyn a bennir yn y cofnod perthnasol yng ngholofn 3 o Ran I o Atodlen 7.

(9) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (8) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol..

(3Yn lle rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig) rhodder y canlynol —

Rheoli porthiant sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig

13.(1) Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant, neu ddefnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys —

(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul a wahanwyd yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a gawsant eu trin neu eu cymysgu mewn unrhyw ffordd ai peidio;

(b)croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;

(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gyda'r bwriad o'u defnyddio ar gyfer lluosogi planhigion, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;

(ch)pren, gan gynnwys blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren, a gafodd ei drin â chadwolion pren fel y'u diffinnir yn Atodiad V o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gosod cynhyrchion bywleiddaidd ar y farchnad(2);

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a yw wedi'i brosesu neu i'w brosesu ymhellach ai peidio) a geir o drin dwr gwastraff trefol, dwr gwastraff domestig, neu o drin dwr gwastraff diwydiannol (fel y diffinnir y termau “urban waste water”, “domestic waste water” ac “industrial waste water” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff), o ba le bynnag y daeth y dwr gwastraff dan sylw yn wreiddiol(3);

(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond heb gynnwys gwastraff arlwyo fel y'i diffinnir gan Reoliad (EC) 1774/2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(4);

(e)deunydd pecynnu a rhannau o ddeunydd pecynnu cynhyrchion a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.

(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “gwastraff” fydd yr ystyr a roddir i “waste” yn nhestun Saesneg Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC (5)).

(3) At ddibenion paragraff (1)(d), caiff y term “dwr gwastraff” ei ddehongli yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid(6)..

(4Yn Rhan IX (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3 —

(a)ar ôl y cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 490/2004 mewnosoder y canlynol —

  • Commission Regulation (EC) No. 879/2004 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (Saccharomyces cerevisiae) (27).

  • Commission Regulation (EC) No. 880/2004 authorising without time limit the use of beta-carotene and canthaxanthin as additives in feeding stuffs belonging to the group of colouring matters including pigments (28).

  • Commission Regulation (EC) No. 1259/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives already authorised in feeding stuffs (29).

  • Commission Regulation (EC) No. 1288/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives and the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (30).

  • Commission Regulation (EC) No. 1332/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (31).

  • Commission Regulation 1333/2004 concerning the permanent authorisation of a certain additive in feeding stuffs (32).

  • Commission Regulation (EC) No. 1453/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (33).

  • Commission Regulation (EC) No. 1465/2004 concerning the permanent authorisation of an additive in feeding stuffs (34)..

(b)ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —

(27) OJ No. L162, 30.4.2004, p.65.

(28) OJ No. L162, 30.4.2004, p.68.

(29) OJ No. L239, 9.7.2004, p.8.

(30) OJ No. L243, 15.7.2004, p.10.

(31) OJ No. L247, 21.7.2004, p.8.

(32) OJ No. L247, 21.7.2004, p.11.

(33) OJ No. L269, 17.8.2004, p.3.

(34) OJ No. L270, 18.8.2004, p.11..

(5Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan a geir yng ngholofnau 1 i 3 o Ran 1 (Feeding Stuffs) o Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) rhaid rhoi'r cofnodion a geir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001

3.—(1Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ymhellach yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.

(3Ym mharagraff (1) o reoliad 24 (diwygio adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999

4.—(1Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(7) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.

(3Ym mharagraff (11)(a) o Ran II (nodiadau ar gwblhau'r dystysgrif) o Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No. 2)”.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999

5.—(1Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(8)i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ym mharagraff (2)(a) ac ym mharagraff (4) o reoliad 7 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) ar ôl yr ail “(Wales)” yn y ddau baragraff mewnosoder “(No.2)”.

(3Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 9, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.

(4Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 10, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos.

(5Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B, rhodder y geiriau “(Wales) (No. 2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources