- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trethi, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ionawr 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 66, 69 a 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;
ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad a wneir o dan adran 63(2) o’r Ddeddf;
ystyr “swm perthnasol” (“relevant amount”) yw’r rhan honno o swm hawliad (a allai fod y swm cyfan) y mae’r hawlydd wedi ei thalu’n ôl neu’n bwriadu ei thalu’n ôl i gwsmeriaid; ac
ystyr “trefniadau talu’n ôl” (“reimbursement arrangements”) yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad—
a wneir gan hawlydd at ddiben sicrhau na chaiff yr hawlydd ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu unrhyw swm yn unol â’r hawliad; a
sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau (“cwsmeriaid”) sydd, at ddibenion ymarferol, wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.
3. At ddibenion adran 64 o’r Ddeddf (gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn) rhaid diystyru trefniadau talu’n ôl a wneir gan hawlydd ac eithrio pan fônt—
(a)yn cynnwys y darpariaethau a ddisgrifir yn rheoliad 4; a
(b)yn cael eu hategu gan yr ymgymeriadau a ddisgrifir yn rheoliad 7.
4. Y darpariaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) yw—
(a)y bydd y talu’n ôl y mae’r trefniadau’n darparu ar ei gyfer wedi ei gwblhau yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef;
(b)na wneir unrhyw ddidyniad o’r swm perthnasol ar ffurf ffi neu dâl (ym mha fodd bynnag y’i mynegir neu y rhoddir effaith iddi neu iddo);
(c)y bydd y talu’n ôl yn cael ei wneud mewn arian parod neu ar ffurf siec yn unig neu, gyda chytundeb yr hawlydd, drwy drosglwyddiad electronig;
(d)y bydd yr hawlydd yn ad-dalu i ACC unrhyw ran o’r swm perthnasol nad yw wedi ei thalu’n ôl erbyn yr adeg a grybwyllir ym mharagraff (a);
(e)y bydd yr hawlydd hefyd yn trin unrhyw log a delir gan ACC ar unrhyw swm perthnasol a ad-delir gan ACC yn yr un modd ag y mae’r swm perthnasol i’w drin o dan baragraffau (a) a (b); ac
(f)y bydd yr hawlydd yn cadw’r cofnodion a ddisgrifir yn rheoliad 6.
5. Rhaid i’r hawlydd, heb archiad ymlaen llaw, wneud unrhyw ad-daliad i ACC y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei wneud yn rhinwedd rheoliad 4(d) ac (e) o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn rheoliad 4(a).
6.—(1) Rhaid i’r hawlydd gadw cofnodion o’r materion a ganlyn—
(a)enwau a chyfeiriadau’r cwsmeriaid hynny y mae’r hawlydd wedi talu’n ôl iddynt neu y mae’r hawlydd yn bwriadu talu’n ôl iddynt;
(b)y cyfanswm a dalwyd yn ôl i bob cwsmer o’r fath, gan gynnwys ym mhob achos dderbynebau gan y rheini y talwyd yn ôl iddynt yn cydnabod faint a dalwyd yn ôl ac yn rhoi’r dyddiad y talwyd yn ôl iddynt;
(c)swm y llog a gynhwyswyd ym mhob cyfanswm a dalwyd yn ôl i bob cwsmer; a
(d)dyddiad pob achos o dalu’n ôl.
(2) Mae adran 69(2) o’r Ddeddf yn gymwys i gofnodion a gedwir o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i gofnodion a gedwir o dan yr adran honno.
7.—(1) Rhaid i’r hawlydd roi’r ymgymeriadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(b) i ACC cyn i’r hawlydd wneud yr hawliad y gwnaed y trefniadau talu’n ôl ar ei gyfer, neu ar yr un pryd â’r hawliad.
(2) Rhaid i’r ymgymeriadau fod yn ysgrifenedig, rhaid i’r hawlydd eu llofnodi a’u dyddio, a rhaid iddynt fod i’r perwyl—
(a)ar ddyddiad yr ymgymeriadau, fod yr hawlydd yn gallu nodi enwau a chyfeiriadau’r cwsmeriaid hynny y mae’r hawlydd wedi talu’n ôl iddynt neu y mae’r hawlydd yn bwriadu talu’n ôl iddynt;
(b)y bydd yr hawlydd yn cymhwyso’r swm perthnasol yn ei gyfanrwydd, heb unrhyw ddidyniad ar ffurf ffi neu dâl na fel arall, i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y swm hwnnw (ac eithrio i’r graddau y mae’r hawlydd eisoes wedi talu’n ôl iddynt);
(c)y bydd yr hawlydd yn cymhwyso unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd ar y swm perthnasol yn llwyr i dalu’n ôl i gwsmeriaid o’r fath yn ddim hwyrach na 90 o ddiwrnodau ar ôl i’r hawlydd gael y llog hwnnw;
(d)y bydd yr hawlydd yn ad-dalu i ACC, heb archiad, y cyfan o’r swm perthnasol neu unrhyw ran ohono a ad-dalwyd i’r hawlydd neu o unrhyw log a dalwyd i’r hawlydd y mae’r hawlydd yn methu â’i gymhwyso yn unol â’r ymgymeriadau a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c), o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny; ac
(e)y bydd yr hawlydd yn cadw’r cofnodion a ddisgrifir yn rheoliad 6.
(3) Rhaid i’r hawlydd gyflwyno ymgymeriad diwygiedig (i adlewyrchu’r diwygiad) i ACC o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg—
(a)y mae’r hawlydd yn diwygio hawliad o dan adran 71(1) o’r Ddeddf; neu
(b)y mae ACC yn diwygio hawliad o dan adran 75(2)(b) o’r Ddeddf.
8.—(1) Mae’r darpariaethau yn adrannau 143 i 145 o’r Ddeddf (cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl) yn gymwys i fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6 fel y maent yn gymwys i fethiant i gydymffurfio ag adran 69 o’r Ddeddf.
(2) Mae hawlydd sy’n methu â chydymffurfio â rheoliad 5 yn agored i gosb o 100% o swm unrhyw ad-daliad y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei wneud i ACC yn rhinwedd rheoliad 4(d) ac (e).
(3) Mae adrannau 125 i 128 o’r Ddeddf yn gymwys i gosb o dan baragraff (2) fel y maent yn gymwys i gosb o dan adran 122 o’r Ddeddf.
(4) Nid yw adran 157A o’r Ddeddf (llog taliadau hwyr ar gosbau) yn gymwys i gosb o dan baragraff (2).
(5) Mae adran 154 o’r Ddeddf (talu cosbau) yn gymwys i gosb o dan y rheoliad hwn.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn disgrifio’r darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn trefniadau talu’n ôl a wneir gan berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 63 (hawlio rhyddhad rhag treth a ordalwyd) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Deuant i rym ar 1 Ebrill 2018.
Mae rheoliad 2 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i drefniadau talu’n ôl gael eu diystyru at ddibenion adran 64 (gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn) o’r Ddeddf oni bai eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau 4 a 7.
Mae rheoliad 4 yn disgrifio’r darpariaethau manwl y mae’n rhaid eu cynnwys mewn trefniadau talu’n ôl.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i hawlydd ad-dalu i Awdurdod Cyllid Cymru unrhyw swm a gafodd yr hawlydd er mwyn talu’n ôl i gwsmeriaid, ond yr oedd yr hawlydd wedi methu â’i gymhwyso at y diben hwnnw o fewn 30 o ddiwrnodau i gael y swm hwnnw.
Mae rheoliad 6 yn disgrifio’r cofnodion y mae’n rhaid i’r hawlydd eu cadw mewn perthynas â’r trefniadau talu’n ôl.
Mae rheoliad 7 yn disgrifio’r ymgymeriadau y mae’n rhaid i’r hawlydd eu rhoi er mwyn cydymffurfio â threfniadau talu’n ôl yr hawlydd.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau mewn cysylltiad â chosbau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys