Offerynnau Statudol Cymru
2000 Rhif 1717 (Cy. 117)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000
Wedi'u gwneud
22 Mehefin 2000
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2000
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn –
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “cyfran ysgol o'r gyllideb” (“school’s budget share”) yw cyfran ysgol o'r gyllideb o fewn ystyr adran 47(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad alldro” (“outturn statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(2) o Ddeddf 1998;
ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyhoeddi yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1998 a Rheoliadau 1999;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999(3);
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw.
Diddymu a darpariaethau trosiannol
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) 1995(4) a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Ariannol Ysgolion) (Manylion Penodedig etc.) (Diwygio a Diddymu)1996(5) wedi'u diddymu yn gymaint â'u bod yn gymwys i ddatganiadau alldro (fel y'u diffiniwyd ynddynt) awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
(2) Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1996 neu wedyn a chyn 1 Ebrill 2000.
Ffurf datganiadau alldro
4.—(1) Rhaid paratoi datganiad alldro mewn dwy ran.
(2) Rhaid i bob rhan gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
Gwybodaeth ar gyfer datganiadau alldro
5.—(1) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan I o unrhyw ddatganiad alldro yw—
(a)(i)swm y gwariant (net a gros) a dynnwyd mewn gwirionedd gan yr awdurdod (neu a driniwyd gan yr awdurdod fel pe bai wedi'i dynnu), a
(ii)swm yr incwm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i'r ysgolion a gynhelir ganddynt,
yn y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati drwy gyfeirio at gategorïau sy'n cyfateb i bob un o'r materion y mae Rheoliadau 1999 yn gofyn eu bod yn cael eu cynnwys yn Rhan I o ddatganiad cyllideb yr awdurdod am y flwyddyn honno;
(b)yn gyfochrog â'r datganiad o bob swm o'r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) (i) a (ii), swm y ddarpariaeth ariannol gynlluniedig neu amcangyfrif o'r incwm, yn ôl fel y digwydd, a bennwyd yn natganiad cyllideb yr awdurdod ar gyfer y mater hwnnw;
(c)Y ffigur canrannol y mae'n ofynnol ei osod, yn unol â Nodyn H2(6) i Ran I o ddatganiad cyllideb, yng ngholofn (h) o'r datganiad hwnnw; ac
(ch)mewn perthynas â phob un o'r categorïau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) uchod, y gwariant a dynnwyd mewn gwirionedd gan yr awdurdod mewn perthynas â phob categori, ar ôl didynnu unrhyw incwm a gafwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â'r categori hwnnw ac a ddyrannwyd i'r ysgolion a gynhelir ganddynt (p'un a'i dirprwywyd i ysgolion unigol neu beidio), wedi'i fynegi fel canran o gyllideb ysgolion lleol yr awdurdod.
(2) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan 2 o ddatganiad alldro, mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw —
(a)swm cyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati ac a gynhwyswyd yn Rhan 2 o ddatganiad cyllideb yr awdurdod;
(b)manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(7);
(c)manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (b);
(ch)y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno;
(d)y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(dd)y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(e)cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod;
(f)unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).
Dull cyhoeddi datganiadau alldro
6. Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi —
(a)drwy roi copi i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7; a
(b)drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl yn holl swyddfeydd addysg yr awdurdod.
7.—(1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.
Amser cyhoeddi datganiadau alldro
8. Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mehefin 2000
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel “datganiad alldro”) y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8)
Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau cynharach sy'n cael eu diddymu (rheoliad 3).
1998 p.31. Am ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Gweler Atodlen 1 i Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (O.S. 1999/101).