Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 893 (Cy.113)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Mawrth 2003

Yn dod i rym

31 Mawrth 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118(1), 120(1) a (3), 121(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dirymu

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Datblygu Blynyddoedd Cynnar) (Cymru) 1999(3).

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin”(“nursery education”) yw addysg feithrin (o fewn ystyr “nursery education” yn adran 117 o'r Ddeddf) y mae awdurdod o dan ddyletswydd i sicrhau bod yna ddarpariaeth ddigonol ohoni ar gael yn rhinwedd adran 118 o'r Ddeddf a rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

ystyr “y bartneriaeth” (“the partnership”), mewn perthynas ag awdurdod, yw'r bartneriaeth datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a sefydlwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 119 o'r Ddeddf(4);

ystyr “y cynllun” (“the plan”), mewn perthynas ag awdurdod, yw'r cynllun datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a baratowyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 120 o'r Ddeddf(5);

ystyr “cynigion am addysg feithrin” (“proposals for nursery education”) yw datganiad cynigion yr awrdurdod am gydymffurfio gyda'u dyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf, y mae'n rhaid i'r awdurdod gynnwys yn eu cynllun yn unol ag adran 120(2)(a) o'r Ddeddf(6);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Dyletswydd i sicrhau addysg feithrin

4.—(1At ddibenion adran 118(1)(b) o'r Ddeddf (oedran y plant y mae dyletswydd yr awdurdod i sicrhau darpariaeth ddigonol o ran addysg feithrin ar eu cyfer yn eu hardal yn gymwys iddynt ) rhagnodir —

(a)yn achos plentyn nad yw ei bedwerydd pen-blwydd yn dod o fewn un o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) isod, oedran y plentyn ar ddechrau'r tymor cyntaf sy'n dechrau ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bedair oed; neu

(b)yn achos plentyn y mae ei ben-blwydd yn bedair oed yn dod o fewn un o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) isod, oedran y plentyn ar ddechrau'r tymor yn dilyn y tymor y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

(2Y cyfnodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) uchod, mewn unrhyw flwyddyn, yw—

(a)y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac yn dod i ben pan fydd tymor yr haf y flwyddyn honno yn dechrau;

(b)y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n dod i ben pan fydd tymor yr hydref y flwyddyn honno yn dechrau; ac

(c)y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n dod i ben pan fydd tymor y gwanwyn y flwyddyn honno yn dechrau.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, ystyr “tymor” yw'r tymor sy'n cael ei gadw mewn perthynas â'r addysg sy'n cael ei darparu, neu sydd i'w darparu, neu sydd o dan ystyriaeth, ar gyfer y plentyn, ac mewn unrhyw flwyddyn, ystyr tymor y gwanwyn, tymor yr haf a thymor yr hydref, yn eu tro, yw'r tymor sy'n dechrau ym mis Ionawr, ym mis Ebrill ac ym mis Medi.

Paratoi a chyflwyno'r cynlluniau i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w cymeradwyo

5.—(1Rhaid i'r cynllun cyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i mewn i rym gael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei gymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 1 Gorffennaf 2003.

(2Rhaid i'r ail gynllun cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gael ei gymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 20 Hydref 2003.

(3Rhaid i gynlluniau olynol gael eu paratoi pob blwyddyn, a'u cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael eu cymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 20 Hydref.

Cynigion am addysg feithrin

6.—(1Mae cynigion am addysg feithrin sy'n berthnasol i'r cynllun cyntaf i ymwneud â'r cyfnod o saith mis sy'n dechrau ar 1 Medi 2003.

(2Mae cynigion am addysg feithrin sy'n berthnasol i'r ail gynllun a'r cynlluniau olynol i ymwneud â'r cyfnod o un flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae'n ofynnol cyflwyno'r cynllun i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei gymeradwyo yn unol ag adran 121(1) o'r Ddeddf a rheoliadau 5(1), (2) neu (3) uchod.

(3Rhaid i'r cynigion am addysg feithrin ymdrin â'r materion sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Cyhoeddi cynlluniau

7.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo —

(a)cynllun awdurdod o dan is-adran (2) o adran 121 o'r Ddeddf, neu

(b)addasiad o gynllun awdurdod o dan is-adran (8) o'r adran honno,

rhaid i'r awdurdod gyhoeddi eu cynllun neu eu cynllun fel y'i haddaswyd, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cymeradwyo'r cynllun neu'r addasiad o'r cynllun o dan is-adran (2) neu (8) o adran 121.

(2Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi eu cynllun, neu'r cynllun fel y'i haddaswyd, trwy trefnu iddo fod ar gael —

(a)swyddfeydd addysg,

(b)mewn llyfrgelloedd yn eu hardal, ac

(c)fel rhan o'u gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â darparu gwasanaethau ofal plant a gwasanaethau cysylltiedig yn eu hardal yn unol ag adran 118A(3) o'r Ddeddf

er mwyn i aelodau o'r cyhoedd gyfeirio ato.

(3Rhaid i'r awdurdod darparu copi o'u cynllun, neu eu cynllun fel y'i haddaswyd, i'r canlynol —

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)pob aelod o'r bartneriaeth

o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cymeradwyo'r cynllun neu addasiad o'r cynllun o dan is-adran (2) neu (8) o adran 121 o'r Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003

Rheoliad 6(3)

YR ATODLENMaterion sydd i'w cynnwys yng nghynigion am addysg feithrin

Rhaid i gynigion am addysg feithrin:

(a)ymdrin â phlant yn ardal yr awdurdod nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ond sydd wedi cyrraedd yr oedran a ragnodir o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn (“plant perthnasol”);

(b)esbonio sut y bydd y galw yn lleol am addysg feithrin ar gyfer y plant perthnasol yn cael ei fodloni;

(c)rhoi amcangyfrif o'r nifer o leoedd addysg feithrin sydd ar gael i blant perthnasol bob tymor o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi (boed mewn sefydliadau sy'n cael eu cynnal gan yr awdurdod neu mewn sefydliadau na chynhelir mohonynt ganddo);

(ch)cynnwys rhestr o'r holl bersonau hynny sy'n darparu addysg feithrin ac sy'n cael (neu a fydd yn cael) cymorth ariannol gan yr awdurdod ar gyfer darpariaeth o'r fath neu sydd o dan ystyriaeth ar gyfer cymorth ariannol o'r fath gan yr awdurdod, ac y mae'r addysg feithrin y maent yn ei darparu yn cael ei chymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod wrth iddynt lunio eu cynllun; a

(d)darparu tystiolaeth bod yr awdurdod wedi ystyried pa drefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer darparu cludiant er mwyn galluogi'r plant perthnasol i fanteisio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg feithrin sydd ar gael, a nodi polisïau'r awdurdod ar ddarparu cludiant yn ôl ac ymlaen i safle unrhyw sefydliadau lle mae addysg o'r fath yn cael ei darparu.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adrannau 118(1), 120(1) a (3) a 121(1) a (9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Datblygu Blynyddoedd Cynnar) (Cymru) 1999.

Maent yn rhagnodi at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf (y mae rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau darpariaeth ddigonol odani o ran addysg feithrin ar gyfer eu hardal), yr oedran isaf y mae'r ddyletswydd honno'n gymwys mewn perthynas ag ef (rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd mewn cysylltiad â'r cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adrannau 120 a 121 o'r Ddeddf. Cafodd y gofyn i'r cynlluniau yn ymdrin â gofal plant yn ogystal â datblygu blynyddoedd cynnar ei ychwanegu gan adran 150 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi —

(a)y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngddynt, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid i'r cynlluniau gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael eu cymeradwyo o dan adran 120(1) o'r Ddeddf (rheoliad 5);

(b)y cyfnododau y mae'n rhaid i gynigion yr awdurdod am addysg feithrin ymwneud â nhw, sef y cynigion ar gyfer cydymffurfio â'u dyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf sydd wedi'u cynnwys mewn cynllun o'r fath (rheoliad 6(1) a (2));

(c)y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy mewn cynigion o'r fath (rheoliad 6(3) a'r Atodlen);

(ch)y cyfnod o fewn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau (a chynlluniau wedi'u haddasu) (rheoliad 7(1));

(d)dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath (rheoliad 7(2)); ac

(dd)y personau y mae'n rhaid anfon copi o gynllun o'r fath atynt, a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu'r copiau hynny (rheoliad 7(3)).

(1)

1998(p.31). Diwygir adran 120(1) gan adran 150(5) o Ddeddf Addysg 2002. Amnewidiwyd adran 120(3) gan adran 150(3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygir Adran 121(1) gan Adrannau 150(4) (a) ac (5) a adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 22, Rhan 3 iddi. Diwygir adran 121(9) gan adran 150(4)(i) a (5) o Ddeddf Addysg 2002. I gael ystyr “prescribed” a “regulationsgweler adran 142(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 150(1) a (5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.

(5)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 150(2), (3) a (5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.

(6)

Fel y'i diwygiwyd gan Adran 150(5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources