Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

Diddymiadau a darpariaethau trosiannol

2.—(1Bydd i Ran I o Atodlen 1 effaith o ran y diddymiadau a grybwyllir yno.

(2Bydd i Ran II o Atodlen 1 effaith o ran y materion trosiannol a grybwyllir yno.

Dehongli

3.—(1Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae cyfeiriad at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly;

(b)mae cyfeiriad at sefydliad addysg bellach yn gyfeiriad at sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd —

(i)naill ai'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu

(ii)yn y sector addysg bellach;

(c)mae cyfeiriad heb oleddfu at sefydliad yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad yn y sector addysg uwch; a

(d)mae cyfeiriad at weithiwr gyda phlant neu bobl ifanc yn gyfeiriad at berson, heblaw athro, y mae ei waith yn dod ag ef i gysylltiad rheolaidd â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed eto.

(2Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3;

  • ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1);

  • ystyr “awdurdodiad” yw awdurdodiad i addysgu a roir i berson gan y Cynulliad yn unol â Rhan III neu II o Atodlen 2;

  • ystyr “BTEC” yw'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg;

  • ystyr “coleg dinasol” yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;

  • mae i “cwmni” yr un ystyr ag sdd i “company” yn Neddf Cwmnïau 1985(2)

  • ystyr “athro graddedig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan II o Atodlen 2;

  • ystyr “â nam ar y clyw” yw byddar neu rannol fyddar;

  • ystyr “addysg uwch” yw addysg a ddarperir drwy unrhyw un o'r cyrsiau canlynol —

    (a)

    cwrs i roi hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymunedol;

    (b)

    cwrs ôl-raddedig (gan gynnwys cwrs gradd uwch);

    (c)

    cwrs gradd gyntaf;

    (d)

    cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;

    (e)

    cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a ddarperir gan Sefydliad Edexcel, neu'r Ddiploma mewn Astudiaethau Rheoli;

    (f)

    cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg;

    (g)

    cwrs i baratoi ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 4 neu 5;

    (h)

    cwrs sy'n darparu addysg (boed er mwyn paratoi ar gyfer arholiad neu beidio) ar safon uwch na safon y cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi ar gyfer arholiadau safon uwch safon y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC a ddarperir gan y Sefydliad Edexcel;

  • ystyr “a nam ar y golwg” yw dall neu rannol ddall.

  • ystyr “athro cofrestredig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan III o Atodlen 2;

  • mae i “athro cymwysedig” yr ystyr a roddir iddo gan Reoliad 10 a dylid dehongli “athro anghymwysedig” yn unol â hynny;

  • mae i “cyflogaeth berthnasol” yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 5; ac

  • ystyr “y corff sy'n argymhell” yw'r corff sy'n trefnu'r hyfforddiant a roddwyd neu sydd i'w roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1959 yn gyfeiriad at Reoliadau Ysgolion 1959(3) (fel y bônt mewn grym o bryd i'w gilydd) gan gynnwys y rheoliadau hynny a gymhwysir i athrawon mewn ysgolion arbennig gan reoliad 16 Reoliadau Disgyblion dan Anfantais ac Ysgolion Arbennig 1959 (4), a dehonglir unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 1959 fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at gymeradwyaeth, a oedd yn cael effaith, yn rhinwedd Rheoliad 21 o'r Rheoliadau hynny, fel petai wedi'i roi o dan y ddarpariaeth honno

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1982 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982(5);

(c)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1989 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1989(6); a

(d)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1993 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993.(7)

(4Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, gall cymeradwyaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn fod yn gymwys yn gyffredinol (yn ddarostyngedig i'r eithriadau, os oes rhai, a bennir ynddynt) neu mewn achos penodol yn unig. Ystyr “wedi'i gymeradwyo” ynglŷn â chwrs yw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad.

(5Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu at Atodlen i hyn yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir yma neu at Atodlen i hyn. Mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff yn gyfeiriad at baragraff o'r rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno. Mae unrhyw gyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff yn gyfeiriad at is-baragraff ohono.

RHAN IIDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I YSGOLION A SEFYDLIADAU ADDYSG BELLACH

Staffio ysgolion a sefydliadau addysg bellach

4.—(1Mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach cyflogir staff o athrawon sy'n addas ac y mae eu nifer yn ddigon i ddibenion sicrhau bod addysg briodol i oedrannau, galluoedd, doniau ac anghenion y disgyblion neu'r myfyrwyr yn cael ei darparu gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r athrawon a gyflogir y tu allan i'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach dan sylw.

(2Heb ragfarnu'r egwyddor gyffredinol paragraff (1) *mdash;

(a)bydd y staff o athrawon a gyflogir mewn ysgol yn cynnwys prifathro neu brifathrawes;

(b)bydd gan y staff o athrawon a gyflogir mewn sefydliad addysg bellach y cymwysterau priodol i roi hyfforddiant digonol yn y pynciau y darperir cyrsiau ynddynt.

(3Mae'r gofyniad ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion ynglŷn â'r cymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn.

RHAN IIIDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS YN GYFFREDINOL

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth —

(a)gan awdurdod addysg lleol, fel athrawon (boed mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc;

(b)gan unrhyw gorff arall, fel athrawon mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach; neu

(c)gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc.

(2At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogaeth yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.

Safonau iechyd-penodiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff person ei benodi i gyflogaeth berthnasol os nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y gyflogaeth honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(8).

(2Os caiff person ei benodi'n athro am y tro cyntaf a bod y Cynulliad yn fodlon fod ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i addysgu, caiff ei gyflogwyr dderbyn casgliadau'r Cynulliad ar y mater os ymddengys yn rhesymol iddynt wneud hynny.

(3Os caiff person a fu gynt mewn cyflogaeth berthnasol ei benodi i gyflogaeth berthnasol, caiff ei gyflogwyr ddibynnu ar gofnod meddygol y person tra oedd yn y gyflogaeth honno er mwyn penderfynu a oes gan y person yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer cyflogaeth o'r fath.

(4Ni fernir bod gan berson sy'n cael pensiwn ymddeol yn rhinwedd Rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997(9) (ymddeol ar sail afiechyd) yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i gael ei benodi i gyflogaeth berthnasol neu i gael ei gyflogi i roi ei wasanaethau fel athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach heblaw o dan gontract cyflogaeth, ond ceir penodi neu gyflogi person y daeth ei hawl i bensiwn o'r fath yn weithredol cyn 1 Ebrill 1997 i wasanaethu'n rhan amser.

(5Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal penodi na chyflogi person nad yw wedi'i analluogi bellach ac y mae ei bensiwn ymddeol o'r herwydd wedi peidio â bod yn daladwy.

Safonau iechyd-parhau mewn swydd gyflogedig

7.—(1Ni fydd person mewn swydd gyflogedig berthnasol yn parhau yn y swydd honno os nad oes ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y swydd honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, os ymddengys i'w gyflogwyr nad oes gan berson yr iechyd na'r gynneddf feddyliol neu gorfforol bellach ar gyfer ei swydd gyflogedig —

(a)byddant yn rhoi'r cyfle iddo gyflwyno tystiolaeth feddygol ac achos iddynt;

(b)byddant yn pwyso a mesur y dystiolaeth a'r achos ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddynt, gan gynnwys tystiolaeth sydd wedi'i rhoi'n gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld;

(c)cânt fynnu iddo ymddangos gerbron meddyg a chanddo'r cymwysterau priodol ac a benodwyd ganddynt i gael ei archwilio neu gânt drefnu bod hyn yn digwydd os yw'n gofyn amdano. Os nad yw'n ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da neu os yw'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth feddygol y mae'r meddyg yn gofyn amdani, er y byddai tystiolaeth feddygol bellach yn ddymunol, cânt ddod i gasgliad ar y mater ar sail y dystiolaeth a'r wybodaeth sydd ar gael iddynt gan gynnwys y casgliad nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer ei gyflogaeth.

(3Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) caiff y cyflogwyr, neu'r person ei hun, gyflwyno i'r meddyg penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad: a gall meddyg a chanddo gymhwyster priodol a benodir at y diben hwnnw gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn yr archwiliad.

RHAN IVDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I YSGOLION YN UNIG

Cyflogaeth y mae Rhan IV yn gymwys iddi

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9 bydd y rhan hon yn gymwys i gyflogi personau fel athrawon mewn ysgolion, onid ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i ddarparu —

(a)addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu

(b)addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu

(c)yr addysg ran-amser a'r addysg amser-llawn honno.

9.  At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogi yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogi a dehonglir cyfeiriadau at gyflogi neu at fod yn gyflogedig yn unol â hynny.

Cyflogi sydd wedi'i gyfyngu fel rheol i athrawon cymwysedig

10.  Ac eithrio yn yr achosion ac o dan yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 ni chaiff neb ei gyflogi fel athro mewn ysgol onid yw'n athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu clyw

11.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwys i gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref), onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu golwg

12.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae nam ar eu golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

Cyflogi athrawon disgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.

(2Bydd person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir o dan reoliad 11 neu 12 yn athro cymwysedig at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) er nad yw'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion y paragraff hwnnw os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni nad oes unrhyw athro â chymhwyster o'r fath ar gael i addysgu'r dosbarth o dan sylw.

Cyflogi dros dro athrawon disgyblion a nam ar eu golwg neu nam ar eu clyw (neu'r ddau)

14.  Gellir cyflogi person mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt —

(a)nam ar eu clyw;

(b)nam ar eu golwg; neu

(c)nam ar eu clyw a'u golwg,

er nad yw'n athro cymwysedig yn unol â rheoliad 11, 12, neu 13(1), fel y bo'r achos, at ddibenion cyflogaeth o'r fath os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni ei fod yn bwriadu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad o dan reoliad 11, 12 neu 13(1), fel y bo'r achos, ar yr amod, er hynny, nad yw'r cyfnod agregedig y mae wedi'i gyflogi ar ei gyfer, mewn un neu ragor o ysgolion, fel athro'r dosbarth o ddisgyblion a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), fel y bo'r achos, yn fwy na thair blynedd.

Dafydd Elis Thomas

Presiding Officer, National Assembly for Wales

31 Awst 1999

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources