Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mawrth 2018.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

(3Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath—

(a)os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 8, 75, 102 neu 114 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”)(1) neu baragraff 11 o Atodlen 4 iddynt, neu

(b)os yw’r cwrs yn gwrs penben o fewn ystyr Rheoliadau 2017.

(4Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—

(a)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu

(b)sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018,

gweler Rheoliadau 2017 fel y’u diwygir gan Atodlen 6 i’r Rheoliadau hyn.

RHAN 2TROSOLWG

Trosolwg

3.—(1Mae’r Rhannau sy’n weddill o’r Rheoliadau hyn wedi eu trefnu fel a ganlyn.

(2Mae Rhan 3 yn cyflwyno 2 Atodlen—

(a)Atodlen 1, sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli termau allweddol penodol, a

(b)Atodlen 7, sy’n cynnwys mynegai o’r termau wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn.

(3Mae 2 Bennod i Ran 4, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y cysyniadau allweddol sy’n penderfynu cymhwystra i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu a yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn ac felly yn gwrs y caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef;

(b)mae 5 Adran i Bennod 2, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig fod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(i)mae Adran 1 yn nodi’r meini prawf er mwyn penderfynu a yw myfyriwr yn gymwys i gael cymorth (gweler yn benodol Atodlen 2 sy’n nodi’r categorïau o fyfyriwr cymwys) ac yn cynnwys darpariaeth ynghylch yr eithriadau a all olygu nad yw myfyriwr yn gymwys;

(ii)mae Adran 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfnod y caiff myfyriwr barhau i fod yn gymwys i gael cymorth ar ei gyfer, gan gynnwys mewn achosion pan fo myfyriwr yn ymgymryd â mwy nag un cwrs;

(iii)mae Adran 3 yn nodi’r rheolau ar gyfer terfynu cymhwystra myfyriwr cymwys yn gynnar, er enghraifft o ganlyniad i gamymddygiad y myfyriwr;

(iv)mae Adran 4 yn nodi’r cyfyngiadau ar gymorth sydd ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn achosion pan fo myfyriwr wedi ymgymryd ag astudio blaenorol, megis gradd flaenorol;

(v)mae Adran 5 yn ymdrin ag achosion pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall, gan gynnwys darpariaeth ynghylch ailasesu’r swm sy’n daladwy i fyfyriwr o dan amgylchiadau o’r fath a darpariaeth sy’n ymdrin ag achosion pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o astudio llawnamser i astudio rhan-amser ac i’r gwrthwyneb.

(4Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth weinyddol ynghylch—

(a)ceisiadau am gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(b)gofynion a osodir ar geiswyr a myfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth;

(c)contractau ar gyfer benthyciadau y gwneir cais amdanynt o dan y Rheoliadau hyn.

(5Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau at ffioedd dysgu gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, a

(b)symiau’r benthyciad sydd ar gael i gategorïau amrywiol o fyfyriwr cymwys.

(6Mae 4 Pennod i Ran 7, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y prif gymorth grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio, yn benodol—

(a)mae Pennod 1 yn nodi’r amodau cymhwyso y mae rhaid iddynt gael eu bodloni er mwyn i fyfyriwr gymhwyso i gael grant o dan Benodau 2 neu 3;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant sylfaenol, gan bennu swm y grant sylfaenol sydd ar gael;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant cynhaliaeth, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)swm y grant sydd ar gael;

(ii)sut y caiff swm y grant sydd ar gael ei ostwng mewn perthynas ag incwm aelwyd y myfyriwr (gweler Atodlen 3 ar gyfer darpariaeth ynghylch sut i gyfrifo incwm yr aelwyd);

(iii)achosion pan na fo incwm aelwyd myfyriwr yn berthnasol a bod uchafswm y grant ar gael;

(d)mae Pennod 4 yn cynnwys darpariaethau sy’n penderfynu pryd y caniateir i swm grantiau sy’n daladwy o dan y Rhan hon gael ei ystyried yn gymorth arbennig oherwydd i’r myfyriwr fodloni amodau penodol mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael budd-daliadau neu gredydau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r swm sydd i’w ystyried felly.

(7Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau cynhaliaeth gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)uchafswm y benthyciad sydd ar gael;

(b)sut y mae uchafswm y benthyciad sydd ar gael i’w ostwng mewn perthynas â swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys.

(8Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant myfyriwr anabl sef grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys penodol ag anabledd sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig mewn cysylltiad â chostau ychwanegol penodol a nodir yn y Rhan ac yr eir iddynt oherwydd anabledd y myfyriwr.

(9Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch grantiau at gostau teithio y mae myfyrwyr cymwys penodol yn mynd iddynt.

(10Mae 5 Pennod i Ran 11, ynghylch grantiau ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys y mae ganddynt ddibynyddion (“grantiau ar gyfer dibynyddion”), yn benodol—

(a)mae Pennod 1 yn nodi’r 3 math o grantiau ar gyfer dibynyddion ac yn cynnwys darpariaeth ynghylch yr amodau cymhwyso a’r termau wedi eu diffinio sy’n gyffredin i bob un o’r grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant oedolion dibynnol gan gynnwys darpariaeth ynghylch y meini prawf cymhwyso ac uchafswm y grant sydd ar gael;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn cysylltiad â’r grant dysgu ar gyfer rhieni;

(d)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y grant gofal plant gan gynnwys darpariaeth ynghylch yr amodau cymhwyso, y mathau o ofal plant y mae cymorth ar gael ar eu cyfer a sut i gyfrifo uchafswm y grant gofal plant sydd ar gael;

(e)mae Pennod 5 yn nodi sut i gyfrifo swm y grantiau ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr gan gynnwys gostwng y swm sy’n daladwy drwy gyfeirio at incwm (gweler Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm at ddibenion y darpariaethau hyn).

(11Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion pan gaiff myfyriwr ddod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

(12Mae 4 Pennod i Ran 13, ynghylch taliadau, gordaliadau ac adennill gordaliadau, yn benodol—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i daliadau gael eu gwneud ar sail penderfyniadau dros dro;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu benthyciadau at ffioedd dysgu, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i’r benthyciad gael ei dalu a’r gofynion sydd i’w bodloni cyn y gwneir taliadau;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn cysylltiad â thalu benthyciadau cynhaliaeth neu grantiau;

(d)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gordaliadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r hyn sy’n ordaliad a sut y caniateir i ordaliad gael ei adennill.

(13Mae 2 Bennod i Ran 14, ynghylch cyfyngiadau ar daliadau a symiau a all fod yn daladwy i fyfyriwr cymwys, yn benodol—

(a)mae Pennod 1 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)ei gwneud yn ofynnol darparu manylion cyfrif banc cyn y gwneir taliadau;

(ii)cyfrifo’r gostyngiad mewn swm sy’n daladwy o ganlyniad i gyfnod o absenoldeb;

(iii)cyfrifo’r gostyngiad mewn swm sy’n daladwy o ganlyniad i gymhwystra’n dod i ben neu’n cael ei derfynu;

(b)mae Pennod 2 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n—

(i)cyfyngu ar dalu benthyciad os yw’r myfyriwr yn methu â darparu rhif Yswiriant Gwladol;

(ii)cadw taliad benthyciad yn ôl os yw’r myfyriwr yn methu â darparu gwybodaeth benodol y gofynnir amdani.

(14Mae Rhan 15 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, sef grant sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig penodol sy’n ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn cysylltiad â chostau byw yr eir iddynt oherwydd anabledd y myfyriwr.

(15Mae Rhan 16 yn cyflwyno Atodlen 5 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau sydd ar gael ar gyfer ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyrwyr penodol sy’n ymgymryd â chyrsiau penodol ym Mhrifysgol Rhydychen neu ym Mhrifysgol Caergrawnt (benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge).

(16Mae Rhan 17 yn cyflwyno Atodlen 6 sy’n cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2017.

RHAN 3DEHONGLI A’R MYNEGAI

Dehongli a’r mynegai

4.—(1Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau allweddol penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Mae Atodlen 7, sef yr Atodlen derfynol i’r Rheoliadau hyn, yn cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.

RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 1CYRSIAU DYNODEDIG

Cyrsiau dynodedig

5.  Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)) mae cwrs yn gwrs dynodedig—

(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn rheoliad 6(1), a

(b)os nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7(1).

Cyrsiau dynodedig – amodau

6.—(1Yr amodau yw—

Amod 1

Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—

(a)cwrs gradd gyntaf;

(b)cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;

(c)cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(i)y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu

(ii)Awdurdod Cymwysterau’r Alban;

(d)cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch;

(e)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(f)cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;

(g)cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—

(i)arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(ii)arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (c),

cyhyd ag nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;

(h)cwrs—

(i)sy’n darparu addysg (pa un a yw i baratoi at arholiad ai peidio) y mae ei safon yn uwch na safon cwrs a grybwyllir ym mharagraff (g) ond nad yw’n uwch na safon cwrs gradd gyntaf, a

(ii)nad yw gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad iddo.

Amod 2

Mae’r cwrs naill ai’n—

(a)cwrs llawnamser,

(b)cwrs rhyngosod, neu’n

(c)cwrs rhan-amser.

Amod 3

Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.

Amod 4

Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser, mae’n cael ei ddarparu gan—

(a)sefydliad addysgol cydnabyddedig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),

(b)elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011(2) ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu

(c)sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar ran sefydliad rheoleiddiedig Seisnig.

Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

Amod 5

Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

Amod 6

Mae’r cwrs yn arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3) oni bai bod y cwrs yn dod o fewn paragraff (c) neu (e) o Amod 1.

(2At ddibenion Amod 4—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)bernir bod prifysgol, ac unrhyw goleg cyfansoddol mewn prifysgol, neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg mewn prifysgol, yn sefydliad addysgol cydnabyddedig os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu’r sefydliad cyfansoddol yn sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad addysgol cydnabyddedig dim ond oherwydd ei fod yn sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cael, oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad arall, y cyfan neu ran o unrhyw grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a ddarperir i’r sefydliad arall hwnnw yn unol ag adran 65(3A) o’r Ddeddf honno(4).

(3Yn y rheoliad hwn, os yw paragraff (4) yn gymwys i gwrs, ystyrir ei fod yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) hyd yn oed os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd neu gymhwyster arall cyn y radd (neu’r cymhwyster cyfatebol) (pa un a yw rhan o’r cwrs yn opsiynol ai peidio).

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gwrs—

(a)nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf, a

(b)sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

Cyrsiau dynodedig – eithriadau

7.—(1Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Cwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

Eithriad 2

Cwrs sy’n dod o fewn paragraff (g) neu (h) o Amod 1 o reoliad 6(1) os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i’r cwrs gael ei ddarparu i un o ddisgyblion yr ysgol.

(2At ddibenion Eithriad 1, ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” yw—

(a)cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(5) neu o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(6), sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

(b)cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.

(3At ddibenion Eithriad 2, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,

(b)ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, neu

(c)ysgol feithrin a gynhelir.

Dynodi cyrsiau eraill

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y dynodiad(7).

(2Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan baragraff (1).

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 1Myfyrwyr cymwys

Myfyrwyr cymwys

9.—(1Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

(a)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person, neu

(b)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir yn rheoliad 11.

(2Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg.

Myfyrwyr cymwys - Eithriadau

10.—(1Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae dyfarndal o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Dyfarndaliadau Mandadol) 2003(8) wedi cael ei roi i P mewn cysylltiad â’r cwrs.

Eithriad 2

Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae P yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs dynodedig o dan Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(9).

Eithriad 3

Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—

(a)pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser—

(i)bwrsari gofal iechyd, nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P (oni bai ei fod yn grant bwrsari at gostau byw), neu

(ii)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(10);

(b)pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser—

(i)bwrsari gofal iechyd (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio),

(ii)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007, neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio).

Eithriad 4

Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Eithriad 5

Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.

Eithriad 6

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth.

Eithriad 7

Mae P yn garcharor.

Ond caiff P fod yn fyfyriwr cymwys er ei fod yn garcharor—

(a)os yw cais P am gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi,

(b)os yw cwrs presennol P yn gwrs penben llawnamser, neu

(c)os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Yn Eithriad 3, mae “grant bwrsari at gostau byw” yn grant at gostau byw sy’n cael ei roi ar gael o dan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

(3Yn Eithriadau 4 a 5, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—

(a)Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(11);

(b)Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;

(c)Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(12);

(d)Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(13);

(e)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;

(f)y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan Ddeddf 1998.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan—

(a)

adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(14), ond nid taliad a wneir o’r Gronfa Cymorth Dysgu;

(b)

Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(15);

ystyr “Cronfa Cymorth Dysgu” (“Learning Support Fund”) yw’r gronfa sy’n cael ei rhoi ar gael gan GIG Lloegr i fyfyrwyr penodol mewn cysylltiad â chyrsiau gofal iechyd cymhwysol;

ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(16) a roddir mewn cysylltiad â phresenoldeb P ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel meddyg neu ddeintydd.

Myfyrwyr cymwys sy’n parhau ar gwrs

11.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) —

(a)os yw amgylchiadau P yn dod o fewn un o’r achosion ym mharagraff (3), a

(b)os nad yw Eithriad 3 yn rheoliad 10 yn gymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn y mae P yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae P yn fyfyriwr cymwys ac yn unol â hynny—

(a)nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyriwr a nodir yn Atodlen 2, a

(b)nid yw unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 (ac eithrio Eithriad 3) yn rhwystro P rhag bod yn fyfyriwr cymwys.

(3Yr achosion yw—

(a) Achos 1

(a)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o gwrs presennol P, ac

(b)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw.

(a) Achos 2

(a)mae cwrs presennol P yn gwrs penben,

(b)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs (y “cwrs cynharach”) y mae cwrs presennol P yn gwrs penben mewn perthynas ag ef,

(c)dim ond oherwydd bod P wedi cwblhau’r cwrs cynharach hwnnw y daeth cyfnod cymhwystra P ar gyfer y cwrs i ben, a

(d)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.

(a) Achos 3

(a)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs presennol,

(b)mae statws P fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs presennol (gweler adran 5), ac

(c)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.

ADRAN 2Cyfnod cymhwystra

Cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinol

12.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad 19, 20, 22 neu 23.

(2Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(3Ond—

(a)os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser neu’n gwrs rhyngosod, a

(b)os yw rheoliad 14, 15 neu 16 yn gymwys i’r myfyriwr,

mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ar gyfer y cwrs wedi ei gyfyngu i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a bennir yn y rheoliad cymwys ar gyfer y categori o gymorth a bennir yn y rheoliad hwnnw.

(4Pan fo cymhwystra myfyriwr i gael cymorth wedi ei gyfyngu o dan reoliad 14, 15 neu 16 fel bod nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r categori o gymorth a bennir yn y rheoliad o dan sylw ar gael mewn cysylltiad â hwy yn llai na chyfnod arferol y cwrs presennol, mae’r categori o gymorth sydd wedi ei bennu felly ar gael mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd diweddaraf y cwrs.

Cyrsiau rhan-amser – dim cymhwystra am flynyddoedd o astudio dwysedd isel

13.  Pan fo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 am sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau ar gyfer myfyrwyr newydd

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a

(b)nad yw wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, grant myfyriwr anabl, grant at deithio neu grant ar gyfer dibynyddion yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—

  • Cyfnod arferol y cwrs presennol.

  • Plws

  • Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.

  • Plws

  • Un flwyddyn.

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau penodedig i fyfyrwyr sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorol

15.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a

(b)sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu grant at deithio yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—

  • Cyfnod arferol y cwrs presennol.

  • Plws

  • Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.

  • Plws

  • Un flwyddyn.

  • Llai

  • Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs neu’r cyrsiau blaenorol (os yw’r myfyriwr wedi ymgymryd â mwy nag un cwrs blaenorol).

  • Ond nid yw didyniad i’w wneud os yw’r myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu os yw’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

(3Os na chwblhaodd y myfyriwr cymwys y cwrs blaenorol diweddaraf yn llwyddiannus am resymau personol anorchfygol—

(a)mae un flwyddyn ychwanegol i’w hadio at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2), a

(b)caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r rhesymau hynny.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.

(5Pan fo’r rheoliad hwn a rheoliad 16 yn gymwys i fyfyriwr cymwys, mae cyfnod cymhwystra hwyaf y myfyriwr i gael—

(a)benthyciad at ffioedd dysgu,

(b)grant sylfaenol,

(c)grant cynhaliaeth, neu

(d)grant at deithio

i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 16.

(6Ym mharagraff (2), ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yw myfyriwr nad yw’n athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na 2 flynedd.

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau i fyfyrwyr penodol sy’n parhau â’u hastudiaethau

16.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cymwys y mae ei gwrs presennol yn gwrs penben llawnamser (cyfeirir at y cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ym mharagraff (2) fel y “cwrs rhagarweiniol”);

(b)myfyriwr cymwys—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser ar gyfer y Diploma Addysg Uwch neu ar gyfer y Diploma Cenedlaethol Uwch neu’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch a ddyfernir gan naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban (y “cwrs rhagarweiniol”),

(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol; a

(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol;

(c)myfyriwr cymwys—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser (y “cwrs rhagarweiniol”),

(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd anrhydedd llawnamser na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol, a

(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, grant myfyriwr anabl, grant at deithio neu grant ar gyfer dibynyddion yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—

  • Tair blynedd neu gyfnod arferol y cwrs presennol, pa un bynnag yw’r hwyaf.

  • Plws

  • Un flwyddyn neu’r cyfnod arferol llai un flwyddyn o’r cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol os cwblhaodd y myfyriwr fwy nag un cwrs sydd i’w drin yn gwrs rhagarweiniol), pa un bynnag yw’r hwyaf.

  • Llai

  • Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs rhagarweiniol (neu’r cyrsiau rhagarweiniol) ac eithrio blynyddoedd sydd wedi eu hailadrodd gan y myfyriwr cymwys am resymau personol anorchfygol.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.

Y cyfnod cymhwystra hwyaf – dehongli

17.—(1At ddibenion rheoliadau 12 a 14 i 16, ystyr “cyfnod arferol” cwrs yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i’w gwblhau.

(2At ddibenion cyfrifo—

(a)cyfnod cymhwystra hwyaf myfyriwr o dan reoliad 14(2), 15(2) neu 16(2), neu

(b)a yw cyfnod cymhwystra myfyriwr wedi dod i ben,

mae unrhyw flwyddyn rannol yr ymgymerodd y myfyriwr â hi i’w chyfrif fel blwyddyn academaidd gyfan.

(3Yn rheoliadau 14 a 15, ystyr “cwrs blaenorol” yw cwrs—

(a)sy’n—

(i)cwrs addysg uwch llawnamser, neu

(ii)cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon,

y dechreuodd y myfyriwr ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol,

(b)sy’n bodloni un o’r amodau a nodir ym mharagraff (4), ac

(c)nad yw wedi ei eithrio rhag bod yn gwrs blaenorol yn rhinwedd paragraff (5), (6) neu (7).

(4Yr amodau yw—

Amod 1

Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn sefydliad addysgol cydnabyddedig am rai neu bob un o’r blynyddoedd academaidd pan oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.

Amod 2

Mae’r cwrs yn un—

(a)

y talwyd mewn perthynas ag ef ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs i dalu ffioedd, a

(b)

y darparwyd y taliad mewn perthynas ag ef gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.

(5Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, a

(b)os nad yw’r myfyriwr yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

(6Nid yw cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, a

(b)os—

(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu

(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg.

(7Nid yw cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg yn gwrs blaenorol—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg, a

(b)os—

(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu

(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Estyn y cyfnod hwyaf pan fo’r myfyriwr yn cael hysbysiad anghywir

18.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys (“P”)—

(a)y mae ei gyfnod cymhwystra hwyaf i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 15 neu 16,

(b)sydd wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—

(i)cwrs blaenorol yr ymgymerodd P ag ef, a

(ii)unrhyw gymwysterau sydd gan P, ac

(c)sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan cyfnod cymhwystra hwyaf anghywir.

(2Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan P yn sylweddol anghywir.

ADRAN 3Terfynu cymhwystra

Terfynu cymhwystra yn gynnar

19.—(1Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu

(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(2Pan—

(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a

(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

Camymddwyn a methu â darparu gwybodaeth gywir

20.—(1Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu

(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

(3Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.

Adfer cymhwystra ar ôl iddo derfynu

21.—(1Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—

(i)P, neu

(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,

wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(17).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.

Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

ADRAN 4Astudio blaenorol

Myfyrwyr llawnamser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion â gradd anrhydedd

24.—(1Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person â gradd anrhydedd”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr—

(a)yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2), a

(b)ym mhob Achos, yn bodloni’r amodau cymhwyso penodol sy’n ymwneud â’r cymorth o dan sylw.

(2Yr Achosion yw—

Achos 1

Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn os yw’r cwrs presennol yn—

(a)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig, neu’n

(b)cwrs mynediad graddedig carlam.

Achos 2

Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth os yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

(b)mae’r person graddedig i gael unrhyw daliad o dan—

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig, neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol;

(c)mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

Achos 3

Er gwaethaf paragraff (1)—

(a)os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl yn rhinwedd rheoliad 6(3) a (4), a

(b)os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymhwyster cyfatebol,

nid yw rhoi’r radd anrhydedd honno yn rhwystro’r myfyriwr rhag cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r cwrs sengl hwnnw.

Achos 4

Mae rheoliad 26 yn gymwys.

Myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion

25.—(1Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).

(2Yr Achosion yw—

Achos 1

O ran y radd gyntaf—

(a)nid gradd anrhydedd ydoedd; a

(b)fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,

ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).

Achos 2

Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.

Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd a naill ai’n—

(a)cwrs sy’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni; neu’n

(b)cwrs sydd wedi ei restru yn y System Cyd-godio Pynciau Academaidd yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—

(i)peirianneg;

(ii)technoleg;

(iii)cyfrifiadureg;

(iv)pynciau perthynol i feddygaeth;

(v)y gwyddorau biolegol;

(vi)milfeddygaeth, amaethyddiaeth a phynciau cysylltiedig;

(vii)y gwyddorau ffisegol;

(viii)y gwyddorau mathemategol.

Achos 4

Mae rheoliad 26 yn gymwys.

(3Yn Achos 3, ystyr “y System Cyd-godio Pynciau Academaidd” yw fersiwn 3 o’r System Cyd-godio Pynciau Academaidd a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(18).

Codi’r cyfyngiadau pan geir hysbysiad anghywir

26.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo person â gradd anrhydedd o fewn ystyr rheoliad 24 neu berson graddedig o fewn ystyr rheoliad 25 (“G”) wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd anrhydedd neu, yn ôl y digwydd, radd gyntaf, a ddyfarnwyd i’r person o’r blaen, a

(b)pan fo G yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan yn anghywir fod G yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff G gymhwyso i gael y cymorth a bennir yn yr hysbysiad am y cyfnod hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.

(3Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan G yn sylweddol anghywir.

Cyfyngiad pellach ar gymorth i fyfyrwyr rhan-amser

27.—(1Nid yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl os yw’r myfyriwr—

(a)wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau rhan-amser am gyfnod cyfanredol o—

(i)8 mlynedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny cyn 1 Medi 2014), neu

(ii)16 o flynyddoedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny ar neu ar ôl 1 Medi 2014), a

(b)wedi cael cymorth perthnasol mewn cysylltiad ag o leiaf 8 neu, yn ôl y digwydd, 16 o’r blynyddoedd academaidd hynny o’r cwrs rhan-amser neu’r cyrsiau rhan-amser.

(2Ym mharagraff (1)(b), ystyr “cymorth perthnasol” yw—

(a)benthyciad, grant mewn cysylltiad â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd—

(i)o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu

(ii)o dan reoliadau a wneir o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(19);

(b)benthyciad a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(20).

ADRAN 5Trosglwyddo a throsi

Trosglwyddo statws

28.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig (yn yr Adran hon, yr “hen gwrs”) i gwrs dynodedig arall (yn yr Adran hon, y “cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—

(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler paragraff (2)), ac

(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

Y sail gyntaf

Mae’r myfyriwr cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r hen gwrs ac yn ymgymryd â’r cwrs newydd yn yr un sefydliad.

Gan gynnwys—

(a)pan na fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs fel cwrs gradd cywasgedig, neu

(b)pan fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs ar y sail nad yw’n gywasgedig.

Yr ail sail

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs newydd mewn sefydliad arall.

Y drydedd sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Y bedwaredd sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg.

Y bumed sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), mae’r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.

Effaith trosglwyddiad – benthyciadau at ffioedd dysgu

29.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd, mae swm y benthyciad at ffioedd dysgu sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo, yn unol â Rhan 6, symiau’r benthyciad at ffioedd dysgu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)yr hen gwrs, a

(b)y cwrs newydd,

ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

Cam 2

Gostwng y symiau hyn yn ôl y gyfran honno y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol ar ôl rhoi sylw i—

(a)y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr angen i sicrhau nad yw unrhyw swm yn daladwy mewn cysylltiad â’r ddau gwrs ar gyfer yr un cyfnod.

Effaith trosglwyddiad –benthyciadau cynhaliaeth a grantiau

30.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd.

(2Os yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad, rhaid i gyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gael ei ailasesu yn unol â’r rheoliad hwnnw.

(3Os nad yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad—

(a)caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd, ond

(b)os na wneir unrhyw ailasesiad, cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi ei asesu fel y swm sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad yn digwydd ar ôl i Weinidogion Cymru asesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr cymwys wneud cais mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs newydd am grant neu fenthyciad arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yr hen gwrs (oni bai bod y Rheoliadau hyn yn rhoi caniatâd penodol i wneud hynny).

(6Pan, yn union cyn y trosglwyddiad—

(a)oedd y myfyriwr cymwys yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd yr hen gwrs, a

(b)nad oedd y myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am yr uchafswm yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael,

nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad (pa un a yw ailasesiad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 31 ai peidio).

(7Pan fo myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi, nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais pellach o’r fath—

(a)at ddiben nad yw’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano, neu

(b)am swm ychwanegol mewn cysylltiad â diben y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano.

Trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosi rhwng astudio rhan-amser ac astudio llawnamser

31.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan, mewn perthynas â throsglwyddiad o dan reoliad 28—

(a)bo’r hen gwrs yn gwrs llawnamser a bod y cwrs newydd yn gwrs rhan-amser, neu

(b)bo’r hen gwrs yn gwrs rhan-amser a bod y cwrs newydd yn gwrs llawnamser.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd i’w ailasesu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo, yn unol â Rhannau 7 i 11, symiau unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)yr hen gwrs, a

(b)y cwrs newydd,

ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

Cam 2

Gostwng y symiau hynny drwy eu lluosi â’r ffracsiwn priodol.

Cyfanswm y ddau swm a geir o dan Gam 2 yw cyfanswm y benthyciad cynhaliaeth a’r grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi.

(3Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r hen gwrs yw’r ffracsiwn pan—

(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd hyd at a chan gynnwys y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.

(4Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r cwrs newydd yw’r ffracsiwn pan—

(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd ar ôl y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.

(5Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd ar ôl dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer yr hen gwrs, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at y flwyddyn academaidd yn gyfeiriadau at y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd.

RHAN 5CEISIADAU, DARPARU GWYBODAETH A CHONTRACTAU BENTHYCIADAU

Gofyniad i wneud cais am gymorth

32.—(1Nid yw person yn cymhwyso i gael cymorth fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y cymorth hwnnw mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,

(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac

(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 33.

Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais

33.—(1Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i gais o dan reoliad 32(1) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n ymwneud â hi.

(2Ond os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yng Ngholofn 1 o Dabl 1 yn gymwys, rhaid i gais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl 1

Colofn 1

Amgylchiadau sy’n ymwneud â chais am gymorth

Colofn 2

Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais

Mae’r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yn dilyn digwyddiad a restrir yn rheoliad 80(2) neu 81(3) neu baragraff 4(2) o Atodlen 5.Heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o naw mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad yn digwydd.

Mae’r cais am fenthyciad at ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth neu fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge.

Mae’r cais am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 42 neu fenthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 60 neu’n fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge o dan baragraff 6(2) o Atodlen 5.

Heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi.
Mae’r cais am grant myfyriwr anabl.Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau achos penodol, ei bod yn briodol estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais.Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn yr achos penodol.

Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais

34.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 32.

(2Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 32 (gweler rheoliad 82 am ddarpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

(4Caniateir i benderfyniad ar gais a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais o dan reoliad 32.

(6Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys,

(b)os felly, a yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso, gategori’r cymorth y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael a’r swm sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd,

(d)os yw’r cymorth yn cynnwys grant myfyriwr anabl, ddadansoddiad o’r grant hwnnw sy’n pennu’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob math o wariant a grybwyllir yn rheoliad 63(2), ac

(e)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.

Gofynion ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth

35.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—

(a)at ddibenion penderfynu—

(i)cymhwystra myfyriwr;

(ii)a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth;

(iii)swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;

(iv)a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;

(b)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;

(c)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;

(d)at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—

(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,

(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu

(c)ei dystysgrif geni.

(3Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);

(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs presennol—

(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu

(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs presennol neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod y manylion a ganlyn, sef—

(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,

(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu

(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,

yn newid.

(5Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(6Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—

(a)cais o dan reoliad 32;

(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,

yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.

(7Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 32 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.

(8Gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

36.—(1Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.

(2O ran y contract—

(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a

(b)gall fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),

a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff y contract ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb y myfyriwr ynghylch y dull ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.

Gofyniad ar awdurdod academaidd i hysbysu pan fo myfyriwr yn ymadael â chwrs

37.  Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys—

(a)sydd wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol yn ystod y flwyddyn academaidd, a

(b)y mae’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn honno,

rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol fod y myfyriwr wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs.

RHAN 6BENTHYCIADAU AT FFIOEDD DYSGU

Benthyciad at ffioedd dysgu

38.  Benthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ar gyfer talu ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw benthyciad at ffioedd dysgu.

Amodau cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu

39.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o gwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.

Eithriad 2

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 3

Pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser neu’n gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o’r cwrs a ddarperir gan sefydliad yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Swm benthyciad at ffioedd dysgu

40.—(1Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu

(b)uchafswm y benthyciad.

(2Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));

(c)Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—

(i)ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);

(ii)ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

(d)Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;

(e)Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.

(3Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 neu 5.

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.

Categori 3

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—

(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu

(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

Categori 4

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—

(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu

(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,

gan gynnwys myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Categori 5

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

Tabl 2

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Categori o fyfyriwr

Colofn 3

Math o ddarparwr cwrs

Colofn 4

Lleoliad y darparwr cwrs

Colofn 5

Uchafswm y benthyciad

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi

2018

1Darparwr arferolCymru

£9,000: cwrs llawnamser

£2,625: cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£9,250: cwrs llawnamser

£6,935:cwrs rhan-amser

Sefydliad preifatCymru

£6,165: cwrs llawnamser

£2,625 :cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£6,165: cwrs llawnamser

£4,625: cwrs rhan-amser

2Darparwr arferolCymru£4,500
Mannau eraill yn y DU£4,625
Sefydliad preifatCymru a Mannau eraill yn y DU£3,080
3Darparwr arferolCymru£1,800
Lloegr£1,850
Yr Alban a Gogledd Iwerddon£4,625
Sefydliad preifatCymru a Lloegr£1,230
Yr Alban a Gogledd Iwerddon£3,080
4Darparwr arferolCymru£1,350
Lloegr a’r Alban£1,385
Gogledd Iwerddon£4,625
Sefydliad preifatCymru, Lloegr a’r Alban£920
Gogledd Iwerddon£3,080
5Darparwr arferolCymru a Mannau eraill yn y DU£5,535

Gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm

41.  Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Cais pellach am fenthyciad at ffioedd dysgu hyd at yr uchafswm

42.  Pan—

(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 41, neu

(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,

caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

RHAN 7Y GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 1AMODAU CYMHWYSO

Y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth

43.  Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio’r myfyriwr yw’r grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth.

Amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth

44.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol a grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod y myfyriwr cymwys yn dod o fewn un o’r eithriadau a ganlyn—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddi).

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i flwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw’r myfyriwr cymwys, fel rhan o’r cwrs, yn ymgymryd ag—

(a)cyfnod o brofiad gwaith gyda chorff yn y Deyrnas Unedig a bennir ym mharagraff (3), neu

(b)ymchwil di-dâl—

(i)mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu

(ii)y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r cwrs.

(3Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) yw—

(a)ysbyty;

(b)labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus;

(c)awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n arfer swyddogaeth neu’n cyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les;

(d)corff sy’n darparu gwasanaethau carchar neu wasanaethau prawf yn y Deyrnas Unedig;

(e)corff iechyd a restrir ym mharagraff (4).

(4Y cyrff iechyd yw—

(a)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(21) neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(22);

(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(c)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(d)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(e)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(23);

(f)y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(24);

(g)yr Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12 o’r Ddeddf honno;

(h)ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol (a enwyd gynt yn ymddiriedolaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(25);

(i)asiantaeth iechyd a gofal cymdeithasol arbennig (a enwyd gynt yn asiantaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol arbennig) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 1990(26);

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno(27);

(k)y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(28);

(l)y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno.

PENNOD 2Y GRANT SYLFAENOL

Swm y grant sylfaenol

45.  Yn Nhabl 3, mae Colofn 2 yn nodi swm y grant sylfaenol sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 3

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Y grant sylfaenol sydd ar gael

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£1,000 ar gyfer cwrs llawnamser

£1,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser

PENNOD 3Y GRANT CYNHALIAETH

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser

46.—(1Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

(2Pan—

(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu

(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—

(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;

(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;

(c)£5.750 o incwm aelwyd pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 4
Colofn 1 Blwyddyn academaiddColofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamserColofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Byw gartref£5,885
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£9,124
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£7,100

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser

47.—(1Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.

(2Os—

(a)nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu

(b)yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—

Cam 1

Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.

Cam 2

Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 5

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£5,000

Incwm yr aelwyd

48.  Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Ystyr person sy’n ymadael â gofal

49.  Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—

(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,

(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(29), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac

(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu

(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)(30) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.

PENNOD 4TALIAD CYMORTH ARBENNIG

Taliad cymorth arbennig

50.—(1Pan fo myfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu, yn ôl y digwydd, grant cynhaliaeth, yn bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51—

(a)mae’r holl grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys, a

(b)mae swm o’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr hyd at yr uchafswm a bennir yn rheoliad 52,

i’w drin fel taliad cymorth arbennig.

(2Mae taliad cymorth arbennig yn daliad a fwriedir er mwyn talu am—

(a)cost llyfrau ac offer;

(b)treuliau teithio;

(c)costau gofal plant,

mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig.

Taliad cymorth arbennig: amodau cymhwyso

51.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni un o’r amodau a ganlyn—

Amod A

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael cymhorthdal incwm, yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e)(31) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Amod B

Caiff y myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael budd-dal tai, ei drin fel pe bai’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(32).

Amod C

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael credyd cynhwysol, yn atebol neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(33) i wneud taliadau mewn cysylltiad â llety y mae’r myfyriwr yn ei feddiannu fel ei gartref.

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig

52.  Yn Nhabl 6, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 6

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel rhan o daliad cymorth arbennig

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£4,161 ar gyfer cwrs llawnamser

£5,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser

RHAN 8BENTHYCIAD CYNHALIAETH

Benthyciad cynhaliaeth

53.  Mae benthyciad cynhaliaeth yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ar gyfer blwyddyn academaidd.

Amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth

54.  Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r myfyriwr cymwys yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel—

(a)pensaer tirwedd,

(b)dylunydd tirwedd,

(c)rheolwr tirwedd,

(d)cynllunydd tref, neu

(e)cynllunydd gwlad a thref.

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser

55.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.

(2Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—

(a)bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;

(c)bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(d)bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu

(b)blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam

nad yw’n fyfyriwr Categori 2.

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(i)bwrsari gofal iechyd, neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu

(b)blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

(4Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.

Tabl 7

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Categori o fyfyriwr

Colofn 3

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 4

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Categori 1Byw gartref£6,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,000
Categori 2Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000

Swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy: myfyrwyr llawnamser y mae taliad cymorth arbennig yn daladwy iddynt

56.—(1 Pan fo taliad cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr llawnamser o dan reoliad 50, swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw pa un bynnag yw’r mwyaf o—

(a)y swm a gyfrifir o dan reoliad 55(1), neu

(b)isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.

(2Yn Nhabl 8—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu isafswm y benthyciad sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr llawnamser pan fo cymorth arbennig yn daladwy

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000

Benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig

57.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a

(b)bo’n ofynnol i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’r cwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos (neu ran o wythnos) y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â’r cwrs y tu hwnt i’r cyfnod o 30 wythnos a 3 diwrnod.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan—

(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a

(b)bo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs am gyfnod o 45 wythnos neu ragor mewn unrhyw gyfnod parhaus o 52 wythnos.

(4Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos gyfan yn y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.

(5Mae’r cynnydd yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r nifer mwyaf o wythnosau yn y cyfnod o 52 wythnos yn dod o’i mewn.

(6Caiff uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys gael ei gynyddu o dan baragraffau (2) a (4) mewn perthynas â’r un flwyddyn academaidd.

(7Yn Nhabl 9—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu’r swm wythnosol y mae swm y benthyciad sy’n daladwy i gynyddu yn ei ôl mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 9

Colofn 1

Blwyddyn Academaidd

Colofn 2

Lleoliad y myfyriwr

Colofn 3

Cynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Byw gartref£80
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£153
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£120

Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser

58.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.

(2Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.

Tabl 10

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth sy’n llai na’r uchafswm

59.  Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Cais pellach am fenthyciad cynhaliaeth hyd at yr uchafswm

60.  Pan—

(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 59, neu

(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,

caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

RHAN 9GRANT MYFYRIWR ANABL

Grant myfyriwr anabl

61.—(1Mae grant myfyriwr anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ag anabledd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae “anabledd” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl

62.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

(a)os oes gan y myfyriwr anabledd, a

(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2).

(2Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ac mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Swm y grant myfyriwr anabl

63.—(1Swm y grant myfyriwr anabl y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—

(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond

(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir ym mharagraff (2).

(2Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol.

Terfyn o £21,181 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.

Terfyn o £15,885 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.

Achos 2

Gwariant sy’n ofynnol ar eitemau mawr o offer arbenigol.

Terfyn o £5,332 llai y symiau a dalwyd fel grant myfyriwr anabl i’r myfyriwr at yr un diben mewn unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol o’r cwrs.

Achos 3

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a

(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.

Achos 4

Unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant at ddiben a bennir yn Achos 1 neu 2 pan fo’r terfyn sy’n gymwys i’r Achos hwnnw wedi ei gyrraedd mewn cysylltiad â’r grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Terfyn o £1,785 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs llawnamser.

Terfyn o £1,338 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser.

RHAN 10GRANTIAU AT DEITHIO

Grant at deithio

64.  Mae grant at deithio yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 65(1) neu 66(1).

Grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygol

65.—(1Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser mewn—

(a)meddygaeth, neu

(b)deintyddiaeth,

y mae rhan angenrheidiol ohono yn gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol.

Amod 2

Yn y flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd i wariant at ddiben bod yn bresennol mewn—

(a)ysbyty, neu

(b)mangre arall,

yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol) er mwyn ymgymryd â hyfforddiant clinigol fel rhan o’r cwrs.

Amod 3

Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

(2Ond nid yw grant at deithio ar gael pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

(3Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Penderfynu ar swm y gwariant rhesymol y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo yn y flwyddyn academaidd o dan sylw at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1) (gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y diben hwnnw cyn neu ar ôl bod yn bresennol yn yr ysbyty neu yn y fangre arall).

Cam 2

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn £59,200 neu lai mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £303 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn fwy na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £1,000 o’r swm a geir yng Ngham 1.

Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy.

(4Nid yw gwariant yr eir iddo at ddiben cyfnod o astudio preswyl i ffwrdd o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol yn wariant yr eir iddo at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1).

Grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramor

66.—(1Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

Amod 1

Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.

Amod 2

Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—

(a)sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu

(b)lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,

(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).

Amod 3

Mae’r myfyriwr yn mynd i—

(a)costau teithio, neu

(b)unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),

at ddiben y lleoliad.

(2Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;

  • Y yw—

    (a)

    £303 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn £59,200 neu lai mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw, neu

    (b)

    £1,000 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn fwy na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno;

  • Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

  • Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).

(3Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—

(a)gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;

(b)cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;

(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.

Grant at deithio nad yw’n daladwy ar gyfer gwariant a gwmpesir gan y grant myfyriwr anabl

67.  Pan fo grant myfyriwr anabl yn daladwy i gynorthwyo myfyriwr cymwys gyda gwariant y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr, nid yw grant at deithio yn daladwy o dan reoliad 65 neu 66 mewn cysylltiad â’r un gwariant.

RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 1CYFLWYNIAD

Grantiau ar gyfer dibynyddion

68.—(1Mae’r canlynol yn grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau sy’n gysylltiedig â dibynyddion penodol y myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd—

(a)grant oedolion dibynnol (gweler Pennod 2);

(b)grant dysgu ar gyfer rhieni (gweler Pennod 3);

(c)grant gofal plant (gweler Pennod 4).

(2Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y grantiau hynny gyda’i gilydd fel “grantiau ar gyfer dibynyddion”.

Amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion

69.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw grant penodol ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

(a)os yw’r myfyriwr yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y grant hwnnw,

(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2), ac

(c)os yw cwrs presennol y myfyriwr yn gwrs rhan-amser, os yw’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn 50% o leiaf.

(2Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Eithriad 7

Mae’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef—

(a)yn fyfyriwr cymwys, a

(b)yn cael dyfarndal statudol.

Dehongli Rhan 11

70.—(1Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am grant ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â hi;

ystyr “oedolyn dibynnol” (“adult dependant”) yw oedolyn—

(a)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

(b)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

ond nid plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys partner y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr cymwys;

ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yw plentyn—

(a)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

(b)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

gan gynnwys plentyn i bartner y myfyriwr cymwys a phlentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto;

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw person—

(a)

sy’n rhiant plentyn dibynnol, a

(b)

nad oes ganddo bartner.

(2Yn y Rhan hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw–

(a)priod neu bartner sifil A, neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at incwm person neu bersonau yn gyfeiriad at yr incwm hwnnw fel y’i cyfrifir yn unol â’r darpariaethau priodol yn Atodlen 3.

PENNOD 2GRANT OEDOLION DIBYNNOL

Grant oedolion dibynnol

71.—(1Dim ond mewn cysylltiad ag un o’r personau a ganlyn—

(a)partner y myfyriwr,

(b)oedolyn dibynnol y myfyriwr,

y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol.

(2Ond nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol os yw un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol (“O”)—

(a)mae incwm net O ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn fwy na £3,923, neu

(b)mae O yn—

(i)priod neu bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae partner y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho), neu

(ii)cyn-bartner i bartner y myfyriwr cymwys.

Eithriad 2

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad â phartner y myfyriwr “(P)”—

(a)mae’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu oddi wrth P, neu

(b)mae P yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nid yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys.

Uchafswm y grant oedolion dibynnol

72.—(1Yn Nhabl 11, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

(2Ond pan fo’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae swm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy yn swm, nad yw’n fwy na’r uchafswm, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Tabl 11

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant oedolion dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£2,732

PENNOD 3GRANT DYSGU AR GYFER RHIENI

Grant dysgu ar gyfer rhieni

73.  Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys un neu ragor o blant dibynnol.

Uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni

74.  Yn Nhabl 12, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 12

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£1,557

PENNOD 4GRANT GOFAL PLANT

Grant gofal plant

75.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant mewn cysylltiad â ffioedd gofal plant rhagnodedig yr eir iddynt ar gyfer plentyn dibynnol yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol os yw un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

Amod 1

Mae’r plentyn dibynnol o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.

Amod 2

Mae gan y plentyn dibynnol anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(34) ac mae o dan 17 oed yn union cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

(2Ond nid yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—

Achos 1

Mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(35).

Achos 2

Mae gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm mewn cysylltiad â chostau gofal plant o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)(36).

Achos 3

Mae partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

Achos 4

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig ar gyfer cyfnod y mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys mewn cysylltiad ag ef o fewn yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014(37).

Achos 5

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig wedi eu talu neu i’w talu gan y myfyriwr cymwys i bartner y myfyriwr.

Achos 6

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

(3Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 76—

ystyr “ffioedd gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw ffioedd gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(38);

mae “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yn cynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd.

Uchafswm y grant gofal plant

76.—(1Swm y grant gofal plant sy’n daladwy yw 85% o ffioedd gofal plant rhagnodedig wythnosol y myfyriwr cymwys, hyd at yr uchafswm wythnosol—

(a)a bennir yn Nhabl 13, neu

(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, a bennir yn y paragraff hwnnw.

(2Yn Nhabl 13—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm wythnosol y grant gofal plant yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu nifer y plant dibynnol y mae’r symiau a bennir yng Ngholofn 3 yn ymwneud â hwy;

(c)mae Colofn 3 yn pennu uchafswm wythnosol y grant gofal plant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2, pan fo’r cais am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant.

Tabl 13

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Nifer y plant dibynnol

Colofn 3

Uchafswm wythnosol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Un plentyn dibynnol£161.50
Mwy nag un plentyn dibynnol£274.55

(3Pan fo gan y myfyriwr cymwys fwy nag un plentyn dibynnol, y swm a bennir yn y cofnod priodol yng Ngholofn 3 yw’r uchafswm wythnosol sy’n daladwy, ni waeth faint o blant sy’n cael gofal plant.

(4Pan na fo cais y myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi’r darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu—

(a)ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85% o’r ffioedd gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm wythnosol o £115;

(b)ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(5At ddibenion cyfrifo swm grant gofal plant, mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

(6Os eir i ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag wythnos sy’n dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn cysylltiad â hi ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir yr uchafswm wythnosol drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • A yw’r uchafswm wythnosol sy’n gymwys, a

  • B yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd.

PENNOD 5SWM Y GRANT AR GYFER DIBYNYDDION SY’N DALADWY

Grantiau ar gyfer dibynyddion: cyfrifo’r swm sy’n daladwy

77.—(1Cyfrifir swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo swm cyfanredol—

(a)incwm aelwyd y myfyriwr cymwys a gyfrifir o dan Ran 2 o Atodlen 3,

(b)os nad yw eisoes wedi cael ei ystyried fel rhan o incwm aelwyd y myfyriwr cymwys, incwm gweddilliol oedolyn dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Bennod 2 o Ran 4 o Atodlen 3, ac

(c)incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Ran 5 o Atodlen 3.

Cam 2

Didynnu’r symiau a ganlyn o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1—

(a)£6,159, pan na fo gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol;

(b)£8,473, pan na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(c)£9,632, pan—

(i)na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol, a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu

(ii)bo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(d)£10,797, pan fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

Y canlyniad yw’r cyfanswm net.

Cam 3

Adio at ei gilydd uchafswm pob grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael.

Y canlyniad yw’r uchafsymiau cyfanredol.

Cam 4

(a)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, y swm sy’n daladwy yw—

(i)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3;

(ii)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 wedi eu gostwng yn unol â pharagraff (2).

(b)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn hafal i’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 neu’n fwy na hwy, y swm sy’n daladwy yw dim.

(c)Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn swm positif sy’n llai na’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3, didynnu’r cyfanswm net o’r uchafsymiau cyfanredol er mwyn gostwng swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yn y drefn a ganlyn hyd nes bod y cyfanswm net wedi ei ddihysbyddu—

(i)yn gyntaf, didynnu uchafswm y grant oedolion dibynnol y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael;

(ii)wedyn, didynnu uchafswm y grant gofal plant y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael;

(iii)yn olaf, didynnu uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael.

(d)Pan fo is-baragraff (c) o’r Cam hwn yn gymwys, y swm sy’n weddill ar ôl y gostyngiad hwnnw yw—

(i)y swm sy’n daladwy pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser;

(ii)y swm sydd i gael ei ostwng yn unol â pharagraff (2) pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser.

(2Os yw cwrs presennol y myfyrwyr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

(a)50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

(b)60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

(c)75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

(3Pan fo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2), yn swm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n fwy na £0.01 ond yn llai na £50, y swm sy’n daladwy yw £50.

(4Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 78 a 79.

Swm y grant oedolion dibynnol a’r grant gofal plant: pan fo partner y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys

78.  Pan, o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) o reoliad 77 neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw, fo swm grant oedolion dibynnol a grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys, mae’r swm hwnnw wedi ei ostwng un hanner pan fo—

(a)partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys, neu

(ii)wedi cael dyfarndal statudol, a

(b)swm y cymorth sy’n daladwy i’r partner—

(i)yn rhinwedd bod y partner yn fyfyriwr cymwys, neu

(ii)o dan y dyfarndal statudol

yn ystyried dibynyddion y partner.

Newidiadau mewn amgylchiadau

79.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)mae nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)mae’r myfyriwr yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

(c)mae’r myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 81(3).

(2At ddibenion penderfynu a yw grant oedolion dibynnol neu grant dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy a’r swm sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i’w drin fel pe baent ganddo;

(b)a yw’r myfyriwr i’w drin fel rhiant unigol.

(3Cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd yw—

(a)swm cyfanredol y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir mewn cysylltiad â phob chwarter perthnasol o dan y rheoliad hwn, plws

(b)swm unrhyw grant gofal plant sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd.

(4Mae swm y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant hwnnw a fyddai’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd fel y’i penderfynir o dan reoliad 77 pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol wedi aros yr un peth drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfan.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” yw—

(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c), chwarter sy’n dechrau yn union ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd.

RHAN 12CYMHWYSO I GAEL CYMORTH YN YSTOD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD

Cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd

80.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE;

(iv)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd

81.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr cymwys gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grant.

(2Ond ni fydd swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ond—

(a)mewn cysylltiad â’r chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, a

(b)yn daladwy, mewn perthynas â benthyciad cynhaliaeth, os yw’n chwarter y byddai’r benthyciad fel arall yn daladwy o dan reoliad 85(6) a (7) mewn cysylltiad ag ef.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail–

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 1TALIAD YN DILYN PENDERFYNIAD DROS DRO

Taliad ar sail asesiad dros dro

82.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 32, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.

PENNOD 2TALU BENTHYCIAD AT FFIOEDD DYSGU

Talu benthyciad at ffioedd dysgu

83.—(1Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw i’r awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

Gofynion ar gyfer talu’r benthyciad at ffioedd dysgu

84.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 83 oni bai eu bod wedi cael gan yr awdurdod academaidd—

(a)cais am daliad mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys, a

(b)cadarnhad ysgrifenedig bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(2Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—

(a)mewn perthynas â’r taliad cyntaf (neu’r unig daliad) mewn cysylltiad â’r cwrs, gadarnhau bod y myfyriwr wedi ymrestru ar y cwrs presennol ac wedi dechrau ymgymryd ag ef;

(b)mewn perthynas ag unrhyw daliadau dilynol mewn cysylltiad â’r cwrs, gadarnhau bod y myfyriwr yn parhau i fod wedi ymrestru ar y cwrs ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs.

PENNOD 3TALU BETHYCIADAU CYNHALIAETH A GRANTIAU

Talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau

85.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant i fyfyriwr cymwys pan fo’n daladwy i’r myfyriwr.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(4Caiff swm y grant myfyriwr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol fod yn daladwy fel un taliad ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol.

(5Mae grant at deithio sy’n daladwy o dan reoliad 66 yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r chwarteri cymhwysol (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw).

(6Mae benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn cysylltiad â thri chwarter y flwyddyn academaidd.

(7Nid yw unrhyw fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy—

(a)yn achos cwrs gradd cywasgedig, mewn cysylltiad â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn cysylltiad â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo.

Myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliad

86.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y lleoliad y mae myfyriwr cymwys yn byw ynddo yn ystod pob chwarter y mae grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy i’r myfyriwr mewn cysylltiad ag ef (gweler paragraff 3 o Atodlen 1).

(2Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’n byw ynddo am y cyfnod hwyaf.

(3Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad am gyfnod cyfartal yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’r gyfradd uchaf o fenthyciad cynhaliaeth neu grant cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas ag ef.

Cadarnhad o bresenoldeb

87.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 85 oni bai eu bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod academaidd bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar gyfer y flwyddyn academaidd.

(2Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gadarnhad—

(a)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar y cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd, mewn achos pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs—

(i)ac eithrio am y tro cyntaf,

(ii)am y tro cyntaf os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad, neu

(iii)am y tro cyntaf os oes gan y myfyriwr anabledd, neu

(b)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs, mewn achos—

(i)pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs am y tro cyntaf, a

(ii)pan na fo’r myfyriwr wedi trosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad.

(3Ond caniateir gwneud taliad cyn i Weinidogion Cymru gael y cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)os yw’r taliad yn swm o grant myfyriwr anabl, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.

Penderfynu ar y swm sy’n daladwy ar ôl i daliad gael ei wneud

88.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ar swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys (boed hynny o ganlyniad i ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall) ar ôl i daliad o unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant gael ei wneud.

(2Os yw’r penderfyniad yn cynyddu swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol yn y rhandaliadau hynny, neu mewn un cyfandaliad, y maent yn meddwl ei bod yn briodol.

(3Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw grant sy’n daladwy—

(a)didynnir swm y gostyngiad o weddill y grant sydd eto i gael ei dalu;

(b)os yw’r gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i gael ei dalu—

(i)gostyngir gweddill y swm hwnnw sydd eto i gael ei dalu i ddim,

(ii)mae gweddill y gostyngiad, os oes un, i’w ddidynnu o weddill unrhyw grant arall sydd eto i gael ei dalu, a

(iii)os oes unrhyw swm o’r gostyngiad sy’n weddill o hyd, mae i’w drin fel gordaliad.

(4Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy (“y cyfanswm newydd sy’n daladwy”)—

(a)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn fwy na swm y benthyciad cynhaliaeth y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, mae unrhyw swm ychwanegol y caiff y myfyriwr wneud cais amdano wedi ei ostwng yn unol â hynny;

(b)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na’r swm y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth;

(c)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na gweddill y benthyciad cynhaliaeth sydd eto i gael ei dalu—

(i)gostyngir gweddill y swm sydd eto i gael ei dalu i ddim, a

(ii)mae’r rhan honno o’r swm sydd eisoes wedi cael ei dalu sy’n fwy na’r cyfanswm newydd sy’n daladwy, os oes un, i’w thrin fel gordaliad.

PENNOD 4GORDALIADAU AC ADENNILL

Gordaliadau – cyffredinol

89.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd dysgu oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(3Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.

Adennill grantiau sydd wedi cael eu gordalu

90.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(2Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(3Mae taliad o grant myfyriwr anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae swm o’r grant wedi cael ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.

Achos 2

Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(4Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(5Pan—

(a)bo gordaliad o grant myfyriwr anabl, a

(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,

caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Adennill benthyciadau cynhaliaeth sydd wedi cael eu gordalu

91.—(1Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—

(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu

(b)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

(2Y rhesymau yw—

(a)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth yn brydlon a all fod wedi effeithio ar ba un a oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael y benthyciad neu swm y benthyciad sy’n daladwy;

(b)darparodd y myfyriwr yr wybodaeth ond roedd yr wybodaeth yn sylweddol anghywir;

(c)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(3Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw reswm arall, ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad ond drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

RHAN 14CYFYNGIADAU AR DALIADAU A’R SYMIAU SY’N DALADWY

PENNOD 1CYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BENTHYCIADAU CYNHALIEATH A GRANTIAU

Gofyniad i’r taliad gael ei wneud i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

92.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau o fenthyciad cynhaliaeth neu grant drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad neu’r grant hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.

Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar

93.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;

  • dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;

  • dC yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

(3Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—

(a)y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;

(b)pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.

Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldeb

94.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)sy’n peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol am unrhyw gyfnod yn ystod y flwyddyn academaidd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel bod yn absennol).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;

  • dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;

  • dAbs yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn absennol o’r cwrs presennol.

(3Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—

(a)y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr cymwys,

(b)hyd yr absenoldeb, ac

(c)unrhyw galedi ariannol a all gael ei achosi drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy.

(4Nid yw myfyriwr cymwys i’w drin fel pe bai’n absennol at ddibenion y rheoliad hwn o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)pan fo’r absenoldeb oherwydd salwch ac am gyfnod nad yw’n hwy na 60 diwrnod;

(b)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs gradd cywasgedig, unrhyw ran o’r flwyddyn academaidd pan nad yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod yn bresennol yn y sefydliad;

(c)pan fo gan y myfyriwr anabledd ond na fo’n gallu bod yn bresennol yn y sefydliad am reswm sy’n ymwneud â’r anabledd hwnnw;

(d)pan fo’r myfyriwr ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus;

(e)pan fo’r absenoldeb am fod y myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor (gweler rheoliad 93).

Taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu

95.—(1Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Pan—

  • S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;

  • ctB yw nifer y cyfnodau talu yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;

  • ctT yw nifer y cyfnodau talu yn y flwyddyn sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(2Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(3Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo—

(a)swm o grant yn daladwy i fyfyriwr cymwys (“P”) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

(b)cyfnod cymhwystra P yn dod i ben neu’n cael ei derfynu ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm y grant a fyddai, pe na bai cymhwystra P wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm llawn”), a

(b)cyfran y swm llawn a fyddai’n daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r cyfnod talu hwnnw ac sy’n gorffen pan ddaeth cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm rhannol”).

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a grybwyllir ym mharagraff (6)—

(a)pan fônt wedi gwneud taliad i P o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu,

(b)pan fo’r taliad wedi ei wneud cyn i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, ac

(c)pan fo’r swm a delir yn fwy na’r swm rhannol.

(6Nod y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw naill ai—

(a)gostwng swm y grant sy’n daladwy i P yn ôl y swm dros ben y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (ac yn unol â hynny, trin y swm dros ben fel gordaliad), neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol, estyn cyfnod cymhwystra P mewn cysylltiad â’r grant hyd ddiwedd y cyfnod talu (ac yn unol â hynny, mae’r swm llawn yn daladwy).

(7Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad i P, neu y maent i fod i wneud taliad iddo, o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu, a

(b)bo’r taliad—

(i)wedi ei wneud neu i fod i gael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, neu

(ii)wedi ei wneud cyn hynny ac nad yw’n fwy na’r swm rhannol,

swm y grant sy’n daladwy yw’r swm rhannol oni bai bod paragraff (8) yn gymwys.

(8O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7), o ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt benderfynu bod cyfnod cymhwystra P yn cael ei estyn i ddiwedd y cyfnod talu o dan sylw (ac yn unol â hynny, mae swm llawn y grant yn daladwy) os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny, a

(b)rhaid iddynt benderfynu felly os yw swm y grant o dan sylw yn swm grant myfyriwr anabl a delir mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod talu” yw cyfnod (pa un a yw’n flwyddyn academaidd gyfan neu chwarter o flwyddyn academaidd) y mae fenthyciad cynhaliaeth neu grant yn daladwy, neu y byddai’n daladwy, mewn cysylltiad ag ef oni bai am y ffaith bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

PENNOD 2CYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BETHYCIADAU

Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladol

96.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.

Gofynion gwybodaeth sy’n ymwneud â benthyciadau

97.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 35(1) at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.

(2Y dibenion yw—

(a)penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;

(b)penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;

(c)unrhyw fater sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad gan y myfyriwr.

RHAN 15GRANT MYFYRIWR ÔL-RADDEDIG ANABL

98.  Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

RHAN 16BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEGAU OXBRIDGE

99.  Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge.

RHAN 17DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

100.  Mae Atodlen 6 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2017.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

14 Chwefror 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill