Search Legislation

Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 326 (Cy.47)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

17 Chwefror 2003

Yn dod i rym

19 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 17(1), 23, 25, 32(2), 34(7), 35(1) a (3), 36(2) a (5), 83(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 a daw i rym ar 19 Chwefror 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail sy'n cnoi cil;

ystyr “anifeiliaid rhybuddio” (“sentinel animals”) yw anifeiliaid nad oes ganddynt wrthgyrff i'r clefyd ac a ddefnyddir ar gyfer ei wylio;

ystyr “a'r clefyd arno” (“diseased”) yw a effeithiwyd gan y clefyd;

ystyr “cadarnhau'r clefyd” (“confirmation of disease”) yw datganiad gan y Prif Swyddog Milfeddygol bod feirws y tafod glas yn cylchredeg mewn ardal benodol;

ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas anifail sy'n cnoi cil;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson naturiol neu gyfreithiol sy'n berchen anifeiliaid, neu'n gyfrifol am gadw anifeiliaid, boed am wobr ariannol neu beidio;

ystyr “y clefyd” ( “the disease”) yw'r tafod glas;

ystyr “daliad” (“holding”) yw tir, gydag adeiladau neu hebddynt, lle y cedwir anifeiliaid yn barhaol neu dros dro;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

ystyr “embryo” (“embryo”) yw embryo anifail sy'n cnoi cil;

ystyr “fector” (“vector”) yw pryfyn o rywogaeth Culicoides imicola neu unrhyw bryfyn arall o'r genws Culicoides sydd, ym marn y Prif Swyddog Meddygol, yn gallu trosglwyddo'r tafod glas;

ystyr “y feirws” (“the virus”) yw feirws y tafod glas;

ystyr “ofwm” (“ovum”) yw ofwm anifail sy'n cnoi cil;

mae “peth” (“thing”) yn cynnwys carcas, embryo, ofwm, semen, porthiant, sarn (llaesodr), tail (tom), gwellt, slyri, teclyn, lloc, clwyd, cerbyd, cyfarpar a dillad;

ystyr “Prif Swyddog Milfeddygol” (“chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybodaeth am anifeiliaid neu garcasau a'r clefyd arnynt neu yr amheuir bod y clefyd arnynt ar gyfer yr ardal lle mae'r anifeiliaid neu garcasau hynny;

ystyr “semen” (“semen”) yw semen anifail sy'n cnoi cil;

mae “tir ac adeiladau” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbydau (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd, ôl-gerbyd, hanner-ôl-gerbyd, carafán neu beth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i'w dynnu gan gerbyd arall), llong, cwch, hofranlong, neu awyren; ac

ystyr “yr Ysgrifennydd Gwladol” (“the Secretary of State”) yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Estyn y diffiniad o “glefyd”

3.  Wrth gymhwyso Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i'r Gorchymyn hwn, estynnir y diffiniad o “glefyd” yn adran 88(1) o'r Ddeddf honno i gynnwys y tafod glas.

Esemptio gweithgareddau a awdurdodir o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998

4.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw beth a awdurdodwyd gan drwydded a ddyroddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 mewn perthynas â'r clefyd.(2)

Brechu yn erbyn y clefyd

5.  Gwaherddir brechu anifail yn erbyn y clefyd ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gofynion cychwynnol lle gwyddys neu lle yr amheuir bod y clefyd yn bodoli

6.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu'n amau bod unrhyw anifail neu garcas yn ei feddiant, o dan ei ofal neu sy'n cael ei archwilio neu ei arolygu ganddo a'r clefyd arno —

(a)hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith; a

(b)ymatal rhag symud unrhyw anifail i'r tir ac i'r adeiladau, neu oddi arnynt, lle mae'r anifail, ac eithrio fel yr awdurdodir gan arolygydd.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgyrff neu antigenau i'r clefyd neu i unrhyw frechlyn ar gyfer y clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.

Ynysu anifeiliaid

7.  Rhaid i feddiannydd unrhyw dir ac adeiladau neu unrhyw geidwad sy'n gwybod neu'n amau bod y clefyd gan unrhyw anifail neu garcas yn ei feddiant neu yn ei ofal, pan fydd hyn yn ymarferol, sicrhau bod yr holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau yn cael eu cadw i mewn.

Hysbysiadau gan arolygwyr

8.—(1Os bydd arolygydd yn gwybod neu'n amau bod y clefyd yn bodoli ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau sy'n ei gwneud yn ofynnol—

(a)nad yw unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo yn mynd i'r tir ac i'r adeiladau nac yn ymadael â hwynt;

(b)llunio stocrestr o'r holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau a chofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth —

(i)y nifer sydd wedi marw;

(ii)y nifer sydd yn fyw ac y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad eu bod wedi'u heintio â'r clefyd; a

(iii)y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad nad ydynt wedi'u heintio â'r clefyd;

(c)bod y stocrestr hon yn cael ei chadw'n gyfoes i gymryd cyfrif o'r anifeiliaid sy'n cael eu geni ac yn marw ac yn cael ei dangos i'r arolygydd ar ei gais.

(2Caiff arolygydd drwy unrhyw hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1), —

(a)yn ei gwneud yn ofynnol bod anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau yn cael eu cadw dan do neu ar unrhyw ran penodol o'r tir ac adeiladau;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad gydymffurfio â mesurau rheoli fectorau penodedig; ac

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, neu waredu carcasau.

(3Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd tir ac adeiladau sydd oherwydd ei leoliad, sefyllfa ddaearyddol neu gysylltiadau â thir ac adeiladau lle gwyddys neu yr amheuir bod y clefyd yno (yng Nghymru neu yn rhywle arall) sy'n rhoi sail dros amau fod y clefyd yno, bod y lle'n agored iddo neu fod presenoldeb fectorau yno.

(4Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan baragraffau (1) a (2) os cafodd hysbysiadau eu rhoi o dan erthygl 6 neu beidio.

Pwerau arolygwyr a swyddogion milfeddygol

9.—(1Pan fydd arolygydd milfeddygol yn arfer pwerau mynediad o dan y Ddeddf i unrhyw ran o'r tir a'r adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad mewn perthynas â hwy o dan erthygl 8, caiff—

(a)archwilio unrhyw anifail, carcas neu beth;

(b)gwneud y profion hynny a chymryd y samplau hynny (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at ddibenion diagnosis;

(c)marcio at ddiben adnabod unrhyw anifail, carcas neu beth; ac

(ch)casglu fectorau a gosod trapiau i gasglu fectorau.

(2Caiff swyddog a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, sydd yn mynd i unrhyw ran o dir ac adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad o dan erthygl 8, naill ai y mae arolygydd milfeddygol yn mynd ag ef yn unol ag erthygl 16(c) neu gyda chaniatâd y meddiannydd —

(a)casglu fectorau a gosod trapiau i gasglu fectorau; a

(b)gweithredu'r mesurau rheoli fectorau hynny y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir i feddiannydd tir ac adeiladau neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i gadw, ynysu, rhwystro neu drin unrhyw anifail;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth;

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio unrhyw ran o'r tir a'r adeiladau neu unrhyw berson, anifail neu beth ar y tir ac yn yr adeiladau; ac

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd, unrhyw lawfeddyg milfeddygol a roddodd sylw i unrhyw anifail ar y tir ac yn yr adeiladau ac unrhyw berson arall fu â gofal unrhyw anifail arall neu a fu mewn cysylltiad ag ef i'w hysbysu am unrhyw anifail arall neu dir ac adeiladau eraill y gall unrhyw anifail o'r fath fod wedi dod i gysylltiad â hwy.

Mesurau pan gaiff y clefyd ei gadarnhau

10.—(1Wrth gadarnhau'r clefyd, rhaid i arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd pob daliad neu i geidwaid yr anifeiliaid ar y daliadau hynny o fewn —

(a)radiws o 20 cilometr o'r tir ac adeiladau lle gwyddys bod y clefyd yno; neu

(b)unrhyw ardal arall y mae Prif Swyddog Milfeddygol yn ei phenderfynu gan roi sylw i ffactorau epidemiolegol, daearyddol, ecolegol a meteorolegol.

(2Rhaid i'r hysbysiad hwnnw ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn erthygl 8(1) a chaiff osod gofynion yn unol ag erthygl 9(3) ac ag unrhyw ofynion eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sydd ag effaith yn unol â'r erthygl hon ar unrhyw dir ac adeiladau nad ydynt yn ddaliadau.

(4Yn achos hysbysiad cyffredinol a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1) neu baragraff (3), rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath nodi'r ardal y mae'n gymwys iddo, ac mae'n gymwys i bob daliad neu dir ac adeiladau (yn ôl y digwydd) sydd yn gyfan neu yn rhannol o fewn yr ardal a hysbyswyd.

Cyfyngiadau mewn ardaloedd heintiedig

11.—(1Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan drwy Orchymyn bod ardal yn ardal heintiedig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi, bydd darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon ac erthygl 12 yn gymwys i'r ardal honno ac eithrio os bydd y Gorchymyn hwnnw yn amrywio neu yn eithrio'n fwriadol.

(2Bernir y bydd unrhyw dir ac adeiladau sy'n rhannol o fewn ardal heintiedig yn gyfan o fewn yr ardal honno.

(3Ac eithrio os awdurdodir gan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd yn unol â chyngor y Prif Swyddog Milfeddygol, gwaherddir —

(a)symud unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo o'r tir a'r adeiladau lle cedwir hwy; neu

(b)symud unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo ar ffyrdd cyhoeddus neu breifat (heblaw ffyrdd sy'n gwasanaethu tir ac adeiladau).

Pwerau arolygwyr a swyddogion mewn ardal heintiedig

12.—(1Pan ddatgenir bod ardal yn heintiedig bydd gan arolygwyr a swyddogion milfeddygol a awdurdodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr un pwerau ag a bennir yn erthygl 9, mewn perthynas â thir ac adeiladau o fewn yr ardal heintiedig, ag sydd ganddynt mewn perthynas â thir ac adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o dan erthygl 8.

(2Caiff arolygydd milfeddygol hefyd —

(a)gyfarwyddo meddiannydd tir ac adeiladau mewn ardal heintiedig neu geidwad anifail ar y tir neu yn yr adeiladau hynny i frechu neu ganiatáu brechu unrhyw anifail a gedwir yno; a

(b)cyfarwyddo'r meddiannydd neu'r ceidwad i gadw anifeiliaid i'w defnyddio yn anifeiliaid rhybuddio neu ganiatáu cyflwyno anifeiliaid rhybuddio i'r tir a'r adeiladau hynny.

Cigydda anifeiliaid

13.  Cyfarwyddir bod adran 32 o'r Ddeddf (sy'n ymwneud â chigydda ac iawndal) yn gymwys i'r tafod glas.

Tramgwyddau

14.  Mae unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, ac arno ef y mae'r prawf ohono —

(a)yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth mewn trwydded, hysbysiad neu gyfarwyddyd a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn;

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r trwyddedau, hysbysiadau neu gyfarwyddiadau hynny neu ag unrhyw amod yn unrhyw un o'r darpariaethau hynny;

(c)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw fynd yn groes neu fethu â chydymffurfio o'r fath;

(ch)yn difrodi, ymyrryd neu symud unrhyw drapiau a osodwyd i gasglu fectorau o dan erthygl 9;

(d)yn difwyno, dileu neu dynnu oddi yno unrhyw farc a wnaed gan arolygydd milfeddygol o dan erthygl 9,

yn cyflawni tramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Pwerau arolygwyr os bydd methiant

15.—(1Os bydd person y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion yr hysbysiad hwnnw neu unrhyw ofynion eraill a osodwyd yn rhesymol gan arolygydd, caiff arolygydd, heb ragfarn i unrhyw achosion o dramgwydd sy'n deillio o'r diffyg hwnnw, gymryd y camau hynny a all fod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofynion hynny'n cael eu bodloni.

(2Gellir adfer swm unrhyw dreuliau a dynnir yn rhesymol gan arolygydd o dan baragraff (1) ar archiad fel dyled sifil gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan yr awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, oddi wrth y person sydd mewn diffyg.

Pwerau cyffredinol arolygwyr

16.—(1Caiff arolygydd neu swyddog yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n mynd i'r tir ac adeiladau o dan y Gorchymyn hwn fynd â'r canlynol gydag ef

(a)cerbyd (ar yr amod bod mynediad i gerbyd o'r fath yn rhesymol ymarferol);

(b)y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Ni fydd unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys os cyflwynir caniatâd gan arolygydd milfeddygol.

(3Wrth benderfynu a yw am gyflwyno caniatâd o dan baragraff (2), rhaid i arolygydd milfeddygol weithredu yn unol â chyfarwyddiadau yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trwyddedau, hysbysiadau a chyfarwyddiadau

17.—(1Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, gyfarwyddyd neu ganiatâd o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd.

(2Rhaid cyflwyno hysbysiad diwygio, atal, neu ddirymu trwydded, hysbysiad, cyfarwyddyd neu ganiatâd o dan y Gorchymyn hwn, —

(a)yn achos trwydded, hysbysiad, cyfarwyddyd neu ganiatâd penodol, i'r person y dyroddwyd neu y cyflwynwyd y drwydded honno, yr hysbysiad, y cyfarwyddyd neu'r caniatâd hwnnw iddo; neu

(b)yn achos trwydded, hysbysiad, cyfarwyddyd neu ganiatâd cyffredinol, yn y dull y mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, arolygydd milfeddygol neu arolygydd (yn ôl y digwydd) yn barnu'r mwyaf priodol er mwyn dwyn sylw'r sawl a effeithir ganddo neu ganddi ato.

Gorfodi

18.  Yr awdurdod lleol sy'n gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall.

Dirymu

19.  Dirymir Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (3) a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (4) i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â'r tafod glas.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D.Elis-Thomas

Y Llywydd

17 Chwefror 2003

E.A. Morley

Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

15 Chwefror 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer rheoli a difodi clefyd y tafod glas (OJ Rhif 327, 22.12.2000, t.74). Mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Mae erthyglau 1, 2 a 3 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Mae erthygl 4 yn darparu nad yw gweithgareddau penodol a awdurdodwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 (O.S. 1998/463) yn dod o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 5 yn gwahardd brechu didrwydded rhag y clefyd.

Mae erthyglau 6 i 9 yn ymwneud â mesurau pan wyddys neu pan amheuir bod y tafod glas ar dir ac mewn adeiladau. Mae erthyglau 6 a 7 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ac ar gyfer ynysu anifeiliaid pan wyddys neu pan amheuir bod y clefyd yn bod. Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan arolygwyr sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chyfyngiadau penodol. Nodir pwerau cyffredinol arolygwyr yn adrannau 63 a 64A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae erthygl 9 yn pennu pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni tasgau penodol ar dir ac mewn adeiladau ar ôl arfer pwerau mynediad.

Mae erthyglau 10 i 13 yn ymwneud â mesurau pan fydd brigiad o'r tafod glas wedi'i gadarnhau. Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau. Mae erthyglau 11 a 12 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys mewn ardaloedd y datgenir eu bod yn ardaloedd heintiedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae Erthygl 13 yn cymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf honno ac sy'n ymwneud â chigydda anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn nodi dyletswyddau cyffredinol meddianwyr a cheidwaid o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 15 yn nodi pwerau archwilwyr pan na chydymffurfir â gofynion mewn hysbysiadau. Mae erthygl 16 yn nodi eu pwerau cyffredinol. Pennir gofynion cyffredinol mewn perthynas â thrwyddedau, hysbysiadau a chyfarwyddiadau yn erthygl 17. Mae erthygl 18 yn darparu y bydd y Gorchymyn yn cael ei weithredu a'i orfodi gan yr awdurdod lleol. Mae erthygl 19 yn dirymu Gorchymyn Clefydau Arbennig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r tafod glas.

Tramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yw methu â chydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

Paratowyd a chyhoeddwyd Arfarniad Rheoliadol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Mae copïau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources