- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 1(2) a 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu |
£ | ||
NODIADAU I'R ATODLEN (1) Didynner £124 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo. Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. (2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £105 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu. Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £105 ac (pan fydd yr incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £25 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa is) neu £50 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa uwch). (3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. (4) Didynner £18 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr. (5) Didynner £14 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol. (6) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor. (7) Didynner £288 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. (8) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. (9) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. (10) Didynner £291 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. (11) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
1. Da byw | ||
Buchod llaeth: | ||
Bridiau Ynysoedd y Sianel | buwch | 373 |
Bridiau eraill | buwch | 460 |
Buchod bridio cig eidion: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(1) | buwch | 43(1) |
Ar dir arall | buwch | 73(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) | pen | 75(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 35(3) |
Mamogiaid: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 11(4) |
Ar dir arall | mamog | 19(5) |
Ŵ yn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) | pen | 1.00 |
Moch: | ||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 85 |
Moch porc | pen | 1.75 |
Moch torri | pen | 3.25 |
Moch bacwn | pen | 5.00 |
Dofednod: | ||
Ieir dodwy | aderyn | 1.00 |
Brwyliaid | aderyn | 0.12 |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.25 |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 2.00 |
2. Cnydau âr fferm | ||
Haidd | hectar | 186(6) |
Ffa | hectar | 169(7) |
Had glaswellt | hectar | 100 |
Ceirch | hectar | 190(8) |
Rêp had olew | hectar | 171(9) |
Pys: | ||
Sych | hectar | 194(10) |
Dringo | hectar | 175 |
Tatws: | ||
Cynnar cyntaf | hectar | 800 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 750 |
Betys siwgr | hectar | 240 |
Gwenith | hectar | 223(11) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | ||
Ffa cyffredin | hectar | 500 |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1400 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro | hectar | 1800 |
Moron | hectar | 2700 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 975 |
Seleri | hectar | 8000 |
Cennin | hectar | 3200 |
Letys | hectar | 4150 |
Wynwns: | ||
Bylbiau sych | hectar | 1305 |
Salad | hectar | 3800 |
Pannas | hectar | 2850 |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6000 |
Maip a swêds | hectar | 1300 |
4. Ffrwythau'r berllan | ||
Afalau: | ||
Seidr | hectar | 380 |
Coginio | hectar | 1150 |
Melys | hectar | 1250 |
Ceirios | hectar | 800 |
Gellyg | hectar | 900 |
Eirin | hectar | 1150 |
5. Ffrwythau meddal | ||
Cyrens Duon | hectar | 800 |
Mafon | hectar | 3000 |
Mefus | hectar | 4000 |
6. Amrywiol | ||
Hopys | hectar | 1700 |
7. Tir Porthiant | ||
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
8. Neilltir | ||
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 51 |
O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1806 (Cy.176).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: