Search Legislation

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1786 (Cy. 123 )

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

29 Mehefin 2000

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (1) a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol (2) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori â Chyngor y Tribwnlysoedd yn unol ag adran 21(7E) o'r Ddeddf honno, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN IRHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod rhoi” (“issuing authority”), mewn perthynas â bathodyn person anabl, yw'r awdurdod lleol a roddodd y bathodyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “bathodyn person anabl” (“disabled person’s badge”), yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, yw bathodyn ar y ffurf a ragnodir gan reoliad 11, ac a roddir gan awdurdod lleol er mwyn ei arddangos ar gerbyd modur a yrrir gan berson anabl neu i gario person anabl, ac mae'n cynnwys bathodyn yn lle un a gollwyd ayb. a roddir yn unol â rheoliad 7;

ystyr “bathodyn sefydliad” (“institutional badge”) yw bathodyn person anabl a roddir i sefydliad;

ystyr “bathodyn unigolyn” (“individual’s badge”) yw bathodyn person anabl a roddir i berson anabl unigol;

ystyr “consesiwn person anabl” (“disabled person’s concession”) yw'r ystyr a roddir gan adran 117(3) o Ddeddf 1984;

ystyr “deiliad” (“holder”), mewn perthynas â bathodyn person anabl, yw'r unigolyn neu'r sefydliad y rhoddwyd y bathodyn person anabl iddo;

ystyr “Deddf 1970” (“the 1970 Act”) yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (3);

ystyr “person anabl” (“disabled person”) yw person dros ddwy flwydd oed sydd yn cyfateb ag o leiaf un o'r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 4(2);

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw'r ystyr a roddir gan reoliad 3(1) isod; ac

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw sefydliad sy'n ymwneud â gofalu am bersonau anabl y gellir rhoi bathodyn person anabl iddo yn unol ag adran 21(4) o Ddeddf 1970.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 yn gyfeiriad at orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan y ddarpariaeth honno, gan gynnwys gorchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud o dan y Ddeddf honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “collfarn berthnasol” (“relevant conviction”) yw

(a)unrhyw gollfarn yn erbyn —

(i)deiliad bathodyn person anabl; neu

(ii)unrhyw berson arall a ddefnyddiodd fathodyn o'r fath gyda chydsyniad y deiliad;

o dramgwydd a bennir ym mharagraff (4); neu

(b)unrhyw gollfarn yn erbyn person heblaw deiliad bathodyn person anabl am dramgwydd o dan adran 117(1) o Ddeddf 1984 pan arddangoswyd bathodyn ar y cerbyd gyda chydsyniad y deiliad ar unrhyw adeg tra oedd y dramgwydd yn cael ei chyflawni.

(4Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (3)(a) uchod yw —

(a)unrhyw dramgwydd o dan adrannau 5, 8, 11 neu 16(1) o Ddeddf 1984 i'r graddau y mae'n ymwneud â thorri neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn wedi'i wneud o dan adrannau 1, 6, 9 neu 14 o'r Ddeddf honno—

(i)sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar aros gan gerbydau ar unrhyw ffordd neu ran o ffordd; neu

(ii)sy'n ymwneud ag unrhyw faterion a grybwyllwyd ym mharagraff 7 neu 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno; neu

(b)unrhyw dramgwydd o dan adrannau 35A(1) a (2), 47(1), 53(5), 53(6) neu 117(1) o'r Deddf honno.

(5Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.

(6At ddibenion rheoliadau 12 i 16 bydd diffiniad “bathodyn person anabl” ym mharagraff (1) uchod yn cynnwys bathodyn a roddwyd o dan reoliadau sy'n effeithiol yn Lloegr neu'r Alban o dan adran 21 o Ddeddf 1970.

Diddymu Rheoliadau 1982 a darpariaethau trosiannol

3.—(1Diddymir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 1982 (4) (a elwir yn y Rheoliadau hyn “Rheoliadau 1982”).

(2Heb ragfarn i adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 (5)

(a)bydd unrhyw gais i awdurdod lleol, o dan Reoliadau 1982 neu unrhyw beth arall wedi'i wneud cyn i'r Rheoliadau hyn ddod yn effeithiol gan awdurdod lleol yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny yn effeithiol fel petai wedi ei wneud neu wedi ei gyflawni o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hyn a gellir ei barhau yn yr un modd;

(b)bydd unrhyw fathodyn a roddwyd gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan Reoliadau 1982 yn effeithiol fel petai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn a bydd yn parhau mewn grym

(i)nes y digwydd un o'r pethau a bennir yn rheoliad 9(1) neu y rhoddir hysbysiad yn unol â rheoliad9(2);neu

(ii)nes rhoi bathodyn yn lle un arall yn unol â rheoliad 7.

(3Bydd unrhyw orchymyn wedi'i wneud o dan Ddeddf 1984 sy'n cyfeirio at fathodyn person anabl, mewn perthynas ag unrhyw amserau ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn effeithiol fel petai'r cyfeiriad yn cynnwys cyfeiriad at fathodyn a roddwyd, neu yn effeithiol fel petai wedi ei roi, yn unol â'r Rheoliadau hyn.

RHAN IIRHOI BATHODYNNAU, EU PARHAD, A'U DIDDYMU

Disgrifiadau o bersonau anabl

4.—(1Y disgrifiadau rhagnodedig o berson anabl y gall awdurdod lleol roi bathodyn person anabl iddo yw person dros ddwy flwydd oed sydd yn cyfateb ag un neu fwy o'r disgrifiadau a bennir ym mharagraff (2).

(2Y disgrifiadau yw person sydd —

(a)yn derbyn y cyfradd uwch o gydran symudedd y lwfans byw i'r anabl yn unol ag adran 73 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (6);

(b)yn defnyddio cerbyd modur a ddarparwyd gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol neu Weithrediaeth yr Alban neu sy'n derbyn grant yn unol ag adran 5(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (7) neu adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978 (8);

(c)wedi'i gofrestru'n ddall o dan adran 29(4)(g) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (9)) neu, yn yr Alban, sydd yn berson dall o fewn ystyr adran 64(1) o'r Deddf honno;

(ch)yn derbyn atodiad symudedd o dan erthygl 26A o Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth y Lluoedd Morwrol, Milwrol ac Awyrol ayb. (Anabledd a Marwolaeth) 1983 (10) gan gynnwys unrhyw atodiad yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Gweithwyr Sifil) 1983 (11);

(d)yn gyrru cerbydau modur yn rheolaidd; sydd ag anabledd difrifol i'w ddwy fraich a heb allu defnyddio'i ddwylo i droi llyw cerbyd modur hyd yn oed os oes nobyn troi wedi'i ffitio i'r llyw; neu

(dd)ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn.

Bathodynnau sefydliad

5.  Caiff awdurdod roi bathodyn sefydliad i sefydliad ar gyfer cerbyd modur pan fydd y cerbyd i'w ddefnyddio i gario personau anabl fel y'i pennir yn rheoliad 4(2).

Ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi

6.—(1Ni chaiff awdurdod lleol godi ffi o fwy na £2 am roi bathodyn person anabl.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 7(2) a 9, rhoddir bathodyn person anabl am gyfnod o dair blynedd yn dechrau gyda'r dyddiad rhoi.

Bathodynnau yn lle rhai a gollwyd ayb

7.—(1Pan fydd bathodyn person anabl (“y bathodyn gwreiddiol”) wedi ei golli, wedi ei ddwyn neu wedi ei ddinistrio, neu wedi ei ddifrodi neu wedi colli ei liw gymaint fel nad yw'n ddigon ddarllenadwy pan arddangosir ef ar gerbyd modur, gellir rhoi bathodyn yn lle hwnnw gyda'r gair “dyblygiad” wedi ei farcio ar ei flaen.

(2Bydd bathodyn yn lle un arall yn ddilys o'r dyddiad y'i rhoddir hyd nes y byddai'r bathodyn gwreiddiol wedi peidio â bod yn ddilys.

Seiliau dros wrthod rhoi bathodyn

8.—(1Gall awdurdod lleol wrthod rhoi bathodyn ar unrhyw un o'r seiliau â bennir ym mharagraff (2).

(2Y seiliau yw —

(a)bod y ceisydd yn dal neu wedi dal bathodyn a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau 1982 a bod camddefnydd wedi arwain at o leiaf dair collfarn berthnasol;

(b)bod y ceisydd yn methu â rhoi i'r awdurdod lleol dystiolaeth ddigonol —

(i)yn achos unigolyn, ei fod yn berson sy'n cyfateb ag un neu fwy o'r disgrifiadau a ragnodwyd gan reoliad 4;

(ii)yn achos sefydliad, ei fod yn sefydliad sy'n gymwys i wneud cais am fathodyn person anabl yn unol â rheoliad 5;

(c)bod y ceisydd yn methu â thalu'r ffi (os oes un) sy'n daladwy am roi bathodyn; neu

(ch)bod gan yr awdurdod lleol seiliau rhesymol dros gredu —

(i)nad y person a honnir yw'r ceisydd; neu

(ii)y byddai'r ceisydd yn caniatáu i berson arall (na roddwyd y bathodyn iddo) arddangos y bathodyn ar gerbyd modur.

(3Pan gaiff awdurdod lleol gais am fathodyn person anabl ac yn gwrthod rhoi un, rhaid iddo roi manylion o'r seiliau dros wrthod i'r ceisydd yn yr hysbysiad penderfynu.

Dychwelyd bathodyn i'r awdurod rhoi

9.—(1Rhaid dychwelyd bathodyn person anabl i'r awdurdod rhoi yn syth pan ddigwydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol —

(a)bod y cyfnod y rhoddwyd y bathodyn ar ei gyfer wedi dod i ben;

(b)marwolaeth y deiliad, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod;

(c)bod deiliad y bathodyn wedi peidio â bod yn berson anabl, neu, yn achos bathodyn sefydliad, fod y sefydliad wedi peidio â bod yn gymwys o dan reoliad 5;

(ch)bod bathodyn wedi ei roi o dan reoliad 7 yn lle un a gollwyd neu a ddygwyd a bod y bathodyn gwreiddiol wedi ei ddarganfod neu wedi ei adfer;

(d)bod y bathodyn wedi ei ddifrodi neu wedi colli ei liw gymaint fel nad yw'n eglur ddarllenadwy pan arddangosir ef ar gerbyd modur;

(dd)nad oes ar y deiliad angen y bathodyn mwyach.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth rheoliad 10, rhaid dychwelyd bathodyn person anabl i'r awdurdod rhoi o fewn y cyfnod a ragnodwyd, os yw'r awdurdod yn rhoddi hysbysiad i'r deiliad —

(a)yn datgan bod yr awdurdod yn gwrthod caniatáu i'r bathodyn barhau i gael ei ddefnyddio oherwydd bod camddefnydd wedi arwain at gollfarn berthnasol ar o leiaf dri achlysur gan roi manylion y camddefnydd hwnnw; neu

(b)yn datgan bod yr awdurdod wedi'i fodloni bod y bathodyn wedi ei gael drwy anwiredd.

(3At ddibenion paragraff (2), y cyfnod a ragnodwyd yw —

(a)os na wneir apêl yn unol â rheoliad 10, y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad o dan baragraff (2) uchod;

(b)os gwneir apêl yn unol â rheoliad 10(1) ac na chaniateir yr apêl, bydd y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoddi hysbysiad o'i benderfyniad ar yr apêl.

(4Caiff yr awdurdod rhoi gymryd unrhyw gamau sy'n briodol i gael bathodyn person anabl yn ôl y mae'r deiliad yn gorfod ei ddychwelyd yn unol â'r rheoliad hwn.

Apelau

10.—(1Caiff ceisydd am fathodyn person anabl y gwrthodwyd ei gais ar y sail a bennir yn rheoliad 8(2)(a) neu ddeiliad bathodyn y gofynnwyd iddo ei ddychwelyd yn unol â rheoliad 9(2) apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Gwneir yr apêl drwy hysbysiad a roddir o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi hysbysiad o'r penderfyniad a bydd y weithdrefn a bennir yn narpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, ac eithrio, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod hynny'n briodol mewn achos penodol, y caiff yntau benderfynu ar apêl er na chydymffurfiwyd â pharagraffau (3) i (5).

(3Rhaid i hysbysiad yr apêl gael ei ddyddio a'i lofnodi gan yr apelydd (neu gan berson a awdurdodwyd i lofnodi ar ei ran) a rhaid iddo ddatgan seiliau'r apêl.

(4Rhaid cyflwyno hysbysiad yr apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol naill ai drwy ei bostio mewn amlen a dalwyd ymlaen llaw neu drwy ei thraddodi'n bersonol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(5Pan ddaw'r apêl i law rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi ohoni at yr awdurdod lleol yr apelir yn erbyn ei benderfyniad ac, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad apêl, rhaid i'r awdurdod lleol anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)copi o'r hysbysiad a roddwyd ganddo i'r apelydd yn unol â rheoliad 8(3) neu 9(2); a

(b)unrhyw sylwadau y mae'n dymuno i'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl.

(6Caiff yr apelydd wneud sylwadau mewn ymateb i sylwadau'r awdurdod lleol o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad y sylwadau hynny.

(7Rhaid i unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod lleol neu'r apelydd gael eu harwyddo a'u dyddio a'u hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad sydd arnynt.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw achos penodol roi cyfarwyddiadau yn pennu terfynau amser hwyrach na'r rhai a ragnodir gan y Rheoliadau.

(9Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ar yr apêl rhaid iddo—

(a)hysbysu'r apelydd o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto; a

(b)anfon copi o'r hysbysiad at yr awdurdod lleol.

(10Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod apêl, rhaid i'r apelydd ddychwelyd y bathodyn person anabl i'r awdurdod lleol o fewn yr amser a ragnodir gan reoliad 9(3)(b).

(11Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at sylwadau yn cynnwys cyfeiriad at ddogfennau cefnogol.

RHAN IIIFFURF BATHODYNNAU A'U HARDDANGOS

Ffurf Bathodyn

11.  Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig –

(a)os yw'r blaen a'r cefn yn y ffurf a ddangosir –

(i)yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn achos bathodyn unigolyn; neu

(ii)yn Rhan II o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad; a

(b)os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylebau yn Rhan III o'r Atodlen.

Y modd y mae bathodyn i gael ei arddangos

12.  At ddibenion adran 21(4A) o Ddeddf 1970, mae bathodyn person anabl yn cael ei arddangos ar gerbyd yn y modd rhagnodedig —

(a)os yw'r bathodyn yn cael ei arddangos ar ddangosfwrdd neu banel deialau y cerbyd, neu

(b)pan nad oes gan y cerbyd ddangosfwrdd neu banel deialau, os arddangosir y bathodyn mewn lle amlwg ar y cerbyd, fel bod blaen y bathodyn yn eglur ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd.

Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd yn cael ei yrru

13.—(1At ddibenion adran 21(4A) o Ddeddf 1970, rhagnodir yn y rheoliad hwn yr amgylchiadau pan y ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd sy'n cael ei yrru.

(2Ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd tra bydd y deiliad naill ai yn ei yrru neu'n cael ei gario ynddo.

(3Ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd hefyd—

(a)os yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu'r deiliad ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall;

(b)os yw consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac

(c)y byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon i'r man lle mae'r deiliad i gael ei gasglu, neu stopio yno, pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.

(4Ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd —

(a)os yw'r cerbyd, wedi cael ei yrru gan y deiliad neu i'w gario, yn ymadael â'r man lle yr aeth y deiliad o'r cerbyd;

(b)os yw consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac

(c)os byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon o'r man hwnnw pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.

Arddangos bathodyn unigolyn pan fydd cerbyd wedi ei barcio

14.—(1At ddibenion adran 21(4A) o Ddeddf 1970, rhagnodir yn y rheoliad hwn yr amgylchiadau pan y ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd sydd wedi ei barcio.

(2Ceir arddangos bathodyn unigolyn ar gerbyd sydd wedi ei barcio —

(a)os yw'r cerbyd wedi cael ei yrru gan y deiliad, neu i'w gario i'r man lle y parciwyd y cerbyd; neu

(b)os yw'r cerbyd i gael ei yrru gan y deiliad, neu i'w gario o'r man hwnnw.

Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd yn cael ei yrru

15.—(1At ddibenion adran 21(4A) o Ddeddf 1970, rhagnodir yn y rheoliad hwn yr amgylchiadau pan y ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd sy'n cael ei yrru.

(2Ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd tra bydd yn cael ei yrru gan neu ar ran y deiliad ac yn cario person anabl.

(3Ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd hefyd tra bydd yn cael ei yrru gan neu ar ran y deiliad ac—

(a)mae'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu person anabl ac nid ar gyfer unrhyw ddiben arall;

(b)mae consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac

(c)y byddai'n anymarferol i'r cerbyd gael ei yrru'n gyfreithlon i'r man lle mae'r person anabl i gael ei gasglu, neu stopio yno, pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.

(4Ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd hefyd tra bydd yn cael ei yrru gan neu ar ran y deiliad ac —

(a)mae'r cerbyd, wedi cario person anabl, yn ymadael â'r man lle yr aeth y person anabl o'r cerbyd;

(b)mae consesiwn person anabl (ar wahân i gonsesiwn yn ymwneud â pharcio) ar gael i gerbyd sy'n arddangos yn gyfreithlon fathodyn person anabl; ac

(c)y byddai'n anymarferol i'r cerbyd ymadael â'r man hwnnw pe na bai'r consesiwn yn gymwys i'r cerbyd.

Arddangos bathodyn sefydliad pan fydd cerbyd wedi ei barcio

16.—(1At ddibenion adran 21(4A) o Ddeddf 1970, rhagnodir yn y rheoliad hwn yr amgylchiadau pan y ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd sydd wedi ei barcio.

(2Ceir arddangos bathodyn sefydliad ar gerbyd sydd wedi ei barcio os yw wedi ei ddefnyddio neu os yw i gael ei ddefnyddio gan neu ar ran y deiliad, i gario person anabl i'r man lle y parciwyd y cerbyd neu oddi yno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12).

D Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2000

(rheoliad 11)

YR ATODLEN

Rhan IFFURF BATHODYN SEFYDLIAD

(rheoliad 11)

YR ATODLEN

Rhan IIFFURF BATHODYN SEFYDLIAD

RHAN IIIMANYLION AR GYFER BATHODYN

Rhaid i'r bathodyn fod fel a ganlyn:

  • 106 milimetr o ran uchder;

  • 148 milimetr o ran lled;

  • rhaid i'r cefndir ar flaen a chefn y bathodyn fod wedi'i liwio'n las golau a rhaid iddo gynnwys cefndir o symbolau cadair olwyn;

  • rhaid i'r blwch sgwâr sy'n cynnwys symbol y gadair olwyn a'r blwch hirsgwar sy'n cynnwys dynodydd y wlad fod wedi'u lliwio'n las tywyll. Rhaid i bob blwch arall ar y bathodyn fod wedi'u lliwio'n wyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren.

Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Yn rheoliad 2 pennir ystyron termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 3 yn dirwyn i ben effaith y rheoliadau blaenorol (Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) 1982) yng Nghymru, heblaw am agweddau trosiannol a ddisgrifir yn y Rheoliad hwn.

Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi'r personau hynny y gellir rhoddi bathodyn iddynt, a rheoliad 5 yn rhoi'r hawl i awdurdod lleol hefyd i roi bathodyn i sefydliad.

Rheoliad 6 sy'n pennu'r ffi uchaf y caiff awdurdod lleol ei mynnu (£2.00) ac mae rheoliad 7 yn delio â rhoi bathodyn yn lle un a gollwyd ayb.

Rheoliad 8 sy'n dweud pryd caiff awdurdod lleol roi hysbysiad yn gwrthod rhoi bathodyn a rheoliad 9 pryd y caiff roi hysbysiad yn mynnu bathodyn yn ôl.

Bydd gan unigolyn neu sefydliad hawl i wneud apêl yn erbyn hysbysiad o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rhoddir y drefn ar gyfer gwneud hynny yn rheoliad 10.

Rheoliad 11 sy'n rhagnodi ffurf y bathodyn drwy gyfeirio at Atodlen a rheoliad 12 sut y mae'n rhaid ei arddangos.

Yn rheoliadau 13 i 16 disgrifir yr amgylchiadau pryd y ceir arddangos bathodyn.

Bwriedir gwneud rheoliadau pellach fydd yn pennu'r drefn ar gyfer cynnal apeliadau o dan reoliad 10 i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn ymgynghori priodol.

(1)

1970 p.44; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), Atodlen 30; Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973 (p.65), Atodlen 14; Deddf Trafnidiaeth 1982 (p.49),adran 68; Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen13, paragraff 11; Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5; Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35, Atodlen 8; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 10, paragraff 8; a Deddf Llywodraeth Leol ayb. (Yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen13, paragraff 86.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 1982/1740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/2708 a 1992/200. Nid yw'r Rheoliadau hyn bellach yn gymwys yn Lloegr yn rhinwedd Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/682) nac yn yr Alban yn rhinwedd Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Yr Alban) 2000 (O.S.A. 2000/59).

(12)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources