- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 iddi a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989(2) (cyfrifo ffioedd), ym mharagraff (5), yn lle “£348” yn y ddau fan lle mae'n digwydd rhoddir “£354”.
3. Diddymir drwy hyn Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio 1999(3).
4. Pan gyflenwir offer ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, neu pan ddarperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol eraill, yn unol â chontract neu drefniant i ddarparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, bydd rheoliad 4(5) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 yn cael effaith mewn perthynas â'r cyflenwad hwnnw neu'r ddarpariaeth arall honno fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 i godi o £348 i £354 yr uchafswm sy'n daladwy gan y claf am driniaeth neu offer deintyddol, pan fydd y contract neu'r trefniant sy'n arwain at ddarparu triniaeth neu offer o'r fath yn cael ei wneud ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.
1977 p.49; gweler a.128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), a.26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), a.11(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 79A, a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
1989/394; O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 1999/544 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: