Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006(Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 169 (Cy.22)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006(Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ionawr 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 26 o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru .

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin am ddim” (“free nursery education”) yw darpariaeth a wneir o dan drefniadau rhwng y darparydd a'r awdurdod lleol yn unol â dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw'r asesiad a gyflawnir gan awdurdod lleol o dan adran 26(1) o'r Ddeddf;

ystyr “darparydd gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sy'n darparu gofal plant;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “gofal plant” (“childcare”) yw gofal y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan ran 10A o Ddeddf Plant 1989(4)neu ofal y byddai'n ofynnol ei gofrestru o dan ran 10A onibai am y ffaith y darperir ef ar gyfer plentyn 8 oed neu drosodd;

ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw'r cyfnod hiraf o amser y bydd darparydd gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod;

ystyr “partneriaid yr awdurdod lleol” (“local authority’s partners”) yw'r partneriaid perthnasol fel y diffinnir y term yn adran 25 o Deddf Plant 2004(5) a Chanolfan Byd Gwaith

(2Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r ystodau oedran—

(a)2 oed ac yn is;

(b)3 oed a 4 oed;

(c)5 oed, 6 oed a 7 oed;

(ch)8 oed, 9 oed a 10 oed;

(d)11 oed, 12 oed, 13 oed a 14 oed; ac

(dd)o ran plant anabl yn unig, 15 oed, 16 oed a 17 oed.

(3Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r mathau o ofal plant—

(a)gwarchod plant;

(b)gofal diwrnod llawn;

(c)gofal am sesiwn;

(ch)gofal y tu allan i oriau ysgol; a

(d)creches

Materion i'w cynnwys yn yr asesiad

3.—(1Rhaid i'r asesiad gynnwys o ran pob ardal awdurdod lleol fanylion am—

(a)y nifer o leoedd addysg feithrin am ddim sy'n ofynnol;

(b)y nifer o leoedd addysg feithrin am ddim sydd ar gael;

(c)o ran pob un o'r mathau o ofal plant a phob ystod oedran—

(i)y nifer o leoedd sy'n ofynnol;

(ii)y nifer o leoedd sydd ar gael;

(iii)y nifer o leoedd sy'n ofynnol y gellir defnyddio'r elfen o ofal plant sydd yn y credyd treth gwaith ar eu cyfer;

(iv)y nifer o leoedd sydd ar gael y gallai rhieni ddefnyddio'r elfen o ofal plant sydd yn y credyd treth gwaith ar eu cyfer;

(v)yr adegau pan fo gofal plant yn ofynnol;

(vi)yr adegau pan fo gofal plant ar gael;

(vii)ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan ddarparwyr gofal plant;

(viii)y gofynion am ofal arbenigol i blant anabl a phlant ag anghenion addysgol arbennig;

(ix)y nifer o leoedd sydd ar gael sy'n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu sydd angen gofal arbenigol oherwydd anabledd;

(x)y nifer o leoedd sy'n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Cymraeg ac yn ddwyieithog;

(xi)y nifer o leoedd gofal plant i blant Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael;

(xii)y nifer o leoedd gwag a lleoedd heb gael eu defnyddio; ac ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.

(2Rhaid i'r asesiad gynnwys crynodeb o anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y mathau o ofal sydd ar gael;

(b)oedran y plant y mae gofal ar gael iddynt;

(c)fforddiadwyedd gofal plant;

(ch)amserau pan fo gofal plant ar gael;

(d)anghenion penodol plant anabl;

(dd)argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog; a

(e)lleoliad y gofal plant.

Ymgynghori

4.  Wrth baratoi'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol—

(1plant;

(2rhieni;

(3darparwyr gofal plant;

(4personau sy'n cynrychioli plant, rhieni a darparwyr gofal plant;

(5personau sydd â buddiant mewn gofal plant a phersonau sy'n cynrychioli'r rheini sydd â buddiant mewn gofal plant;

(6personau sy'n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;

(7cyflogwyr lleol;

(8awdurdodau lleol cyfagos;

(9ysgolion; a

(10colegau addysg bellach

sydd yn yr ardal fel y mae'n ystyried sy'n briodol.

5.  Wrth baratoi'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol—

(1y Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant; a

(2partneriaid yr awdurdod lleol.

Crynodeb ddrafft

6.  Cyn cyhoeddi crynodeb o'r asesiad o dan reoliad 3, rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod drafft ar gael yn gyffredinol o'r crynodeb o'r asesiad y mae'n bwriadu ei gyhoeddi er mwyn rhoi cyfle i'r personau a restrir yn rheoliad 4 a 5 gyflwyno sylwadau ar y drafft.

7.  Rhaid i'r awdurdod lleol ddiwygio crynodeb o'r asesiad drafft yn y dull y mae'n ystyried sy'n briodol wrth ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 4 a 5.

Cyhoeddi'r Asesiad

8.  Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o'r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.

9.  Rhaid i'r awdurdod lleol adneuo copïau o grynodeb yr asesiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau gofal plant, ysgolion a lleoedd cyhoeddus eraill y mae'n ystyried sy'n briodol.

10.  Rhaid i grynodeb o'r asesiad gynnwys—

(1yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3(1) o ran ardal yr awdurdod lleol yn gyffredinol; a

(2yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3(2).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

28 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer asesiadau awdurdodau lleol o ofal plant yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys y gofynion am ofal plant ac argaeledd gofal plant yn yr ardal. Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi'r personau a'r cyrff y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â hwy a'r dull y mae'n rhaid cyhoeddi'r asesiad.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources