Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1895 (Cy.196)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

9 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(1), (2), (2A), (3), (3A) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100(1) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3):

RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 9 Awst 2002.

(2Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod Parc Cenedlaethol;

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “bwrdd” (“board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlwyd o dan reoliad 4(1)(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(4);

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(5);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dyletswydd a eithrir” (“excluded duty”) yw dyletswydd a gymeradwywyd y mae aelod o awdurdod sy'n gynghorydd yn cael cydnabyddiaeth mewn perthynas â hi heblaw o dan gynllun a wnaed o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw—

    (a)

    presenoldeb mewn cyfarfod o'r awdurdod neu o unrhyw bwyllgor yr awdurdod neu o unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw bwyllgor corff o'r fath;

    (b)

    presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono;

    (c)

    presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod neu gan bwyllgor o'r awdurdod neu gan gyd-bwyllgor o'r awdurdod ac un neu fwy o awdurdodau eraill;

    (ch)

    dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni os yw'r awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o fewn ystyr “executive arrangements” yn Rhan II o Ddeddf 2000;

    (d)

    dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor;

    (dd)

    dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth gan yr awdurdod sy'n galluogi neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod archwilio neu awdurdodi archwiliad o safle;

    (e)

    presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddiant neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod neu gan ei weithrediaeth neu ei fwrdd; ac

    (h)

    unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, ac yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni;

  • ystyr “grŵp gwleidyddol arall” (“other political group”) yw grŵp gwleidyddol heblaw grŵp rheoli neu grŵp gwrthbleidiol mwyaf (os o gwbl) sy'n cynnwys dim llai na 10 y cant o aelodau'r awdurdod hwnnw;

  • ystyr “grŵp gwrthbleidiol mwyaf” (“largest opposition group”) yw grŵp gwleidyddol heblaw grŵp rheoli sydd â nifer fwy o aelodau nag unrhyw grŵp gwleidyddol arall yn yr awdurdod;

  • ystyr “grŵp rheoli” (“controlling group”) yw grŵp gwleidyddol:

    (a)

    mewn awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth:

    (i)

    pan fydd y trefniadau hynny'n cymryd ffurf arweinydd a gweithrediaeth gabinet;

    (ii)

    gyda maer a gweithrediaeth gabinet; neu

    (iii)

    gyda maer a rheolwr cyngor; neu

    (b)

    mewn awdurdod sy'n gweithredu trefniadau amgen;

    pan fydd unrhyw rai o'i aelodau yn ffurfio rhan o weithrediaeth neu fwrdd fel a geir yn (a) neu (b) uchod.

  • ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw gweithrediaeth awdurdod mewn ffurf a bennwyd yn adrannau 11(2) i (5) o Ddeddf 2000;

  • mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor yr awdurdod y mae ganddo'r pwerau a nodir yn adran 21(2) a (3) neu 32 (1) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau i gyflawni swyddogaethau awdurdod o'r math a ddisgrifir yn adran 32(1) o Ddeddf 2000; ac

  • mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.

Awdurdodau perthnasol a ragnodwyd

3.  Rhagnodir cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.

RHAN IICynlluniau ar gyfer Lwfansau Cynghorwyr

Dehongli

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 2(b), dehonglir cyfeiriadau yn y Rhan hon at aelod awdurdod sy'n gynghorydd mewn perthynas ag awdurdod Parc Cenedlaethol fel cyfeiriadau at aelod o'r awdurdod hwnnw a benodwyd gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2At ddibenion y Rhan hon—

(a)mae aelodau awdurdod i'w trin fel rhai wedi'u rhannu'n grwpiau gwleidyddol os ymdrinnir â hwy felly at ddibenion adran 15 (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau a.y.y.b) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; a

(b)bydd cyfnod swydd aelod o awdurdod (heblaw awdurdod Parc Cenedlaethol) sydd yn gynghorydd yn dechrau ar y dyddiad y mae'r aelod hwnnw'n gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd honno o dan adran 83(1) o Ddeddf 1972.

Cynlluniau lwfans

5.—(1Rhaid i bob awdurdod wneud cynllun yn unol â'r Rheoliadau hyn ar gyfer talu lwfansau mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol a'r blynyddoedd dilynol.

(2Pan ddiddymir cynllun yn unol â rheoliad 6(1), cyn i'r diddymiad ddod yn effeithiol rhaid i'r awdurdod wneud cynllun pellach am y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r diddymiad yn dod yn effeithiol.

Diwygio cynlluniau

6.—(1Gellir diwygio neu ddiddymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.

(2Os oes diwygiad i gael ei wneud sy'n effeithio ar lwfans sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi, caiff y cynllun ddarparu bod yr hawl i lwfans o'r fath yn gymwys i fod yn effeithiol o ddechrau'r flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi neu,

(a)os bydd y diwygiad yn effeithio ar lwfans o'r fath a grybwyllir yn rheoliad 7 neu 8, bod mewn perthynas â phob un o'r cyfnodau—

(i)sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn a diweddu ar y diwrnod o flaen hwnnw y mae'r diwygiad cyntaf yn y flwyddyn honno'n dod yn effeithiol, a

(ii)sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r diwygiad yn dod yn effeithiol a diweddu ar y diwrnod o flaen hwnnw y mae'r diwygiad nesaf yn dod yn effeithiol, neu (os nad oes un) gyda diwrnod olaf y flwyddyn,

bydd yr hawl i gael lwfans o'r fath yn hawl i gael taliad o'r gyfran honno o swm y lwfans o dan y cynllun fel y mae'n effeithiol yn ystod y cyfnod perthnasol fel y mae'r nifer o ddyddiau yn y cyfnod yn cyfateb i nifer y dyddiau yn y flwyddyn;

(b)os bydd y diwygiad yn effeithio ar lwfans o'r fath fel a grybwyllir yn rheoliad 9, bod yr hawl i'r lwfans hwnnw yn hawl i daliad o swm y lwfans o dan y cynllun fel y mae'n effeithiol pan gyflawnir y ddyletswydd.

Lwfansau sylfaenol

7.—(1Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod taliad yn cael ei wneud ar gyfer pob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi lwfans (“lwfans sylfaenol”) i bob aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd a rhaid i swm y lwfans hwnnw fod yr un fath â swm i bob un o'r aelodau hynny.

(2Rhaid i'r cynllun ddarparu, os bydd cyfnod swydd aelod yn dechrau neu'n dod i ben heblaw ar ddechrau neu ar ddiwedd blwyddyn, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael taliad o'r gyfran o'r lwfans sylfaenol y mae'r nifer o ddyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod fel cynghorydd yn ystod y flwyddyn honno yn eu dwyn i nifer y dyddiau yn y flwyddyn honNo.

(3Os bydd cynllun yn cael ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad yw cyfnod swydd aelod sy'n gynghorydd yn parhau drwy'r cyfnod llawn a grybwyllir yn is-baragraff (a)(i) neu (ii) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r cynllun ddarparu bod hawl unrhyw aelod o'r fath o dan y rheoliad hwn i gael taliad o'r gyfran o'r lwfans sylfaenol y gellir ei briodoli i bob cyfnod o'r fath y mae'r nifer o ddyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod fel cynghorydd yn parhau y cyfnod hwnnw yn cyfateb i nifer y dyddiau yn y cyfnod.

(4Rhaid i gynllun a gaiff ei baratoi o dan y Rhan hon ddarparu na fydd mwy nag un lwfans sylfaenol yn daladwy i aelod o awdurdod.

Lwfansau cyfrifoldeb arbennig

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu, yn unol â pharagraff (3), ar gyfer taliad am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi lwfans (“lwfans cyfrifoldeb arbennig”) i'r aelodau hynny o'r awdurdod sydd yn gynghorwyr y mae ganddynt gyfrifoldebau arbennig o'r fath mewn perthynas â'r awdurdod fel y pennir hwy yn y cynllun ac y maent o fewn un neu fwy o'r categorïau canlynol—

(a)maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf maer a chabinet;

(b)arweinydd awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cymryd ffurf arweinydd a gweithrediaeth gabinet a maer etholedig awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf maer a rheolydd cyngor;

(c)aelodau cabinet awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf arweinydd a chabinet a chadeirydd bwrdd awdurdod sy'n gweithredu trefniadau amgen;

(ch)aelodau bwrdd awdurdod sy'n gweithredu trefniadau amgen, cadeiryddion pwyllgorau trosolygu a chraffu a phwyllgorau cynllunio, arweinyddion y grŵp gwrthbleidiol mwyaf yn yr awdurdod a chadeiryddion awdurdodau Parciau Cenedlaethol;

(d)is-gadeiryddion pwyllgorau trosolygu a chraffu, is-gadeiryddion pwyllgorau cynllunio, cadeiryddion pwyllgorau eraill, aelodau o gabinet awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cymryd ffurf maer a gweithrediaeth gabinet ac is-gadeiryddion awdurdodau Parciau Cenedlaethol;

(dd)is-gadeiryddion pwyllgorau heblaw pwyllgorau trosolygu a chraffu a phwyllgorau cynllunio ac arweinyddion unrhyw grŵp gwleidyddol arall mewn awdurdod a chadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau awdurdodau Parciau Cenedlaethol; ac

(e)y gweithgareddau eraill hynny mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2) (aNi cheir talu lwfans cyfrifoldeb arbennig i fwy na hanner cant y cant o aelodau'r awdurdod (a gyfrifir drwy ddefnyddio cyfanswm y seddau ar yr awdurdod a thalgrynnu'r nifer o aelodau i'r rhif llawn nesaf pan nad yw'r nifer wrth gyfrifo'r ganran yn rhif llawn);

(b)Gall fod lwfans cyfrifoldeb arbennig (“lwfans y dirprwy”) sy'n daladwy i ddirprwy arweinydd cabinet yn achos trefniadau gweithrediaeth ac is-gadeirydd y bwrdd yn achos trefniadau amgen gynnwys swm sy'n hafal â swm nad yw'n fwy na deg y cant o'r lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i aelod o gabinet awdurdod sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cymryd ffurf arweinydd a gweithrediaeth gabinet neu aelod o fwrdd awdurdod sy'n gweithredu trefniadau amgen (ac eithrio arweinydd awdurdod sy'n gweithredu trefniadaeth gweithrediaeth neu gadeirydd bwrdd cyngor sy'n gweithredu trefniadau amgen) ar yr amod nad yw taliad i'r dirprwy yn cael ei wneud i fwy nag un person.

(3Rhaid i unrhyw gynllun sy'n gwneud darpariaeth o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (1) ddarparu—

(a)os nad oes gan aelod unrhyw gyfrifoldebau arbennig o'r fath drwy'r flwyddyn sy'n rhoi hawl i aelod gael lwfans cyfrifoldeb arbennig, y bydd hawl yr aelod hwnnw i daliad o'r gyfran honno o'r lwfans y mae'r nifer o ddyddiau pan oedd gan yr aelod hwnnw gyfrifoldebau arbennig o'r fath yn eu dwyn i nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno; a

(b)os caiff cynllun ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad oes gan aelod drwy gyfnod llawn unrhyw gyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o'r paragraff hwnnw unrhyw gyfrifoldebau arbennig sy'n rhoi hawl i aelod gael lwfans cyfrifoldeb arbennig, bydd hawl yr aelod hwnnw i daliad o'r gyfran honno o lwfans y gellir ei briodoli i'r cyfnod hwnnw y mae'r nifer o ddyddiau yn y cyfnod hwnnw yr oedd gan yr aelod hwnnw gyfrifoldebau arbennig o'r fath yn eu dwyn i nifer y dyddiau yn y cyfnod.

Lwfansau presenoldeb

9.—(1Caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon gan awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu ar gyfer taliad i bob aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd lwfans presenoldeb (“lwfans presenoldeb”) mewn perthynas â dyletswydd a gymeradwywyd nad yw'n ddyletswydd a eithrir a'r amser a dreulir wrth deithio i leoliad ac ohono lle mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni.

(2Rhaid pennu swm y lwfans presenoldeb yn y cynllun a gall amrywio yn ôl amser y dydd a hyd y ddyletswydd ond rhaid mai'r un swm ydyw i holl aelodau'r awdurdod sydd â hawl i gael y lwfans mewn perthynas â dyletswydd o unrhyw ddisgrifiad am yr un amser yn y dydd ac am yr un hyd.

(3Caiff cynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr gan ddechrau ar yr amser y gall yr awdurdod ei bennu.

(4Rhaid i gynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb

(a)o ran dyletswydd a gymeradwywyd y mae gan yr aelod hwnnw hawl i daliad lwfans colled ariannol mewn perthynas â hi o dan reoliad 11; neu

(b)pe bai taliad o'r fath yn groes i ddarpariaeth a wneir drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad.

Lwfansau gofal

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol ddarparu ar gyfer talu i aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd lwfans (“lwfans gofal”) mewn perthynas â'r costau hynny yr oedd angen amdanynt ar gyfer gofalu am blant neu bobl ddibynnol sy'n angenrheidiol eu tynnu wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.

(2Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon beidio â darparu ar gyfer talu—

(a)lwfans gofal i aelod o'r awdurdod y mae ganddo hawl i gael lwfans cyfrifoldeb arbennig am swm sy'n fwy na'r swm a bennir o dro i dro yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)lwfans gofal mewn perthynas ag unrhyw blentyn dros bymtheg neu ddibynnydd oni bai fod yr aelod yn bodloni'r cyngor sir neu'r fwrdeistref sirol bod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu ddibynnydd a barodd i'r aelod dynnu costau yr oedd angen amdanynt mewn perthynas â gofal y plentyn neu ddibynnydd hwnnw wrth gyflawni dyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod; neu

(c)lwfans gofal i fwy nag un aelod o'r awdurdod mewn perthynas â gofalu am yr un plentyn neu berson dibynnol; neu

(ch)mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod o'r awdurdod nad yw'n gallu dangos i fodlonrwydd rhesymol yr awdurdod bod aelod yn gorfod gwneud trefniadau ar wahân i ofalu am blant neu bobl ddibynnol gwahanol.

Lwfans colled ariannol

11.  Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod gan unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd yr hawl i gael taliad drwy lwfans colled ariannol, sef taliad nad yw'n fwy na swm unrhyw golled neu enillion a gafwyd yn ôl yr angen neu unrhyw gostau ychwanegol (heblaw costau mewn perthynas â theithio neu gynhaliaeth) a dynnwyd yn ôl yr angen wrth gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.

RHAN IIICynlluniau — Darpariaeth Bellach

Swm y lwfansau a.y.y.b

12.—(1Rhaid i gynllun o dan Ran II bennu mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn y mae'n berthnasol iddi—

(a)swm neu ddull canfod y swm y lwfans sylfaenol; a

(b)swm neu ddull canfod y swm o lwfans cyfrifoldeb arbennig ac, os oes symiau gwahanol yn gymwys i gyfrifoldebau gwahanol, y swm neu ddull canfod y swm sy'n gymwys i bob un.

(2Caiff cynllun o dan Ran II wneud darpariaeth ar gyfer addasiad blynyddol ar lwfansau drwy gyfeirio at y mynegai hwnnw y gall yr awdurdod ei bennu.

Dewisiadau

13.  Rhaid i gynllun o dan Ran II ddarparu y caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y cynllun.

Hawliadau a thaliadau

14.  Caiff cynllun o dan Ran II ddarparu i daliadau o lwfansau gael eu gwneud ar yr adegau y gellir eu pennu ynddo, a gellir pennu gwahanol amserau i wahanol lwfansau.

RHAN IVLwfansau Eraill

Lwfansau teithio a chynhaliaeth

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu gynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.

(2Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union o flaen y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na'r gyfradd sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na fydd cyfradd y lwfans hwnnw yn cael ei gynyddu nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r un a delir gan yr awdurdod.

(3Rhaid i unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio neu gynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (ac eithrio hawliadau am deithio mewn car modur) gael derbynebau i gyd-fynd ag ef sy'n profi costau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y caiff yr awdurdod benderfynu arnynt.

RHAN VTrefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu

16.—(1Bydd hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol yn cynnwys, neu bydd datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod yn cyd-fynd â'r hawliad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo.

(2Ni wneir unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o gynllun o dan Ran II.

Talu lwfansau

17.  Bydd unrhyw daliad sy'n lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol i aelod panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6) yn cael ei dalu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y llunnir y panel mewn perthynas â hwy.

Cofnodion o lwfansau

18.—(1Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn unol ag unrhyw gynllun a wneir yn eu sgil.

(2Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod;

(3Caiff person sydd â hawl i archwilio'r cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw ran ohono, drwy dalu ffi resymol y gall yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol.

Cyhoeddusrwydd

19.—(1Rhaid i bob awdurdod, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl gwneud diwygiad i unrhyw gynllun a wneir yn sgil y Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi yn ardal yr awdurdod.

(2Cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod mewn perthynas â phob un o'r canlynol, sef, lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig, lwfans presenoldeb a lwfans gofal.

RHAN VIDiddymu ac eithrio

Diddymu, eithrio ac addasiadau

20.—(1Bydd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991(7) yn parhau i fod yn effeithiol heb ragfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(8), mewn perthynas â hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn perthynas â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2002.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), drwy hyn diddymir Rheoliadau 1991 mor belled ag yr oeddent yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

(3Ni fydd adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf 1972 yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

(4Wrth ei gymhwyso i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i awdurdodau Parciau Cenedlaethol bydd is-adran (2) o adran 176 o Ddeddf 1972 yn effeithiol fel pe bai'r cyfeiriad at adran 174 o Ddeddf 1972 yn gyfeiriad at Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 ac fel pe bai'r cyfeiriad at ddyletswydd a gymeradwywyd yn gyfeiriad at y term hwnnw fel y'i diffinnir yn y rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod perthnasol a bennir yn y Rheoliadau wneud cynllun sy'n darparu ar gyfer talu:

  • lwfans sylfaenol i gynghorwyr; a

  • lwfans presenoldeb i gynghorwyr; a

  • lwfans cyfrifoldeb arbennig i gynghorwyr â chyfrifoldebau arbennig.

Mae'r pwer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau o ran lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau perthnasol a ragnodir.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol (p'un a ydynt yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol â Deddf 2000 neu'n gweithredu trefniadau amgen yn unol ag adran 32(1) o Ddeddf 2000) ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru wneud cynllun ar gyfer talu lwfansau mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol a'r blynyddoedd dilynol.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol a'r Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliad 5 yn darparu os diddymir cynllun a wnaed o dan y rheoliadau hyn rhaid i awdurdod sicrhau bod cynllun pellach yn barod i fod yn effeithiol o ddyddiad unrhyw ddiddymiad o'r fath, tra bod Rheoliad 6 yn darparu y gall cynllun gael ei ddiwygio neu ei ddiddymu ar unrhyw adeg. Os diwygir cynllun gellir gwneud darpariaeth i'r hawl i lwfansau fod yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir unrhyw ddiwygiad ynddi.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â “lwfans sylfaenol” i gynghorwyr. Un “lwfans sylfaenol” yn unig fesul aelod fydd yn daladwy o dan y cynllun. Mae Rheoliad 8 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer “lwfansau cyfrifoldeb arbennig”. Nodir y categorïau y gellir eu defnyddio i dalu “lwfansau arbennig” yn Rheoliad 8(1). Nid yw lwfansau o'r fath yn daladwy, yn rhinwedd Rheoliad 8(2), i fwy na hanner aelodau awdurdod (a gyfrifir drwy gyfeirio at gyfanswm y seddau ar y cyngor). Mae hefyd yn caniatáu i gynghorau ddarparu ar gyfer swm ychwanegol o ddeg y cant i ddirprwy arweinydd cabinet neu i ddirprwy gadeirydd bwrdd fel rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig.

Mae Rheoliad 9 yn rhoi disgresiwn i Awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu cynllun ar gyfer “lwfansau presenoldeb” i gynghorwyr mewn perthynas â “dyletswyddau a gymeradwywyd”.

Mae Rheoliad 10 yn darparu i gynllun, a wneir gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol, gynnwys “lwfans gofal” i aelodau mewn perthynas â chostau trefnu ar gyfer gofalu am blant (pymtheg oed neu lai) neu bobl ddibynnol a dynnir wrth gyflawni dyletswyddau fel aelod.

Mae Rheoliad 11 yn darparu y bydd cynllun a wneir o dan Ran II yn darparu i unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd gael taliad drwy “lwfans colled ariannol” nad yw'n fwy na swm unrhyw golled enillion a gafwyd neu gostau ychwanegol a dynnwyd yn ei rôl fel aelod.

Mae Rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun o dan Ran II yn pennu swm y “lwfans sylfaenol” neu ddull i ganfod y swm hwnnw a'r dull i ganfod hefyd unrhyw “lwfans cyfrifoldeb arbennig” (neu symiau gwahanol sy'n daladwy mewn perthynas â chyfrifoldebau arbennig). Mae Rheoliad 12 hefyd yn rhoi disgresiwn i awdurdodau a fyddant yn cynnwys darpariaeth yn y cynllun a wneir o dan Ran II ar gyfer addasiad blynyddol ar y lwfansau drwy gyfeirio at y mynegai hwnnw y gall yr awdurdod ei bennu.

Rhaid i gynllun o dan Ran II gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y cynllun yn rhinwedd Rheoliad 13 a chaiff, o dan Reoliad 14 nodi'r amserau ar gyfer talu'r lwfansau (a all fod yn wahanol ar gyfer lwfansau gwahanol).

Mae Rheoliad 15 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau sydd i'w penderfynu bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na chânt fod yn fwy na'r graddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth i gael eu gwneud ar sail “wirioneddol” a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 16 yn darparu bod datganiad yn cyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) pan wneir taliadau o dan gynllun o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 17 yn ymwneud â lwfansau a wneir i aelodau panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'n ofynnol i daliadau o'r fath gael eu talu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y mae'r panel yn berthnasol iddynt.

Mae Rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw gynllun a wneir odanynt, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr mewn llywodraeth leol. Gellir cael copïau wrth dalu ffi resymol i'r awdurdod.

Yn unol â Rheoliad 19 rhaid i unrhyw gynllun a wneir o dan y Rheoliadau hyn gael cyhoeddusrwydd yn ardal yr awdurdod cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud. Cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae cynllun yn berthnasol iddi, rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y cynllun mewn perthynas â lwfansau sylfaenol, lwfansau cyfrifoldeb arbennig, lwfansau presenoldebau a lwfansau gofal.

Mae Rheoliad 20 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau'r Aelodau) 1991 (“Rheoliadau 1991”) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2002. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn diddymir Rheoliadau 1991. Mae hefyd yn eithrio cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol rhag effeithiau adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Addesir adran 176 (Talu costau ymweliadau swyddogol ac ymweliadau cwrteisi, a.y.y.b) o Ddeddf 1972 wrth ei chymhwyso i awdurdodau sir, awdurdodau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

(1)

1989 p.42. Mewnosodwyd adran 18(3A) gan adran 99(3), (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(7)

O.S. 1991/351 fel y'i diwygiwyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources