- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf;
(b)nid yw'r ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto; ac
(c)ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.
(2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.
(3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a
(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.
(4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.
(5) Mae is-baragraff (6) yn gymwys—
(a)pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o grŵ p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a
(b)o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grŵ p felly.
(6) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grŵ p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir neu a ddelid neu a ddefnyddid gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt,—
(a)ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu
(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: