Search Legislation

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1741 (Cy.180)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)

y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud

rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)

1 Medi 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(4), 4(1), (2), (3) a (5), 14(3) a 42(6) a (7) o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004.

(2Ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.

(3Daw rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) i rym ar 1 Medi 2004.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

2.  Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3) fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 2 —

(i)yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” rhodder y diffiniad canlynol —

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(4);;

(ii)mewnosoder ar ôl y diffiniad o “Cod Ymarfer” y diffiniad canlynol—

mae i “corff priodol” (“appropriate body”) yr ystyr a roddir iddo yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(5);;

(iii)hepgorer y diffiniad o “Deddf 1988”;.

(b)mewnosoder ar ôl rheoliad 3 —

Cymhwyster i gofrestru

3A.(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson sydd, ar ôl gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6)), wedi methu â'i gwblhau yn foddhaol at ddibenion y rheoliadau hynny.

(2) Mae person o'r fath yn gymwys i gofrestru —

(a)yn ystod yr amser ar gyfer gwneud apêl o dan y rheoliadau hynny yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol; a

(b)lle y gwneir apêl o'r fath, wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl.;.

(c)yn lle rheoliad 4 rhodder y rheoliad canlynol —

4.  Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch —

(i)y ffurf a'r dull ar gyfer gwneud ceisiadau am gofrestru; a

(ii)y dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth arall sydd i gyd-fynd â cheisiadau am gofrestru.;

(ch)yn rheoliad 16, yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff canlynol—

(3) Mae'r canlynol i'w trin fel cyflogydd neu ddarpar gyflogydd y mae paragraff (1) yn gymwys iddo —

(i)awdurdod addysg lleol os corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw (p'un a yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (1) neu beidio) yw'r cyflogydd neu ddarpar gyflogydd

(ii)yr awdurdod esgobaethol priodol mewn perthynas ag ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol yr Eglwys Gatholig Rufeinig (o fewn ystyr adran 142 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7)) os corff llywodraethu'r ysgol neu'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol (p'un a yw'r corff llywodraethu neu'r awdurdod wedi gwneud cais o dan baragraff (1) neu beidio) yw'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd

(iii)y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas â pherson a benodir neu sy'n cael ei ystyried i'w benodi, fel athro neu athrawes mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.;

(d)yn rheoliad 17(2) rhodder ar ôl y geiriau “athro neu'r athrawes” y geiriau “neu berson arall”;

(dd)ar ôl rheoliad 17 rhodder y rheoliadau canlynol —

Darparu gwybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon

18.(1) Pan ddaw cais i law, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag —

(a)athro neu athrawes gofrestredig; neu

(b)person anghofrestredig y mae'n cadw cofnodion yn ei gylch yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,

i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(2) Lle darperir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i amod gael ei osod yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon beidio â datgelu'r wybodaeth honno i unrhyw berson heblaw'r athro neu'r athrawes neu berson arall y mae'r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef neu â hi.

Darparu Gwybodaeth i Gyrff Priodol

19.(1) Pan ddaw cais rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a gynhwysir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 mewn perthynas ag —

(i)athro neu athrawes gofrestredig; neu

(ii)person anghofrestredig y mae'n cadw cofnodion yn ei gylch yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,

i gorff priodol.

(2) Dim ond ar yr amod nad yw'r corff priodol yn datgelu gwybodaeth a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson heblaw'r athro neu'r athrawes neu berson arall y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu â hi y mae gwybodaeth i gael ei rhoi o dan baragraff (1).;

(e)yn Atodlen 1—

(i)ym mharagraff 16(c) ychwaneger ar y diwedd y geiriau “sydd ym marn y Cyngor yn berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes”;

(ii)ym mharagraff 19 yn lle'r geiriau “gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988” rhodder y geiriau “gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002”; a

(iii)yn lle paragraff 21 rhodder y paragraff canlynol —

21.  Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002; ac

(f)yn Atodlen 2—

(i)yn lle'r geiriau “Rheoliadau 16 a 17” yn gyfagos â'r pennawd, rhodder y geiriau “Rheoliadau 16, 17, 18 a 19”;

(ii)ym mharagraff 11 yn lle'r geiriau “gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988” rhodder y geiriau “gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002”; a

(iii)yn lle paragraff 12 rhodder y paragraff canlynol —

12.  Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (“Rheoliadau 2000”) er mwyn darparu bod athrawon sydd wedi methu eu cyfnod ymsefydlu yn gymwys i gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) yn ystod y terfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl ac, os ydynt yn cyflwyno apêl, tra'n disgwyl canlyniad yr apêl.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Reoliadau 2000. Maent yn galluogi'r Cyngor i wneud ei ddarpariaeth ei hun ynghylch ffurf a dull gwneud ceisiadau am gofrestru. Maent yn ychwanegu awdurdod esgobaethol mewn perthynas ag ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol yr Eglwys Gatholig Rufeinig, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn fel cyrff y mae'n ofynnol i'r Cyngor roi gwybodaeth benodol iddynt. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddarparu gwybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2000 i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon ac i ddarparu gwybodaeth am ymsefydlu athrawon ysgol i gyrff priodol (h.y. y cyrff hynny sy'n gyfrifol am oruchwylio cyfnodau ymsefydlu athrawon ysgol). Maent yn cyfyngu manylion cymwysterau academaidd a phroffesiynol a gofnodir ar y gofrestr i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athrawon. Maent hefyd yn gwneud diwygiadau sy'n ganlyniadol i Ddeddf Addysg 2002, gan ddiweddaru cyfeiriadau yn Rheoliadau 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i fod yn gyfeiriadau ati.

(1)

1998 p.30. Mae adrannau 2 at 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir Adrannau 3(4) a 4 yn rhagolygol gan baragraffau 3(6) a 4(2) o Atodlen 12 a pharagraff 77 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

2002 p.32. Gweler Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173).

(6)

Y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn oedd, mewn perthynas â Chymru, Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S. 2003/543 (Cy.77), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/872 (Cy.87), ac mewn perthynas â Lloegr, Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgrynhoi) 2001, O.S. 2001/2897, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3938, O.S. 2002/2063 ac O.S. 2003/106.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources