- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Mae erthygl 6 yn gymwys i ddosbarth ar hereditamentau y mae'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u cyflawni yn eu cylch.
(2) Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod —
(a)yr hereditament yn cynnwys tir, peiriannau neu adeiladau a ddefnyddir at gynhyrchu trydan, neu sydd ar gael i gynhyrchu trydan a bod y defnydd hwnnw yn unig neu'n brif swyddogaeth yr hereditament a
(b)y peiriannau cynhyrchu naill ai —
(i)yn defnyddio pŵ er gwynt, llanw, neu ddŵ r fel eu prif ffynhonnell ynni; neu
(ii)a chanddynt allu cynhyrchu net a ddatgenir o 500 cilowat neu ragor.
(3) Wrth benderfynu ai cynhyrchu trydan yw prif swyddogaeth hereditament, rhaid peidio â chymryd sylw o hyn o wres a gynhyrchir yn yr hereditament neu arno ac a gynhyrchir at ddibenion nad ydynt yn ddibenion cynhyrchu trydan.
6.—(1) Yn achos hereditament sy'n dod o fewn y dosbarth a bennir yn erthygl 5, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf(1) yn gymwys, a bydd ei werth ardrethol, yn ystod unrhyw flwyddyn, pan fydd effaith i'r rhestr berthnasol, yn swm cyfartal â'r swm cymwysadwy.
(2) Y “swm cymwysadwy” at ddibenion paragraff (1) yw'r swm fesul megawat o allu cynhyrchu net a ddatgenir o'r peiriannau cynhyrchu yn yr hereditament neu arno (wedi'i fynegi i'r ganfed ran agosaf o fegawat) wedi'i nodi yng ngholofn (2) o'r Tabl canlynol mewn perthynas â'r unig ffynhonnell ynni, neu'r brif ffynhonnell ynni, a ddefnyddir gan y peiriannau llywodraethu hynny a nodir yng ngholofn (1):
(1) | (2) |
---|---|
Unig neu brif ffynhonnell ynni | £ fesul megawat |
i)Llosgi glo | 9,500 |
ii)Llosgi olew | 5,000 |
iii)Llosgi nwy naturiol pan ddefnyddir tyrbin ager | 9,500 |
iv)Llosgi nwy naturiol pan na ddefnyddir tyrbin ager | 5,000 |
v)Ymhollti Niwclear a gynhyrchir gan adweithydd Magnox | 6,000 |
vi)Ymhollti Niwclear na chynhyrchir gan adweithydd Magnox. | 14,000 |
vii)Pŵ er Gwynt | 2,000 |
viii)Llosgi nwy o safleoedd tirlenwi | 5,000 |
ix)Llosgi cnydau a gwasarn anifeiliaid | 2,000 |
x)Dwr wedi'i gronni a'i bwmpio | 12,800 |
xi)Trydan dŵ r | 9,500 |
xii)Unrhyw ffynhonnell o ynni nas rhestrir uchod. | 2,000 |
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “y rhestr berthnasol” yw'r rhestr ardrethu annomestig leol a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.
Diwygiwyd baragraff 2 a mewnosodwyd paragraffau 2A a 2B gan baragraff 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: