- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
24 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym
1 Awst 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 354(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
mae cyfeiriadau at y trydydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at y cyfnod a nodir yn adran 355(1)(c) o Ddeddf Addysg 1996; ac
mae cyfeiriadau at ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriadau at ieithoedd a bennwyd yn ieithoedd swyddogol sefydliadau'r Gymuned Ewropeaidd gan Erthygl 1 o Reoliad Rhif 1 Cyngor yr EEC dyddiedig Ebrill 15 1958(2).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Diddymir drwy hyn Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991(3) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Diwygio) 1994(4) mewn perthynas â Chymru.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 (y pynciau craidd a phynciau sylfaen eraill) ystyr “iaith dramor fodern” yw unrhyw iaith dramor fodern.
(2) Nid yw iaith dramor fodern nad yw'n un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn “iaith dramor fodern” at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 oni chaiff yr amod ym mharagraff (3) ei fodloni.
(3) Yr amod hwnnw yw bod yr ysgol lle mae'r iaith yn cael ei haddysgu yn cynnig cyfle i bob disgybl yn y trydydd cyfnod allweddol y mae'n ofynnol iddynt astudio iaith dramor fodern fel pwnc sylfaen astudio un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd fel pwnc sylfaen.
4.—(1) Caiff unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 ei benderfynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud penderfyniad o dan baragraff (1) yn dilyn cais gan unrhyw berson neu ar ei ysgogiad ei hun.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Gorffennaf 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae “iaith dramor fodern” yn un o bynciau sylfaen y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i gyfrif fel ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y dibenion hynny.
Ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yw'r ieithoedd a bennir gan y Gorchymyn ym mhob achos. Yn ychwanegol, yn achos ysgol lle cynigir cyfle i ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol astudio o leiaf un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd, mae'r Gorchymyn yn darparu bod “unrhyw” iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn hyn o beth, mae'n wahanol i Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991, y mae'n ei ddisodli, yn yr ystyr mai dim ond yr ieithoedd tramor modern hynny a restrwyd ynddo a bennwyd gan y Gorchymyn cynharach tra bod y Gorchymyn presennol yn pennu unrhyw iaith dramor fodern.
1996 p.56. Diwygir adran 354 gan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/1146) sy'n gymwys i Loegr a chan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1882 (Cy.192)) sy'n gymwys i Gymru.
O.J. 1958, 385; DJ 1952-58, 59. Diwygiwyd Erthygl 1 gan Ddeddfau Ymuno un ar ôl y llall. Ar ddyddiad y Gorchymyn hwn Almaeneg, Daneg, Eidaleg, Ffinneg, Ffrangeg, Groeg, Gwyddeleg, Iseldireg, Portiwgaleg, Saesneg, Sbaeneg a Swedeg yw'r ieithoedd swyddogol.
O.S. 1991/2567. Mae'r offeryn hwn wedi'i ddiwygio mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 1999/2214.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: