- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989(1).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y mae ei chynnwys wedi'i nodi yng ngholofn (2)), rhoddir y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
3. Os, ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny–
(a)y bydd unrhyw offer a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn cael ei gyflenwi yn unol ag archeb a roddir cyn y dyddiad hwnnw; neu
(b)y bydd unrhyw dystysgrif ragdalu yn cael ei rhoi o dan reoliad 8 o'r prif Reoliadau yn unol â chais o dan y rheoliad hwnnw a gafwyd cyn y dyddiad hwnnw,
bydd y prif Reoliadau yn cael effaith mewn perthynas â chyflenwi'r offer neu, yn ôl y digwydd, rhoi'r dystysgrif fel pe na bai rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: