Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1717 (Cy. 117)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

22 Mehefin 2000

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(2) a (3), 138(8) a 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn –

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “cyfran ysgol o'r gyllideb” (“school’s budget share”) yw cyfran ysgol o'r gyllideb o fewn ystyr adran 47(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “datganiad alldro” (“outturn statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(2) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyhoeddi yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1998 a Rheoliadau 1999;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999(3);

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) 1995(4) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) (Diwygio a Diddymu)1996(5) wedi'u diddymu yn gymaint â'u bod yn gymwys i ddatganiadau alldro (fel y'u diffiniwyd ynddynt) awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

(2Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1996 neu wedyn a chyn 1 Ebrill 2000.

Ffurf datganiadau alldro

4.—(1Rhaid paratoi datganiad alldro mewn dwy ran.

(2Rhaid i bob rhan gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.

Gwybodaeth ar gyfer datganiadau alldro

5.—(1Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan I o unrhyw ddatganiad alldro yw—

(a)(i)swm y gwariant (net a gros) a dynnwyd mewn gwirionedd gan yr awdurdod (neu a driniwyd gan yr awdurdod fel pe bai wedi'i dynnu), a

(ii)swm yr incwm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i'r ysgolion a gynhelir ganddynt,

yn y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati drwy gyfeirio at gategorïau sy'n cyfateb i bob un o'r materion y mae Rheoliadau 1999 yn gofyn eu bod yn cael eu cynnwys yn Rhan I o ddatganiad cyllideb yr awdurdod am y flwyddyn honno;

(b)yn gyfochrog â'r datganiad o bob swm o'r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) (i) a (ii), swm y ddarpariaeth ariannol gynlluniedig neu amcangyfrif o'r incwm, yn ôl fel y digwydd, a bennwyd yn natganiad cyllideb yr awdurdod ar gyfer y mater hwnnw;

(c)Y ffigur canrannol y mae'n ofynnol ei osod, yn unol â Nodyn H2(6) i Ran I o ddatganiad cyllideb, yng ngholofn (h) o'r datganiad hwnnw; ac

(ch)mewn perthynas â phob un o'r categorïau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) uchod, y gwariant a dynnwyd mewn gwirionedd gan yr awdurdod mewn perthynas â phob categori, ar ôl didynnu unrhyw incwm a gafwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â'r categori hwnnw ac a ddyrannwyd i'r ysgolion a gynhelir ganddynt (p'un a'i dirprwywyd i ysgolion unigol neu beidio), wedi'i fynegi fel canran o gyllideb ysgolion lleol yr awdurdod.

(2Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan 2 o ddatganiad alldro, mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw —

(a)swm cyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati ac a gynhwyswyd yn Rhan 2 o ddatganiad cyllideb yr awdurdod;

(b)manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(7);

(c)manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (b);

(ch)y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno;

(d)y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;

(dd)y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;

(e)cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod;

(f)unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).

Dull cyhoeddi datganiadau alldro

6.  Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi —

(a)drwy roi copi i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7; a

(b)drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl yn holl swyddfeydd addysg yr awdurdod.

7.—(1Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.

Amser cyhoeddi datganiadau alldro

8.  Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mehefin 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel “datganiad alldro”) y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8)

Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau cynharach sy'n cael eu diddymu (rheoliad 3).

(1)

1998 p.31. Am ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

Gweler Atodlen 1 i Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (O.S. 1999/101).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources