Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Prif swyddogaethau'r Panel. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Prif swyddogaethau'r PanelLL+C

142Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodauLL+C

(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—

(a)y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;

(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.

(2)Dyma yw materion perthnasol—

(a)materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;

(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.

(3)Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

(a)y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;

(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.

(4)Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig [F1neu nifer penodedig] o'r aelodau o awdurdod.

(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.

[F2(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.]

(6)Caiff y Panel osod—

(a)y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.

(7)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—

(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;

(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

(8)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

(9)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

(10)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 142 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(c)

I3A. 142 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

143Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—

(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a

(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).

(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

C3A. 143(1)(b)(3) wedi ei eithrio (21.1.2021 at ddibenion penodedig, 1.4.2021 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2)(7), Atod. 12 para. 1(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I5A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)

I6A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

143A[F3Swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr]LL+C

(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—

(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â [F4chydnabyddiaeth ariannol] [F5prif weithredwr] yr awdurdod;

(b)unrhyw newid arfaethedig i [F4gydnabyddiaeth ariannol] [F6prif weithredwr] yr awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid [F7cydnabyddiaeth ariannol] [F8ei brif weithredwr] mewn modd nad yw’n gymesur â newid i [F9gydnabyddiaeth ariannol] staff arall yr awdurdod—

(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a

(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.

[F10(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn [F11cydnabyddiaeth ariannol] wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r [F11cydnabyddiaeth ariannol] yn [F12cael ei darparu] oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y [F11cydnabyddiaeth ariannol] ar ôl derbyn argymhelliad.

(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid [F13cydnabyddiaeth ariannol] ei [F14brif weithredwr] yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—

(a)rhaid iddo ailystyried y [F13cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

[F15(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]

(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.

[F16(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F17gydnabyddiaeth ariannol] ei [F18brif weithredwr] cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a

(b)peidio â newid y [F17cydnabyddiaeth ariannol] cyn—

(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu

(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.

(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F19gydnabyddiaeth ariannol] yn golygu y bydd yr awdurdod yn [F20darparu] (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn [F20darparu] ) [F19cydnabyddiaeth ariannol] sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y [F19cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]

[F21(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac

(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.]

(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;

  • [F22“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011;]

  • F23...

  • ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;

  • [F24“ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw prif weithredwr a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

  • F25...

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

144Awdurdodau perthnasol, aelodau etc.LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—

(a)awdurdod lleol;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

F26(da). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F27(db)cyd-bwyllgor corfforedig;]

[F28(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), F29...

(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.[F30, a

(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;]

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol [F31heblaw cyd-bwyllgor corfforedig] , yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

[F32(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac

(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—

(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran [F33(2)(db) neu (e)] .]

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources