Pennod 3 - Estyn Cyfarwyddyd I Atal Dros Dro Yr Hawl I Brynu
Adran 18 - Cais am estyniad: pŵer i wneud cais
47.Mae adran 18 yn caniatáu i awdurdod wneud cais am estyniad i gyfarwyddyd os yw wedi cwblhau ymgynghoriad o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais ac, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod yr awdurdod wedi dod i’r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn parhau i fodoli.
48.Mae yna derfyn o ddeng mlynedd ar gyfnod unrhyw gyfarwyddyd, fel y'i hestynnwyd. O dan is-adran (2) caiff awdurdod wneud cais am estyniad i gyfarwyddyd sydd eisoes wedi cael ei estyn ond ni chaiff cyfarwyddyd estynedig gael effaith y tu hwnt i gyfnod o ddeng mlynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd o dan adran 6.
Adran 19 - Cais am estyniad: ymgynghori
49.Mae adran 19 yn amlinellu gofynion yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod ei gynnal cyn gwneud cais i Weinidogion Cymru am estyniad. Mae'r rhain yn gyffelyb i rai'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol ei gynnal o dan adran 2.
50.Rhaid i’r ymgynghoriad gynnwys unrhyw awdurdod arall y mae ei ardal yn gyfagos i’r ardal y bwriedir i’r cyfarwyddyd estynedig fod yn gymwys iddi.
Adran 20 - Cais am estyniad
51.Mae adran 20 yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod am estyniad i gyfarwyddyd. Mae'n rhaid i'r awdurdod esbonio pam y mae wedi dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli, a pham y byddai estyniad yn ffordd briodol o ddelio â hynny, a pha gamau eraill y mae’r awdurdod wedi eu cymryd i ddelio â hynny a pha gamau eraill y mae'n bwriadu eu cymryd i leihau’r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a’r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod yr estyniad arfaethedig. Mae'n rhaid i'r cais ddisgrifio'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr awdurdod a datgan cyfnod arfaethedig yr estyniad y mae'n ei geisio, a rhaid iddo beidio â bod yn hwy na phum mlynedd ar ôl y dyddiad y byddai'r cyfarwyddyd, oni bai am Bennod 3, yn peidio â chael effaith.
Adran 21 – Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais
52.Mae adran 21 yn gosod dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais gan awdurdod am estyniad a than ba amgylchiadau y mae'n rhaid iddynt ganiatáu neu wrthod cais. Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais os yw'r awdurdod wedi methu â rhoi gwybodaeth o dan adran 27 neu os yw ei strategaeth tai yn annigonol i'r graddau y mae'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt. Mae'n rhaid iddynt roi cyfarwyddyd os ydynt yn cytuno â rhesymau'r awdurdod dros gasglu bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli a bod y cyfarwyddyd arfaethedig yn ffordd briodol o ddelio â hynny. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi'u bodloni bod yr hyn y mae'r awdurdod yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol i leihau’r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt yn debygol o gyfrannu at leihad ynddo. Mae'n rhaid hefyd i'r awdurdod fod wedi ymgynghori'n briodol. Os yw cais yr awdurdod yn methu â bodloni un neu ragor o'r amodau hyn, nid oes modd i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais. Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni parthed digonoldeb yr hyn a wnaed i leihau’r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt, ac os yw pob un o'r amodau eraill wedi'u bodloni, mae'n rhaid iddynt roi cyfarwyddyd ond os nad ydynt wedi'u bodloni o hynny cânt wrthod y cais.
Adran 22 - Rhoi cyfarwyddyd wedi ei ymestyn
53.Mae adran 22 yn delio â rhoi cyfarwyddyd wedi'i ymestyn. Y mae i fod yn unffurf â'r cyfarwyddyd y mae'n ei ddisodli, ac eithrio o ran y dyddiad y daw i ben arno. Mae is-adran (2) yn datgan y bydd cyfarwyddyd i ymestyn a roddir o dan yr adran hon yn cael effaith o'r dyddiad pan fydd y cyfarwyddyd a ddisodlwyd yn dod i ben.
54.Mae is-adran 29(3) yn pennu, pan fo’r hawl i brynu wedi ei atal dros dro am y cyfnod hwyaf o ddeng mlynedd, bod rhaid i awdurdod aros am 2 flynedd ar ôl y dyddiad y daw’r cyfarwyddyd presennol i ben cyn cyflwyno cais am gyfarwyddyd newydd.