Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

YR ATODLENNI

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1Dehongli

Ystyr blwyddyn academaidd

1.—(1Penderfynir ar “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—

(a)nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o Dabl 14 y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;

(b)y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.

(2Ond os yw’r cwrs yn gwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, ystyr “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â blwyddyn gyntaf y cwrs, yw’r cyfnod o 8 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir felly.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at flwyddyn y penderfynir arni yn unol ag is-baragraffau (1) a (2).

Tabl 14

Colofn 1

Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn

Colofn 2

Y cyfnod y mae blwyddyn academaidd yn dechrau ynddo

1 MediAr neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr
1 IonawrAr neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill
1 EbrillAr neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf
1 GorffennafAr neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst

Sefydliadau addysgol

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” yw—

(i)sefydliad rheoleiddiedig Cymreig,

(ii)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,

(iii)sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban, neu

(iv)sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;

(b)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yw sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1) ac sy’n parhau mewn grym;

(c)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.

Lleoliad myfyriwr cymwys

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â myfyriwr cymwys—

(a)ystyr “byw gartref” yw bod y myfyriwr yn byw yng nghartref rhiant y myfyriwr wrth iddo ymgymryd â’r cwrs presennol;

(b)ystyr “byw oddi cartref, astudio yn Llundain” yw bod y myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref rhiant y myfyriwr tra bo’n—

(i)ymgymryd â chwrs ym Mhrifysgol Llundain,

(ii)ymgymryd â chwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol yn y flwyddyn academaidd ar safle sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn Llundain pan fo o leiaf hanner o unrhyw chwarter o’r cwrs wedi ei ddarparu ar safle o’r fath, neu

(iii)ymgymryd â chwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr wneud profiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain pan fo’r profiad gwaith hwnnw, neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio, am o leiaf hanner o unrhyw chwarter;

(c)ystyr “byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall” yw bod y myfyriwr cymwys yn byw i ffwrdd o gartref rhiant y myfyriwr ond nid yw’n astudio yn Llundain, gan gynnwys bod yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu ar leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus.

(2At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “Llundain” yw ardal Dinas Llundain a chyn-Ddosbarth yr Heddlu Metropolitanaidd.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cyn-Ddosbarth yr Heddlu Metropolitanaidd” yw—

(a)Llundain Fwyaf, ac eithrio dinas Llundain, y Deml Fewnol a’r Deml Ganol,

(b)yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—

(i)ardal cyn-ddosbarth trefol Chigwell, a

(ii)plwyf Waltham Abbey,

(c)yn swydd Hertford—

(i)ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn-ddosbarth trefol Cheshunt,

(ii)dosbarth Hertsmere, a

(iii)yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw, ac

(d)yn swydd Surrey—

(i)ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn-ddosbarth trefol Esher,

(ii)bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne, a

(iii)yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn-ddosbarth trefol Banstead.

Ystyr blwyddyn Erasmus

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn Erasmus” yn flwyddyn academaidd pan fydd myfyriwr—

(a)yn cymryd rhan yn y cynllun ERASMUS fel rhan o gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol cydnabyddedig, a

(b)yn bodloni amod A, B neu C yn is-baragraff (2).

(2Yr amodau yw—

Amod A

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a

(b)mae’r myfyriwr yn cwblhau pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Amod B

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

(c)yn ystod y flwyddyn academaidd honno, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn llai na 10 wythnos.

Amod C

(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

(c)yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o’r cwrs, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau a dreulir yn ei gwblhau (nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban), gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

(3Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol(2).

Myfyrwyr rhan-amser – cyfrifo’r dwysedd astudio

5.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at y dwysedd astudio mewn perthynas â chwrs rhan-amser yn gyfeiriad at ba un bynnag yw’r lleiaf o—

(a)y ganran a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (2), neu

(b)75%.

(2Caiff y ganran ei chyfrifo fel a ganlyn—

Pan fo—

  • RhA yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser gan yr awdurdod academaidd os yw’r myfyriwr yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, a

  • LlA yn dynodi—

    (a)

    pan fo’r cwrs wedi ei ddarparu gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

    (b)

    pan fo’r cwrs wedi ei ddarparu gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.

(3At ddibenion is-baragraff (2)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser o dan sylw;

(b)ystyr y “cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol ynddo;

(c)ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” yw myfyriwr sy’n cael ei ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad â’r myfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser o dan sylw,

(ii)nad yw wedi cael ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol,

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

Dehongli termau allweddol eraill

6.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;

ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy’n bodloni gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002(3);

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc (ac mae “carchar” i’w ddehongli yn unol â hynny);

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs hyfforddiant athrawon sy’n arwain at radd gyntaf ond nid yw’n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2));

ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs—

(a)

pan fo’r flwyddyn gyntaf i’w chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis, a

(b)

pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill y cwrs ar sail gywasgedig o’r fath;

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddibenion cofrestru, ymrestru neu arholiadau; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod gwyliau;

ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs a benderfynir felly gan—

(a)

Gweinidogion Cymru yn unol ag is-baragraff (2), neu

(b)

yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 2(2) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011(4);

ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs llawnamser—

(a)

sy’n arwain at gymhwyso’n feddyg neu’n ddeintydd,

(b)

nad yw ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf,

(c)

pan gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol yw’r gofyniad mynediad arferol, a

(d)

nad yw’n para’n hwy na 4 blynedd;

ystyr “cwrs penben” (“end on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg llawnamser perthnasol,

(b)

cwrs gradd anrhydedd llawnamser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd llawnamser perthnasol,

(c)

cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg rhan-amser perthnasol, neu

(d)

cwrs gradd anrhydedd rhan-amser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd rhan-amser perthnasol;

ac yn y diffiniad hwn—

ystyr “cwrs addysg perthnasol” (“relevant education course”) yw—

(a)

cwrs ar gyfer y diploma addysg uwch,

(b)

cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(i)

y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu

(ii)

Awdurdod Cymwysterau’r Alban, neu

(c)

cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch,

y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cwrs gradd perthnasol” (“relevant degree course”) yw—

(a)

cwrs gradd sylfaen, neu

(b)

cwrs gradd arferol,

y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 32;

ystyr “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yw cwrs—

(a)

sydd â chyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(b)

pan fo’r myfyriwr, gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, yn bresennol ar y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad am ddim llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd (a phan fo diwrnodau astudio llawnamser am yn ail â diwrnodau profiad gwaith mewn unrhyw wythnos, caniateir cyfrifo swm gyfanredol y diwrnodau astudio hynny gyda’i gilydd a chydag unrhyw wythnosau llawn o astudio llawnamser wrth benderfynu ar nifer yr wythnosau o astudio llawnamser mewn blwyddyn);

  • at ddibenion paragraff (b), mae’r cwrs i’w drin fel pe bai’n dechrau â’r cyfnod cyntaf o astudio llawnamser ac yn dod i ben â’r cyfnod olaf o’r fath;

  • ond nid yw cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon yn gwrs rhyngosod;

  • yn yr un modd, nid yw blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n flwyddyn Erasmus i’w thrin fel cwrs rhyngosod;

  • ystyr “cyfnod o brofiad gwaith” (“period of work experience”) yw—

(c)

cyfnod o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig ag astudio llawnamser mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(d)

cyfnod y mae myfyriwr wedi ei gyflogi ynddo ac yn preswylio mewn gwlad y mae’r myfyriwr yn astudio ei hiaith ar gyfer ei gwrs presennol (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai nag un hanner o gyfanswm yr amser a dreulir yn astudio’r cwrs);

ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;

(b)

Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;

(c)

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;

(d)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;

(e)

Y Cyngor Ymchwil Feddygol;

(f)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;

(g)

Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan nodir fel arall, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)

y Rheoliadau hyn, neu

(b)

unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o’r flwyddyn academaidd—

(a)

sy’n dechrau ar 1 Medi ac sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr;

(b)

sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

(c)

sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin;

(d)

sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy’n dod i ben ar 31 Awst;

ystyr “dyfarndal statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarndal a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir, yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962, neu unrhyw ddyfarndal, grant, neu gymorth arall cyffelyb, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(5) ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i ffioedd colegau Oxbridge (gweler Atodlen 5).

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—

(a)

priod neu bartner sifil P;

(b)

person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;

(c)

rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;

ystyr “sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus” (“publicly funded institution”) yw sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan—

(a)

Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)

Gweinidogion Cymru;

(c)

Gweinidogion yr Alban;

(d)

Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;

neu o gronfeydd y gellir eu priodoli i gronfeydd o’r fath.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw’r cwrs—

(a)yn gwrs dynodedig llawnamser ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd sylfaen), a

(b)yn para am ddwy flynedd academaidd.

Rheoliad 9(1)(a)

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

1.—(1Person—

(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a

(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).

(2Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Categori 2 – Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

2.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Categori 3 – Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

3.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, neu

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn,

(b)y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

(c)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.

Categori 4 – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ii)gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb, fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE(6).

(3Yn is-baragraff (1)—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil,

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil, neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.

Categori 5 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

5.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol,

sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a chanddo hawl i breswylio’n barhaol,a

(b)sy’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Categori 6 – Gwladolion UE

6.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio, neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(2Person—

(a)sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

(4At ddibenion is-baragraff (1)(a), nid yw gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os nad yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(5At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—

(a)P yn briod neu’n bartner sifil i Q,

(b)P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

(i)o dan 21 oed, neu

(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

(c)mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Categori 7 – Plant gwladolion Swisaidd

7.—(1Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Categori 8 – Plant gweithwyr Twrcaidd

8.—(1Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol

9.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs presennol, neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)P,

(b)priod neu bartner sifil P,

(c)rhiant P, neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci.

(3At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

(5At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.

Darpariaeth bellach ar breswylio fel arfer: personau sy’n ymadael â gofal

10.—(1Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—

(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu

(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),

o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.

(2Ym mharagraff (1)—

ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;

mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 o’r Ddeddf honno.

Dehongli

11.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(7);

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(8) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(9) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(10);

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(11);

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Rheoliadau 48, 65(3), 66(2)(a) a 70(3)

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 1Cyflwyniad

Trosolwg o’r Atodlen

1.—(1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn.

(2Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion penderfynu ar swm—

(a)grant cynhaliaeth (gweler rheoliadau 46 a 47),

(b)grant at deithio (gweler rheoliadau 65 a 66), neu

(c)grantiau ar gyfer dibynyddion (gweler Rhan 11),

sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3Mae Rhan 3 yn nodi ystyr “incwm trethadwy”, sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo incwm gweddilliol person.

(4Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol pan fo—

(a)Pennod 1 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr, a

(b)Pennod 2 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol y personau eraill a ganlyn—

(i)rhiant myfyriwr cymwys, partner myfyriwr cymwys neu bartner rhiant myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr;

(ii)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

(5Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net—

(a)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

(b)plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

(6Mae Rhan 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

RHAN 2Incwm yr aelwyd

Incwm aelwyd myfyriwr cymwys

2.  Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm yr aelwyd

3.—(1Mae incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Os nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol (gweler paragraff 4), cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr A.

Os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr B.

  • Rhestr A

  • Y personau yw—

(a)y myfyriwr cymwys, plws

(b)naill ai—

(i)pob un o rieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5), neu

(ii)pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, y rhiant a ddewisir o dan baragraff 6(3) a phartner y rhiant hwnnw (os oes un gan y rhiant hwnnw), (yn ddarostyngedig i baragraff 7).

Rhestr B

Y personau yw—

(a)y myfyriwr cymwys annibynnol, plws

(b)partner y myfyriwr (os oes un gan y myfyriwr), (yn ddarostyngedig i baragraffau 7 ac 8).

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys didyniad plentyn dibynnol (gweler is-baragraffau (2) i (4)) a didynnu hynny o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1.

Y canlyniad yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys.

(2Mae didyniad plentyn dibynnol yn ddidyniad a wneir mewn cysylltiad â phob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar—

(a)y myfyriwr cymwys,

(b)partner y myfyriwr cymwys,

(c)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(d)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

pan fo incwm y person hwnnw yn cael ei ystyried at ddibenion cyfrifo incwm yr aelwyd.

(3Ond nid oes didyniad i’w wneud mewn cysylltiad â phlentyn—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

os y myfyriwr cymwys yw’r plentyn.

(4Yn Nhabl 15, mae Colofn 2 yn nodi swm y didyniad plentyn dibynnol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 15

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Swm y didyniad plentyn dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£1,130

Myfyrwyr cymwys annibynnol

4.—(1Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae’r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol.

Achos 2

Mae’r myfyriwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn parhau i fod ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Achos 3

Nid oes gan y myfyriwr riant sy’n fyw.

Achos 4

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)na ellir dod o hyd i’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr, neu

(b)nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr.

Achos 5

Naill ai—

(a)nid yw’r myfyriwr wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn neu fwy sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, neu

(b)ym marn Gweinidogion Cymru, mae’r myfyriwr wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ar seiliau eraill mewn ffordd lle nad oes modd cymodi.

Achos 6

Mae rhieni’r myfyriwr yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(c)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm y rhieni yn gosod y rhieni hynny mewn perygl, neu

(d)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni anfon arian i’r Deyrnas Unedig at ddibenion rhoi cymorth i’r myfyriwr.

Achos 7

Pan fo paragraff 6 (rhieni sy’n gwahanu) yn gymwys, mae’r rhiant a ddewisir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw wedi marw, ni waeth a oedd gan y rhiant hwnnw bartner ai peidio.

Achos 8

Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, mae gan y myfyriwr ofal dros berson sydd o dan 18 oed.

Achos 9

Mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

Achos 10

Pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol yn rhinwedd Achos 9 mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd, mae’r myfyriwr yn parhau i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol ar gyfer unrhyw flwyddyn academaidd ddilynol o’r cwrs dynodedig.

Achos 11

Mae’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 49.

(2At ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys—

Sail 1

Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.

Sail 2

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.

Sail 3

Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru corff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.

Sail 4

Roedd gan y myfyriwr cymwys efrydiaeth wladol neu ddyfarndal tebyg.

Sail 5

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael pensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd, anaf neu salwch y myfyriwr neu am reswm sy’n gysylltiedig â geni plentyn.

Rhiant myfyriwr cymwys yn marw gan adael rhiant sydd wedi goroesi

5.—(1Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys yn marw cyn y flwyddyn academaidd gyfredol, a

(b)incwm y rhiant hwnnw wedi, neu y byddai incwm y rhiant hwnnw wedi, cael ei ystyried at ddiben penderfynu ar incwm yr aelwyd,

dim ond incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi a gyfrifir yn gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52, a

(b)incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

Pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y ddau riant yn fyw, ac

Y yw nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Rhieni myfyriwr cymwys yn gwahanu

6.—(1Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52; a

(b)incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac

Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.

(3Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.

Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartner

7.  Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).

(3Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—

X×C/52

Pan—

  • X yw incwm gweddilliol—

    (a)

    partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu

    (b)

    partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,

    ar gyfer y flwyddyn academaidd gymwys;

  • C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—

    (a)

    rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu

    (b)

    y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,

    wedi gwahanu.

(4Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.

Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwys

8.  Pan fo—

(a)myfyriwr cymwys annibynnol (A) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (PA) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (M), a

(b)dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,

nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.

RHAN 3Incwm trethadwy

Incwm trethadwy

9.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—

(a)cyfanred—

(i)cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(12), a

(ii)os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(13) a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu

(b)pan fo deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’u penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

(3Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.

RHAN 4Incwm gweddilliol

PENNOD 1Incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

10.  At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—

Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol

Plws

Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

11.  At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—

Didyniad A

Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu

(b)cyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,

fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.

Didyniad B

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(14); neu

(b)pan fo incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm.

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Incwm myfyriwr cymwys a geir mewn arian cyfred ac eithrio sterling

12.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—

(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu

(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.

(2Cyfradd gyfnewid CThEM(15) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.

PENNOD 2Incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddynt

13.  Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

(a)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys—

(i)rhiant y myfyriwr cymwys,

(ii)partner y myfyriwr cymwys, neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd;

(b)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

14.  Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

15.—(1At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

16.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

(2Oni bai bod is-baragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Incwm o fusnes neu broffesiwn

17.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm

18.—(1Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.

(2Y rhesymau yw—

Rheswm 1

(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

(3Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling

19.—(1Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol a’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

(2Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

RHAN 5Incwm net dibynyddion

Incwm net dibynyddion

20.  Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net y dibynyddion a ganlyn—

(a)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

(b)plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Incwm net

21.—(1Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell ar gyfer y flwyddyn berthnasol wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno ond gan ddiystyru—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran 9 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(16);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(17);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(18);

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(19) neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(20);

(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(21);

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol â—

(i)adran 24 o’r Ddeddf honno(22), neu

(ii)adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(23);

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(24)

(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(25), mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch cysylltiedig â gwaith,

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (26) (elfen y plentyn).

(2At ddibenion y paragraff hwn, trinnir taliadau a wneir i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth plentyn dibynnol fel incwm y plentyn dibynnol.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn berthnasol” yw—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn academaidd gyfredol;

(b)mewn cysylltiad â phlentyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn ariannol gymwys a benderfynir o dan baragraff 22.

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm net plant dibynnol myfyriwr cymwys

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm net plentyn dibynnol myfyriwr cymwys (“Pl”).

(2Oni bai bod paragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

RHAN 6Dehongli

Dehongli

23.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

(a)priod neu bartner sifil A; neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

ystyr “BG” (CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16 neu 22;

ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

(a)

adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(27) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)(28), neu

(b)

Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(29) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).

Rheoliad 98

ATODLEN 4Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

1.—(1Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sydd ag anabledd er mwyn ei gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd y myfyriwr.

(2Yn yr Atodlen hon, ystyr “cwrs ôl-radd presennol” yw’r cwrs y mae person yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 17.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

2.—(1Yn yr Atodlen hon (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998), mae cwrs yn gwrs ôl-radd dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—

Amod 1

Fel arfer mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu uwch yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs.

Amod 2

Nid yw’r cwrs yn gwrs rhyngosod.

Amod 3

Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.

Amod 4

Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.

Amod 5

Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

Amod 6

Nid yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2)).

(2At ddibenion Amod 4—

(a)mae cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig dim ond oherwydd ei fod yn sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cael, oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad arall, y cyfan neu ran o unrhyw grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a ddarperir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i’r sefydliad arall hwnnw yn unol ag adran 65(3A)(30) o’r Ddeddf honno.

Dynodi cyrsiau ôl-radd eraill

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs ôl-radd i’w drin yn gwrs ôl-radd dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs ôl-radd dynodedig, oni bai am y pennu.

(2Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs ôl-radd o dan is-baragraff (1).

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

4.—(1Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

(a)os oes gan y person anabledd; a

(b)naill ai—

(i)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu

(ii)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.

(2Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs ôl-radd dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar unrhyw un adeg.

5.—(1Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Ar unrhyw un adeg, mae P hefyd yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.

Eithriad 2

Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs ôl-radd dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—

(a)bwrsari gofal iechyd,

(b)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007,

(c)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Ymchwil, neu

(d)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed—

(i)gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs,

(ii)o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(31), neu

(iii)o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(32),

sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aeth P iddo oherwydd ei anabledd.

Eithriad 3

Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Eithriad 4

Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb am fenthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.

Eithriad 5

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

Eithriad 6

Mae P yn garcharor.

Ond caiff P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys er ei fod yn garcharor—

(a)os yw cais P am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi, neu

(b)os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs ôl-radd dynodedig a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Eithriad 7

Mae P yn fyfyriwr Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

(2Yn Eithriadau 3 a 4, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—

(a)Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990;

(b)Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;

(c)Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(d)Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998;

(e)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;

(f)rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998.

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys sy’n parhau ar gwrs

6.—(1Mae person (“P”)—

(a)sydd ag anabledd, a

(b)y mae ei amgylchiadau yn dod o fewn un o’r achosion a ganlyn,

yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys (yn unol â hynny, nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyrwyr cymwys a nodir yn Atodlen 2 ac nid yw’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 yn gymwys i P).

(2Yr achosion yw—

Achos 1

(a)roedd P yn cymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, a

(b)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol.

Achos 2

(a)roedd P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol,

(b)mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs ôl-radd presennol (gweler paragraff 15),ac

(c)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.

Cyfnod cymhwystra

7.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â pharagraff 9, 10, 12 neu 13.

(2Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.

Cyrsiau rhan-amser – dim cymhwystra am flynyddoedd o astudio dwysedd isel

8.  Pan fo’r cwrs ôl-radd presennol yn gwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr ôl-radd cymwys yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 o ran sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).

Terfynu cymhwystra yn gynnar

9.  Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan baragraff 15,

(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu

(c)pan fydd P yn dod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.

Terfynu o ganlyniad i gamymddygiad neu fethu â darparu gwybodaeth gywir

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu

(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

(3Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

Adfer cymhwystra ar ôl iddo gael ei derfynu

11.—(1Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan baragraff 9 neu 10 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben

12.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—

(i)P, neu

(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2,

wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.

Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben

13.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

14.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(4Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Trosglwyddo rhwng cyrsiau ôl-radd

15.—(1Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler is-baragraff (2)), ac

(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

Y sail gyntaf

Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn peidio ag ymgymryd ag un cwrs ôl-radd dynodedig ac yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad.

Yr ail sail

Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

Effaith y trosglwyddo

16.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) o dan baragraff 15—

(a)cânt ailasesu swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i P ar ôl y trosglwyddo;

(b)ond os na wneir ailasesiad, mae gan P hawlogaeth, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yr asesodd Gweinidogion Cymru fod gan P hawlogaeth i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono.

(2Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn trosglwyddo—

(a)ar ôl i Weinidogion Cymru asesu hawlogaeth P i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono, ond

(b)cyn i P gwblhau’r flwyddyn honno,

ni chaiff P wneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P wedi trosglwyddo iddo.

Ceisiadau a phenderfyniadau

17.—(1Nid yw person yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y grant mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(2Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—

(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,

(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac

(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais.

(2Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais (gweler paragraff 21 ar gyfer darpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

(4Caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais.

(6Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

(b)os felly, a yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

(d)dadansoddiad sy’n pennu symiau’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff 20(2), ac

(e)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.

Gofynion ar fyfyrwyr ôl-radd cymwys i ddarparu gwybodaeth

19.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru iddynt ei chael at ddibenion yr Atodlen hon.

(2Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr ôl-raddedig cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs ôl-radd presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);

(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs ôl-radd presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs ôl-radd presennol—

(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu

(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs ôl-radd presennol neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod y manylion a ganlyn, sef—

(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,

(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu

(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,

yn newid.

(4Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen hon ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—

(a)cais o dan baragraff 17;

(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan yr Atodlen hon,

yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.

(6Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn is-baragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan baragraff 17 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

(7Gweler paragraff 10 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y paragraff hwn.

Swm grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

20.—(1Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£10,590, neu

(b)swm y gwariant cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “gwariant cymwys” yw gwariant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion canlynol—

(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)gwariant yr eir iddo—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs ôl-radd presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Talu

21.—(1Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn meddwl eu bod yn briodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn meddwl bod hynny’n briodol, dalu unrhyw swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn un taliad mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.

(5Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

(6Os yw’r gofyniad hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl hyd nes bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cydymffurfio.

Gordaliadau

22.—(1Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael taliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n fwy na’r swm y mae hawlogaeth ganddo i’w gael, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(2Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ond nad yw, neu nad yw mwyach, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(5Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol, ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.

Achos 2

Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(6Caniateir adennill gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(7Pan—

(a)bo gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, a

(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,

caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.

(8Nid yw is-baragraffau (6) a (7) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Rheoliad 99

ATODLEN 5Benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge

Benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge

1.—(1Mae benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr Oxbridge cymwys ar gyfer talu ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig.

(2Ystyr “ffioedd coleg” yw’r ffioedd sy’n daladwy gan fyfyriwr Oxbridge cymwys i un o golegau neu neuaddau preifat parhaol Prifysgol Rhydychen, neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt, mewn cysylltiad â myfyriwr yn ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig.

Cyrsiau Oxbridge dynodedig

2.  Mae cwrs yn gwrs Oxbridge dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—

Amod 1

Mae’r cwrs yn gwrs dynodedig (gweler Pennod 1 o Ran 4).

Amod 2

Mae’n gwrs llawnamser.

Amod 3

Mae wedi ei ddarparu gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt.

Amod 4

Mae’r cwrs naill ai—

(a)yn arwain at gymhwyso yn—

(i)gweithiwr cymdeithasol,

(ii)meddyg,

(iii)deintydd,

(iv)milfeddyg, neu

(v)pensaer, neu

(b)yn gwrs pan fo o leiaf un flwyddyn academaidd yn un y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn gymwys mewn perthynas â hi i wneud cais am—

(i)bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,

ar yr amod bod y bwrsari neu’r dyfarndal tebyg neu’r lwfans wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Amod 5

Nid yw’r cwrs yn gwrs dysgu o bell (ond gweler paragraff 3(4)).

Myfyrwyr Oxbridge cymwys

3.—(1Mae person (“P”) yn fyfyriwr Oxbridge cymwys—

(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn is-baragraff (2), a

(b)os nad yw’n dod o fewn yr eithriad yn is-baragraff (3).

(2Yr amodau yw—

Amod 1

Mae P yn fyfyriwr cymwys (gweler Adran 1 o Bennod 2 o Ran 4).

Amod 2

Mae gan P radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

Amod 3

Mae P yn ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig.

Amod 4

Mae P yn aelod—

(a)o un o golegau neu neuaddau preifat parhaol Prifysgol Rhydychen, neu

(b)o un o golegau Prifysgol Caergrawnt.

Amod 5

Mae P o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs Oxbridge dynodedig.

(3Yr eithriad yw bod P yn preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(4Er gwaethaf Amod 5 o baragraff 2, mae P yn fyfyriwr Oxbridge cymwys—

(a)os oes ganddo anabledd,

(b)os yw’n ymgymryd â chwrs Oxbridge dynodedig yn y Deyrnas Unedig,

(c)os nad yw’n bresennol ar y cwrs oherwydd ei anabledd, a

(d)os yw fel arall yn bodloni’r meini prawf a nodir yn is-baragraff (1).

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

4.—(1Pan fo myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys am fod un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraff (2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn unol â’r Atodlen hon mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod i’r digwyddiad ddigwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE;

(d)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Yn is-baragraff (2) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu”(“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2); (within the meaning given by paragraph 6(5) of Schedule 2);

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent worker”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”;

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Cyfnod cymhwystra

5.—(1Mae benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gael mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig ac mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd o’r cwrs nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.

(2Pan ganiateir i fyfyriwr Oxbridge cymwys astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs Oxbridge dynodedig dros ddwy flwyddyn academaidd neu ragor, at ddiben penderfynu a yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge ar gyfer y blynyddoedd hynny, mae’r gyntaf o’r blynyddoedd hynny o astudio i’w thrin yn flwyddyn academaidd safonol ac mae’r blynyddoedd canlynol o’r math hwnnw i’w trin yn flynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn academaidd safonol” yw blwyddyn academaidd o’r cwrs Oxbridge dynodedig y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac sy’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt ag y mae’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn ymgymryd â hi.

Swm y benthyciad at ffioedd colegau

6.—(1Ni chaniateir i swm benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig fod yn fwy na’r swm sy’n hafal i’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan y myfyriwr Oxbridge cymwys i’w goleg neu i’w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2Pan fo myfyriwr Oxbridge cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

7.—(1Pan fo myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo o un cwrs Oxbridge dynodedig i un arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr Oxbridge cymwys i’r cwrs arall—

(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny; a

(b)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.

(2Os yw’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ond ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, mae’r swm y gwneir cais amdano i’w dalu i’r coleg perthnasol neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn cysylltiad â’r cwrs Oxbridge dynodedig y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo (oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys).

(3Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr Oxbridge cymwys wneud cais i gael benthyciad arall at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

(4Os yw myfyriwr Oxbridge cymwys yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs Oxbridge dynodedig y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo.

Talu

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge y mae myfyriwr Oxbridge cymwys yn cymhwyso i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid talu’r benthyciad mewn un cyfandaliad.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad—

(a)cyn iddynt gael oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol—

(i)cais ysgrifenedig am daliad, a

(ii)cadarnhad o bresenoldeb ar y ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru, a

(b)cyn bod y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad yn ymwneud â hi wedi dod i ben.

(4Caiff Gweinidogion Cymru dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge heb gael cadarnhad o bresenoldeb os ydynt yn meddwl y byddai’n briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.

(5Yn y paragraff hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” yw cadarnhad fel y cyfeirir ato yn rheoliad 87(1).

(6Ni chaniateir i Weinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs Oxbridge dynodedig—

(a)os yw’r myfyriwr Oxbridge cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau â diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben, a

(b)os yw’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd.

(7Mae paragraffau 9 a 10 yn nodi amgylchiadau eraill pan na chaniateir i daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge gael ei wneud neu pan ganiateir iddo gael ei gadw’n ôl.

Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladol

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge fod yn rhaid i fyfyriwr Oxbridge cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr Oxbridge cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.

Gofynion gwybodaeth a chytundebau ar gyfer ad-dalu

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol ganddynt at ddibenion—

(a)penderfynu ar gymhwystra i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge, neu

(b)adennill benthyciad.

(2Caniateir i gais o dan is-baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr Oxbridge cymwys am gael gweld—

(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,

(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu

(c)ei dystysgrif geni.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth o dan is-baragraff (1), cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n rhoi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i fyfyriwr Oxbridge cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge drwy ddull penodol.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.

Gordalu

11.  Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol.

Rheoliad 100

ATODLEN 6Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

1.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 oni bai bod rheoliad 2(3) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 yn gymwys i’r cwrs.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012”, ar y diwedd mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(b)yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2012”, ar ôl “1 Medi 2012” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018 (ond gan gynnwys cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 8, 75 neu 102 neu os yw’n gwrs penben)”;

(c)yn y diffiniad o “cwrs mynediad graddedig carlam”, yn is-baragraff (c), ar ôl “1 Medi 2012” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(d)yn y diffiniad o “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig”, yn is-baragraff (b)(ii), ar ôl “1 Medi 2013” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(e)yn y diffiniad o “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig”, yn is-baragraff (a), ar ôl “1 Medi 2013” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(f)yn y diffiniad o “cwrs dysgu o bell”, ar ôl “1 Medi 2012” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(g)yn y diffiniad o “carcharor rhan-amser cymwys”, yn is-baragraff (a), ar ôl “1 Medi 2014” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(h)yn y diffiniad o “carcharor cymwys”, yn is-baragraff (a), ar ôl “1 Medi 2012” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(i)yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”, yn is-baragraffau (b) ac (c), ar ôl “1 Medi 2012” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(j)yn y diffiniad o “bwrsari gofal iechyd”, ar ôl “1968” mewnosoder “ond nid taliad a wneir o’r Gronfa Cymorth Dysgu”;

(k)yn y diffiniad o “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd”, ar ôl “1 Medi 2014” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018 (ond gan gynnwys cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 8, 75 neu 102 neu os yw’n gwrs penben)”;

(l)yn y diffiniad o “cwrs cymhwysol”, ar ôl “cwrs dynodedig llawnamser” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac”;

(m)yn y diffiniad o “sefydliad addysgol cydnabyddedig”, yn is-baragraff (b), ar ôl “1 Medi 2017” mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”;

(n)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “Cronfa Cymorth Dysgu” (“Learning Support Fund”) yw’r gronfa sydd wedi ei rhoi ar gael gan GIG Lloegr i fyfyrwyr penodol mewn cysylltiad â chyrsiau gofal iechyd cymhwysol;”.

4.  Yn rheoliad 3(16) (cymhwyso)—

(a)ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 1(3)”;

(b)ar ôl “1 Medi 2017” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “a chyn 1 Awst 2018”.

5.  Yn lle paragraff (7) o reoliad 4 (myfyrwyr cymwys), rhodder—

(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), os yw person yn bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c) ac nid yw’n bodloni paragraff (3)(c) mae’r person yn fyfyriwr cymwys at ddiben y Rheoliadau hyn ac yn unol â hynny, nid yw paragraffau (2) a (3)(a), (b), (d), (e) ac (f) yn gymwys i’r person.

6.  Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,954” rhodder “£4,800”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£4,046” rhodder “£4,200”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£2,560” rhodder “£2,480”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£1,940” rhodder “£2,020”.

7.  Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,046” rhodder £4,200”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£1,940” rhodder £2,020”.

8.  Yn rheoliad 30 (grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)(o), yn y geiriau cloi sy’n dilyn paragraffau (i) i (iii), yn lle “arall—” rhodder “arall;”

(b)cywirer y rhifo ar ôl paragraff (1)(o) a rhoi—

(i)“(p)” yn lle “(a)”;

(ii)“(q)” yn lle “(b)”;

(iii)“(r)” yn lle “(c)”;

(c)ym mharagraff (3), yn lle “rheoliad 28” rhodder “rheoliad 27”.

9.  Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr penodol)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (i), ar ôl “£5,358” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £5,529”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “£9,697” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £10,007”;

(iii)yn is-baragraff (iii), ar ôl “£8,253” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £8,517”;

(iv)yn is-baragraff (iv), ar ôl “£8,253” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £8,517”;

(v)yn is-baragraff (v), ar ôl “£6,922” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,143”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (i), ar ôl “£4,851” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £5,006”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “£8,830” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £9,112”;

(iii)yn is-baragraff (iii), ar ôl “£7,179” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,408”;

(iv)yn is-baragraff (iv), ar ôl “£7,179” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,408”;

(v)yn is-baragraff (v), ar ôl “£6,412” mewnosoder “ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £6,617”.

10.  Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—

(a)ym mharagraff (1)(a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,544” rhodder “£2,625”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£4,768” rhodder “£4,920”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,392” rhodder “£3,500”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,392” rhodder “£3,500”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,392” rhodder “£3,500”;

(b)ym mharagraff (1)(b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,544” rhodder “£2,625”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£4,768” rhodder “£4,920”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£4,056” rhodder “£4,186”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£4,056” rhodder “£4,186”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,392” rhodder “£3,500”;

(c)ym mharagraff (1)(c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£4,019” rhodder “£4,147”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,273” rhodder “£7,505”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£6,190” rhodder “£6,388”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£6,190” rhodder “£6,388”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£5,191” rhodder “£5,357”;

(d)ym mharagraff (2)(a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£1,934” rhodder “£1,996”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,646” rhodder “£3,763”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£2,643” rhodder “£2,727”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£2,643” rhodder “£2,727”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,643” rhodder “£2,727”;

(e)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£1,934” rhodder “£1,996”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,644” rhodder “£3,763”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£2,965” rhodder “£3,060”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£2,965” rhodder “£3,060”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,643” rhodder “£2,727”;

(f)ym mharagraff (2)(c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£3,638” rhodder “£3,755”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£6,623” rhodder “£6,834”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£5,384” rhodder “£5,556”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£5,384” rhodder “£5,556”;

(v)mharagraff (v), yn lle “£4,809” rhodder “£4,963”.

11.  Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 44” rhodder “rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “rheoliad 44” rhodder “rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44”.

12.  Yn rheoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,019” rhodder “£4,147”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£7,273” rhodder “£7,505”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “£6,190” rhodder “£6,388”;

(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “£6,190” rhodder “£6,388”;

(v)yn is-baragraff (e), yn lle “£5,191” rhodder “£5,357”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,638” rhodder “£3,755”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£6,623” rhodder “£6,834”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “£5,384” rhodder “£5,556”;

(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “£5,384” rhodder “£5,556”;

(v)yn is-baragraff (e), yn lle “£4,809” rhodder “£4,963”.

13.  Yn rheoliad 92(3)(b) (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant), yn lle “ganddo” rhodder “gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys”.

14.  Yn rheoliad 95(1)(i) (grantiau rhan-amser ar gyfer ddibynyddion - dehongli), yn lle “(6)” rhodder “(7)”.

15.  Yn Atodlen 2, paragraff 3(a), yn lle “Thechnegwyr” rhodder “Thechnoleg”.

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 7Mynegai o dermau wedi eu diffinio

1.  Mae Tabl 16 yn rhestru ymadroddion sydd wedi eu diffinio neu sydd wedi eu hesbonio fel arall yn y Rheoliadau hyn.

Tabl 16

YmadroddWedi ei ddiffinio, neu y cyfeirir ato, yn...
“AEE”Atodlen 2, paragraff 11
“aelod o deulu” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2)Atodlen 2, paragraffau 4(3), 5(5) a 6(5)
“aelod o’r lluoedd arfog”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“anabledd”Rheoliad 61(2)
“athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“awdurdod academaidd”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“awdurdod lleol Cymreig”Atodlen 2, paragraff 10(2)
“benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge”Atodlen 5, paragraff 1(1)
“benthyciad at ffioedd dysgu”Rheoliad 38
“benthyciad cynhaliaeth”Rheoliad 53
“benthyciad myfyriwr” (at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys)Rheoliad 10(3)
“benthyciad myfyriwr” (at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys)Atodlen 4, paragraff 5(2)
“BF”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“BF-1”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“BG”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“blwyddyn academaidd”Atodlen 1, paragraff 1
“blwyddyn academaidd gyfredol” (at ddibenion cyfrifo incwm o dan Atodlen 3)Atodlen 3, paragraff 23(2)
“blwyddyn academaidd gyfredol” (at ddibenion penderfynu ar hawlogaeth myfyriwr i grant ar gyfer dibynyddion)Rheoliad 70(1)
“blwyddyn academaidd safonol” (mewn perthynas â chwrs Oxbridge dynodedig)Atodlen 5, paragraff 5(3)
“blwyddyn ariannol”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“blwyddyn ariannol gymwys”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“blwyddyn berthnasol” (at ddibenion cyfrifo incwm net)Atodlen 3, paragraff 21(3)
“blwyddyn Erasmus”Atodlen 1, paragraff 4(1)
“bwrsari gofal iechyd”Rheoliad 10(4)
“byw gartref”Atodlen 1, paragraff 3(1)(a)
“byw oddi cartref, astudio yn Llundain”Atodlen 1, paragraff 3(1)(b)
“byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall”Atodlen 1, paragraff 3(1)(c)
“carcharor”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“corff cyhoeddus”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“Cronfa Cymorth Dysgu”Rheoliad 10(4)
“cwrs addysg perthnasol” (at ddibenion diffinio “cwrs penben”)Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs blaenorol”Rheoliad 17(3)
“cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs cynharach”Rheoliad 11(3)
“cwrs dynodedig”Pennod 1 o Ran 4
“cwrs dysgu o bell”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs gradd cywasgedig”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs gradd perthnasol” (at ddibenion diffinio “cwrs penben”)Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs mynediad graddedig carlam”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs newydd”Rheoliad 28(1)
“cwrs llawnamser cyfatebol” (at ddibenion cyfrifo’r dwysedd astudio)Atodlen 1, paragraff 5(3)
“cwrs ôl-radd dynodedig”Atodlen 4, paragraffau 2 a 3
“cwrs ôl-radd presennol”Atodlen 4, paragraff 1(2)
“cwrs Oxbridge dynodedig”Atodlen 5, paragraff 2
“cwrs penben”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs presennol”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cwrs rhagarweiniol”Rheoliad 16(1)
“cwrs rhyngosod”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cyfanswm newydd sy’n daladwy”Rheoliad 88(4)
“Cyfarwyddeb 2004/38”Atodlen 2, paragraff 11
“cyfnod arferol”Rheoliad 17(1)
“cyfnod cymhwystra” (mewn perthynas â chwrs dynodedig)Adran 2 o Bennod 2 o Ran 4
“cyfnod cymhwystra” (mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig)Atodlen 4, paragraff 7
“cyfnod cymhwystra” (mewn perthynas â chwrs Oxbridge dynodedig)Atodlen 5, paragraff 5
“cyfnod o brofiad gwaith”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (at ddibenion cyfrifo’r dwysedd astudio)Atodlen 1, paragraff 5(3)
“cyfnod talu”Rheoliad 95(9)
“Cyngor Ymchwil”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cymorth”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“cymorth perthnasol”Rheoliad 27(2)
“cyn-Ddosbarth yr Heddlu Metropolitanaidd”Atodlen 1, paragraff 3(3)
“cynllun ERASMUS”Atodlen 1, paragraff 4(3)
“cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth”Rheoliad 7(2)
“Cytundeb y Swistir”Atodlen 2, paragraff 11
“chwarter”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“chwarter cymhwysol”Rheoliad 66(1)
“darparwr arferol”Rheoliad 40(2)(c)(i)
“Deddf 1998”Rheoliad 5
“derbyn gofal”Atodlen 2, paragraff 10(2)
“dwysedd astudio” (mewn perthynas â chwrs rhan-amser)Atodlen 1, paragraff 5
“dyfarndal statudol”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“ffioedd”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“ffioedd coleg”Atodlen 5, paragraff 1(2)
“ffioedd rhagnodedig” (mewn perthynas â’r grant gofal plant)Rheoliad 75(3)
“ffoadur”Atodlen 2, paragraff 11
“gorchymyn trefniadau pensiwn”Atodlen 3, paragraff 23(2)
“grant at deithio”Rheoliad 64
“grant bwrsari at gostau byw”Rheoliad 10(2)
“grant cynhaliaeth”Rheoliad 43
“grant dysgu ar gyfer rhieni”Rheoliad 68(1)
“grant gofal plant”Rheoliad 68(1)
“grant myfyriwr anabl”Rheoliad 61(1)
“grant myfyriwr ôl-raddedig anabl”Atodlen 4, paragraff 1(1)
“grant oedolion dibynnol”Rheoliad 68(1)
“grant sylfaenol”Rheoliad 43
“grantiau ar gyfer dibynyddion”Rheoliad 68
“gwariant cymwys” (mewn perthynas â grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)Atodlen 4, paragraff 20(2)
“gweithiwr”Atodlen 2, paragraff 4(4)
“gweithiwr mudol AEE”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“gweithiwr trawsffiniol AEE”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“gweithiwr Twrcaidd”Atodlen 2, paragraff 8(2)
“gwladolyn AEE”Atodlen 2, paragraff 4(4)
“hawl i breswylio’n barhaol”Atodlen 2, paragraff 11
“hen gwrs”Rheoliad 28(1)
“incwm aelwyd”Atodlen 3 Rhan 2
“incwm gweddilliol”Atodlen 3, Rhan 4
“incwm net” (dibynyddion)Atodlen 3, Rhan 5
“incwm trethadwy”Atodlen 3, paragraff 9
“lwfans gofal iechyd yr Alban”Rheoliad 10(4)
“y lleoliad”Rheoliad 66(1)
“Llundain”Atodlen 1, paragraff 3(2)
“myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon”Rheoliad 15(6)
“myfyriwr cymwys”Rheoliad 9(1)
“myfyriwr cymwys annibynnol”Atodlen 3, paragraff 4
“myfyriwr llawnamser” (at ddibenion penderfynu ar hawlogaeth myfyriwr i gael categori penodol o gymorth)Rheoliad 46(1), 55(1)
“myfyriwr llawnamser safonol” (at ddibenion cyfrifo’r dwysedd astudio)Atodlen 1, paragraff 5(3)
“myfyriwr ôl-raddedig cymwys”Atodlen 4, paragraffau 4, 5 a 6
“myfyriwr Oxbridge cymwys”Atodlen 5, paragraff 3
“myfyriwr rhan-amser” (at ddibenion penderfynu ar hawlogaeth myfyriwr i gael categori penodol o gymorth)Rheoliad 47(1), 58(1)
“oedolyn dibynnol”Rheoliad 70(1)
“partner” (at ddibenion cyfrifo incwm o dan Atodlen 3)Atodlen 3, paragraff 23(1)
“partner” (at ddibenion penderfynu ar hawlogaeth myfyriwr i gael grantiau ar gyfer dibynyddion)Rheoliad 70(2)
“person â gradd anrhydedd”Rheoliad 24(1)
“person cyflogedig”Atodlen 2, paragraff 4(4)
“person cyflogedig Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person graddedig”Rheoliad 25(1)
“person hunangyflogedig”Atodlen 2, paragraff 4(4)
“person hunangyflogedig AEE”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person hunangyflogedig Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person hunangyflogedig trawsffiniol AEE”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd”Atodlen 2, paragraff 4(3)
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”Atodlen 2, paragraff 3(4)
“person sy’n ymadael â gofal”Rheoliad 49
“perthynas agos”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“plentyn dibynnol”Rheoliad 70(1) (ond gweler hefyd reoliad 75(3) mewn perthynas â grant gofal plant)
“Rheoliadau 2017”Rheoliad 2(3)(a)
“rhiant” a “plentyn” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2)Atodlen 2, paragraff 11
“rhiant unigol”Rheoliad 70(1)
“sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus”Atodlen 1, paragraff 6(1)
“sefydliad addysgol cydnabyddedig”Atodlen 1, paragraff 2(a)
“sefydliad preifat”Rheoliad 40(2)(c)(ii)
“sefydliad rheoleiddiedig Cymreig”Atodlen 1, paragraff 2(b)
“sefydliad rheoleiddiedig Seisnig”Atodlen 1, paragraff 2(c)
“swm llawn”Rheoliad 95(4)
“swm rhannol”Rheoliad 95(4)
“y System Cyd-godio Pynciau Academaidd”Rheoliad 25(3)
“taliad cymorth arbennig”Rheoliad 50
“wedi setlo”Atodlen 2, paragraff 11
“Ynysoedd”Atodlen 2, paragraff 11
“ysgol a gynhelir”Rheoliad 7(3)
(2)

Mae ERASMUS yn rhan o SOCRATES, rhaglen weithredu’r Undeb Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.

(3)

2002 p. 32; y rheoliadau yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, O.S. 1999/2817, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003, O.S. 2003/1662, Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, O.S. 2012/724 a Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017, O.S. 2017/165.

(6)

OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.

(7)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(8)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif Ll 14, 30.04.02, t. 6.

(9)

Gorchmn. 9171.

(10)

Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.

(11)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(12)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.

(13)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(14)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(16)

1992 p. 4.

(17)

2002 p. 38. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131). Diwygiwyd adran 4 gan O.S. 2010/1158; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5, paragraffau 104 a 105; a chan S.I. 2013/160.

(18)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf Budd-dal Plant 2005, adran 1(3), Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 1 a 4, Deddf Credydau Treth 2002, Atodlen 6, Deddf Partneriaeth Sifil 2004, adran 254(1), Atodlen 24, Rhan 3, paragraff 34.

(19)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adrannau 8 a 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2, paragraff 30.

(21)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru ac mae O.S. 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.

(22)

Diwygiwyd adran 24 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 4(1), Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p, 38), adran 139 ac Atodlen 3, paragraff 60, O.S. 2007/961 (Cy. 85), paragraff 20(2)(b), O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 2, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adran 55 ac Atodlen 5, paragraff 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliad 81.

(24)

2012 p. 5.

(25)

O.S. 2013/376. Diwygiwyd rheoliad 27 gan O.S. 2017/204, rheoliad 4.

(26)

Mae rheoliad 24 o O.S. 2013/376, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/2088 a Deddf Diwygio Lles a Gwaith 2016 (p. 7), adran 14, yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch elfen y plentyn o ddyfarndal.

(27)

1973 p. 18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(28)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.

(29)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

(30)

1992 p. 13; mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) o adran 65 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(31)

2000 p. 14. Diwygiwyd adran 67(4) gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal (Cymru) 2016 (dccc 2), Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill