- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Mawrth 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 63(1) a 66(2) o Ddeddf Iechyd 1999(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 1999;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. –
(1) 1 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.
(2) Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(3) i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))
D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
Erthygl 2(1)
Adran 1 (Diddymu'r gyfraith ynglŷn â phractisiau sy'n dal cronfeydd)
Adran 11 (Pwyllgorau Cynrychioliadol Lleol) (ac eithrio bod y cyfeiriadau yn is-adran (3) o adran 44 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan is-adran (4), at drefniadau a wnaed o dan adran 28C o Ddeddf 1977 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion cynlluniau peilot yn unig o dan Ran I o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997)
Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymweud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
Atodlen 4 —
paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8, 24 a 27(a) isod)
paragraff 8 (i'r graddau y mae'n ymwneud â phractisiau deiliad-cronfa)
paragraff 24
paragraff 27(a) (i'r graddau y mae'n golygu amnewid paragraffau (b) i (d) o adran 91(3) o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r paragraffau hynny'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
paragraff 71(a) a (b)
paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 83(6) ac 84 isod)
paragraff 83(6)
paragraff 84
paragraff 85(4)
paragraff 90
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn y darpariaethau sydd —
a.yn dileu'r cronfeydd a ddelir gan YC (adran 1);
b.yn caniatáu ar gyfer diwygio'r gynrychiolaeth ar Bwyllgorau Deintyddol a Meddygol Lleol; ac
c.yn gwneud diwygiadau manwl i ddeddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i'r uchod, er mwyn cymryd i ystyriaeth bellach y diwygiadau i'r darpariaethau ynghylch sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac i'r pwerau ar gyfer gwneud cyfarwyddiadau a gychwynnwyd gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 1999 ac mewn perthynas â thalu am nwyddau a gwasanaethau penodol a gyflawnir heblaw o dan gontract NHS.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Iechyd 1999 i rym, neu maent i ddod i rym, mewn perthynas â Chymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill i rym mewn perthynas â Lloegr drwy orchmynion cychwyn O.S.1999/2177, 2342, 2540 a 2793 ac mewn perthynas â'r Alban drwy orchymyn cychwyn O.S.A. 1999/90.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
a.12 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
a.13 i 18 | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
a.19 | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
a.20 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
a.23 to 25 | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
a.28 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
a.41 | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
a.42 to 44 | 1.10.99 | 1999/2540 (C.64) |
a.65(1) (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
(yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 4.1.2000 | 1999/2342 (C.60) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2342 (C.60) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
a.65(2) (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
Atodlen 2 | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
Atodlen 4 | ||
paragraff 4 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
paragraff 5 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 6 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 9 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 12 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 15 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 26 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 27(b) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
paragraff 30 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 31 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 32 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 34(b) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 37 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 38 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
paragraff 39 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraffau 65 to 69 | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
paragraff 73 | 1.4.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 74 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
(yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
(yn rhannol) | 4.1.2000 | 1999/2342 (C.60) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 75 | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 76(a) (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
(yn rhannol) | 4.1.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 76(b) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 79 | 1.11.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 81 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
paragraff 82 | 1.4.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 83 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
paragraff 85 (yn rhannol) | 4.1.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 86 | 1.4.2000 | 1999/2342 (C.60) |
paragraff 88 (yn rhannol) | 1.12.99 | 1999/3184 (Cy.42) (C.82) |
Atodlen 5 (yn rhannol) | 1.11.99 | 1999/2793 (C.69) |
(yn rhannol) | 1.4.2000 | 1999/2793 (C.69) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: