- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Os bydd—
(a)ysgol gymunedol neu ysgol a reolir yn wirfoddol yn newid categori i ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir; neu
(b)fod ysgol arbennig gymunedol yn newid categori i ddod yn ysgol arbennig sefydledig,
bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo a'r awdurdod addysg lleol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu ymlaen fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a'r corff llywodraethu.
2. Heb ragfarnu paragraff 1—
(a)bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r awdurdod addysg lleol o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef yn cael eu trosglwyddo i'r corff llywodraethu ar y dyddiad gweithredu yn rhinwedd y paragraff hwn; a
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig wedi'i wneud gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef.
3. Yn ddarostyngedig i baragraff 4, bydd paragraff 1 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol o dan sylw yn unig.
4. Ni fydd paragraff 1 yn gymwys—
(a)i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu; neu
(b)i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd yn unig.
5. At ddibenion paragraff 3 rhaid ymdrin â pherson a benodwyd cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu ymlaen neu o ddyddiad ar ôl hynny fel petai'r person hwnnw wedi'i gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud yn yr ysgol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod addysg lleol.
6. Nid yw paragraffau 1 a 2 yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan weithiwr cyflogedig i derfynu'r contract os bydd newid sylweddol i'w amodau gwaith yn cael ei wneud er anfantais i'r gweithiwr, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi dim ond am fod y Rheoliadau hyn yn peri bod yna newid cyflogwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: