- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
(a)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
(b)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
2.—(a) Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu anifeiliaid i fynd i dir ac adeiladau lle bu crynhoad anifeiliaid hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
(i)yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
(ii)y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
(b)Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.
3. Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.
4. Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
5. Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod—
(a)beidio â dechrau hyd nes i'r anifeiliaid gael eu symud o'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd i'w glanhau a'u diheintio; a
(b)gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
6. Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
7. Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael—
(a)eu distrywio;
(b)eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu
(c)eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: