Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “y corff llywodraethu” yw corff llywodraethu'r ysgol y cynigir bod newid categori ynglŷn â hi neu, yn ôl yr achos, y mae'r newid hwnnw'n digwydd (“the governing body”);

  • ystyr “y cynigion” yw'r cynigion a gyhoeddwyd o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf gydag unrhyw addasiadau a wnaed gan y Cynulliad o dan baragraff 8 neu 10 o Atodlen 6 (fel y mae'r paragraffau hynny'n cael effaith gydag addasiadau yn rhinwedd Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn) (“the proposals”);

  • ystyr “y Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1) (“the Assembly”);

  • ystyr “y dyddiad gweithredu” yw'r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd (“the implementation date”);

  • ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“the Act”);

  • ystyr “y prif reoliadau llywodraethu ysgol” yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgol) (Cymru) 1999(2) (“the main school government regulations”);

(2Mae gan yr ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir iddynt gan, neu (fel y bo'r achos) rhaid eu dehongli'n unol â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw —

“Fforwm Gweithredu Addysg” (“Education Action Forum”)adran 11(2) o'r Ddeddf(3);
“noddwr” (“sponsor”)paragraff 1 o Atodlen 1 i'r prif reoliadau llywodraethu ysgol
“offeryn llywodraethu” (“instrument of government”)adran 37(1) o'r Ddeddf,
“parth gweithredu addysg” (“education action zone”)adran 10(1) o'r Ddeddf;

Y cyfnod a ragnodir at ddiben adran 35(2) o'r Ddeddf

3.  At ddibenion adran 35(2) o'r Ddeddf (sy'n darparu, ac eithrio mewn perthynas â newid categori o ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ysgol wirfoddol a reolir, newid er mwyn yr hwn y mae'n ofynnol cyhoeddi cynigion yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, nid yw'r Atodlen honno yn gymwys ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag y gellir ei ragnodi) y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000.

Cymhwyso rheoliadau 5 i 9

4.  Bydd Rheoliadau 5 i 9 yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, yn ystod y cyfnod a ragnodir yn rheoliad 3, i ysgol wirfoddol a gynorthwyir ddod yn ysgol wirfoddol a reolir ac ynglŷn â gweithredu'r cynigion hynny.

Cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf ac Atodlen 6 iddi

5.—(1Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith i gymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, ynglŷn â chynigion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 4.

(2Nodir darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf a gymhwysir felly, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u haddaswyd; a chyda chyfeiriadau at y Cynulliad (y breiniwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ynddo bellach) yn cymryd lle'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gweithredu'r Cynigion

6.  Ar y dyddiad gweithredu bydd yr ysgol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir.

Trosglwyddo staff

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n gyflogedig gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu.

(2Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.

(3Bydd person a benodir gan y corff llywodraethu cyn y dyddiad gweithredu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu neu ddyddiad ar ôl hynny yn cael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel petai wedi ei gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith yn yr ysgol y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud ar y dyddiad hwnnw neu wedyn yn ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu.

(4Bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhyngddo ef a'r awdurdod addysg lleol.

(5Heb ragfarn i baragraff (4) —

(a)drwy rinwedd y rheoliad hwn trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef i'r awdurdod addysg lleol ar y dyddiad gweithredu; a

(b)bernir y bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig o'r diwrnod hwnnw ymlaen wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.

(6Mae paragraffau (4) a (5) heb ragfarn i unrhyw hawl gan weithiwr cyflogedig i derfynu ei gontract os gwneir newid sylweddol sy'n anfanteisiol iddo i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi oherwydd y newid cyflogwr yn unig y mae'r rheoliad hwn yn ei achosi.

Offeryn llywodraethu ac ailgyfansoddi'r corff llywodraethu

8.—(1Bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad gweithredu (a beth bynnag o fewn tri mis ar ôl y dyddiad gweithredu) —

(a)bod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol yn unol ag Atodlen 12 i'r Ddeddf a Rhan II o'r prif reoliadau llywodraethu ysgol; a

(b)bod y corff llywodraethu'n cael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn llywodraethu newydd a Rhan II o'r prif reoliadau llywodraethu ysgol(4);

(2Bydd yr offeryn llywodraethu yn cael ei wneud ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddiadau ynddi.

(3Bydd yn gydymffurfiad digonol â pharagraff (2) os bydd yr offeryn llywodraethu ar ffurf sydd yn ei sylwedd yn cael yr un effaith â'r ffurf a nodir yn Atodlen 3.

(4Ni fydd methiant gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol i gyflawni'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o fewn y terfyn amser a ragnodir yn y paragraff hwnnw yn rhyddhau'r corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol o'r ddyletswydd honno.

Darpariaethau trosiannol

9.—(1Bydd unrhyw beth a wneir gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn cyn y dyddiad gweithredu o dan unrhyw ddarpariaeth ym mhennod I o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Os digwydd, ar y dyddiad gweithredu, fod cynigion a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan adran 28, 29 neu 31 o'r Ddeddf i'w gweithredu o dan baragraff 10 o Atodlen 6 i'r Ddeddf, byddant yn cael eu gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

Jane Davidson

Dirprwy Llywydd y Cynulliad

23ain Awst 1999

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources