Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Adroddiadau gan y Panel

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Croes Bennawd: Adroddiadau gan y Panel. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

[F1Adroddiadau gan y PanelLL+C

145Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) am arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ofynion i wneud taliadau) ar awdurdodau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 145 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(f)

I3A. 145 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(b)

146Yr adroddiad blynyddol cyntafLL+C

(1)Y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad blynyddol arni o dan adran 145.

(2)Rhaid cyhoeddi'r adroddiad ar y flwyddyn ariannol honno (“yr adroddiad blynyddol cyntaf”) heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011.

(3)Rhaid i'r adroddiad blynyddol cyntaf nodi—

(a)y materion perthnasol,

(b)y symiau a osodwyd o dan adran 142(3),

(c)y gyfran a benderfynwyd o dan adran 142(4),

(d)yr aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy, a

(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ond cyn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(5)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion is-adran (3)(a), (b), (c), (d) neu (e).

(6)Wrth lunio adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad ariannol cyntaf ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef, a

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(7)Cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn eu bod yn briodol,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'n eu cael ar y drafft.

(8)Daw darpariaethau'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff yr adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 146 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

147Adroddiadau blynyddol dilynolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.

(2)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—

(a)[F228 Chwefror] yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—

(a)drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a

(b)y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) [F3(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4))] .

(5)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(6)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—

(a)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);

(b)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).

(7)Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(8)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.

[F4(9)Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.

(10)Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.

(12)“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 147 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

148Ymgynghori ar adroddiadau drafftLL+C

(1)Rhaid i'r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol F5... cyn pen y cyfnod o wyth wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'n anfon drafft o'r adroddiad yn unol ag adran 146 neu 147.

[F6(1A)Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—

(a)cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu

(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147.]

(2)Rhaid i'r Panel, pan fydd yn anfon drafft o adroddiad yn unol â'r naill neu'r llall o'r adrannau hynny, osod copi electronig o'r drafft ar ei wefan.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 148 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I7A. 148 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(h)

I8A. 148 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(c)

149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafftLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y ddarpariaeth,

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.

(3)O ran y Panel—

(a)rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);

(b)ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.

(4)Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 149 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I10A. 149 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(i)

I11A. 149 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(d)

150Gofynion gweinyddol mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn osgoi—

(a)dyblygu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)dyblygu'n faterion perthnasol faterion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau.

(2)At ddibenion achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth sy'n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â'r awdurdod y mae'r aelod yn perthyn iddo), ac y mae'n rhaid gwneud taliad i'r aelod mewn cysylltiad â mater perthnasol, rhaid i adroddiad blynyddol ddangos sut i benderfynu p'un o'r awdurdodau fydd yn gorfod gwneud y taliad.

(3)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn cadw—

(a)cofnodion o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 150 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I13A. 150 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(j)

I14A. 150 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(e)

151Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol ar gyfer gwneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig—

(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

[F7(c)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.]

(2)Caiff yr adroddiad ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad wneud trefniadau gwahanol.

[F8(3)At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—

(a)bwrdd iechyd lleol,

(b)panel heddlu a throsedd,

(c)awdurdod perthnasol,

(d)corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 151 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I16A. 151 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(k)

I17A. 151 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(f)

152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadauLL+C

(1)Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—

(a)unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a

(b)unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.

(2)Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.

(4)Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.]

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 152 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I19A. 152 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(l)

I20A. 152 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(g)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources