Search Legislation

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IIIOfferyn Llywodraethu: Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

1.  Enw'r ysgol yw ... ... ... ...

2.  Ysgol wirfoddol a reolir yw'r ysgol.

3.  Enw'r corff llywodraethu yw ... ... ... ...

4.  Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

(a)x o rieni-lywodraethwyr;

(b)x o lywodraethwyr yr AALl;

(c)x o athrawon-lywodraethwyr;

  • (os yw'n gymwys

(ch)un llywodraethwr staff;)

(d)x o lywodraethwyr sefydledig;

(dd)x o lywodraethwyr cyfetholedig (gan gynnwys unrhyw lywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff 6, 7 neu 8 isod);

(e)y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

5.  Cyfanswm y llywodraethwyr ... ... ... ...(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi hysbysu fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd ... ... ... ...).

  • (os yw'n gymwys

6.  Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan yr is-awdurdod neu (yn ôl fel y digwydd) gan un neu ragor o'r is-awdurdodau mewn perthynas â'r ysgol).

  • (os yw'n gymwys

7.  Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

  • (os yw'n gymwys

8.  Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

9.  Yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 sy'n darparu i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi, nodwch enw unrhyw gorff sefydledig neu berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig. Os oes mwy nag un person o'r fath nodwch ar ba sail y mae penodiadau o'r fath yn cael eu gwneud wrth drosglwyddo i'r fframwaith newydd ac ar ôl hynny pan fydd swyddi gwag i'w llenwi).

  • (os yw'n gymwys

10.—(aRhaid i ddeiliad y swydd ganlynol fod yn llywodraethwr sefydledig ex-officio: enw'r swydd

(b)bydd ... ... ... ... [neu ... ... ... ... a ... ... ... ... ar y cyd] yn penodi llywodraethwr sefydledig i weithredu yn lle'r llywodraethwr sefydledig ex-officio y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio o'r swydd a enwir yn (a) uchod, os digwydd bod y llywodraethwr sefydledig ex-officio hwnnw'n methu gweithredu fel llywodraethwr sefydledig, neu'n anfodlon gwneud hynny, neu nad oes deiliad yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn bodoli o'i herwydd.

Ailadroddwch 10(a) a (b) yn ôl yr angen os oes mwy nag un swydd llywodraethwr sefydledig ex-officio.)

11.  Nodwch y weithdrefn ar gyfer dileu unrhyw ormodedd yn nifer y llywodraethwyr sefydledig.

(O dan reoliad 15 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, ni fydd y weithdrefn hon yn gymwys pan fydd cyrff llywodraethu yn cael eu hailgyfansoddi).

12.  Os oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol, disgrifiwch ethos yr ysgol.

13.  Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar [mewnosodwch y dyddiad gweithredu].

14.  Cafodd yr offeryn llywodraethu hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol ... ... ... ... ar ... ... ... ...

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources