- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.
(2) Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002.
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pryd deuir ag anifeiliaid ynghyd at ddibenion—
gwerthu;
dangos;
arddangos;
i'w traddodi ymlaen i'w lladd o fewn Prydain Fawr; neu
yn achos gwartheg stôr, i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr ar gyfer pesgu pellach neu eu gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw dros dro yr anifeiliaid hynny; ac
ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a restrir yng Ngorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1) fel un a gymeradwywyd am y tro i'w defnyddio o dan orchmynion cyffredinol(.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 4 isod, rhaid i bob person beidio â defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynhoad anifeiliaid—
(a)yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a
(b)oni bai fod y tir a'r adeiladau hynny wedi'u trwyddedu i'r diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod—
(a)fod yn ysgrifenedig;
(b)fod yn bosibl ei diwygio, ei hatal dros dro neu ei diddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi gan arolygydd milfeddygol; ac
(c)fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol er mwyn rheoli cyflwyno neu ledaenu clefyd o fewn neu oddi wrth y tir a'r adeiladau y mae'r drwydded yn perthyn â hwy.
4.—(1) Ni fydd erthygl 3 uchod yn gymwys pan fydd—
(a)yr holl anifeiliaid sy'n mynychu'r crynoad â'r un perchennog a'r un ceidwad; a
(b)y crynoad anifeiliad i ddigwydd ar dir neu mewn adeilad sydd yn eiddo i neu ym meddiant perchennog yr anifeiliaid.
(2) At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr “ceidwad” yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd.
5. Ac eithrio lle y darperir yn wahanol, rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
6. Ni fyddGorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925(2) yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad
8 Chwefror 2002
Lord Whitty
Is - Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd
8 Chwefror 2002
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: