- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru .
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addysg feithrin am ddim” (“free nursery education”) yw darpariaeth a wneir o dan drefniadau rhwng y darparydd a'r awdurdod lleol yn unol â dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);
ystyr “asesiad” (“assessment”) yw'r asesiad a gyflawnir gan awdurdod lleol o dan adran 26(1) o'r Ddeddf;
ystyr “darparydd gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sy'n darparu gofal plant;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;
ystyr “gofal plant” (“childcare”) yw gofal y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan ran 10A o Ddeddf Plant 1989(4)neu ofal y byddai'n ofynnol ei gofrestru o dan ran 10A onibai am y ffaith y darperir ef ar gyfer plentyn 8 oed neu drosodd;
ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw'r cyfnod hiraf o amser y bydd darparydd gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod;
ystyr “partneriaid yr awdurdod lleol” (“local authority’s partners”) yw'r partneriaid perthnasol fel y diffinnir y term yn adran 25 o Deddf Plant 2004(5) a Chanolfan Byd Gwaith
(2) Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r ystodau oedran—
(a)2 oed ac yn is;
(b)3 oed a 4 oed;
(c)5 oed, 6 oed a 7 oed;
(ch)8 oed, 9 oed a 10 oed;
(d)11 oed, 12 oed, 13 oed a 14 oed; ac
(dd)o ran plant anabl yn unig, 15 oed, 16 oed a 17 oed.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r mathau o ofal plant—
(a)gwarchod plant;
(b)gofal diwrnod llawn;
(c)gofal am sesiwn;
(ch)gofal y tu allan i oriau ysgol; a
(d)creches
3.—(1) Rhaid i'r asesiad gynnwys o ran pob ardal awdurdod lleol fanylion am—
(a)y nifer o leoedd addysg feithrin am ddim sy'n ofynnol;
(b)y nifer o leoedd addysg feithrin am ddim sydd ar gael;
(c)o ran pob un o'r mathau o ofal plant a phob ystod oedran—
(i)y nifer o leoedd sy'n ofynnol;
(ii)y nifer o leoedd sydd ar gael;
(iii)y nifer o leoedd sy'n ofynnol y gellir defnyddio'r elfen o ofal plant sydd yn y credyd treth gwaith ar eu cyfer;
(iv)y nifer o leoedd sydd ar gael y gallai rhieni ddefnyddio'r elfen o ofal plant sydd yn y credyd treth gwaith ar eu cyfer;
(v)yr adegau pan fo gofal plant yn ofynnol;
(vi)yr adegau pan fo gofal plant ar gael;
(vii)ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan ddarparwyr gofal plant;
(viii)y gofynion am ofal arbenigol i blant anabl a phlant ag anghenion addysgol arbennig;
(ix)y nifer o leoedd sydd ar gael sy'n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu sydd angen gofal arbenigol oherwydd anabledd;
(x)y nifer o leoedd sy'n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Cymraeg ac yn ddwyieithog;
(xi)y nifer o leoedd gofal plant i blant Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael;
(xii)y nifer o leoedd gwag a lleoedd heb gael eu defnyddio; ac ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.
(2) Rhaid i'r asesiad gynnwys crynodeb o anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a)y mathau o ofal sydd ar gael;
(b)oedran y plant y mae gofal ar gael iddynt;
(c)fforddiadwyedd gofal plant;
(ch)amserau pan fo gofal plant ar gael;
(d)anghenion penodol plant anabl;
(dd)argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog; a
(e)lleoliad y gofal plant.
4. Wrth baratoi'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol—
(1) plant;
(2) rhieni;
(3) darparwyr gofal plant;
(4) personau sy'n cynrychioli plant, rhieni a darparwyr gofal plant;
(5) personau sydd â buddiant mewn gofal plant a phersonau sy'n cynrychioli'r rheini sydd â buddiant mewn gofal plant;
(6) personau sy'n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;
(7) cyflogwyr lleol;
(8) awdurdodau lleol cyfagos;
(9) ysgolion; a
(10) colegau addysg bellach
sydd yn yr ardal fel y mae'n ystyried sy'n briodol.
5. Wrth baratoi'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol—
(1) y Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant; a
(2) partneriaid yr awdurdod lleol.
6. Cyn cyhoeddi crynodeb o'r asesiad o dan reoliad 3, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod drafft ar gael yn gyffredinol o'r crynodeb o'r asesiad y mae'n bwriadu ei gyhoeddi er mwyn rhoi cyfle i'r personau a restrir yn rheoliad 4 a 5 gyflwyno sylwadau ar y drafft.
7. Rhaid i'r awdurdod lleol ddiwygio crynodeb o'r asesiad drafft yn y dull y mae'n ystyried sy'n briodol wrth ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 4 a 5.
8. Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o'r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.
9. Rhaid i'r awdurdod lleol adneuo copïau o grynodeb yr asesiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau gofal plant, ysgolion a lleoedd cyhoeddus eraill y mae'n ystyried sy'n briodol.
10. Rhaid i grynodeb o'r asesiad gynnwys—
(1) yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3(1) o ran ardal yr awdurdod lleol yn gyffredinol; a
(2) yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3(2).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
28 Ionawr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer asesiadau awdurdodau lleol o ofal plant yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys y gofynion am ofal plant ac argaeledd gofal plant yn yr ardal. Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi'r personau a'r cyrff y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â hwy a'r dull y mae'n rhaid cyhoeddi'r asesiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys