Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2000 Rhif 1323 (Cy.101)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Ebrill 2000

Yn dod i rym

1 Mai 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

1.  

(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Mai 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Drwy hyn diddymir rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981(3).

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sydd wrthi yn bennaf yn darparu addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “y flwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n diweddu gyda dechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol; ac

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.

3.  

(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.

(2Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.

(3Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.

(4Ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas:

  • Ar yr amod y bydd yn ddigonol darparu gweithgareddau addas am awr a hanner i ddisgybl ar ddiwrnod pan fydd y disgybl—

    (a)

    yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin sy'n cyfarfod am un sesiwn yn unig; neu

    (b)

    yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin am un sesiwn yn unig allan o ddwy sesiwn.

(5Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod ar ddau o'r dyddiau hynny un sesiwn yn unig.

4.  

(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fydd sesiwn ysgol yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2001 wedi'i neilltuo yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol honno.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol.

(3Mae paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas â chyfanswm o chwe sesiwn ysgol yn unig, a phan fydd mwy na phedair sesiwn ysgol wedi'u neilltuo yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo ar gyfer athrawon yn yr ysgol, y mae'n rhaid i ddwy o'r sesiynau hynny o leiaf fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Ebrill 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981 mewn perthynas â Chymru yn unig.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu na cheir trin mwy na chwe sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol yn ystod y cyfnod 1 Mai 2000 i 31 Gorffennaf 2001 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol. Pan neilltuir mwy na phedair sesiwn ysgol i hyfforddiant o'r fath yn ystod y cyfnod hwnnw rhaid i o leiaf ddwy fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.

(1)

1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Am ystyr “regulations” gweler adrani 579(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1981/1086; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1987/879, 1990/2259 a 1998/2792.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources