- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 2(1)a 4(1)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Y Ddarpariaeth Gymunedol | Y Pwnc | Uchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod |
Rhan I | ||
Rheoliad 894/97 | ||
Erthygl 11 | Darpariaethau ynghylch rhwydi drifft. | Yr uchafswm statudol |
Rhan II | ||
Rheoliad 850/981 | ||
1. Erthygl 4, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 5 a 10 | Darpariaethau ynghylch maint rhwyllau, y rhywogaethau a dargedir, a'r haldiad sy'n gyfreithiol wrth ddefnyddio offer sy'n cael eu tynnu. | Yr uchafswm statudol |
2. Erthygl 5(3) | Gwaharddiad ar drawslwytho heb lenwi coflyfr yn unol â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad 2847/93. | £50,000 |
3. Erthygl 6 | Cyfyngiad ar uchafswm y rhwyllau mewn offer penodol sy'n cael ei dynnu. | Yr uchafswm statudol |
4. Erthygl 7 | Darpariaethau ynghylch cynnwys panelau sgwâr o rwyllau mewn offer penodedig sy'n cael ei dynnu, a lleoliad y panelau hynny. | Yr uchafswm statudol |
5. Erthygl 8(1) a (2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 8(3) | Cyfyngiad ar drwch y llinyn mewn offer sy'n cael ei dynnu. | Yr uchafswm statudol |
6. Erthygl 9(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 9(2) | Gwaharddiad ar gario neu ddefnyddio offer sy'n cael ei dynnu a wnaed yn llwyr neu yn rhannol o rwydi heblaw'r mathau a bennwyd. | Yr uchafswm statudol |
7. Erthygl 11, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 12 a 13 | Cyfyngiadau ar ddefnyddio offer sefydlog penodedig neu eu cadw ar fwrdd y cwch. | Yr uchafswm statudol |
8. Erthygl 14 | Gofyniad i ddidoli haldiadau yn union ar ôl eu tynnu o'r rhwydi. | Yr uchafswm statudol |
9. Erthygl 15 | Gwaharddiad ar lanio neu gadw pysgod uwchlaw canrannau penodedig. | Yr uchafswm statudol |
10. Erthygl 16 | Gwaharddiad ar ddyfeisiau sy'n llesteirio rhwydi. | Yr uchafswm statudol |
11. Erthygl 18(3) | Gwaharddiad ar gadw a glanio cimychiaid, cimychiaid yr afon, a molysgiaid deufalf a gastropod oni bai eu bod yn gyfan. | Yr uchafswm statudol |
12. Erthygl 18(4) | Gwaharddiad ar gadw a glanio crancod bwytadwy oni bai eu bod yn gyfan, yn ddarostyngedig i uchafswm wedi'i fynegi fel canran ar gyfer cadw a glanio crafangau sydd wedi'u datod. | Yr uchafswm statudol |
13. Erthygl 19(1), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17, 18(1)-(2), 19(2)- (3) a 35 | Gwaharddiad ar gadw, trawslwytho, glanio, cludo, storio, gwerthu, cynnig gwerthu ac arddangos pysgod sy'n rhy fach. | Yr uchafswm statudol |
14. Erthygl 20(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 20(2) a (3) | Gwaharddiad ar bysgota am benwaig mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig. | £50,000 |
15. Erthygl 21(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 21(2) | Gwaharddiad ar bysgota am gorbenwaig mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig. | £50,000 |
16. Erthygl 22(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 22(2) a (3) | Gwaharddiad ar bysgota am fecryll mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig. | £50,000 |
17. Erthygl 23(1) | Gwaharddiad ar bysgota am frwyniaid â threillrwydi cefnforol yn Adran VIIIc ICES, a'u cadw ar fwrdd y cwch. | £50,000 |
18. Erthygl 23(2) | Gwaharddiad ar gario treillrwydi cefnforol a rhwydi crychu sân ar fwrdd y cwch ar yr un pryd yn Adran VIIIc ICES. | Yr uchafswm statudol |
19. Erthygl 24 | Gwaharddiad ar bysgota am diwna sgipjac a thiwna llygadfawr drwy ddefnyddio offer penodedig, a chadw'r rhywogaethau hyn ar fwrdd y cwch os cawsant eu dal â'r offer hyn, mewn ardaloedd penodedig o dan awdurdodaeth Sbaen a Phortiwgal. | £50,000 |
20. Erthygl 25(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 25(2) a (3) | Gwaharddiad ar gadw berdys ar fwrdd y cwch os cawsant eu dal ag offer penodedig. | £50,000 |
21. Erthygl 26(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 26(2) | Gwaharddiad ar gadw, trawslwytho, glanio, cludo, storio, gwerthu, cynnig gwerthu ac arddangos eogiaid a brithyllod môr a ddaliwyd drwy ddefnyddio offer yn cael ei dynnu neu o fewn dyfroedd penodedig. | Yr uchafswm statudol |
22. Erthygl 27(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 27(2) | Gwaharddiad ar gadw ar fwrdd y cwch swtaniaid Norwy a ddaliwyd drwy ddefnyddio offer yn cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig. | £50,000 |
23. Erthygl 28(1) | Gwaharddiad ar bysgota am gegdduod mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig. | £50,000 |
24. Erthygl 28(2) | Gwaharddiad ar gario offer penodedig mewn dyfroedd penodedig oni bai ei fod wedi'i rwymo ac wedi'i roi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93. | Yr uchafswm statudol |
25. Erthygl 29 | Cyfyngiadau ar bysgota am ledod gan gychod penodol drwy ddefnyddio offer penodedig mewn dyfroedd penodedig. | £50,000 |
26. Erthygl 30(1) | Darpariaethau ynghylch defnyddio offer dyfnforol yn cael ei dynnu. | Yr uchafswm statudol |
27. Erthygl 30(2) a (3) | Gwaharddiad ar ddefnyddio offer penodol sy'n cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain y Deyrnas Unedig ac yn Adran Vb ICES ac is-ardal VI ICES. Gwaharddiad ar gario offer penodol sy'n cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig oni bai ei fod wedi'i rwymo ac wedi'i roi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93. | Yr uchafswm statudol |
28. Erthygl 31(1) a (2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 41 | Gwaharddiad ar ddefnyddio ffrwydron, sylweddau cysgbeiriol neu gerrynt trydan i bysgota. Gwaharddiad ar werthu, arddangos neu gynnig gwerthu unrhyw organeddau morol a ddaliwyd drwy ddefnyddio dulliau sy'n cynnwys defnyddio unrhyw fath o daflegryn. | Yr uchafswm statudol |
29. Erthygl 32(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 32(2) a (3) | Darpariaethau ynghylch defnyddio offer graddio awtomatig. | Yr uchafswm statudol |
30. Erthygl 33(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 33(2) a 33(3) | Cyfyngiadau ar ddefnyddio treillrwydi trawst o fewn 12 milltir i arfordiroedd y Deyrmas Unedig ac Iwerddon. | Yr uchafswm statudol |
31. Erthygl 34 | Gwaharddiad ar amgylchynu mamaliaid morol â rhwydi crychu sân. | Yr uchafswm statudol |
32. Erthygl 35 | Cyfyngiadau ar gadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho, storio, cludo, arddangos neu gynnig gwerthu organeddau rhy fach a ddaliwyd yn y Skagerrak a'r Kattegat. | £50,000 |
33. Erthygl 36 | Gwaharddiad ar lanio, cadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho, storio, cludo, gwerthu, arddangos neu gynnig gwerthu eogiaid a brithyllod môr a ddaliwyd o fewn unrhyw ran o'r Skagerrak a'r Kattegat y tu allan i'r ffin pedair-milltir wedi'i mesur o waelodlinau'r Aelod-wladwriaethau. | £50,000 |
34. Erthygl 37(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 37(2) | Cyfyngiadau ar ddefnyddio treillrwydi penodol o fewn 3 milltir o'r gwaelodlinau yn y Skagerrak a'r Kattegat rhwng 1 Gorffennaf a 15 Medi. | £50,000 |
35. Erthygl 38 | Gwaharddiad ar gadw ar fwrdd y cwch benwaig, mecryll a chorbenwaig a ddaliwyd drwy ddefnyddio rhwydi crychu sân neu dreillrwydi rhwng amserau penodedig yn y Skagerrak neu'r Kattegat. | £50,000 |
36. Erthygl 39 | Gwaharddiad ar ddefnyddio treillrwydi trawst yn y Kattegat. | £50,000 |
37. Erthygl 40 | Gwaharddiad, yn ystod y cyfnodau ac yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yn Erthyglau 37, 38 a 39 lle na chaniateir defnyddio treillrwydi na threillrwydi trawst, ar gario'r rhwydi hyn ar fwrdd y cwch oni bai eu bod wedi'u rhwymo ac wedi'u rhoi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93. | Yr uchafswm statudol |
38. Erthygl 42(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 42(2) | Gwaharddiad ar brosesu pysgod (ac eithrio offal) yn gorfforol neu yn gemegol, neu eu trawslwytho i'w prosesu ar fwrdd cwch neu long pysgota er mwyn cynhyrchu blawd pysgod, olew pysgod, neu gynhyrchion tebyg. | Yr uchafswm statudol |
Rhan III | ||
Rheoliad 2742/99 | ||
Erthygl 9, fel y'i darllenir gydag: | ||
(a)paragraff 3 o Atodiad V | Gwaharddiad ar bob pysgota yn Nyfnfor Bornholm o 15 Mai i 31 Awst 2000 yn gynwysedig. | £50,000 |
(b)paragraff 4 o Atodiad V | Gwaharddiad yn ystod y flwyddyn 2000 ar lanio neu gadw ar fwrdd y cwch lymrïaid a ddaliwyd o fewn ardal a ffinnir gan arfordir dwyrain Lloegr a'r Alban. | £50,000 |
(c)paragraff 6 o Atodiad V | Defnyddio rhwyllau o 90mm o leiaf ar gyfer pysgota am ledod chwithig yn Adrannau IVc a VIId ICES yn ystod y flwyddyn 2000. | Yr uchafswm statudol |
(d)paragraff 8 o Atodiad V | Gofynion ynghylch sgil-haldiadau a maint rhwyllau yn y Skagerrak a'r Kattegat yn ystod y flwyddyn 2000. | Yr uchafswm statudol |
(e)paragraff 9 o Atodiad V | Lledod i fod yn 27cm o leiaf i gael eu glanio yn ystod y flwyddyn 2000. | Yr uchafswm statudol |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: