- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid dychwelyd bathodyn person anabl i'r awdurdod rhoi yn syth pan ddigwydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol —
(a)bod y cyfnod y rhoddwyd y bathodyn ar ei gyfer wedi dod i ben;
(b)marwolaeth y deiliad, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod;
(c)bod deiliad y bathodyn wedi peidio â bod yn berson anabl, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod yn gymwys o dan reoliad 5;
(ch)bod bathodyn wedi ei roi o dan reoliad 7 yn lle un a gollwyd neu a ddygwyd a bod y bathodyn gwreiddiol wedi ei ddarganfod neu wedi ei adfer;
(d)bod y bathodyn wedi ei ddifrodi neu wedi colli ei liw gymaint fel nad yw'n eglur ddarllenadwy pan arddangosir ef ar gerbyd modur;
(dd)nad oes ar y deiliad angen y bathodyn mwyach.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth rheoliad 10, rhaid dychwelyd bathodyn person anabl i'r awdurdod rhoi o fewn y cyfnod a ragnodwyd, os yw'r awdurdod yn rhoddi hysbysiad i'r deiliad —
(a)yn datgan bod yr awdurdod yn gwrthod caniatáu i'r bathodyn barhau i gael ei ddefnyddio oherwydd bod camddefnydd wedi arwain at gollfarn berthnasol ar o leiaf dri achlysur gan roi manylion y camddefnydd hwnnw; neu
(b)yn datgan bod yr awdurdod wedi'i fodloni bod y bathodyn wedi ei gael drwy anwiredd.
(3) At ddibenion paragraff (2), y cyfnod a ragnodwyd yw —
(a)os na wneir apêl yn unol â rheoliad 10, y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad o dan baragraff (2) uchod;
(b)os gwneir apêl yn unol â rheoliad 10(1) ac na chaniateir yr apêl, bydd y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoddi hysbysiad o'i benderfyniad ar yr apêl.
(4) Caiff yr awdurdod rhoi gymryd unrhyw gamau sy'n briodol i gael bathodyn person anabl yn ôl y mae'r deiliad yn gorfod ei ddychwelyd yn unol â'r rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: