- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn y Rhan hon —
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w phenderfynu yn unol â'r Gorchymyn hwn ac
ystyr “blwyddyn berthnasol flaenorol” (“relevant preceding year”) yw'r flwyddyn sy'n rhagflaenu blwyddyn berthnasol;
ystyr “dosbarth ar hereditamentau” (“class of hereditaments”) yw hyn o hereditamentau sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu ganolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestr Ganolog a Rhan 2 ohoni ac a feddiennir gan unrhyw berson dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr “ffactor ailgyfrifo” (“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 9 neu 10, fel y bo'r achos;
ystyr “fformwla safonol” (“standard formula”) mewn perthynas â dosbarth o hereditamentau yw'r fformwla
T + U
lle —
T yw'r swm a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw; a
U yw'r ffactor ailgyfrifo cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol.
ystyr “person dynodedig” (“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestri Canolog ac a enwir ynddi;
ystyr “Rheoliadau'r Rhestr Ganolog” (“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(1); ac
ystyr “y rhestr ganolog” (“the central list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig ganolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw, a dehonglir cyfeiriadau at feddiannu yn unol â hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn yr Atodlen at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw ar y rhestr ganolog.
8. Yn achos pob dosbarth ar hereditament, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn pan fydd y rhestr ganolog mewn grym ac
(a)yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 y swm a bennir ar ei gyfer yn yr Atodlen fydd y gwerth ardrethol; ac
(b)mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar neu cyn 1 Ebrill 2004 y swm a geir drwy ddefnyddio'r fformwla safonol ar gyfer y dosbarth hwnnw fydd y gwerth ardrethol.
9. Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan A o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol fydd y ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol –
lle—
T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;
k yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a
K yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiennir gan y person hwnnw ar 31 Mawrth 2000.
10. Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan B o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol yw'r ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol —
lle —
T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;
v yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r holl beiriannau newid trydan a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a
V yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r peiriannau hynny ar 31 Mawrth 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: