- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
YR IAITH GYMRAEG
Wedi'i wneud
12 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2001
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol
Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch
Awdurdod Cwynion yr Heddlu
Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
Yr Awdurdod Radio
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol
Y Bwrdd Marchnata Gwlân
Byrddau Prawf Lleol yng Nghymru
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Y Comisiwn Gwella Iechyd
Y Comisiwn Hawliau Anabledd
Y Comisiwn Safonau Darlledu
Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol
Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Y Cyngor Ffilm
Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol
Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol
Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau
Panel Asesu Rhenti i Gymru
Syniad
UFI Cyf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Mae dau Orchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100).
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: