Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1996(1) (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “cais” (“application”) yw cais a wnaed i'r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;

ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw cofrestr ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3) o Ddeddf 2002;

mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996; ac

ystyr “ysgol gofrestredig” (“registered school”) yw ysgol y mae cofnod o'i henw ar y gofrestr.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol

3.  Rhaid i bob cais—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)datgan y dyddiad cyntaf y bydd ysgol yn bwriadu derbyn disgyblion;

(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen; ac

(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog bod y datganiadau a wnaed yn y cais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Cyflwyno ffurflen cyn pen y tri mis cyntaf o weithredu

4.  Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru cyn pen tri mis ar ôl derbyn disgyblion, neu un disgybl os yw'r disgybl hwnnw o fewn adran 463(1)(b) o Ddeddf 1996, ffurflen ysgrifenedig rhaid ei bod yn cynnwys —

(a)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen; a

(b)tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Ffurflen flynyddol

5.—(1Ym mhob blwyddyn ysgol rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol ar gyfer yr ysgol honno cyn pen mis ar ôl i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani.

(2Rhaid i bob ffurflen flynyddol —

(a)cael ei darparu yn ysgrifenedig;

(b)bod wedi'i llenwi hyd at y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cofrestru;

(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen; ac

(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen flynyddol yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Adroddiadau ar gamymddwyn

6.  Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig, cyn pen pymtheng niwrnod i gais, roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth y mae'n gofyn amdani ac y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r swyddogaethau y mae'n eu harfer neu swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002, ac nad yw eisoes wedi cael ei rhoi iddo o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003(2).

Tynnu ysgol o'r gofrestr

7.  Os yw'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni bod perchennog ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6, caiff dynnu'r ysgol honno o'r gofrestr.

Tramgwydd

8.  Os bydd perchennog ysgol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6 bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Uchafswm ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn bodoli

9.  Mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2004, mae “uchafswm y disgyblion” at ddibenion adran 162 o Ddeddf 2002 i droi, ar y dyddiad hyd ato y mae ffurflen flynyddol 2004 yn cael ei llenwi, yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw.

Dirymu

10.  Mae Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997(3) yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources