Search Legislation

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;

  • ystyr “canolfan gynnull” (“assembly centre”) yw canolfan gynnull a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000(1);

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros ddefaid neu eifr, hyd yn oed dros dro ond heb gynnwys unrhyw berson sy'n geidwad ond am ei fod yn cludo'r anifeiliaid;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “dafad” (“sheep”) yw dafad fyw;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae defaid neu eifr yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod ynddo;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym;

  • ystyr “gafr” (“goat”) yw gafr fyw;

  • ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000(2);

  • mae i “grŵp meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(3);

  • mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(4);

  • ystyr “marc diadell” (“flockmark”) yw'r marc a ddyrennir ar gyfer diadell o ddefaid gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “marc dros dro” (“temporary mark”) yw marc dros dro yn unol ag erthygl 6(11);

  • ystyr “marc gyr” (“herdmark”) yw'r marc a ddyrennir ar gyfer gyr o eifr gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “Marc X” (“X Mark”) yw Marc X yn unol ag erthygl 6(1) a (8);

  • ystyr “rhif daliad” (“CPH number”) yw'r rhif daliad fferm a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “sioe” (“show”) yw achlysur lle mae anifeiliaid yn cael eu harddangos ond nid yn unig er mwyn eu gwerthu;

  • ystyr “tir pori dros dro” (“temporary grazing land”) yw tir y mae defaid yn cael eu symud iddo dros dro er mwyn cael eu bwydo neu eu pori ond nad yw'n rhan o'r daliad lle mae'r defaid yn cael eu cadw fel arfer; ac

  • ystyr “triniaeth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yw unrhyw driniaeth neu weithdrefn arall sy'n cael ei chyflawni gan filfeddyg neu o dan ei oruchwyliaeth.

(2Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn erthygl at baragraff neu is-baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff neu'r is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno yn yr erthygl honNo.

Hysbysu ynglŷn â daliadau lle mae defaid neu eifr yn cael eu cadw

3.—(1Os, ar ôl y dyddiad perthnasol, y daw person yn geidwad unrhyw ddafad neu afr ar ddaliad, rhaid iddo, o fewn un mis ar ôl iddo ddechrau cadw'r anifail hwnnw, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—

(a)o gyfeiriad y daliad;

(b)o enw a chyfeiriad meddiannydd y daliad; ac

(c)a oes defaid neu eifr neu'r ddau yn cael eu cadw fel arfer ar y daliad.

(2Rhaid i'r ceidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) o fewn un mis i'r newid hwnnw ddigwydd.

(3Ar ôl cael hysbysiad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ddyrannu mewn perthynas â'r daliad farc diadell yn achos defaid neu farc gyr yn achos geifr.

(4Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, dim ond pan fydd yn barnu ei bod yn briodol gwneud hynny y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu marc diadell neu farc gyr.

Cofnodion defaid

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o ddefaid ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.

(2O fewn 36 awr o symud dafad i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi—

(a)dyddiad y symudiad;

(b)cyfanswm y defaid a symudwyd;

(c)un o'r marciau canlynol—

(i)y Marc S diweddaraf a ddodwyd ar y ddafad;

(ii)pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000;

(iii)pan nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu

(iv)y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(ch)yn achos dafad a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos dafad sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;

(d)yn achos dafad a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;

(dd)yn achos dafad a symudwyd i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(e)yn achos dafad sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd arni);

(f)yn achos dafad sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol—

(i)Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif adnabod unigol,

(ii)Marc F sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif andabod unigol, neu

(iii)Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac

(ff)yn achos hwrdd sydd wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio â rhif adnabod unigol at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(3)(ch), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.

(3Ni fydd paragraff (2)(c) yn gymwys yn achos dafad—

(a)a symudwyd yn uniongyrchol i ladd-dy;

(b)a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

(c)a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

(ch)a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar y ddafad.

(4Yn achos dafad sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant—

(a)dyddiad y gwerthiant;

(b)y nifer o ddefaid a werthwyd; ac

(c)enw a chyfeiriad y prynwr.

(5Yn achos dafad sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu sydd wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r ddafad (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell defaid newydd a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.

(6Pan fydd ceidwad yn marcio dafad â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr—

(a)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi mewn canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c) ac â'r rhif adnabod unigol sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(e); a

(b)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);

(7Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.

Cofnodion geifr

5.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw gafr ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o eifr ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.

(2O fewn 36 awr o symud gafr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi—

(a)dyddiad y symudiad;

(b)cyfanswm y geifr a symudwyd;

(c)un o'r marciau canlynol—

(i)y Marc S diweddaraf a ddodwyd ar yr afr;

(ii)pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000;

(iii)pan nad oes unrhyw farc a grybwyllir yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu

(iv)y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(ch)yn achos gafr a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos gafr sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;

(d)yn achos gafr a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;

(dd)yn achos gafr a symudwyd i sioe neu ohoni, rhif adnabod unigol yr afr ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(e)yn achos gafr sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd);

(f)yn achos gafr sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol—

(i)Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif adnabod unigol,

(ii)Marc F sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, a'r rhif adnabod unigol, neu

(iii)Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac

(ff)yn achos gafr sy'n cael ei symud at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xix) neu 3(3)(d) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.

(3Ni fydd paragraff 2(c) yn gymwys yn achos gafr—

(a)a symudwyd yn uniongyrchol i ladd-dy;

(b)a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

(c)a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

(ch)a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar yr afr.

(4Yn achos gafr sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant—

(a)dyddiad y gwerthiant;

(b)y nifer o eifr a werthwyd; ac

(c)enw a chyfeiriad y prynwr.

(5Yn achos gafr sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r afr (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc gyr a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.

(6Pan fydd ceidwad yn marcio gafr â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr—

(a)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi mewn canolfan gasglu, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c) ac â'r rhif adnabod unigol sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(e); a

(b)os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);

(7Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe blynedd.

Marciau

6.—(1Rhaid dodi marc sy'n cael ei ddodi o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio marc dros dro) ar glust yr anifail ar ffurf tag clust neu datŵ .

(2Rhaid i dag clust fod—

(a)wedi'i wneud naill ai o fetel neu o blastig neu o gyfuniad o fetel a phlastig;

(b)yn un na ellir ymyrryd ag ef;

(c)wedi'i brintio neu wedi'i stampio â'r llythrennau a'r rhifau sy'n ofynnol fel eu bod yn hawdd i'w darllen drwy gydol oes yr anifail;

(ch)o fath nad yw'n ymyrryd â llesiant yr anifail; a

(d)yn goch ei liw os yw'n dwyn Marc R ond nid mewn unrhyw achos arall.

(3Ystyr tatŵ yw tatŵ sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.

(4Marc F

(a)pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren “F”;

(b)pan fydd wedi'i farcio ar datŵ , yw marc diadell neu farc gyr y daliad hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren “F”.

(5Marc Tarddiad

(a)pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr daliad geni yr anifail;

(b)pan fydd wedi'i farcio ar datŵ, marc diadell neu farc gyr daliad geni yr anifail.

(6Marc R

(a)pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren “R”;

(b)pan fydd wedi'i farcio ar datŵ , yw marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren “R”;

(7Marc S yw'r llythyren “S” wedi'i dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

(8Marc X yw'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail i'w symud oddi yno i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren “X”.

(9Rhif yw “rhif adnabod unigol”—

(a)nad yw'n gymwys i unrhyw ddefaid eraill â'r un marc diadell nac i unrhyw afr arall â'r un marc gyr;

(b)sy'n cael ei ddodi ar dag clust yr un pryd ag y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X yn cael ei ddodi, neu sy'n cael ei datŵ io ar un o glustiau'r anifail yr un pryd ag y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X yn cael ei datŵ io ar un o'i glustiau; ac

(c)yn achos tag clust ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), sy'n dilyn yn union ar ôl Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X neu sy'n cael ei ddodi ar un ochr o'r tag clust y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X ar yr ochr arall iddo.

(10Ni fydd rhif yn methu â bod yn “rhif adnabod unigol” os yr unig reswm am hynny yw na chafodd ei ddodi ar yr un tag clust â'r Marc Tarddiad, y Marc S, y Marc F, y Marc R neu'r Marc X—

(a)os cafodd y rhif hwnnw ei ddodi mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru o dan y ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno; neu

(b)os cafodd y rhif ei ddodi yng Nghymru cyn 11 Chwefror 2002.

(11Rhaid i farc dros dro fod yn ddigon neilltuol i'w ddisgrifio yn y ddogfen sy'n ofynnol o dan erthygl 12 a rhaid iddo barhau i fod yn weladwy i'r llygad noeth nes i'r anifail gael ei gigydda neu nes iddo ddychwelyd i'r daliad yr oedd wedi'i anfon iddo er mwyn ei werthu i'w gigydda neu ddychwelyd i'r daliad o dir pori dros dro.

Dodi Marc Tarddiad

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geidwad dafad neu afr a anwyd yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal ar ei daliad geni ar y dyddiad hwnnw, ddodi Marc Tarddiad ar yr anifail hwnnw cyn gynted â phosibl.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi'i farcio yn unol â rheoliad 7 neu 14 o Reoliadau 2000 neu erthygl 7(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (5), fel y bo'n briodol.

Symudiad o'r daliad geni

8.—(1Rhaid i berson beidio a symud dafad neu afr o'i ddaliad geni os na ddodir Marc Tarddiad arni.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos—

(a)gafr a symudwyd er mwyn ei datŵ io ac yna ei dychwelyd ar unwaith i'w daliad geni; neu

(b)dafad neu afr a symudwyd er mwyn iddi gael triniaeth filfeddygol ac wedyn cael ei dychwelyd i'w daliad geni; neu

(c)dafad neu afr a farciwyd cyn y dyddiad perthnasol yn unol â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 neu erthygl 8(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, fel y bo'n briodol.

Symudiadau yn gyffredinol

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4) ac erthyglau 8 a 10, rhaid i berson beidio â symud dafad neu afr os nad yw wedi'i farcio ag un neu ragor o'r canlynol—

(a)Marc Tarddiad a rhif adnabod unigol;

(b)Marc S sy'n dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono;

(c)Marc S a rhif adnabod unigol;

(ch)Marc F a rhif adnabod unigol;

(d)Marc R yn dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono; neu

(dd)Marc R a rhif adnabod unigol.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys—

(a)os yw'r anifail yn cael ei farcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) ac os yw'n cael ei symud o'r daliad y mae'r marc diadell neu'r marc gyr yn cyfeirio ato;

(b)os yw'r anifail yn cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i ddaliad yng Nghymru;

(c)os yw'r anifail yn cael ei symud o'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei farcio â Marc F;

(ch)os yw'r anifail yn cael ei symud o Aelod-wladwriaeth arall i ddaliad yng Nghymru ac yn cael ei farcio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC(6) ar adnabod a chofrestru anifeiliaid;

(d)os yw'r anifail yn cael ei symud o ran o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru ac yn cael ei farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain;

(dd)os oedd yr anifail cyn y dyddiad perthnasol wedi'i farcio yn unol naill ai—

(i)â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 ac wedi'i farcio â rhif adnabod unigol;

(ii)ag erthygl 9(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) 2002, fel y bo'n briodol;

(e)os yw'r anifail wedi'i farcio â marc dros dro ac—

(i)yn cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;

(ii)yn cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;

(iii)yn cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

(iv)yn dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad (heblaw marchnad gigydda un-pwrpas) yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda;

(f)os yw'r anifail yn cael ei symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;

(ff)os yw'r anifail yn cael ei symud rhwng safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol;

(g)os yw'r anifail yn dychwelyd i'r daliad y mae'n cael ei gadw arno o dir y mae gan y person hawl i bori drosto ar y cyd â pherchenogion eraill;

(ng)os yw dafad wedi'i marcio â marc dros dro ac yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei chadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro; neu

(h)os yw'r anifail yn cael ei symud o farchnad, ar yr amod bod yr anifail wedi'i farcio yn unol â gofynion y Gorchymyn hwn pan gafodd ei symud i'r farchnad honNo.

(3Rhaid peidio â symud anifail i sioe nac ohoni oni bai ei fod wedi'i farcio â rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd arno yr un pryd â'r rhif adnabod unigol.

(4Rhaid i berson beidio â symud anifail i ganolfan gynnull oni bai bod yr anifail wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol:

(i)â Marc Tarddiad ac â rhif adnabod unigol;

(ii)â Marc S ac â rhif adnabod unigol;

(iii)â Marc F ac â rhif adnabod unigol;

(iv)â marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;

(b)Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).

(5) (aRhaid i berson beidio â symud anifail i safle y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol—

(i)â Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, ac â rhif adnabod unigol;

(ii)â Marc F sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, ac â rhif adnabod unigol; neu

(iii)â Marc X ac â rhif adnabod unigol a ddodwyd yr un pryd â'r Marc X; a

(b)Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).

Uchafswm y marciau

10.—(1Rhaid i berson beidio â dodi Marc S ar ddafad neu afr sydd eisoes yn dwyn tri marc yn cynnwys un neu ragor o'r marciau a ddisgrifir ym mharagraff 2.

(2Y marciau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw—

(a)Marc Tarddiad, Marc S, Marc F neu Farc R;

(b)marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;

(c)marc a ddodwyd o dan ddeddfwriaeth mewn grym mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru;

(ch)marc a ddodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC; neu

(d)marc a ddodwyd o dan drwydded a roddwyd o dan erthygl 8 neu 31 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983(7).

Marcio anifeiliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

11.—(1Os yw dafad neu afr yn cael ei mewnforio i ddaliad yng Nghymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o fewn deg diwrnod ar hugain ar ôl iddi gyrraedd y daliad hwnnw a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'r daliad hwnnw, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw ei marcio â Marc F.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i anifail a fewnforiwyd yn uniongyrchol i ladd-dy, os yw'r anifail yn cael ei gigydda yno o fewn 5 diwrnod heb iddo fod wedi'i symud o'r lladd-dy.

Dogfennau symud

12.—(1Rhaid i berson beidio â symud dafad na gafr oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifail neu ei asiant yn cyd-fynd â'r ddafad neu'r afr honno a bod y ddogfen yn pennu—

(a)cyfeiriadau (gan gynnwys rhif daliad a chod post) y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono a'r daliad y mae'n cael ei symud iddo;

(b)dyddiad y symudiad a chyfanswm yr anifeiliad sy'n cael eu symud;

(c)y marc a ddisgrifir ym mharagraff (2);

(ch)y rhif lot mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud o farchnad; a

(d)y rhif adnabod unigol mewn perthynas â'r anifail sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull.

(2Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd

(a)un o'r canlynol—

(i)y Marc S a ddodwyd ar yr anifail;

(ii)os nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad, na'r marc a ddodwyd o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; neu

(iii)os nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R;

(iv)y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

(b)unrhyw farc dros dro yn achos anifail—

(i)sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;

(ii)sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;

(iii)sy'n cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy;

(iv)sy'n dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda; neu

(v)sy'n dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei gadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro;

(c)os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu

(ch)os yw hwrdd neu afr yn cael ei symud at ddibenion bridio yn unol ag erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(2)(b)(xix), 3(3)(ch), 3(3)(d), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod.

(3Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud—

(a)rhwng daliad ac unrhyw dir y mae hawl i bori ar y cyd â pherchenogion eraill yn arferadwy mewn perthynas ag ef;

(b)at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;

(c)yn achos geifr, er mwyn eu tatŵ io; neu

(ch)o safle mewn grŵ p meddiannaeth unigol i safle arall yn yr un grŵ p;

(4Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.

(5Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn tri diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

(6Rhaid i geidwad anifail sy'n cael ei symud y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r anifail yn cael ei symud ohoNo.

Tynnu tagiau clust a dileu tatŵ s ac amnewid y naill a'r llall

13.—(1Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb dynnu nac amnewid tag clust na dileu nac amnewid tatŵ sydd wedi'i ddodi ar anifail yn unol â'r Gorchymyn hwn, Rheoliadau 2000, neu Reoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, oni bai ei fod wedi mynd yn annarllenadwy neu yn achos tag clust, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli.

(2Pan fydd Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R wedi mynd yn annarllenadwy, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad—

(a)dodi Marc unfath;

(b)dodi—

(i)os Marc Tarddiad oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw;

(ii)os Marc F oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau “UK” wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn â'r llythyren F neu datŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren F; neu

(iii)os Marc R oedd y marc gwreiddiol, Marc R newydd, a chroesgyfeirio'r marc newydd â'r marc gwreiddiol yn y cofnod sy'n cael ei gadw o dan erthygl 4 neu 5; neu

(c)pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.

(3Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le.

(4Ni fydd paragraff (2) a (3) yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.

(5Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os yw wedi'i farcio â thag clust neu datŵ yn diweddu gyda'r llythyren “R” sy'n dangos mai tag clust neu datw yn lle un arall ydyw.

Dodi tagiau clust a thatŵ s

14.  Ac eithrio at ddibenion cydymffurfio â gofynion y Gorchymyn hwn, ni chaiff neb ddodi tag clust neu datŵ sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr ar ddafad neu afr, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Newid tagiau clust a thatŵ s

15.  Ni chaiff neb newid, dileu na difwyno'r wybodaeth ar dag clust neu datw sydd wedi'i ddodi ar ddafad neu afr o dan y Gorchymyn hwn.

Dangos cofnodion a dogfennau

16.  Rhaid i unrhyw berson sydd â gofal dros unrhyw gofnod neu ddogfen y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Gorchymyn hwn eu dangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdanynt (neu, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf electronig, dangos allbrint ohonynt) a chaniatáu i gopïau gael eu gwneud ohonynt.

Marchnadoedd

17.—(1Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau bod yr holl ddefaid a geifr sy'n bresennol yn y farchnad yn cael eu rhannu mewn grwpiau o un neu ragor o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd yno, a bod rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob grŵ p.

(2Ni chaiff neb brynu na gwerthu dafad na gafr mewn marchnad oni fydd yn prynu hefyd yr holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r ddafad neu'r afr honno yn perthyn iddi.

(3Rhaid i weithredwr marchnad sicrhau, cyn gynted ag y bydd dafad neu afr wedi'i gwerthu yn y farchnad, fod y ddogfen symud a ddisgrifir yn erthygl 12 yn cael ei llenwi.

(4Ni chaiff neb symud dafad na gafr o farchnad ac eithrio i'r safle sydd wedi'i nodi yn y cofnod symud a gafodd ei lenwi yn unol â pharagraff (3) uchod.

(5Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau mai ar y diwrnod y mae dafad neu afr yn cael ei symud o'r farchnad, ei fod yn anfon dogfen sydd o ran ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a'r ddogfen honno yn pennu'r wybodaeth a ddisgrifir yn erthygl 12(1) a (2), i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y lleolir y farchnad.

Gorfodi

18.  Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'w gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymu Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

19.  Dirymir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Jane Davidson

Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:31pm ar 4 Medi 2002

Whitty

Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

am 11:30am ar 5 Medi 2002

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources