Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2304 (Cy.229)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

Wedi'i wneud

am 11:29 a.m. ar 5 Medi 2002

Yn dod i rym

6 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adrannau 1, 7, 8(1), 83(2) ac 87(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru, daw i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg, (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid ac anifeiliaid o deulu'r mochyn;

ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliad hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 6(6)(a), yn cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;

mae i “cyfleuster ynysu ar gyfer bridio” (“breeding isolation facility”) yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 3(3)(e)(i);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

ystyr “diheintio” (“disinfect”) yw diheintio â diheintydd a gymeradwyir;

ystyr “diheintydd a gymeradwyir” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a restrir yn Atodlen 1 i Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwyir) 1978(2) fel un a gymeradwyir i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â Gorchymynion Traed a'r Genau;

ystyr “gorchymyn ardal a reolir” (“controlled area order”) yw unrhyw orchymyn datganiadol a wneir o dan erthygl 30 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983(3);

ystyr “grŵ p meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yw unrhyw grŵp o safleoedd y mae awdurdod wedi'i roi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn caniatáu symudiadau rhwng pob un o'r safleoedd yn y grŵ p;

mae i “Gweinidogion yr Alban” yr ystyr a roddir i “ Scottish Ministers” yn adran 44 o Ddeddf yr Alban 1998(4);

ystyr “hawl gofrestredig i gomin” (“registered right of common”) yw hawl i gomin a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Cominoedd 1965(5);

ystyr “hela” (“hunting”) yw defnyddio helgwn, beglgwn neu gŵ n eraill, er mwyn hela neu gwrsio unrhyw garw, llwynog, minc, ysgyfarnog neu gwningen neu er mwyn hela ar drywydd unrhyw abwyd neu ar drywydd arall;

mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn y Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(6);

mae i “Marc S” (“S Mark”) yr un ystyr ag sydd iddo yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002;

ystyr “milfeddyg cymwysedig” (“qualified veterinary surgeon”) yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;

mae i “pasbort gwartheg” yr ystyr a roddir i “cattle passport” yn y Rheoliadau Adnabod Gwartheg ond nid yw'n cynnwys pasbort lloi fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hynny;

ystyr “Rheoliadau Adnabod Gwartheg” (“Cattle Identification Regulations”) yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(7);

mae i “rhif adnabod unigol” yr un ystyr ag “individual identification number” yng Ngorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);

ystyr “rhif daliad” a “rhif y daliad” (“CPH number”) yw'r rhif daliad fferm a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “safle” (“premises”) yn cynnwys tir, gydag adeiladau neu hebddynt;

mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir comin neu dir sydd heb ei amgáu;

ystyr “tir tac” (“tack land”) yw tir yr aethpwyd ag anifeiliaid sy'n perthyn i rywun arall iddo er mwyn eu porthi neu eu pori am dâl gan borfelwr;

mae “triniaeth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yn cynnwys, yn achos geifr, casglu semen; ac

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel y “safle tarddiad”) oni bai fod y gofynion canlynol yn cael eu bodloni—

(a)mae'r symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd ac yn unol â'r amodau ynddi; a

(b)nid oes unrhyw anifail wedi'i symud i'r safle tarddiad (neu safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol) yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod y mae'r anifail a grybwyllwyd gyntaf i'w symud (a'r cyfnod hwnnw yn un y cyfeirir ato yr erthygl hon fel “y cyfnod segur”).

(2Ni fydd y gofyniad a gynhwysir ym mharagraff (1)(b) o'r erthygl hon yn gymwys—

(a)os yw'r safle tarddiad yn farchnad, canolfan gasglu, canolfan ffrwythloni artiffisial, neu le ar gyfer triniaeth filfeddygol;

(b)os yw'r symudiad yn—

(i)symudiad mochyn

(aa)fel y cyfeirir ato yn erthgyl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(9); neu

(bb)i farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith;

(ii)symudiad anifail yn uniongyrchol i ladd-dy, neu i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith, ar yr amod yn yr achos olaf—

(aa)nad yw safle'r ganolfan gasglu wedi'i ddefnyddio ac na fydd yn cael ei ddefnyddio ar yr un diwrnod ar gyfer sioe neu arddangosfa neu ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid at unrhyw ddiben heblaw eu cigydda ar unwaith; a

(bb)bod pob anifail sy'n cael ei symud i'r ganolfan gasglu yn cael ei symud oddi yno yn uniongyrchol i ladd-dy;

(iii)symudiad llo sy'n llai na 30 diwrnod oed (y dyroddwyd pasbort gwartheg ar ei gyfer ac y mae tagiau clustiau wedi'u dodi arno yn unol ag erthygl 3(3) o'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg) o safle tarddiad a'r safle hwnnw oedd naill ai'r safle lle cafodd y llo ei eni neu safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol, ac eithrio na fydd yr esemptiad hwn yn gymwys—

(aa)os yw unrhyw anifail wedi'i symud yn ystod y cyfnod segur yn uniongyrchol o farchnad i'r safle tarddiad neu i safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol;

(bb)os yw'r llo yn cael ei symud i ganolfan gasglu neu farchnad; neu

(cc)os yw'r llo yn cael ei symud i sioe neu arddangosfa;

(iv)symudiad oen neu fyn sy'n llai na 7 diwrnod oed o safle tarddiad a'r safle hwnnw yw naill ai'r safle lle cafodd ei eni neu safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol i unrhyw safle arall nad yw'n bellach na 10 cilometr ar hyd y ffordd o'r safle tarddiad os maethu'r oen neu'r myn hwnnw yw diben y symudiad hwnnw;

(v)dychweliad dafad o dir tac i'r safle y cafodd ei symud ohono yn wreiddiol neu i safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol ar yr amod bod y tir tac wedi'i reoli ar wahân i weddill unrhyw safle yr oedd yn rhan ohono ar bob adeg yn ystod y cyfnod yr oedd y ddafad yno a bod gan y tir tac hwnnw rif daliad ar wahân;

(vi)symudiad anifail rhwng safle mewn grŵ p meddiannaeth unigol yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

(vii)symudiad anifail i sioe neu arddangosfa o sioe neu arddangosfa arall;

(viii)symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, heblaw o ddigwyddiad arall o'r fath neu o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (x), ar yr amod ei fod wedi'i ynysu am yr 20 diwrnod cyn dyddiad y symud o bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol a'i fod wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio—

(aa)yn achos gwartheg yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(bb)yn achos dafad neu afr â rhif adnabod unigol; neu

(cc)yn achos carw yn unol â gofynion Gorchymyn Darfodedigaeth (Ceirw) 1989(10);

(ix)symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, o safle y mae wedi'i symud iddo o sioe neu arddangosfa arall, ar yr amod nad oes unrhyw anifail arall wedi'i symud i'r safle hwnnw (neu safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol) yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod y mae'r anifail a grybwyllwyd gyntaf i fod i gael ei symud;

(x)symudiad anifail o sioe neu arddangosfa i unrhyw le heblaw sioe neu arddangosfa arall ar yr amod mai yn ystod yr 20 diwrnod ar ôl y symudiad o'r sioe neu'r arddangosfa—

(aa)nad yw'n cael ei symud o'r safle newydd ac eithrio i sioe neu arddangosfa arall; a

(bb)ei fod yn cael ei ynysu oddi wrth bob anifail arall tra bydd ar y safle newydd;

(xi)symudiad gwartheg o safle tarddiad o dan amgylchiadau—

(aa)lle'r oedd yr unig symudiad anifeiliaid i'r safle tarddiad yn symudiad llo llai na 30 diwrnod oed a brynwyd o'r safle lle cafodd ei eni neu o safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol;

(bb)lle mae'r safle tarddiad wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio fel uned magu lloi arbenigol drwy hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol; ac

(cc)lle dyroddwyd pasbortau gwartheg ar gyfer y gwartheg sydd i'w symud a lle cawsant eu tagio yn unol â'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(xii)symudiad anifail i'w allforio'n uniongyrchol neu i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000(11) cyn yr allforio hwnnw;

(xiii)symudiad anifail sydd wedi'i fewnforio i'r Deyrnas Unedig yn uniongyrchol i unrhyw safle o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig; neu

(xiv)symudiad anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin drosto ac

(aa)safle ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae'r hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef; neu

(bb)safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw ac y mae'r hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef;

(xv)symudiad anifail rhwng safle ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin dros dir yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall a chanddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw ac y mae hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef;

(xvi)symudiad moch, gwartheg, neu ddefaid i ganolfan ffrwythloni artiffisial, ar yr amod, yn achos defaid, eu bod wedi'u hynysu yn ystod yr 20 diwrnod cyn y symudiad o bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle sy'n gysylltiedig â hwy mewn grŵ p meddiannaeth unigol;

(xvii)symudiad moch, defaid, geifr, gwartheg neu geirw i le ar gyfer triniaeth filfeddygol ar yr amod (ac eithrio yn achos moch) y bydd yr anifeiliaid yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall yno tra bydd y driniaeth yn cael ei chyflawni;

(xviii)symudiad tarw neu hwrdd neu garw o'r naill ryw neu'r llall, ac eithrio o farchnad, at ddibenion bridio, ar yr amod ei fod yn cael ei nodi, ei farcio neu ei dagio—

(aa)yn achos tarw yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(bb)yn achos hwrdd â rhif adnabod unigol; neu

(cc)yn achos carw yn unol â gofynion Gorchymyn Darfodedigaeth (Ceirw) 1989;

ac, yn achos hwrdd, ei fod wedi'i ynysu am yr 20 diwrnod cyn y symudiad oddi wrth bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall sy'n gysylltiedig â hwy mewn grŵ p meddiannaeth unigol ac ar yr amod pellach bod y perchennog neu'r ceidwad, yn union wedi i'r tarw, y carw neu'r hwrdd gyrraedd y safle y mae'n cael ei symud iddo, yn llofnodi datganiad ei fod am gael ei ddefnyddio at ddibenion bridio;

(xix)symudiad gafr o'r naill ryw neu'r llall, ac eithrio o farchnad, at ddibenion bridio os yw'r afr wedi'i dynodi â rhif adnabod unigol ar yr amod—

(aa)ei bod yn cael ei hynysu am yr 20 diwrnod cyn y symudiad oddi wrth bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol; neu

(bb)os yw wedi'i hynysu ar y safle tarddiad am lai na'r cyfnod hwnnw o 20 diwrnod, ei bod yn cael ei symud i safle arall lle'r oedd wedi'i hanfon o'r blaen at ddibenion bridio ac yr oedd wedi'i dychwelyd ohono cyn cael ei hynysu felly,

ac ar yr amod pellach bod datganiad yn cael ei lofnodi gan ei pherchennog neu ei cheidwad yn union ar ôl iddi gyrraedd y safle y mae'n cael ei symud iddo at ddibenion bridio;

(xx)symudiad defaid sy'n dychwelyd o safle y cawsant eu symud iddo ond er mwyn cymryd rhan mewn treial cŵ n defaid yno; neu

(xxi)symudiad anifail sy'n cael ei symud i labordy er mwyn cynnal profion diagnostig i ddarganfod a oes clefyd wedi effeithio ar yr anifail neu a yw wedi bod yn agored i glefyd; neu

(c)os oes caniatâd yn datgymhwyso'r cyfnod segur wedi'i ddyroddi gan arolygydd milfeddygol mewn perthynas â'r symudiad.

(3At ddibenion paragraff (1)(b) uchod rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i symudiad y canlynol i'r safle tarddiad neu safle arall yn yr un grwp meddiannaeth—

(a)mochyn

(i)sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o le yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer bridio, canolfan ffrwythloni artiffisial neu le yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod ei fod wedi ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei ddychwelyd oddi wrth bob anifail arall; neu

(ii)os yw'r symudiad hwnnw yn symudiad y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995;

(b)anifail sy'n cael ei symud i'r safle hwnnw yn uniongyrchol o arddangosfa neu sioe ar yr amod—

(i)bod yr anifail yn cael ei ynysu yn unol â gofynion is-baragraff (2)(b)(x)(bb); a

(ii)bod presenoldeb yr anifail yn yr arddangosfa neu'r sioe wedi'i hysbysu i'r awdurdod lleol;

(c)tarw neu garw o'r naill ryw neu'r llall, ar yr amod nad yw wedi dod o farchnad, ei fod wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio—

(i)yn achos tarw yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(ii)yn achos carw yn unol â gofynion Gorchymyn Darfodedigaeth (Ceirw) 1989;

ac ar yr amod pellach bod y perchennog neu'r ceidwad, yn union wedi iddo gyrraedd, yn llofnodi datganiad ei fod wedi ei symud at ddibenion bridio;

(ch)hwrdd at ddibenion bridio a hwnnw'n un sydd heb ddod o farchnad ar yr amod—

(i)ei fod wedi'i ddynodi â rhif adnabod unigol;

(ii)bod datganiad ei fod wedi ei symud at ddibenion bridio yn cael ei lofnodi gan ei berchennog neu'i geidwad, yn union ar ôl iddo gyrraedd y safle hwnnw; a

(iii)na symudwyd unrhyw anifeiliaid i'r safle y mae wedi dod ohono neu safle arall sy'n gysylltiedig â hwy mewn grŵp meddiannaeth unigol yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod symud neu fod yr hwrdd wedi'i ynysu yn ystod y cyfnod hwnnw oddi wrth bob anifail arall ar safle o'r fath;

(d)gafr o'r naill ryw neu'r llall at ddibenion bridio nad yw wedi dod o farchnad, ac sydd wedi'i dynodi â marc adnabod unigol ar yr amod—

(i)nad oes unrhyw anifeiliaid wedi'u symud i'r safle y mae wedi dod ohono na safle arall sy'n gysylltiedig ag ef mewn grŵ p meddiannaeth unigol yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn dyddiad y symudiad;

(ii)bod yr afr wedi'i hynysu drwy gydol y cyfnod hwnnw oddi wrth bob anifail arall ar safle o'r fath; neu

(iii)bod yr afr wedi'i hynysu oddi wrth bob anifail arall ar safle o'r fath ers iddi gael ei dychwelyd yno o'r safle tarddiad lai nag 20 diwrnod cyn hynny yn dilyn ymgais blaenorol i fridio,

ac ar yr amod pellach bod ei pherchennog neu ei cheidwad wedi llofnodi datganiad yn union ar ôl iddi gyrraedd y safle hwnnw fod yr afr wedi'i symud felly at ddibenion bridio;

(dd)bod gafr o'r naill ryw neu'r llall sy'n cael ei dychwelyd i'r safle hwnnw o le yr oedd wedi'i symud iddo at ddibenion bridio ar yr amod ei bod yn cael ei hynysu oddi wrth bob anifail arall sydd yno am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei dychwelyd oni bai ei bod yn cael ei hanfon yn ôl i'r lle hwnnw ar gyfer ymgais pellach i fridio a'r afr honno wedi cael ei hynysu felly ers dyddiad ei dychwelyd;

(e)unrhyw ddefaid neu wartheg y bwriedir eu defnyddio at ddibenion bridio sydd i'w cyflawni cyn 1 Chwefror 2003 neu cyn i un mis o ddyddiad y symudiad ddod i ben, p'un bynnag yw'r diweddaraf ar yr amod—

(i)bod y defaid neu'r gwartheg yn cael eu symud ar unwaith, wrth iddynt gyrraedd y safle hwnnw a hynny heb ddod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sydd yno eisoes, i mewn i gyfleuster ynysu y mae'r holl ofynion a bennir ym mharagraff (9) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef neu y gellir eu bodloni ar yr amser sy'n gymwys (“cyfleuster ynysu ar gyfer bridio”) a'u bod yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu hwnnw ar gyfer bridio naill ai—

(aa)tan y daw'r cyfnod sy'n diweddu ar ddechrau'r 21fed diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd i ben; neu

(bb)os oes unrhyw anifail arall, ac eithrio unrhyw rai o'r un safle neu o safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol y mae unrhyw rai o'r gwartheg neu'r defaid i'w bridio â hwy, yn cael ei symud i mewn i'r cyfleuster yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnod sy'n dod i ben 20 diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r anifail arall hwnnw yn cael ei symud i mewn i'r cyfleuster;

(ii)mai yn ystod yr holl gyfnod y mae'r defaid neu'r gwartheg yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn unol ag is-baragraff (i) y bydd yr holl ofynion a bennir ym mharagraff (9) yn cael eu bodloni neu eu dilyn ar bob adeg sy'n gymwys;

(iii)bod y defaid a'r gwartheg yn cael eu dynodi—

(aa)yn achos hyrddod â rhif adnabod unigol neu Farc S;

(bb)yn achos mamogiaid â marc adnabod unigol neu farc paent hollol weladwy y mae ei liw a'i ddyluniad yn ddigon neilltuol i'w gwneud yn bosibl iddynt gael eu gwahaniaethu'n rhwydd oddi wrth bob dafad arall ar y safle gan gynnwys unrhyw rai eraill sydd eisoes yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio; ac

(cc)yn achos gwartheg o'r naill ryw neu'r llall, yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(iv)bod datganiad yn cael ei lofnodi gan neu ar ran eu perchennog neu eu ceidwad yn union ar ôl iddynt gyrraedd a'r datganiad hwnnw'n dweud eu bod i gael eu cadw at ddibenion bridio yn unig yn ystod y cyfnod cyn 1 Chwefror 2003 neu cyn i un mis o ddyddiad y symudiad ddod i ben, p'un bynnag yw'r cynharaf;

(v)bod unrhyw anifeiliaid eraill—

(aa)sy'n cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio pan fydd y defaid neu'r gwartheg yn cyrraedd, boed hynny'n unol â'r ddarpariaeth hon neu fel arall; neu

(bb)sy'n cael eu symud i mewn i'r cyfleuster hwnnw o rywle arall ar y safle hwnnw wrth i'r defaid neu'r gwartheg gyrraedd neu ar ôl hynny,

yn cael eu cadw hefyd yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio tan y daw 20 diwrnod o'r dyddiad y cyrhaeddodd y defaid neu'r gwartheg i ben, ni waeth a fyddai unrhyw gyfnod arall pryd y byddai'n ofynnol cadw'r anifeiliaid eraill hynny yn y cyfleuster hwnnw yn dod i ben yn ystod yr 20 diwrnod hwnnw;

(vi)bod y gwartheg neu'r defaid, ynghyd ag unrhyw anifeiliaid eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (v)(aa), yn cael eu harolygu ac, os bydd angen, eu harchwilio i weld a oes unrhyw arwyddion clefyd arnynt gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl diwrnod eu cyrhaeddiad ac yn diweddu ar yr ugeinfed diwrnod wedi hynny;

(vii)bod y milfeddyg cymwysedig sydd wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (vi) yn llofnodi datganiad yn cadarnhau ei fod wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad hwnnw;

(viii)nad oes unrhyw hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan baragraff (10) mewn perthynas â chyfleuster sydd wedi'i fwriadu i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn y safle hwnnw ar wahân i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i ddirymu o dan baragraff (11);

(f)hwrdd neu darw sydd wedi'i ddychwelyd heb ei werthu o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi i gael ei werthu at ddibenion bridio ar yr amod—

(i)bod yr hwrdd neu'r tarw yn cael ei symud yn union ar ôl iddo gyrraedd y safle hwnnw a hynny heb ddod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid eraill sydd yno eisoes, i mewn i gyfleuster ynysu ar gyfer bridio a'i fod yn cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu hwnnw ar gyfer bridio naill ai—

(aa)tan y daw'r cyfnod sy'n diweddu ar ddechrau'r 21fed diwrnod ar ôl iddo gyrraedd i ben; neu

(bb)os oes unrhyw anifail arall, ac eithrio un o'r un safle neu o safle arall yn yr un grŵp meddiannaeth unigol y mae'r hwrdd neu'r tarw i gael eu bridio â hwy, yn cael ei symud i mewn i'r cyfleuster hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnod sy'n dod i ben 20 diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r anifail arall hwnnw yn cael ei symud i mewn i'r cyfleuster;

(ii)mai yn ystod yr holl gyfnod y mae'r hwrdd neu'r tarw yn cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn unol ag is-baragraff (i) y bydd yr holl ofynion a bennir ym mharagraff (9) yn cael eu bodloni neu eu dilyn ar bob adeg sy'n gymwys;

(iii)bod yr hwrdd neu'r tarw yn cael ei ddynodi—

(aa)yn achos hwrdd â rhif adnabod unigol a,

(bb)yn achos tarw, yn unol â gofynion y Rheoliadau Adnabod Gwartheg;

(iv)bod rhaid i unrhyw anifail arall—

(aa)sy'n cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio pan fydd yr hwrdd neu'r tarw yn dychwelyd, p'un a yw hyn yn unol â'r ddarpariaeth hon neu fel arall; neu

(bb)sy'n cael ei symud i mewn i'r cyfleuster hwnnw o rywle arall ar yr un safle neu safle arall yn yr un grwp meddiannaeth unigol wrth i'r hwrdd neu'r tarw ddychwelyd neu ar ôl hynny,

aros hefyd yn y cyfleuster hwnnw tan y daw yr 20 diwrnod o ddyddiad dychwelyd yr hwrdd neu'r tarw i ben, ni waeth a fyddai unrhyw gyfnod arall pryd y byddai'n ofynnol cadw'r anifail arall hwnnw yno yn dod i ben yn ystod yr 20 diwrnod hwnnw;

(v)bod yr hwrdd neu'r tarw ynghyd ag unrhyw anifail arall y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (iv)(aa) yn cael ei arolygu ac, os bydd angen, yn cael ei archwilio i weld a oes unrhyw arwyddion clefyd arnynt gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl diwrnod ei gyrhaeddiad ac sy'n diweddu ar yr ugeinfed diwrnod wedi hynny;

(vi)bod y milfeddyg cymwysedig sydd wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (v) yn llofnodi datganiad sy'n cadarnhau ei fod wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad hwnnw; a

(vii)nad oes unrhyw hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan baragraff (10) mewn perthynas â chyfleuster y bwriadwyd ei ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio ar y safle hwnnw ar wahân i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i ddirymu o dan baragraff (11);

(ff)dafad sy'n cael ei dychwelyd i'r safle hwnnw o dir tac ar yr amod bod y tir tac wedi'i reoli ar wahân i unrhyw safle yr oedd yn rhan ohono yn ystod y cyfnod yr oedd y ddafad yno a bod gan y tir tac hwnnw rif daliad gwahanol i weddill y safle hwnnw;

(g)llo sy'n llai na 30 diwrnod oed o'r safle lle cafodd ei eni neu safle arall yn yr un grŵ p meddiannaeth unigol, ar yr amod bod y safle tarddiad wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio fel uned magu lloi arbenigol drwy hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol;

(ng)anifail naill ai—

(i)o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig ar ôl cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall; neu

(ii)o'r safle y mae wedi'i symud iddo o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig;

(h)anifail y daethpwyd ag ef i'r safle hwnnw mewn cerbyd ar yr amod—

(i)nad yw'r anifail wedi'i ddadlwytho o'r cerbyd hwnnw ar y safle hwnnw, a

(ii)bod symudiad o'r fath yn cael ei gyflawni yn unol ag amodau trwydded a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a);

(i)oen llai na 7 diwrnod oed o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2)(b)(iv);

(j)gwartheg sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial;

(l)defaid sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi bod yn y ganolfan honno am yr 20 diwrnod blaenorol;

(ll)defaid, geifr, gwartheg neu geirw sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o le ar gyfer triniaeth filfeddygol na symudiad unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra'r oeddent yno ar yr amod bod yr anifeiliaid hynny a'r epil hynny wedi'u hynysu oddi wrth bob anifail arall tra'r oeddent yn y fan honno; neu

(m)anifail a symudwyd i'r safle hwnnw er mwyn cynnal profion diagnostig i ddarganfod a yw clefyd wedi effeithio ar yr anifail neu a yw wedi bod yn agored i glefyd.

(4Ni fydd y gofyniad a nodir ym mharagraff (1) uchod yn gymwys yn achos unrhyw symudiad a awdurdodwyd o dan drwydded a ddyroddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

(5Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1)(a) uchod yn gymwys mewn unrhyw achos y mae trwydded wedi'i dyroddi neu wedi'i rhoi mewn perthynas ag ef ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 i awdurdodi symud anifail i unrhyw safle neu ohoNo.

(6Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1) yn gymwys i symudiad unrhyw anifail i unrhyw sŵ a drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵ au 1981(12) nac ohoNo.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ac eithrio yn yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2(b)(xvii) ac is-baragraffau (3)(e), (j) ac (ll), os yw'n ofynnol i unrhyw anifail, heblaw mochyn, gael ei ynysu at unrhyw ddiben o dan yr erthygl hon, mae hyn yn golygu wedi'i ynysu mewn cyfleusterau ynysu sydd wedi'u cymeradwyo drwy hysbysiad gan arolygydd milfeddygol.

(8Ni chaniateir defnyddio unrhyw gyfleusterau ynysu a ddefnyddiwyd at ddibenion is-baragraffau (3)(e) ac (f) yr un pryd er mwyn ynysu anifeiliaid at unrhyw ddiben arall o dan y Gorchymyn hwn.

(9At ddibenion paragraffau (9) a (10) ac is-bargraffau (3)(e) ac (f), mae cyfleuster ynysu yn bodloni gofynion y paragraff hwn i fod yn “gyfleuster ynysu ar gyfer bridio” ar yr amod—

(a)bod pob un o'r gofynion a bennir yn Rhan I o'r Atodlen mewn perthynas â'r cyfleuster yn cael eu bodloni neu eu dilyn;

(b)bod arolygiad i sicrhau bod y gofynion hynny yn cael eu bodloni neu fod modd eu dilyn ar bob adeg gymwysadwy wedi'i gynnal cyn bod y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gyntaf at dibenion is-baragraffau (3)(e) ac (f) gan filfeddyg cymwysedig;

(c)bod adroddiad ar yr arolygiad hwnnw sydd i raddau helaeth ar y ffurf a nodir yn Rhan II o'r Atodlen wedi'i gwblhau a'i lofnodi gan y milfeddyg cymwysedig sydd wedi cyflawni'r arolygiad hwnnw a chan y person a fydd yn geidwad yr anifeiliaid sydd i'w cadw yn y cyfleuster a bod yr adroddiad wedi'i anfon at y cyfeiriad sydd wedi'i nodi ar y ffurflen honno;

(ch)nad yw'r adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn dangos bod y gofynion a nodir yn Rhan I o'r Atodlen heb eu bodloni neu na fyddai modd eu dilyn ar bob adeg gymwysadwy; a

(d)y cydymffurfiwyd yn llawn â phob cais gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol—

(i)i fynd i mewn i'r cyfleuster ac unrhyw ran arall o'r safle lle mae'r cyfleuster (ac eithrio unrhyw annedd ddomestig)—

(aa)i ganfod a yw'r gofynion a bennir yn y paragraff hwn neu is-baragraffau (3)(e) neu (f) yn cael eu bodloni a'u dilyn ar bob adeg gymwysadwy neu a oes modd eu bodloni a'u dilyn ar yr adegau hynny; neu

(bb)i arolygu'r anifeiliaid yn y cyfleuster neu i'w harchwilio i weld a oes arwyddion clefyd arnynt; neu

(ii)i archwilio cofnodion symud neu adnabod neu'r datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3)(e)(vii) a (3)(f)(vi) ar gyfer unrhyw rai o'r anifeiliaid sydd wedi'u cynnwys yn y cyfleuster,

a bod popeth angenrheidiol wed'i wneud i gydweithredu â'r arolygydd wrth iddo gyflawni'r camau hynny.

(10Os yw arolygydd milfeddygol o'r farn nad yw cyfleuster sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn bodloni gofynion Rhan I o'r Atodlen, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ac i berchenogion neu geidwaid yr holl anifeiliaid ar y safle hwnnw a hwnnw'n hysbysiad sy'n pennu ym mha ffyrdd nad yw'r gofynion hynny yn cael eu bodloni a'r camau, os oes rhai, y dylid eu cymryd er mwyn eu bodloni.

(11Caiff hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (10) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu swyddog arall i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad cyntaf iddynt.

(12Pan fydd trwydded wedi ei dyroddi neu ei rhoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, arolygydd neu Weinidogion yr Alban o dan orchymyn a wnaed o dan adran 8 o'r Ddeddf i awdurdodi symud unrhyw anifail o safle sydd wedi'i leoli yn Lloegr neu yn yr Alban i safle sydd wedi'i leoli yng Nghymru neu i safle sydd wedi'i leoli yn yr Alban neu Loegr drwy unrhyw ran o Gymru, bydd unrhyw ddarpariaethau yn y drwydded honno sy'n berthnasol yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r symudiad sy'n digwydd yng Nghymru fel petai'r drwydded honno yn drwydded a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unol â hynny.

(13Pan fydd trwydded o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (12) uchod yn awdurdodi symudiadau o unrhyw fath rhwng safleoedd o dan yr un rheolaeth, yna, heb ragfarnu darpariaethau'r paragraff hwnnw, bydd yn effeithiol fel petai hefyd yn awdurdod a ddyroddwyd er mwyn gwneud y safle yn grŵ p meddiannaeth unigol o dan y Gorchymyn hwn a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys felly mewn perthynas â hi.

Cyfyngiadau ar symudiadau i ladd-dai

4.  Ni chaiff neb—

(a)symud unrhyw anifail i ladd-dy ac eithrio er mwyn ei gigydda o fewn 48 awr ar ôl iddo gyrraedd yno; neu

(b)derbyn unrhyw anifail o ladd-dy ac eithrio, yn achos unrhyw anifail heblaw mochyn, o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Hela

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb gymryd rhan mewn hela.

(2Ni fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn anghyfreithlon—

(a)i feddiannydd unrhyw dir neu unrhyw grŵ p nad yw'n fwy na thri pherson ac sydd wedi'i awdurdodi gan y meddiannydd neu sy'n aelodau o'i aelwyd ddefnyddio unrhyw gi mewn cysylltiad â lladd ar y tir hwnnw unrhyw lwynog, ysgyfarnog, minc, neu gwningen a geir arno ar yr amod na chymerir bod hyn yn awdurdodi mynd ar drywydd unrhyw brae o'r fath drwy ddefnyddio cŵ n y tu allan i ffiniau'r tir hwnnw; neu

(b)i berson gymryd rhan mewn hela o dan awdurdod caniatâd a roddwyd gan arolygydd milfeddygol ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd wedi'u pennu ynddo.

(3Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn hela o dan awdurdod caniatâd a ddyroddir ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan erthygl 36(2)(d) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 ac yn unol ag amodau'r caniatâd hwnnw ond os bydd caniatâd o'r fath yn peidio â bod yn ddilys am fod gorchymyn ardal a reolir wedi'i ddirymu, bydd ei effaith yn parhau yn lle hynny fel petai'n ganiatâd a ddyroddwyd o dan baragraff (2)(b).

(4Wrth benderfynu a ddylid dyroddi caniatâd o dan baragraff (2)(b) rhaid i arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a allai fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â dyroddi caniatadau o'r fath.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw caniatâd wedi'i ddyroddi o dan baragraff (2)(b) fel caniatâd cyffredinol caiff arolygydd milfeddygol wahardd drwy hysbysiad unrhyw berson rhag cymryd rhan mewn hela neu rhag trefnu hela o dan awdurdod y caniatâd hwnnw.

(6Dim ond os yw o'r farn—

(a)nad yw person y mae'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo neu bersonau sy'n cymryd rhan mewn unrhyw helfa y mae'r person hwnnw wedi'i threfnu yn cydymffurfio neu wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r caniatâd cyffredinol a enwyd eisoes; a

(b)bod cyflwyno hysbysiad o'r fath yn angenrheidiol i atal ymlediad posibl clefyd y caiff arolygydd milfeddygol ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (5).

Trwyddedau, awdurdodau, caniatadau a hysbysiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i unrhyw drwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, cânt fod yn gyffredinol neu'n benodol, rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt a chaniateir eu hamrywio, eu hatal dros dro neu eu dirymu ar unrhyw adeg drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir—

(a)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd o unrhyw fath;

(b)gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol (ar wahân i arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded, awdurdod neu hysbysiad a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu

(ch)gan arolygydd awdurdod lleol, yn achos trwydded, awdurdod neu hysbysiad a ddyroddir gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1) uchod—

(a)cael ei gyflwyno, os yw'r drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad yn ddogfen benodol sydd i'w hamrywio, ei hatal dros dro neu ei diddymu, i'r person y dyroddwyd neu y cyflwynwyd y drwydded honno, yr awdurdod hwnnw y caniatâd hwnnw neu'r hysbysiad hwnnw iddo; neu

(b)cael ei gyflwyno neu ei gyhoeddi, os yw'r drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad yn ddogfen gyffredinol sydd i'w hamrywio, ei hatal dros dro neu ei ddiddymu, yn y dull mwyaf priodol ym marn resymol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu, yn ôl fel y digwydd, yr arolygydd milfeddygol neu arolygydd arall i dynnu sylw'r rhai y byddai'n effeithio arnynt ati.

(3Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), hysbysiad o dan erthygl 3(2)(b)(xi), 3(7) neu 3(10) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2)(c) neu 5(2)(b), rhaid i arolygydd, neu yn ôl fel y digwydd, arolygydd milfeddygol, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a all fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw drwyddedau, hysbysiadau neu ganiatadau o'r fath.

(4Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), awdurdod a ddyroddir er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn grŵp meddiannaeth unigol o dan erthygl 3(2)(b)(vi), neu ganiatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2)(c) bennu gofynion ar gyfer glanhau a diheintio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer symud anifeiliaid yn ychwanegol at y gofynion mewn perthynas â hynny a nodir yng Ngorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001(13) a rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud yr anifeiliaid sicrhau, ac eithrio lle bo'r drwydded, yr awdurdod neu'r caniatâd yn darparu fel arall, fod pob gofyniad o'r fath yn cael ei fodloni cyn gynted â phosibl ar ôl i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho a, beth bynnag, cyn bod y cerbyd yn cael ei symud o'r safle y mae'r anifeiliad wedi'u symud iddo.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd—

(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)unrhyw berson rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu ohoNo.

(6Ni chaniateir dyroddi unrhyw hysbysiad o dan bargraffau (5) ac eithrio yn unol â chyngor arolygydd sydd o'r farn—

(a)nad yw'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r drwydded gyffredinol a enwyd eisoes mewn perthynas ag anifeiliad a symudwyd i'r safle o dan sylw neu ohono neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill y mae'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn geidwad arnynt neu wedi bod yn geidwad arnynt ar unrhyw bryd; a

(b)bod cyflwyno hysbysiad yn angenrheidiol i atal ymlediad posibl clefyd.

(7Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (5)(a) i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad a rhaid cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (5)(b) i'r person sy'n cael ei wahardd rhag symud anifeiliaid odano ac i feddianwyr unrhyw safle sydd wedi'i enwi'n unigol ar yr hysbysiad.

(8Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys yn achos hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).

Newid meddiannaeth safle y mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn effeithio arno

7.—(1Ar derfyniad ei hawl feddiannu ar unrhyw safle, os nad yw perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn gallu ei symud oddi yno oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan neu o dan ddarpariaethau blaenorol y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sydd â hawl feddiannu ar y safle hwnnw wneud y canlynol pan derfynir yr hawl honno—

(a)rhoi i berchennog yr anifail hwnnw ac unrhyw berson y mae'n ei awdurdodi at y diben hwnnw, bob cyfleuster angenrheidiol ar gyfer bwydo'r anifail hwnnw, gofalu amdano neu ei ddefnyddio fel arall (gan gynnwys ei werthu) y bydd ar y perchennog angen rhesymol amdano; neu

(b)os na all perchennog yr anifail hwnnw fanteisio ar y cyfleusterau hynny, neu os nad yw'n fodlon gwneud hynny, cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr anifail yn cael ei fwydo'n iawn, yn cael gofal iawn ac yn cael ei gadw'n iawn.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn parhau i fod yn gymwys tan y bydd y cyfnod o 7 diwrnod o'r dyddiad y mae unrhyw gyfyngiad ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys yn dod i ben a bydd perchennog yr anifail yn agored i dalu i'r person sy'n rhoi unrhyw gyfleusterau neu sy'n bwydo'r anifail hwnnw, yn gofalu amdano neu fel arall yn ei gadw, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau o ran tâl ac ad-daliad am dreuliau sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Darpariaethau cyffredinol ynghylch trwyddedau

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)cael ei gadw ar wahân drwy gydol y symudiad hwnnw i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno;

(b)cael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded yn unig, ac nid i unrhyw le arall, ac

(c)rhaid i'r drwydded gyd-fynd ag ef drwy gydol y symudiad.

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae trwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef, os mynnir iddo wneud hynny gan gwnstabl neu arolygydd neu swyddog arall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddarn ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a darpariaethau unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, sef darpariaethau sy'n gosod gofyniad croes ar y person sy'n symud yr anifeiliaid, rhaid i feddiannydd y safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo o dan y drwydded honno—

(a)sicrhau y rhoddir i'r meddiannydd neu i'w gynrychiolydd y drwydded y symudwyd yr anifeiliaid odani cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho o'r cerbyd y maent wedi'u cludo arno;

(b)anfon y drwydded honno ymlaen yn ddi-oed at yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle hwnnw wedi'i leoli ynddi ac, yn achos lladd-dy, darparu copi i'r llawfeddyg milfeddygol swyddogol a benodwyd ar gyfer y safle hwnnw;

(c)cadw copi o'r drwydded honno am gyfnod o chwe mis a'i ddangos os bydd arolygydd yn gofyn amdano er mwyn ei archwilio;

(ch)darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol yn ôl trwydded o dan y Gorchymyn hwn.

(4Ni fydd darpariaethau paragraffau (1)(b) ac (c), (2) (i'r graddau y mae'n ymwneud â dangos a chopïo trwydded) a (3)(a) i (c) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol.

(5Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Pwerau swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac arolygwyr awdurdodau lleol os bydd methiant

9.—(1Os bydd unrhyw berson y mae trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn yn methu â chydymffurfio â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad, caiff swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad ac os methir â chydymffurfio â'r gofynion hynny bydd y swyddog neu'r arolygydd yn peri i'r gofynion hynny gael eu cyflawni.

(2Bydd swm unrhyw dreuliau y mae swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol yn mynd yn rhesymol iddynt wrth arfer unrhyw bŵ er a roddwyd iddynt gan baragraff (1) uchod yn adferadwy fel dyled sifil pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol, yn ôl fel y digwydd, yn gofyn am y swm hwnnw oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio.

Tramgwyddau

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn dramgwydd o dan y Ddeddf i unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol, a hwnnw'n awdurdod neu'n esgus y bydd rhaid iddo ei brofi—

(a)yn torri unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth mewn trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddwyd neu a gyflwynwyd odani; neu

(b)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw doriad neu ddiffyg cydymffurfedd o'r fath.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).

Yr Awdurdod Lleol i orfodi'r Gorchymyn

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol, neu mewn perthynas ag achos penodol, naill ai bod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ganddo ef ac nid gan yr awdurdod lleol neu fod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ar y cyd ganddo ef a chan yr awdurdod lleol.

Dirymu Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

12.  Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 yn cael ei ddirymu(14).

Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

13.  Yn erthygl 1, paragraff (2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(15) yn lle'r geiriau “1 Rhagfyr 2002” rhoddir y geiriau “1 Chwefror 2003”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

Jane Davidson

Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:30pm ar 4 Medi 2002

Whitty

Is-ysgrifennydd Gwladol,

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

am 11:29 am ar 5 Medi 2002

Erthygl 3(9)

YR ATODLEN

RHAN IY GOFYNION SYDD I'W BODLONI GAN GYFLEUSTER YNYSU AR GYFER BRIDIO

1.  Rhaid defnyddio'r cyfleuster ynysu ond er mwyn ynysu'r anifeiliaid sydd ynddo oddi wrth bob anifail arall ar y safle y mae'r cyfleuster wedi'i leoli arNo.

2.  Rhaid i'r cyfleuster ynysu fod wedi'i ddylunio er mwyn sicrhau bod gwahaniad ffisgeol rhwng yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw ynddo ac unrhyw anifeiliaid eraill ar y safle neu unrhyw safle cyffiniol arall ac yn benodol rhaid i'r cyfleuster gynnwys—

(a)adeilad ar wahân nad yw'n cael ei ddefnyddio ond er mwyn ynysu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cael eu cadw ar y safle hefyd;

(b)rhan o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio i'r perwyl hwnnw ac sydd wedi'i wahanu o'r llawr i'r nenfwd oddi wrth unrhyw ran arall o'r adeilad â phared solet neu adeiladwaith dros dro digonol (y caniateir ei ffurfio, yn ddarostyngedig i baragraff 3, o fêls gwellt) sydd wedi'i ddylunio yn y naill achos a'r llall i sicrhau—

(i)na fydd unrhyw lif aer sylweddol rhwng y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio ac unrhyw ran arall o'r adeilad; a

(ii)na fydd unrhyw bosibilrwydd y bydd elifiant, tail nac unrhyw ollyngiad arall yn diferu drwy neu o dan y pared neu adeiladwaith dros dro arall; neu

(c)man pori ar wahân wedi'i amgylchynu â ffens gwrth-stoc ddiogel (y caniateir iddi gynnwys ffens drydan) neu atalfa arall y mae o leiaf 50 metr o bellter rhyngddi ac unrhyw fan pori neu adeilad arall lle mae anifeiliaid yn cael eu pori neu eu cadw ynghyd â chodi ffensys gwrth-stoc diogel pellach neu atalfeydd eraill mewn mannau eraill ar y safle os yw hynny'n angenrheidiol i atal yr anifeiliaid eraill hynny rhag dod o fewn 50 metr i'r cyfleuster ynysu.

3.  Pan fydd adeiladwaith dros dro sydd wedi'i ffurfio o fêls gwellt yn cael ei ddefnyddio i wahanu â phared ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfleuster ynysu oddi wrth unrhyw ran arall o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio felly, rhaid i'r pared fod yn un metr o drwch o leiaf.

4.  Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail nad yw'n cael ei gadw yn y cyfleuster ddod o fewn pum metr i unrhyw ddrws neu fynedfa arall i'r cyfleuster ar unrhyw adeg.

5.  Rhaid i bob drws sy'n fynedfa i unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu gael ei gadw ar gau ar bob adeg ac eithrio os yw'n cael ei ddefnyddio gan bersonau i fynd i mewn i'r cyfleuster neu i ymadael ag ef neu pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud i mewn i'r cyfleuster neu allan ohoNo.

6.  Rhaid i loriau a waliau unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu fod yn gyflawn ac mewn cyflwr digon da i'w gwneud yn bosibl ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr a rhaid iddynt gael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr felly bob amser.

7.  Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, bydd rhaid gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol —

(a)rhaid dylunio a chynnal yr adeilad yn y fath fodd ag i sicrhau y gellir cadw unrhyw elifiant, tail neu ollyngiadau eraill o'r anifeiliaid sy'n cael eu lletya yno yn yr adeilad tan y bydd pob anifail wedi'i symud o'r cyfleuster; neu

(b)rhaid gwneud trefniadau digonol i sicrhau na fydd unrhyw ollyngiadau yn dod i gysylltiad ag unrhyw anifail nad yw'n cael ei letya yn y cyfleuster ar unrhyw adeg.

8.  Rhaid darparu ar gyfer y cyfleuster ynysu gyfleuster llwytho a dadlwytho un-pwrpas y mae'n rhaid ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir ar ôl pob tro y mae'r cyfleuster llwytho a dadlwytho yn cael ei ddefnyddio.

9.  Rhaid i feddiannydd y safle y mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli ynddo sicrhau—

(a)bod dillad ac esgidiau sy'n gorchuddio'r holl gorff yn cael eu darparu i'w defnyddio gan unrhyw un sy'n gweithio yn y cyfleuster ac ar gyfer unrhyw bersonau eraill sy'n mynd i mewn i'r cyfleuster; a

(b)bod y dillad hynny yn cael eu golchi'n drylwyr cyn caniatáu iddynt ddod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid nad ydynt yn y cyfleuster neu gael eu defnyddio yn unman heblaw yn y cyfleuster a bod yr esgidiau hynny yn cael eu diheintio'n drylwyr gan unrhyw berson sy'n eu gwisgo wrth ymadael â'r cyfleuster.

10.  Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu—

(a)cynnal—

(i)baddon traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwyir; a

(ii)cyfleusterau golchi dwylo,

mewn mannau cyfleus wrth bob mynedfa i'r cyfleuster a phob allanfa ohono a rhaid iddo adnewyddu'r diheintydd yn y baddon traed bob dydd neu'n amlach na hynny yn ôl yr angen er mwyn cadw toddiant glân; a

(b)sicrhau bod y baddon traed a'r cyfleusterau golchi dwylo yn cael eu defnyddio gan bawb sy'n mynd i mewn i'r cyfleuster ac yn ymadael ag ef.

11.  Ni chaniateir symud o'r cyfleuster unrhyw fêls gwellt, sy'n cael eu defnyddio i ffurfio parwydydd yn y cyfleuster ynysu nac unrhyw ddeunyddiau porthi, porthiant neu sarn sydd yn eu lle yno ac sydd heb eu defnyddio, nes y bydd y llwyth hwnnw o anifeiliaid wedi ymadael â'r cyfleuster.

12.  Ni chaniateir symud unrhyw gorlannau, clwydi nac offer arall sydd yn eu lle pan fydd unrhyw lwyth anifeiliaid yn mynd i mewn i'r cyfleuster ynysu o'r cyfleuster nes y bydd y llwyth hwnnw wedi ymadael â'r cyfleuster oni bai eu bod wedi'u glanhau a'u diheintio'n drylwyr gyntaf.

13.  Cyn bod unrhyw gerbyd sydd wedi'i ddefnyddio at unrhyw ddiben yn y cyfleuster ynysu yn cael ei symud allan o'r cyfleuster, rhaid iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr yn unol â gofynion atodlen 1 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001(17) ac yn ychwanegol, wrth yr allanfa i'r cyfleuster, rhaid glanhau a diheintio cylchedd cyfan teiars unrhyw gerbyd o'r fath (gan gynnwys eu gwadnau) ynghyd a'i fwâu olwynion, ei gardiau olwynion, a'i labedi llaid.

14.  Mae cyfleusterau digonol ar gael naill o fewn y cyfleuster ynysu neu'n union y tu allan iddo i'r anifeiliaid gael eu harolygu neu eu harchwilio yn unol â gofynion paragraffau (3)(e)(vi) or (3)(f)(v) o erthygl 3 heb fod yr anifeiliaid hynny yn dod o fewn pum metr i unrhyw anifeiliaid eraill nad ydynt yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu.

15.  Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw ac yn cael ei roi ar gael i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a bod y cofnod hwnnw yn dangos dyddiadau pob symudiad anifeiliaid i mewn i'r cyfleuster ynysu ac allan ohono ynghyd â manylion —

(a)Marc S neu rifau adnabod unigol unrhyw hyrddod a symudwyd felly;

(b)Marc S neu rifau adnabod unigol, os o gwbl, unrhyw famogiaid a symudwyd felly, neu os nad oes unrhyw dag S na rhif adnabod unigol wedi'i ddodi ar unrhyw famog, manylion y marc paent a ddodwyd arni yn unol ag erthygl 3(3)(e)(iii)(bb);

(c)unrhyw farc adnabod neu dag a ddodwyd ar unrhyw ddafad yn unol â Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002;

(ch)manylion unrhyw farciau neu dagiau a ddodwyd ar unrhyw wartheg a symudwyd felly yn unol â'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg; a

(d)manylion rhifau lot unrhyw anifeiliaid a brynwyd mewn marchnad.

16.  Ni chaniateir symud unrhyw anifail allan o'r cyfleuster ynysu yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol ei gadw yno yn unol ag is-baragraffau (3)(e) neu (f) o erthygl 3 oni bai—

(a)ei fod yn cael ei symud, yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd mifeddygol, i gyfleuster ynysu arall ar yr un safle y mae'r holl ofynion a bennir yn erthygl 3(8) yn cael eu bodloni a'u dilyn mewn perthynas ag ef;

(b)ei fod yn fuwch sy'n llaetha ac nad yw'n rhesymol ymarferol ei godro yn y cyfleuster ynysu ac sy'n cael ei symud i barlwr godro i gael ei godro yn unol â'r amodau a bennir ym mharagraff 17; neu

(c)bod hyn at ddibenion arolygu neu archwilio yn unol â pharagraffau (3)(e)(vi) or (3)(f)(v) o erthygl 3 ac os na chaniateir i unrhyw anifail nad yw'n cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu ddod o fewn pum metr i'r anifail sy'm cael ei arolygu a'i archwilio felly.

17.  Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 16(b) yw—

(a)bod rhaid dod ag unrhyw fuwch yr eir â hi i'r parlwr godro o'r cyfleuster ynysu i'r parlwr hwnnw ar ôl i'r sesiwn godro ar gyfer buchod nad ydynt o'r cyfleuster gael ei gwblhau ac ar ôl i'r buchod eraill hynny gael eu dychwelyd i'w llety neu i'w man pori;

(b)bod pellter gwahanu o bum metr yn cael ei gadw bob amser rhwng y fuwch o'r cyfleuster ynysu ac unrhyw anifail arall nad yw'n cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu hwnnw;

(c)bod rhaid golchi'r parlwr godro ac unrhyw iard neu fan gasglu sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag ef yn drylwyr ar ôl i'r fuwch o'r cyfleuster ynysu ddychwelyd yno a chyn y caniateir i unrhyw anifeiliaid eraill fynd i mewn i'r parlwr, i'r iard neu i'r man casglu hwnnw;

(ch)yn union ar ôl iddynt gael eu defnyddio gan y fuwch o'r cyfleuster ynysu a chyn iddynt gael eu defnyddio ar gyfer unrhyw fuwch nad yw o'r cyfleuster hwnnw rhaid i unrhyw offer a ddefnyddiwyd ar gyfer godro, unrhyw gyfarpar godro mecanyddol ac unrhyw gynwysyddion sy'n dod i gysylltiad â llaeth gael eu glanhau a'u rinsio â dŵ r yfadwy; a

(d)rhaid dychwelyd unrhyw fuwch y daethpwyd â hi i'r parlwr godro o'r cyfleuster i'w godro i'r cyfleuster yn union ar ôl cwblhau'r godro.

Rhan IIFFURF AR ADRODDIAD MILFEDDYG CYMWYSEDIG MEWN PERTHYNAS Å CHYFLEUSTER YNYSU AR GYFER BRIDIO

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002Adroddiad gan filfeddyg cymwysedig ar gyfleuster ynysu ar fferm sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio gan ddefaid bridio a gwartheg bridio

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn dirymu a disodli (gyda diwygiadau) Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/280 (Cy.32), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1038 (Cy.110), 2002/1356 (Cy.132) a 2002/2060 (Cy.209).

Daw'r Gorchymyn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003. (Byddai effaith y Gorchymyn Rheoli Clefydau, petai heb gael ei ddirymu, wedi darfod ar 1 Rhagfyr 2002).

Mae'r Gorchymyn yn parhau i ddarparu ar gyfer mesurau dros dro i reoli clefydau. Mae'n darparu ar gyfer cyfyngiadau ar symud anifeiliaid (erthyglau 3 a 4) ac yn benodol—

(a)mae'n darparu y bydd yn anghyfreithlon symud unrhyw anifail ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd a benodwyd at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (1981 p.22) (erthygl 3(1)(a)); a

(b)yn gosod cyfnod segur o 20 diwrnod (y “gofyniad segura”) ar ôl symud anifeiliaid i safle pan na chaniateir i unrhyw anifail gael ei symud i ffwrdd o'r safle hwnnw, yn ddarostyngedig i esemptiadau mewn perthynas ag amryw o symudiadau penodedig (erthygl 3(2) a (3)).

Y prif ddiwygiad yw cynnwys esemptiadau ychwanegol (yn erthyglau 3(3)(e) ac (f)) mewn perthynas â'r gofyniad segura sy'n golygu na fydd—

(a)symudiadau gwartheg a defaid sydd wedi'u bwriadu ar gyfer bridio cyn y diweddaraf o'r canlynol, sef 1 Chwefror 2003 neu dri mis ar ôl iddynt gyrraedd unrhyw safle; a

(b)dychweliad hyrddod bridio sydd heb eu gwerthu o'r farchnad i unrhyw safle,

yn arwain at ofyniad segura ar y safle y maent wedi'u symud iddo cyhyd ag y bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Y prif amod yw bod y gwartheg neu'r defaid bridio neu'r hyrddod bridio sydd heb eu gwerthu yn cael eu rhoi mewn cyfleuster ynysu (“cyfleuster ynysu ar gyfer bridio”) yn union ar ôl iddynt gyrraedd a'u bod yn cael eu cadw yno, ynghyd ag unrhyw anifeiliaid eraill sydd eisoes yn y cyfleuster ynysu hwnnw ac unrhyw anifeiliaid y daethpwyd â hwy i mewn iddo o rywle arall ar y safle, tan ddechrau'r 21ain diwrnod ar ôl y diwrnod yr oeddent wedi cyrraedd yNo.

Mae'r gofynion manwl sydd i'w bodloni a'u dilyn mewn perthynas â'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio er mwyn i'r esemptiad segura newydd fod ar gael wedi'u nodi yn erthygl 3(9) a Rhan I o'r Atodlen. Yn ychwanegol, cyn bod modd defnyddio'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio at ddibenion yr esemptiad newydd, rhaid iddo fod wedi'i archwilio gan filfeddyg cymwysedig y mae'n ofynnol iddo gwblhau adroddiad ar ei arolygiad i raddau helaeth ar y ffurf a nodir yn Rhan II o'r Atodlen a'i anfon i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen (erthygl 3(9)(b) ac (c)). Mae'n ofynnol hefyd i'r anifeiliaid yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio gael eu harolygu gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y 14eg diwrnod ac sy'n dod i ben ar yr 20fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd yr anifeiliaid y safle ac mae'n ofynnol i'r cyfleuster gael ei arolygu hefyd gan y milfeddyg yn ystod yr un cyfnod.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn parhau i wneud y canlynol:

(i)gwahardd symud anifeiliaid i ladd-dy ac eithrio os yw hynny er mwyn eu cigydda o fewn 48 awr ar ôl iddynt gyrraedd yno (erthygl 4);

(ii)darparu system ganiatadau ar gyfer hela gyda chŵ n (erthygl 5);

(iii)nodi darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â thrwyddedau, awdurdodiadau, caniatadau a hysbysiadau a ddyroddir o dan y Gorchymyn (erthyglau 6 ac 8);

(iv)nodi trefniadau mewn perthynas â newidiadau o ran meddiannaeth safle (erthygl 7);

(v)nodi pwerau swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ac arolygwyr awdurdodau lleol (erthygl 9);

(vi)datgan bod toriadau cyfraith penodol yn dramgwyddau o dan y Gorchymyn (erthygl 10); a

(vii)gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 11).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio (yn erthygl 13) Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 ac O.S. 2002/2060) drwy newid y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn hwnnw yn darfod o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 c. 22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o “the Ministers” a “the Minister”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

(2)

O.S. 1978/32 y mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud iddo gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/641.

(6)

O.S. 1995/539, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/118.

(7)

O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1796, O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2001/2360.

(9)

O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/2662 ac O.S. 2002/281.

(10)

O.S. 1989/878, y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1993/2010.

(11)

O.S. 2000/1673, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2266, O.S. 2000/2524, O.S. 2000/2900 and 2000/3128 ac mewn perthynas â Chymru yn unig, O.S. 2002/1039.

(12)

1981 p.37.

(16)

1998 p.38.

(17)

S.I. 2001/2662.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources