- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Medi 2001
Yn dod i rym
1 Hydref 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu dim ac i gael taliad llawn), ar ddiwedd paragraff (m) ychwanegir y gair “or” a'r paragraff canlynol —
“(n)a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act”(3).
3. Ym mharagraff 1(a)(ii) o reoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad), yn lle “or (m)” rhowch “(m) or (n)”.
4. Yn Atodlen 1A o'r prif Reoliadau (cyfnodau dilysrwydd hysbysiadau hawl), ar ôl paragraff 9 ychwanegir y paragraff canlynol—
“10. A relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act. | 12 months or until the child’s 18th birthday whichever is longer”. |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau penodol ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu treuliau teithio penodol a dynnir wrth fynd i'r ysbyty.
Mae Rheoliad 2 yn galluogi plant sy'n ymadael gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw fanteisio drwy beidio â thalu dim taliadau neu gael ad-daliadau llawn, a chael talu eu treuliau teithio.
Mae Rheoliadau 3 a 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
1977 p. 49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).
Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1364 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767 a 2840, 2001/1397 (Cy. 92).
1989 p. 41; Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35); gweler hefyd OS2001/2189 (Cy.151).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: