Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2759 (Cy.231)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010

Gwnaed

15 Tachwedd 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Tachwedd 2010

Yn dod i rym

20 Rhagfyr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2010.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(3).

Diwygio Rheoliadau 2007

3.—(1Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i reoliad 62 (cyfrifo incwm grant) o'r Rheoliadau hynny, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff (2C) rhodder y canlynol–

(2) There must also be disregarded from a student’s grant income—

(a)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 57 to 59 of the Education (Student Support) Regulations 2009(4) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under chapter 2 of Part 6 of those Regulations;

(b)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 38 or 39 of the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2009(5) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulations 46 to 48 of those Regulations; and

(c)any sum by way of maintenance grant available to a student under regulation 58 of the Education (Student Support) (No.2) Regulations (Northern Ireland) 2009(6) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulation 66 of those Regulations..

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio a pheidio â chodi tâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar bobl ar incwm isel, ymhlith eraill, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau person a'r gofynion o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a yw person yn gymwys i hawlio na ddylid codi tâl y GIG arno ac y dylid talu iddo dreuliau teithio'r GIG, cymhwysir ato fersiwn ddiwygiedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau at reoliadau cyllido myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn gosod allan yr hawliau i grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr. Diystyrir symiau penodol o grantiau cynnal myfyrwyr wrth gyfrifo hawliau myfyrwyr i gael eu treuliau teithio wedi'u talu ac i beidio â chodi tâl arnynt o dan y prif Reoliadau.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill