- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad 1698/2005” (“Regulation 1698/2005”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) etc(1);
ystyr “y Rheoliad Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig(2);
ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 807/2014 sy’n ychwanegu at y Rheoliad Datblygu Gwledig(3);
ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol” (“the Horizontal Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(4);
ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 sy’n ychwanegu at y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol(5);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Cyllid Llorweddol” (“the Horizontal Finance Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(6);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 808/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad Datblygu Gwledig(7);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Llorweddol” (“the Horizontal Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(8);
ystyr “y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol(9);
ystyr “y Rheoliad Llorweddol” (“the Horizontal Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyllido, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(10);
ystyr “y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” (“the Direct Payments Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(11);
ystyr “y Rheoliadau Ewropeaidd” (“the European Regulations”) yw—
y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
y Rheoliad Dirprwyedig Taliadau Uniongyrchol;
y Rheoliad Gweithredu Taliadau Uniongyrchol;
y Rheoliad Llorweddol;
y Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;
y Rheoliad Gweithredu Cyllid Llorweddol;
y Rheoliad Gweithredu Llorweddol;
y Rheoliad Datblygu Gwledig;
y Rheoliad Dirprwyedig Datblygu Gwledig; a
y Rheoliad Gweithredu Datblygu Gwledig.;
ystyr “cais sengl” (“single application”) yw cais am daliadau uniongyrchol mewn perthynas â chynlluniau cymorth ar sail arwynebedd;
mae i “cynlluniau cymorth ar sail arwynebedd” yr ystyr a roddir i “area-related aid schemes” gan bwynt (20) o’r ail is-baragraff o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;
mae i “buddiolwr”, onid yw’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, yr ystyr a roddir i “beneficiary” gan is-baragraff (2) o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, ac eithrio mai’r ystyr yn Rhan 3 ac Atodlen 1 yw buddiolwr y mae Erthygl 91 o’r Rheoliad Llorweddol yn gymwys iddo;
mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” gan Erthygl 4(1)(a) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
mae i “methiant i gydymffurfio” yr ystyr a roddir i “non-compliance” gan bwynt (2)(b) o’r ail is-baragraff o Erthygl 2(1) o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru, naill ai’n gyffredinol neu’n benodol, i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn;
mae i “taliadau uniongyrchol” yr ystyr a roddir i “direct payments” gan Erthygl 2(1)(e) o’r Rheoliad Llorweddol;
(2) Mae i dermau eraill, a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg hefyd mewn unrhyw un o’r Rheoliadau Ewropeaidd, yr ystyron sydd i’w cyfystyron yn y Rheoliadau Ewropeaidd.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw un o’r Rheoliadau Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 13(1) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac Erthygl 12 o’r Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, y dyddiad olaf pan geir cyflwyno cais sengl, cais am gymorth neu hawliad am daliad i Weinidogion Cymru yw 15 Mai neu, os yw 15 Mai yn ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc neu ŵyl gyhoeddus arall, y diwrnod gwaith nesaf.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)ystyr “Gŵyl Banc” (“Bank Holiday”) yw diwrnod a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (12);
(b)ystyr “hawliad am daliad” (“payment claim”) yw hawliad am gymorth o dan y system integredig fel y darperir gan Erthygl 67(2) o’r Rheoliad Llorweddol; ac
(c)ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
4. At ddibenion Erthygl 72(1) o’r Rheoliad Llorweddol, y maint lleiaf o barsel amaethyddol y ceir gwneud cais sengl mewn perthynas ag ef yw 0.1 hectar.
5.—(1) Pan fo buddiolwr yn atebol i ad-dalu’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, mae swm yr ad-daliad, ynghyd â llog ar y swm hwnnw a gyfrifir yn unol â rheoliad 6, yn adenilladwy fel dyled.
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol a ddygir yn unol â pharagraff (1), mae tystysgrif gan Weinidogion Cymru sydd—
(a)yn pennu’r gyfradd llog a gynigir rhwng banciau Llundain (LIBOR) sy’n gymwys yn ystod cyfnod penodedig; a
(b)yn cynnwys datganiad i’r perwyl bod Banc Lloegr neu’r corff cydgysylltu wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno am y cyfnod hwnnw,
(c)yn dystiolaeth o’r gyfradd sy’n gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “corff cydgysylltu” yr ystyr a roddir i “coordinating body” gan Erthygl 7(4) o’r Rheoliad Llorweddol.
6.—(1) Ceir codi llog mewn perthynas â phob diwrnod o’r cyfnod y cyfeirir ato yn Erthygl 7(2) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, ac at y diben hwn y gyfradd llog sy’n gymwys ar unrhyw ddiwrnod yw un pwynt canran uwchlaw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau (LIBOR) ar y diwrnod hwnnw.
7.—(1) Caiff person awdurdodedig arfer unrhyw rai o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 8 a 9 at y diben o—
(a)gorfodi—
(i)y Rheoliadau Ewropeaidd ac eithrio Penodau III a IV o Deitl V o’r Rheoliad Llorweddol; neu
(ii)y Rheoliadau hyn;
(b)darparu adroddiad rheoli, yn yr ystyr a roddir i “control report” yn Erthygl 54(1) o’r Rheoliad Llorweddol;
(c)penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio.
(2) Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac ar ôl dangos ei awdurdod os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.
(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—
(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1); a
(b)y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).
(5) Yr amodau yw —
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, ac—
(i)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu
(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;
(b)bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu
(c)bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
(6) Mae gwarant yn ddilys am dri mis.
(7) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â phersonau fel a ganlyn gydag ef—
(a)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd; a
(b)pha bynnag bersonau eraill a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1).
(8) Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.
8.—(1) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre i arfer pŵer a roddir gan reoliad 7—
(a)cynnal unrhyw ymchwiliadau, gwiriadau, archwiliadau, mesuriadau a phrofion;
(b)cymryd samplau;
(c)archwilio’r cyfan neu unrhyw ran o’r tir, boed yn cael ei ffermio neu wedi ei dynnu’n ôl o ddefnydd amaethyddol, neu’r fangre;
(d)archwilio unrhyw dda byw, cnydau, peiriannau neu gyfarpar;
(e)marcio unrhyw anifail neu wrthrych arall at y diben o’i adnabod;
(f)mynnu cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion, eu harchwilio, eu copïo a’u hargraffu (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir) neu symud ymaith y cyfryw ddogfennau er mwyn eu copïo neu’u cadw fel tystiolaeth;
(g)mynnu cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig a ddefnyddir, neu a ddefnyddiwyd, mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion, eu harchwilio a gwirio’r modd y’u gweithredir;
(h)tynnu ffotograff o unrhyw beth sydd ar y tir, neu ei gofnodi mewn ffurf ddigidol;
(i)cludo ymaith unrhyw beth y tybir yn rhesymol ei fod yn dystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio;
(j)symud carcas oddi ar y tir neu o’r fangre at y diben o gynnal archwiliad post mortem arno.
(2) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre, o dan pŵer a roddir o dan ddeddfwriaeth arall, arfer unrhyw rai o’r pwerau a bennir yn y rheoliad hwn at y dibenion o orfodi’r Rheoliadau hyn.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7)(b) pan fo’r person hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.
9. Rhaid i’r buddiolwr mewn perthynas ag unrhyw dir neu fangre yr eir i mewn iddo neu iddi gan berson awdurdodedig wrth arfer pŵer a roddir gan reoliad 7, ac unrhyw gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr hwnnw, roi i berson awdurdodedig (“PA”) pa bynnag gymorth y gofynnir amdano yn rhesymol gan PA, i alluogi PA i arfer unrhyw bŵer a roddir iddo gan reoliad 7 neu 8.
10.—(1) Cyflawnir trosedd gan unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson rhag gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn;
(b)heb achos rhesymol, y byddai’n ofynnol i’r person ei hunan ei brofi, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdano neu amdani gan y person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c)gan wybod hynny neu’n ddi-hid, yn rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu i gyflawni’r Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(a) neu (b) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(c) yn agored—
(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis, neu’r ddau; neu
(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), am drosedd o dan baragraff (1) rhaid dwyn unrhyw achos cyfreithiol o fewn chwe mis o’r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys i’r erlynydd.
(5) Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1) fwy na dwy flynedd ar ôl dyddiad cyflawni’r drosedd.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffaith honno.
11.—(1) Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, os profir ei bod—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog” (“officer”) yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu
(b)person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.
(3) Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithiau aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod o reoli, fel y mae’n gymwys i swyddog corff corfforaethol.
12.—(1) Ceir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan reoliad 10, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achos cyfreithiol o’r fath, mae—
(a)rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau, ac
(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(13) (gweithdrefn ar gyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (14) (corfforaethau),
yn cael effaith mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.
(4) Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan bartneriaeth, os profir ei bod —
(a)y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran partner,
mae’r partner hwnnw, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, os profir ei bod—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)yn briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(6) Yn achos trosedd o dan reoliad 10 a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth), os profir ei bod —
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog y gymdeithas neu aelod o’r chorff lywodraethu, neu
(b)yn briodoladwy i esgeulustod y swyddog neu’r aelod hwnnw,
mae’r swyddog neu’r aelod hwnnw, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraffau (4), (5) a (6), mae unrhyw gyfeiriad at swyddog, partner neu aelod, yn ôl fel y digwydd, yn cynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd o’r fath.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
(b)nid yw “cymdeithas anghorfforedig” (“unincorporated association”) yn cynnwys partneriaeth.
13.—(1) Mae’r safonau ar gyfer cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da a bennir yn Atodlen 1 yn gymwys fel y gofynion lleiafswm at ddibenion Erthygl 94 o’r Rheoliad Llorweddol ac Atodiad II i’r Rheoliad hwnnw.
(2) Ond mae darpariaethau Atodlen 2 yn pennu’r amgylchiadau pan nad yw torri darpariaeth o Atodlen 1 yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio.
14.—(1) Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod rheoli cymwys yn yr ystyr a roddir i “competent control authority” at ddibenion Erthygl 67 o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol ac eithrio pan bennir yn wahanol yn y rheoliad hwn.
(2) At ddibenion Erthygl 67(1)(a) o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol, yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r “corff rheoli arbenigol” yn yr ystyr a roddir i “specialised control body”, sy’n ymgymryd â’r cyfrifoldeb am gyflawni’r rheolaethau mewn perthynas â’r gofynion rheoli statudol o dan rifau 5 ac 11 i 13 o Atodiad II i’r Rheoliad Llorweddol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â’r safonau y maent yn gyfrifol amdanynt, wneud yn ofynnol bod awdurdod perthnasol yn cyflawni rheolaethau neu wiriadau at ddibenion Erthygl 65, Pennod I o Deitl III a Phennod II o Deitl IV o’r Rheoliad Gweithredu Llorweddol.
(4) Rhaid i awdurdod perthnasol, pan ofynnir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, weithredu’r rheolaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)—
(a)anfon adroddiad rheoli dros dro, ynglŷn â’r rheolaethau a weithredwyd, ar Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl fel y digwydd);
(b)os tybia, wrth ymgymryd â’i weithgareddau eraill, fod methiant i gydymffurfio wedi digwydd, hysbysu’r person neu’r corff sy’n gyfrifol, o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, am weithredu’r rheolaethau mewn perthynas â’r methiant hwnnw i gydymffurfio.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod perthnasol” (“a relevant authority”) yw—
(a)Cyfoeth Naturiol Cymru;
(b)Awdurdod Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion; neu
(c)Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.
(6) Gweinidogion Cymru sy’n gorfodi’r Rhan hon o’r Rheoliadau, a chaiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, awdurdodi personau i orfodi’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn.
15.—(1) Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu yn ddarostyngedig i’r arbedion a ganlyn.
(2) Mae’r Rheoliadau Taliadau Sengl yn parhau’n gymwys mewn perthynas â chais sengl fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau IACS.
(3) Mae rheoliadau 1 i 13 o’r Rheoliadau Datblygu Gwledig yn parhau’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gymorth ariannol fel y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny
(4) Bydd unrhyw benodiad person awdurdodedig at ddibenion y Rheoliadau Datblygu Gwledig, y Rheoliadau IACS, neu’r Rheoliadau Trawsgydymffurfio, a oedd yn cael effaith yn union cyn 1 Ionawr 2015 yn parhau i gael effaith fel pe bai’n benodiad o’r person hwnnw gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl fel y digwydd) at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y Rheoliadau Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulations”) yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(15);
ystyr “y Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli) 2009(16);
ystyr “y Rheoliadau Taliadau Sengl” (“the Single Payment Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010(17);
ystyr “y Rheoliadau Trawsgydymffurfio” (“the Cross Compliance Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(18).
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2014
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys