- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. –
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Mai 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Drwy hyn diddymir rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981(1).
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sydd wrthi yn bennaf yn darparu addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;
ystyr “y flwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n diweddu gyda dechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol; ac
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.
3. –
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.
(2) Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.
(3) Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.
(4) Ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas:
Ar yr amod y bydd yn ddigonol darparu gweithgareddau addas am awr a hanner i ddisgybl ar ddiwrnod pan fydd y disgybl—
yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin sy'n cyfarfod am un sesiwn yn unig; neu
yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin am un sesiwn yn unig allan o ddwy sesiwn.
(5) Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod ar ddau o'r dyddiau hynny un sesiwn yn unig.
4. –
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fydd sesiwn ysgol yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2001 wedi'i neilltuo yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol honno.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol.
(3) Mae paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas â chyfanswm o chwe sesiwn ysgol yn unig, a phan fydd mwy na phedair sesiwn ysgol wedi'u neilltuo yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo ar gyfer athrawon yn yr ysgol, y mae'n rhaid i ddwy o'r sesiynau hynny o leiaf fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Ebrill 2000
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: