Search Legislation

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2918 (Cy.257)

GWASANAETHAU TÅN

PENSIYNAU

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

11 Tachwedd 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 36, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1):

Cymhwyso, enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 11 Tachwedd 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cynllun” yw'r cynllun a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(2) ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(3).

Cadw'r cynllun pensiwn presennol

3.—(1Er gwaethaf diddymu adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(4)), bydd y Cynllun yn parhau mewn grym.

(2Bydd y deddfiadau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun fel pe na baent wedi'u diwygio neu eu diddymu, fel sy'n briodol, gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Newid enw'r cynllun

4.—(1Enw newydd y Cynllun fydd “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)”.

(2Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Erthygl 3(2)

ATODLEN

DeddfAdrannau o'r Ddeddf sy'n parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun
Deddf Gwasanaethau Tân 1947

Adran 26, is-adrannau (1) i (5)(6)

Adran 27A(7)

Adran 35, i'r graddau y mae'n berthnasol i adran 26

Adran 39(5)

Y Drydedd Atodlen

Deddf Gwasanaethau Tân 1951(8)Adran 1
Deddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951(9))

Adran 46(3)(iii)

Adran 61(1)(d)

Deddf Gwasanaethau Tân 1959(10)

Adran 8, is-adrannau (1) i (3)

Adran 9, is-adrannau (1) a (2)Adran 10

Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971(11))Paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2(12)
Deddf Blwydd-daliadau 1972(13)

Adran 16

Adran 24(1)(a)

Deddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997(14)Adran 1(3)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (“y Cynllun”), a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947, yn parhau mewn grym er bod yr adran honno wedi'i diddymu gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. At ddibenion y Cynllun, mae'r Gorchymyn hwn yn parhau i roi effaith i ddeddfiadau penodol a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Ddeddf 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer newid enw'r Cynllun yn “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)”. Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol.

(4)

Diddymir Adran 26 gan adran 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo yn parhau i roi effaith i'r adran honno at ddibenion y Cynllun.

(6)

Diwygiwyd adran 26 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27); adran 42 o Ddeddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65); adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 8 iddi (p. 11); adran 100 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1973 ac Atodlen 27 iddi (p. 38); adran 1 o Ddeddf Cymorth Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 ac Atodlen 1 iddi (p. 18); adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43); adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p. 52) ac erthygl 2 o Orchymyn Cymorth Gwladol (Addasu Deddf Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).

(7)

Mewnosodwyd adran 27A gan adran 3 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 ac fe'i diwygiwyd gan erthygl 102 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).

(9)

1951 p.65; diwygir adrannau 46(3)(iii) a 61(1)(d), o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddi.

(11)

1971 p. 56; mewnosodwyd paragraff 16A o Atodlen 2 gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a pharagraff 89 o Atodlen 6 iddi. Diwygir paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2, o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 35 o Atodlen 1 iddi.

(12)

1971 p.56; mewnosodwyd paragraff 16A gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 6 iddi.

(13)

1972 p.11. O 11 Tachwedd 2004, diwygir adran 24(1)(a) gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, a pharagraff 37 o Atodlen 1 iddi.

(14)

1997 p.52.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources