Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN —CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu'n darparu gofal dydd ar safle perthnasol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darpariaeth chwarae mynediad agored ”(“open access play provision”) yw darpariaeth gofal dydd nad yw'n gofyn am y canlynol:

    (a)

    trefniant ymlaen llaw gan y person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

    (b)

    bod plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall yn ôl ac ymlaen i'r safle perthnasol;

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 3(1);

  • ystyr “datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol” (“statements of national minimum standards”) yw'r datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd;

  • ystyr “person sy'n gyfrifol” (“person in charge”), mewn perthynas â gofal dydd, yw'r unigolyn sydd wedi'i benodi gan y person cofrestredig fel y person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd gwirioneddol ar y safle;

  • ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant mewn perthynas ag ef neu, yn ôl fel y digwydd, y mae gofal dydd yn cael ei ddarparu iddo gan berson cofrestredig;

  • ystyr “safle perthnasol” (“relevant premises”) yw'r safle lle mae'r person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu, yn ôl fel y digwydd, lle mae gofal dydd yn cael ei ddarparu gan berson cofrestredig;

  • ystyr “safonau gofynnol cenedlaethol” (“national minimum standards”) yw'r safonau sydd wedi'u nodi yn y datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol;

  • ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”)

    (a)

    os yw swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw safle perthnasol, yw'r swyddfa honno;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

  • mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â safle perthnasol sydd wedi'i leoli mewn ardal benodol o Gymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—

(a)at reoliad neu atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(4Yn y rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu fel arall heblaw o dan gontract, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben

3.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r gwaith gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd y mae'r person wedi'i gofrestru ar ei gyfer, datganiad ar bapur (“y datganiad o ddiben”) a rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys—

(a)datganiad o nodau ac amcanion;

(b)datganiad ynghylch ystod oedran, rhyw a nifer y plant y bwriedir darparu gofal ar eu cyfer gan y person cofrestredig ac ynghylch ystod yr anghenion y mae'r person yn bwriadu eu diwallu;

(c)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu i'w rhoi ar gael i blant perthnasol;

(ch)datganiad ynghylch y gweithgareddau sydd i'w darparu ac ynglŷn â'r iaith neu'r ieithoedd y darperir y gweithgareddau drwyddynt; a

(d)datganiad ynghylch y telerau a'r amodau y darperir gofal yn unol â hwy i blant perthnasol pan fydd y person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n darparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu fod gofal dydd yn cael ei ddarparu, yn ôl fel y digwydd, mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

(3Ni fydd dim ym mharagraff (2) nac yn rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig dorri neu beidio â chydymffurfio â'r canlynol nac yn ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran XA o'r Ddeddf.

(4Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r datganiad o ddiben o dan sylw, ac os yw'n briodol, ei adolygu; a

(b)pryd bynnag y bo'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw adolygiad o'r fath o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae ei effaith i fod i ddechrau.

RHAN II —PERSONAU COFRESTREDIG

Y person cofrestredig — ei addasrwydd

4.—(1Rhaid i berson beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant o dan wyth oed.

(2Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant ar ei ben ei hun neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, ac yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3); neu

(b)yn achos person sy'n darparu gofal dydd, yn gorff a—

(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) sy'n un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion y corff neu'n un o'i swyddogion eraill ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith darparu gofal dydd o'r fath; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw—

(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i ofalu am blant o dan wyth oed;

(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth oed;

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) wedi'i dwyn i rym.

(5Nid yw person yn addas i weithredu fel gwarchodwr plant nac i ddarparu gofal dydd—

(a)os yw'r person wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi'i hatafaelu ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau a bod y gorchymyn methdaliad heb ei ddirymu nac wedi'i ddadwneud; neu

(b)os yw'r person wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw

(a)i'r datganiad o ddiben, nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o anabledd), a

(b)i'r angen i ddiogelu a hybu eu lles,

weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

(2Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.

(3Os corff sy'n darparu gofal dydd yw'r person cofrestredig rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.

Hysbysu am dramgwyddau

6.—(1Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn sy'n gyfrifol wedi'i gael yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid i'r person a gafwyd yn euog hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith o'r canlynol:

(a)dyddiad a lleoliad y gollfarn,

(b)y tramgwydd y cafwyd y person yn euog ohono, ac

(c)y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.

(2Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(2) rhaid i'r person hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono a dyddiad a man y cyhuddiad.

RHAN III —LLES A DATBLYGIAD PLANT PERTHNASOL

Hybu lles

7.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn y fath fodd ag i wneud y canlynol—

(a)hybu lles plant perthnasol a darparu'n briodol ar ei gyfer; a

(b)darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth ac, os yw'n briodol, driniaeth plant perthnasol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, er mwyn darparu gofal i blant perthnasol a darparu'n briodol ar gyfer eu lles, a chyn belled ag y bo'n ymarferol, ddarganfod eu dymuniadau a'u teimladau a'u cymryd i ystyriaeth.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau—

(a)bod preifatrwydd ac urddas plant perthnasol yn cael eu parchu;

(b)bod sylw dyledus yn cael ei roi i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol plant perthnasol ac unrhyw anabledd sy'n effeithio arnynt

tra bod y plant hynny o dan ofal y person.

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant

8.—(1Os oes bwyd yn cael ei ddarparu i'r plant perthnasol gan y person cofrestredig, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau

(a)eu bod yn cael—

(i)digon o fwyd a bod hwnnw'n cael ei ddarparu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol;

(ii)bwyd sydd wedi'i baratoi'n iawn, sy'n iach ac yn faethlon;

(iii)bwyd sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac sy'n cymryd i ystyriaeth eu dymuniadau rhesymol;

(iv)bwyd sy'n ddigon amrywiol; a

(b)bod unrhyw angen deietegol arbennig plentyn perthnasol, sy'n deillio o iechyd, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol neu gefndir diwylliannol y plentyn, yn cael ei ddiwallu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod modd i blant perthnasol gael dŵ r yfed ffres yn ystod yr holl gyfnod y maent o dan ofal y person.

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

9.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)sydd wedi'i fwriadu i ddiogelu plant perthnasol rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Yn benodol rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all fod yn gwneud, ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas â phlentyn perthnasol;

(b)cyfeirio yn ddi-oed unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar blentyn perthnasol at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol;

(c)cadw cofnodion ysgrifenedig am unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac am y camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt;

(ch)bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant perthnasol yn dilyn honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(d)gofyniad bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran XA o'r Ddeddf;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(dd)trefniadau sy'n rhoi cyfle bob amser i bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol weld gwybodaeth ar ffurf briodol a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch lles neu ddiogelwch y plant hynny.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” yw unrhyw ymholiadau a wneir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan y Ddeddf neu odani mewn perthynas ag amddiffyn plant.

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal

10.—(1Rhaid peidio â defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n nodi—

(a)y mesurau rheoli, atal a disgyblu y gellir eu defnyddio ar y safle perthnasol; a

(b)drwy ba fodd y bwriedir hyrwyddo ymddygiad priodol ar y safle hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwn, dim ond y mesurau rheoli, atal a disgyblu y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad a enwyd y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r polisi rheoli ymddygiad o dan sylw ac, os yw'n briodol, ei adolygu, a hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol na bygythiad i ddefnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol—

(a)unrhyw ffurf ar gosb gorfforol;

(b)(yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson) unrhyw gyfyngiad ar y plentyn o ran cysylltu neu gyfathrebu â'i rieni;

(c)unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta bwyd neu yfed diod neu beidio â'u rhoi iddynt;

(ch)unrhyw ofyniad i blentyn wisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol neu eu gwrthod fel mesur disgyblu;

(dd)cadw plentyn ar ddi-hun yn fwriadol;

(e)unrhyw archwiliad corfforol agos ar blentyn;

(f)gwrthod unrhyw gymhorthion neu offer y mae eu hangen ar blentyn anabl;

(ff)unrhyw fesur sy'n cynnwys—

(i)unrhyw blentyn er mwyn gosod unrhyw fesur ar unrhyw blentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵ p o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd—

(a)cymryd unrhyw gamau y mae eu hangen i ddiogelu iechyd plentyn gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig neu'n unol â'u cyfarwyddiadau;

(b)cymryd unrhyw gamau y mae eu hangen ar unwaith i atal niwed i unrhyw berson neu ddifrod difrifol i eiddo.

Anghenion iechyd y plant

11.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu iechyd plant perthnasol a'i ddiogelu.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob plentyn yn cael y cymorth unigol sy'n ofynnol yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd gan y plentyn; a

(b)bod bob amser un person o leiaf sy'n gofalu am blant perthnasol yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf addas.

Peryglon a diogelwch

12.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r safle perthnasol y gall plant perthnasol fynd iddi yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae plant perthnasol yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol; ac

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch plant perthnasol yn cael eu nodi ac yn cael eu dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

Defnyddio meddyginiaethau a'u storio

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cadw unrhyw feddyginiaeth ar y safle perthnasol yn ddiogel.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod plant perthnasol yn cael eu hatal rhag cael gafael ar unrhyw feddyginiaeth heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd ar gyfer plentyn perthnasol yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodwyd, i'r plentyn y mae wedi'i rhagnodi ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddwyd i blentyn perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodwyd” neu “wedi'i rhagnodi” yw

(a)wedi'i harchebu ar gyfer claf i gael ei darparu ar ei gyfer—

(i)o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(3) neu'n unol â hi; neu

(ii)fel rhan o gyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(4); neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), wedi'i rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(5).

Cwynion

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion sy'n cael eu gwneud gan blant perthnasol neu ar eu rhan.

(2Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn ddarparu ar gyfer trefniadau i roi gwybod am y weithdrefn

(a)i blant perthnasol;

(b)i'w rhieni; ac

(c)i bersonau sy'n gweithio dros y person cofrestredig.

(3Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a ddarperir o dan baragraff (3) gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)manylion y weithdrefn (os o gwbl) sydd wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cwynion iddo mewn perthynas â darparu gofal gan warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwynion.

(6Rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau, hysbysu'r person sydd wedi gwneud y gwyn am unrhyw gamau (os o gwbl) sydd i'w cymryd.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw gwyn, am y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi ac am ganlyniad yr ymchwiliad.

(8Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.

RHAN IV —STAFFIO

Staffio

15.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod nifer digonol o bersonau medrus a phrofiadol gyda chymwysterau addas yn gofalu am y plant perthnasol bob amser, o ystyried—

(a)y datganiad o ddiben a nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o unrhyw anabledd) , a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu eu hiechyd a'u lles.

Addasrwydd gweithwyr

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol—

(a)cyflogi o dan gontract cyflogi person i ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio mewn rhan o'r safle perthnasol o dan amgylchiadau lle byddai mewn cysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol oni bai ei fod yn addas i ofalu am blant o'r fath.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i ofalu am blant perthnasol oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad i wneud hynny;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni;

(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person ar gyfer—

(i)pob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2, ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys;

(ii)pob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2, os yw paragraff (3) yn gymwys.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(6) wedi'i dwyn i rym.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio ar y safle perthnasol a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn dechrau gwaith ar y safle perthnasol nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.

(5Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b)—

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—

(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a

(ii)y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno, ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys; neu

(iii)y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno, os yw paragraff (3) yn gymwys;

(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio ar y safle perthnasol nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bod y plant perthnasol yn bresennol.

Cyflogi staff

17.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer gwahardd cyflogai dros dro, a chymryd camau eraill heb fynd mor bell â gwahardd dros dro, mewn perthynas â chyflogai os yw hynny'n briodol er lles neu ddiogelwch plant perthnasol; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod i berson priodol am ddigwyddiad lle camdriniwyd plentyn perthnasol, neu lle amheuwyd ei fod wedi'i gam-drin, yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), y person cofrestredig, person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran XA o'r Ddeddf, un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol, cwnstabl neu un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yw'r person priodol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob cyflogai sy'n gofalu am blant perthnasol—

(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiad priodol; a

(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i sicrhau cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae yn ei gyflawni.

RHAN V —COFNODION A GWYBODAETH

Cadw cofnodion

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig —

(a)cadw'r cofnodion ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 3 a thra bydd plant perthnasol yn derbyn gofal gan y person cofrestredig, rhaid cadw'r cofnodion hynny ar y safle perthnasol;

(b)cadw'n ddiogel bob cofnod yn y cofnodion a bennir ym mharagraffau 1 i 9 o'r Atodlen honno am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod diwethaf; ac

(c)trefnu bod y cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdanynt.

(2Nid yw'n ofynnol i berson cofrestredig sy'n darparu gofal dydd drwy gyfrwng darpariaeth chwarae mynediad agored gadw'r cofnodion a bennir ym mharagraffau 5, 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag oriau mynychu) a 9 o'r Atodlen honNo.

(3Os yw person cofrestredig yn peidio â gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n peidio â darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion sy'n cael eu cadw yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo drefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdanynt.

Darparu gwybodaeth

19.—(1Rhaid i berson cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a nodir yn Atodlen 4 yn digwydd ac yr un pryd rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

(2Rhaid hysbysu—

(a)os yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, cyn i'r digwyddiad ddigwydd, a

(b)ym mhob achos arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddigwydd.

(3Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu rhiant plentyn perthnasol yn ddi-oed am unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn a rhaid iddo drefnu bod y cofnodion sy'n cael eu cadw yn unol â rheoliad 18, i'r graddau y maent yn ymwneud â phlentyn perthnasol, ar gael i'w harchwilio gan riant y plentyn hwnnw ac eithrio os na fyddai gwneud hynny yn rhesymol ymarferol neu os byddai'n gosod lles y plentyn mewn perygl.

(4Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae arno ei hangen am ddarparu gofal i blant perthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol a chadarnhad am yswiriant ar gyfer atebolrwydd y gall y person cofrestredig ei beri mewn perthynas â marwolaeth, anafiadau, atebolrwydd cyhoeddus, niwed neu golled arall.

RHAN VI —Y SAFLE

Ffitrwydd y safle

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, oni bai ei fod mewn lleoliad sy'n addas ar gyfer sicrhau'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben, a bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle yn addas ar gyfer sicrhau'r nodau a'r amcanion hynny.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr holl rannau o'r safle perthnasol sy'n cael eu defnyddio gan blant—

(a)wedi'u goleuo, eu gwresogi a'u hawyru'n ddigonol;

(b)yn ddiogel rhag mynediad diawdurdod;

(c)wedi'u dodrefnu a'u cyfarparu'n addas;

(ch)o adeiladwaith cadarn ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;

(d)yn lân ac wedi'u haddurno a'u cynnal a'u cadw'n rhesymol; a

(dd)wedi'u cyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi'u haddasu yn ôl yr angen, i ddiwallu'r anghenion sy'n deillio o anabledd unrhyw blentyn perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y safle perthnasol yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.

(4Pan fydd gofal yn cael ei ddarparu mewn safle dan do rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yna ddigon o'r cyfleusterau canlynol ar y safle perthnasol i blant perthnasol eu defnyddio o dan amodau sy'n caniatáu preifatrwydd priodol—

(a)nifer digonol o fasnau ymolchi gyda chyflenwad dwr rhedegog poeth ac oer, a

(b)nifer digonol o doiledau, sy'n addas i blant perthnasol,

ar gyfer nifer a rhyw'r plant perthnasol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, os yw bwyd yn cael ei ddarparu mewn safle dan do, fod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd ar y safle perthnasol.

Rhagofalon tân

21.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu cyfarpar atal a chanfod tân ;

(b)darparu dulliau boddhaol ar gyfer dianc os bydd tân;

(c)gwneud trefniadau digonol ar gyfer—

(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

(ii)rhoi rhybuddion tân;

(iii)gwacáu'r adeilad os digwydd tân;

(iv)cynnal a chadw'r holl offer atal a chanfod tân; a

(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer atal a chanfod tân, bob hyn a hyn fel y bo'n addas;

(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol ar safle perthnasol gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(d)sicrhau, drwy gyfrwng driliau ac ymarferion tân bob hyn a hyn fel y bo'n addas, fod y personau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y plant perthnasol, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân; ac

(dd)ymgynghori â'r awdurdod tân am y materion a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau (a) i (d).

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod tân” yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal lle mae'r safle perthnasol, swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(7).

RHAN VII —AMRYWIOL

Cydymffurfio â rheoliadau

22.  Os oes mwy nag un person cofrestredig ar gyfer darparu gofal dydd i blant perthnasol ar yr un safle, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Safonau

23.—(1Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y datganiad safonau gofynnol cenedlaethol sy'n berthnasol i'r math o ofal plant sy'n cael ei ddarparu gan y person cofrestredig.

(2Mae unrhyw honiadau bod y person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1) i'w cymryd i ystyriaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran XA o'r Ddeddf ac mewn achos o dan y Rhan honno o'r Ddeddf.

Tramgwyddau

24.  Bydd person cofrestredig sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofynion rheoliadau 3 i 21 neu'n methu fel arall â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002 (16.00)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources