- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
DEINTYDDION, CYMRU
Wedi'i wneud
3 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 118(4), (6), (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984(2);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.—(1) At ddibenion galluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 (cofrestru cartrefi nyrsio) yn unig, 31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 39 o Ddeddf 2000 (estyn ystyr cartref nyrsio dros dro) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) 31 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i weddill adran 39 o Ddeddf 2000 ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
3.—(1) Os oes person (“y ceisydd”) wedi gwneud cais yn briodol cyn 31 Awst 2001 o dan adran 23(3) o Ddeddf 1984 mewn perthynas â safle yng Nghymru sy'n dod o fewn y disgrifiad yn adran 21(3B) o Ddeddf 1984 (ystyr cartref nyrsio) bydd paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys.
(2) Ni fydd adran 23(1) o Ddeddf 1984 (tramgwydd rhedeg cartref nyrsio heb ei gofrestru) yn gymwys i'r ceisydd—
(a)nes yr amser y caniateir y cais, neu
(b)os caiff y cais ei wrthod—
(i)os na ddygir apêl, nes bod 28 diwrnod wedi dod i ben ar ôl i benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyflwyno(3)); neu
(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 39 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (‘Deddf 2000’) i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 39 o Ddeddf 2000 yn diwygio adran 21 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 (‘Deddf 1984’) er mwyn estyn ystyr “nursing home” (‘cartref nyrsio’). Effaith y diwygiad yw ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n rhedeg safle a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol gofrestru'r safle hwnnw yn gartref nyrsio o dan Ran II o Ddeddf 1984, oni bai bod yr esemptiad yn gymwys. Mae'r esemptiad yn gymwys os yw'r safle yn cael ei ddefnyddio gan ymarferydd deintyddol er mwyn trin cleifion o dan anaesthesia gyffredinol ar ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae adran 39 yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2001, i alluogi ceisiadau am gofrestru i gael eu gwneud mewn perthynas â safleoedd sy'n dod yn gofrestradwy o'r newydd yn unig. Ar 31 Awst 2001 y daw gweddill adran 39 i rym.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Gall safleoedd sy'n gofrestradwy o'r newydd barhau i weithredu heb gofrestru ar ôl 31 Awst 2001, tra bydd y broses gofrestru yn mynd yn ei blaen, cyhyd â'u bod wedi gwneud cais am gofrestru cyn y dyddiad hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (‘y Ddeddf’) y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag ‘(a)’ eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â ‘(b)’ eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag ‘(c)’ eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70) ; a chafodd y rhai a ddilynir ag ‘(ch)’ eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80).
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adrannau 1–5 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3)–(5) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11–12 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14–15 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22–23 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33–35 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38(c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42–43 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48–52 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3)–(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107–108 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2)–(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 | 15 Medi 2000 |
Adran 100 | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 | 2 Hydref 2000 |
Adran 103 | 2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).
2000 p.14. Mae'r pŵer yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae swyddogaethau cofrestru'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 1984 wedi'u dirprwyo i awdurdodau iechyd yng Nghymru. Rhoddwyd y swyddogaethau hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf 1984 ond cawsant eu gwneud yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirprwyodd Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S.1996/708)) swyddogaethau cofrestru'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran II o Ddeddf 1984 i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru. Mae O.S. 1996/708 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel pe bai'r swyddogaethau hynny o dan Ddeddf 1984 a wnaed yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol gan OS 1999/672 ac a oedd wedi'u dirprwyo o'r blaen i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan O.S. 1996/70 wedi cael eu dirprwyo i'r awdurdodau iechyd yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol: gweler adrannau 23(3) a 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: