Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1784 (Cy. 126)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

1 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 114(1) a (4) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Grwpiau bwydydd

2.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhennir bwydydd i'r pedwar grŵ p canlynol—

A.Ffrwythau a llysiau. Mae'r rhain yn cynnwys ffrwythau a llysiau ar bob ffurf (yn ffres, ŵwedi'u rhewi, mewn tuniau, wedi'u sychu neu ar ffurf sudd).

B.Bwydydd startslyd. Mae'r rhain yn cynnwys bara, siapatis, pasta, nwdls, reis, tatws, miled, blawd india corn ac iamau.

C.Cig, pysgod a ffynonellau eraill protein heblaw cynhyrchion llaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cig a physgod ar bob ffurf (yn ffres, wedi'u rhewi, mewn tuniau neu wedi'u sychu) gan gynnwys cynhyrchion cig neu bysgod, wyau, cnau, corbys a ffa, heblaw ffa gwyrdd.

Ch.Llaeth a bwydydd llaeth. Mae'r rhain yn cynnwys llaeth, caws, iogwrt (gan gynnwys iogwrt wedi'i rewi ac iogwrt i'w yfed), fromage frais, ysgytlaeth a chwstard.

(2Ni fydd marjarîn, menyn, brasterau eraill i'w taenu, olewau a brasterau coginio, dresin salad wedi'i seilio ar olew, mayonnaise, hufen salad, hufen, siocled, creision, bisgedi, teisennau, cacennau, pwdinau, hufen-iâ, sawsiau bras, grefi, jam, diodydd ysgafn siwgrllyd, melysion, siwgr a jeli yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau uchod o fwydydd .

Gofynion maeth plant sy'n mynychu ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd

3.  Rhaid i fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd yn rhan o ginio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd.

Gofynion maeth disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion cynradd

4.—(1Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd heblaw ysgolion arbennig.

(2Rhaid trefnu bod bwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch ar gael bob dydd—

(a)o fewn grŵ p A, fel bod:

(i)ffrwythau ffres, ffrwythau tun mewn sudd neu salad ffrwythau ar gael bob dydd;

(ii)melysfwyd wedi'i seilio ar ffrwythau ar gael o leiaf ddwywaith mewn unrhyw wythnos;

(iii)math o lysieuyn (nad yw'n perthyn i grŵ p B) ar gael bob dydd;

(b)o fewn grŵ p B, fel nad yw braster neu olew yn cael ei ddefnyddio yn y broses goginio ar fwy na dau ddiwrnod mewn unrhyw wythnos. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;

(c)o fewn grŵ p C, fel bod:

(i)pysgod ar gael ar un diwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos;

(ii)darnau cig ar gael ar ddau ddiwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos.

(3At ddibenion cinio i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd, gall ffynonellau protein yng ngrŵ p C gynnwys cynhyrchion llaeth sy'n ffynonellau protein.

Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion uwchradd

5.—(1Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion uwchradd heblaw ysgolion arbennig.

(2Rhaid i ddau fath o fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd:

(a)o fewn grŵ p A, fel bod;

(i)ffrwythau ffres, ffrwythau tun mewn sudd neu salad ffrwythau ar gael bob dydd;

(ii)melysfwyd wedi'i seilio ar ffrwythau ar gael o leiaf ddwywaith mewn unrhyw wythnos;

(iii)dau fath o lysieuyn (nad ydynt yn perthyn i gŵ rp B) ar gael bob dydd;

(b)o fewn grŵ p B, fel bod bwyd sydd heb ei goginio mewn braster neu olew ar gael hefyd ar bob dydd y bydd bwyd sydd wedi'i goginio mewn braster neu olew ar gael. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;

(c)o fewn grŵ p C, fel bod

(i)pysgod ar gael ar ddau ddiwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos;

(ii)darnau cig ar gael ar dri diwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos.

Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig

6.  Rhaid cydymffurfio â gofynion naill ai Rheoliad 4 neu Reoliad 5 wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig cymunedol neu sefydledig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno safonau maeth ar gyfer cinio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol, sefydledig a gwirfoddol ac ysgolion arbennig cynradd ac uwchradd cymunedol a sefydledig.

(1)

1998 p.31. I gael ystyr “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/627).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources