- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
28 Ionawr 2004
Yn dod i rym
31 Ionawr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), (3) a (4), 81(2) ac 81(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Ionawr 2004.
2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 2001” (“the 2001 Order”) yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001(2).
3.—(1) Mae paragraff 15(ch) yn yr Atodlen i Orchymyn 2001 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder y geiriau “lwfans neu bensiwn a wneir o dan” o flaen “Adran 18”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Mae cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol ond nid felly awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i God Ymddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf. Pennwyd yr egwyddorion hynny yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.
Rhagnodwyd Cod Ymddygiad Enghreifftiol i aelodau awdurdodau perthnasol gan Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 (“Gorchymyn 2001”) a wnaed o dan adran 50(2). Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn addasu'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yng Ngorchymyn 2001 drwy fewnosod testun ychwanegol ym mharagraff 15(ch). Effaith y diwygiad yw y gall aelodau o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân sy'n ystyried eu sefyllfa o ran y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gymryd nad oes ganddynt “fuddiant personol” mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud â lwfans neu bensiwn (“allowance or pension”) a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Effaith ymarferol y diwygiad yw mai dim ond i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân y bydd diwygiad i'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn gymwys. Dim ond iddynt hwy ac nid i awdurdodau pethnasol eraill y mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai yn gymwys mewn cysylltiad a lwfansau neu bensiynau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: