Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

rheoliadau 4(2) a 13

ATODLEN 1CYFRIFO CYMORTH

RHAN IY TALIAD AR GYFER PARSEL ORGANIG

1.  Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£225 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£135 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£50 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£20 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£20 yr hectar

2.  Tir wedi'i amgáu:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£175 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£105 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£40 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£15 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£15 yr hectar

3.  Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori:

(i)yn y flwyddyn gyntaf

£25 yr hectar

(ii)yn yr ail flwyddyn

£10 yr hectar

(iii)yn y drydedd flwyddyn

£5 yr hectar

(iv)yn y bedwaredd flwyddyn

£5 yr hectar

(v)yn y bumed flwyddyn

£5 yr hectar

Yn Rhan I o'r Atodlen hon—

  • ystyr “tir cymwys CTATA” yw tir sy'n “dir cymwys” o fewn ystyr “eligible land” yn Rheoliadau Taliadau Arwynebedd Tir År 1996(1);

  • ystyr “llain arfordirol” yw'r llain o dir rhwng y marc penllanw a ffin y cae agosaf at y môr;

  • ystyr “coetir sy'n cael ei bori” yw coetir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori gan dda byw;

  • ystyr “rhostir” yw tir sy'n cael ei ddangos gan y mannau lliw brown ar y mapiau a gynhwysir yn y gyfrol o fapiau sydd wedi'i marcio “Moorland Map of Wales 1992”, ac sydd wedi'i hadneuo yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd;

  • ystyr “tir wedi'i amgáu” yw unrhyw dir heblaw tir cymwys CTATA a chnydau parhaol sydd wedi'i amgáu'n llawn â ffiniau caeau traddodiadol neu ffensys ac, os yw'n cynnwys rhostir, nad yw'n cynnwys mwy na 5 hectar o rostir;

  • ystyr “cnydau parhaol” yw unrhyw gnydau sydd yn y pridd am gyfnod o bum mlynedd neu ragor ac sy'n cynhyrchu cnydau dros nifer o flynyddoedd;

  • ystyr “ffens lechi” yw ffens sy'n cynnwys darnau o lechi sydd wedi'u hoelio'n fertigol i mewn i'r ddaear mewn rhes ac wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy ddefnyddio wifren;

  • ystyr “ffiniau caeau traddodiadol” yw strwythurau megis perthi, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi a ddefnyddir fel arfer i wahanu caeau ar fferm;

  • ystyr “tir heb ei amgáu” yw tir sy'n rhostir neu'n llain arfordirol, heblaw tir wedi'i amgáu.

RHAN IIY TALIAD AR GYFER YR UNED ORGANIG GYFAN

Yn y flwyddyn gyntaf£300 am bob uned organig
Yn yr ail flwyddyn£200 am bob uned organig
Yn y drydedd flwyddyn£100 am bob uned organig

rheoliad 5(2)(b)(ii) (iv) a (v)

ATODLEN 2Y SAFONAU I'W PARCHU

1.  Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.

2.  Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.

3.  Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.

4.  Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.

5.  Rhaid i'r buddiolwr

(a)cadw nodweddion ffiniau traddodiadol fferm, er enghraifft, perthi a waliau ;

(b)tocio perthi mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn;

(c)cynnal unrhyw ffiniau gwrth-stoc, gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol.

6.  Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.

7.  Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.

8.  Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.

9.  Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.

10.  Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(1)

O.S. 1996/3142, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2969

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources